Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Nid oedd y Cynghorydd Brian Jones yn gallu cyfrannu’n llawn at y cyfarfod
oherwydd problemau cysylltedd. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag
eitem rhif 7 ar yr agenda ac yntau’n Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol
Borthyn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag Eitem 7 am ei fod yn
Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
23 Tachwedd 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DYFFRYN CLWYD PDF 296 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion a enwir a'r Arweinydd i gytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cefnogi thema’r cais, y
prosiectau arfaethedig i gael eu cynnwys yn y cais a gwerth dangosol eang pob
prosiect, a (b) dirprwyo awdurdod i’r Prif
Weithredwr a Phennaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â Swyddog
Adran 151 Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r
Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a chostau’r prosiect fel y bo angen a chytuno
i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth
Dyffryn Clwyd. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dirprwyo awdurdod i'r diben
o gytuno ar gais am gyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan
Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer Etholaeth Dyffryn Clwyd. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am
thema’r cais ynghyd â’r prosiectau arfaethedig a gwerth dangosol bras pob
prosiect. Bwriad
Cronfa Codi’r Gwastad y DU yw cefnogi buddsoddiad mewn mannau ble gall wneud y
gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd a bydd yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau
lleol yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth. Mae tair ardal etholaeth yn
Sir Ddinbych ac roedd yr adroddiad yn cynrychioli’r trydydd cais i’w roi
gerbron y Cabinet er ystyriaeth yn dilyn cymeradwyo cais ar gyfer De Clwyd (a
gyflwynwyd yn rownd 1 ac a oedd yn llwyddiannus) a Gorllewin Clwyd (a roddwyd
gerbron y cyfarfod diwethaf i’w gyflwyno yn rownd 2). Pe cymeradwyid y cais
byddai’r ceisiadau at ei gilydd yn werth cyfanswm o oddeutu £35 miliwn o
fuddsoddiad yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i bawb a oedd yn rhan o'r broses
o baratoi'r prosiectau angenrheidiol yn barod i'w cyflwyno o fewn cyfraddau
amser tynn. Cafwyd
sicrwydd y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y prosiectau hynny na
chawsant eu cynnwys yn y cais gyda’r nod o geisio dod o hyd i ffynonellau
priodol eraill o incwm i’w datblygu a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda
Llywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau'r ddarpariaeth orau ar gyfer y sir. Roedd
cais Dyffryn Clwyd yn ymwneud â dau brosiect cydlynol yn targedu Adfywio Canol
Trefi ac Adfywio Amgylcheddol ac os yn llwyddiannus byddant yn dod â manteision
sylweddol ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal. Gweithiwyd yn agos â James
Davies AS a oedd wedi cadarnhau ei fod yn llwyr gefnogi'r cais. Gofynnwyd i’r Cabinet felly
gefnogi cyflwyniad y cais i Lywodraeth y DU. Roedd
y Cabinet yn cefnogi argymhellion yr adroddiad a’r buddsoddiad posibl yn yr
ardal. Yng
ngoleuni’r cyfraddau amser tynn ar gyfer darparu’r prosiectau, amlygodd
aelodau’r angen am benderfyniad cyflym ac os yn llwyddiannus, rhyddhad di-oed y
cyllid er mwyn symud y prosiectau yn eu blaen erbyn Mawrth 2024. Disgwylir y
bydd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn dechrau'r gwanwyn a rhoddodd
swyddogion sicrwydd bod deialog ar y gweill gyda swyddogion Llywodraeth y DU yn
y cyswllt hwnnw ac er mwyn cyflymu'r broses a galluogi darparu'r prosiectau o
fewn y cyfraddau amser. Nododd
y Cabinet hefyd bod angen 10% (tua £2m) o arian cyfatebol ar gyfer cais Dyffryn
Clwyd ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian cyfatebol hwnnw wrth aros am
arian y Codi’r Gwastad os yw’r cais yn llwyddiannus. Mewn ymateb i gwestiynau gan
aelodau nad oeddent ar y Cabinet cadarnhawyd bod prosiectau wedi'u cyflwyno ar
gyfer ardaloedd gwledig fel rhan o'r broses ond y buont yn aflwyddiannus am nad
oeddent yn cwrdd â’r meini prawf na'r cyfraddau amser angenrheidiol ar gyfer y
Gronfa Codi'r Gwastad. O
ran y prosiect yn ymwneud ag Ysbyty Dinbych cafwyd eglurhad ar y gwahaniaethau
rhwng y cyllid Cronfa Codi'r Gwastad yr oedd cais yn cael ei wneud amdano sy'n
canolbwyntio ar gysylltu'r safle'n agosach â’r dref ac o bosibl galluogi
datblygu ynghynt, tra byddai'r cyllid Bargen Twf yn canolbwyntio ar fuddsoddiad
yn y safle i hwyluso'r datblygiad tai. PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) yn cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais a
gwerth dangosol bras pobl prosiect a, (b) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR SIR DDINBYCH 2021 PDF 308 KB Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Diogelach a Cham-drin Domestig (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Asesiad drafft Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei gefnogaeth i’r
dull a fabwysiadwyd i gyflawni Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych
fel un cadarn ac un oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; a (b) cymeradwyo fersiwn ddrafft Asesiad
Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru; (c) dirprwyo awdurdod i’r
Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin
Domestig i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a (d) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les
(Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad yn amlinellu ymdriniaeth, casgliadau ac
argymhellion Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft 2021 (a
cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Asesiad o Anghenion drafft i
Lywodraeth Cymru. Mae
gofyniad statudol i ymgymryd â, a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a
Theithwyr i Lywodraeth Cymru bob pum mlynedd ac yna i fynd ati i ddiwallu’r
anghenion hynny. Mae
Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr
hefyd yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Roedd manylion am y broses
asesu a’i rheolaeth wedi’u darparu a oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Prosiect
ynghyd â Grŵp Tasg a Gorffen Craffu i gefnogi’r gwaith hwnnw. Cwblhawyd yr asesiad ac
adolygwyd y broses gan y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau. Gwahoddwyd
y Cynghorwyr Barry Mellor a Graham Timms i adrodd ar waith y Grŵp Tasg a
Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y drefn honno. Dywedodd
y Cynghorydd Barry Mellor, cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, bod y
grŵp wedi bod yn gysylltiedig â gwahanol gamau o'r broses asesu ac wedi adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ar
eu casgliadau. Roedd
y Grŵp yn fodlon bod yr asesiad wedi’i gynnal yn unol â methodoleg
Llywodraeth Cymru a'i fod yn dilyn y Briff Gwaith cytunedig a’r Cynllun
Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, ac yn argymell felly y dylid
cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Drafft i'w gyflwyno
i Lywodraeth Cymru Diolchodd
y Gynghorydd Graham Timms, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r
Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith dyfal a chytunodd fod y trefniadau a’r
broses a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r asesiad wedi gweithio’n dda ac y dylid
ystyried eu defnyddio eto yn y dyfodol wrth ddewis safleoedd posibl i fod yn
lleiniau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Adroddodd ar drafodaethau’r
Pwyllgor a'r gymeradwyaeth a roddwyd i’r broses asesu a’r argymhelliad bod y
Cabinet yn cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rhoddodd
y Cynghorydd Mark Young wybodaeth am gasgliadau’r Asesiad o Anghenion Drafft
sef: ·
bod angen 8 llain breswyl i
ddiwallu anghenion dynodedig 3 aelwyd/grwpiau teulu estynedig yn y sir, a ·
nad oes tystiolaeth o’r angen
am safle tramwy parhaol oherwydd niferoedd isel gwersylloedd diawdurdod, natur
tymor byr gwersylloedd a diffyg galw am y fath gyfleusterau’n lleol. Argymhellwyd
y dylid defnyddio dull o reolaeth yn seiliedig ar arfer gorau o bob rhan o’r DU
i ymdrin â gwersylloedd diawdurdod , gan gydbwyso anghenion cymunedau teithiol
a chymunedau lleol. Dylid
cynnwys aelodau etholedig a’r gymuned deithiol yn natblygiad yr ymdriniaeth
honno yn Sir Ddinbych i adlewyrchu’r gofynion lleol. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr Mark Young, Barry Mellor a Graham Timms am y diweddariad cynhwysfawr a chydnabu waith caled pawb oedd yn rhan o hyn. Cymeradwyodd yr ymdriniaeth a ddefnyddiwyd a alluogodd ymgysylltiad buan gydag aelodau yn y broses ac yn narpariaeth yr asesiad. Roedd gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi'i osod allan yn glir ac roedd argymhellion y Pwyllgor Craffu wedi’u hadlewyrchu yn yr adroddiad. Gobeithiwyd y byddai’n bosibl i waith y Grŵp Tasg a Gorffen barhau yng nghamau nesaf y broses wrth ddewis safleoedd posibl ar gyfer y lleiniau. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ynghylch canlyniad gwahanol yr asesiad diweddaraf, sef nad oes angen dynodedig am safle tramwy parhaol, cadarnhawyd mai casgliad yr Ymgynghorwyr Annibynnol, ar ôl ymgymryd â’r asesiad yn unol â methodoleg Llywodraeth Cymru, oedd nad oes angen safle tramwy parhaol. Mae’n ofynnol cynnal asesiad bob pum mlynedd ac mae’n ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032 PDF 226 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2022 gan sicrhau
cydymffurfiaeth â’r gofyniad i lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
10 mlynedd newydd. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet
gymeradwyo'r Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg newydd i'w gyflwyno i
Lywodraeth Cymru. Mae
gofyniad statudol i fod â Chynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg yn nodi sut y bydd
y Gymraeg yn cael ei datblygu mewn ysgolion dros y deng mlynedd nesaf. Mae’r Cyllun yn seiliedig ar
saith o ddeilliannau sy’n adlewyrchu siwrnai’r dysgwr mewn addysg y dysgwr ac
yn gyson â blaenoriaethau Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru. Ein
cenhadaeth Genedlaethol. Mae
Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gosod targed o
rhwng 37% a 41% i Sir Ddinbych gynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1
sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (27% o ddisgyblion Blwyddyn 1 Sir
Ddinbych yn 2021). Mae’r Cynllun newydd
yn nodi sut y bydd Sir Ddinbych yn cyrraedd y targed drwy gynyddu capasiti
ysgolion cyfrwng Cymraeg a newid dynodiad iaith rhaid ysgolion cyfrwng Saesneg. Cafwyd hefyd fanylion y broses
ymgynghori. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts at darged Llywodraeth Cymru o
filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a phwysleisiodd er bod y cynllun yn
cyfeirio at fesurau y gellir eu cymryd dros y deng mlynedd nesaf, ei fod yn
canolbwyntio ar ddim ond un elfen o ymateb cymunedol ehangach i ddatblygiad y
Gymraeg a bod ar y Cyngor hefyd gyfrifoldeb corfforaethol i ddatblygu’r Gymraeg
ledled y sir. Rhoddodd
rhagor o wybodaeth ar y saith canlyniad a nodir yn y Cynllun a sut y byddant yn
cael eu gwireddu drwy gydweithio â phartneriaid. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg
y bydd cynllun gweithredu’n cynnal y Cynllun Strategol a fydd yn cynnwys rhagor
o fanylion ynghylch sut y bydd y Gymraeg yn cael ei datblygu a’r canlyniadau’n
cael eu gwireddu. Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Addysg gwestiynau’n cadarnhau nad yw targed LlC
ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1 sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg
yn debygol o newid. Bydd
y Cynllun terfynol yn cael ei gyflwyno i LlC ym mis Ionawr a bydd ei
weithrediad yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Grŵp Strategol y Gymraeg
Mewn Addysg. Mae
llawer o gefnogaeth ar gael ar gyfer rhieni di-Gymraeg ac mae’r gefnogaeth hon
wedi cynyddu ymhellach yn ystod y cyfnod clo a chyflwyniad dysgu ar-lein ar
gyfer disgyblion. Fodd
bynnag derbynnir y gellir gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwnnw a
faint o gefnogaeth sydd ar gael i rieni ac mae gwaith ar y gweill gyda’r Tîm
Cyfathrebu yn y cyswllt hwnnw. Gwahoddodd
yr Arweinydd ragor o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac
ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd– · cadarnhawyd bod ysgolion cyfrwng Saesneg wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu'r cynllun Cymraeg Campus gydag ysgolion wedi ennill y wobr Efydd ac yn cymryd camau i ennill y wobr Arian ac yn y pen draw'r wobr Aur. · Adroddwyd ar drafodaethau cenedlaethol ynglŷn â chyfuno Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Fforwm Iaith y Cyngor yn seiliedig ar arfer da gyda’r nod o wella a chryfhau’r gwaith hwn wrth symud ymlaen · adroddwyd ar fodelu ffigyrau’r data a’r rhesymeg y tu ôl i wahanol dargedau ar gyfer canrannau’r plant 3 oed a 5 oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngoleuni’r ddarpariaeth a’r presenoldeb amrywiol mewn lleoliadau cyn-ysgol sydd y tu allan i reolaeth y sir o gymharu â phlant oedran ysgol. · eglurwyd y cymhlethdodau i ddysgwyr o dde'r sir sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Ddinbych o ran y gwahanol bolisïau derbyn, cludiant ysgol ac ati, ond cafwyd sicrwydd bod hwn yn fater a fydd yn cael ei ystyried ymhellach a’i drafod gyda’r ysgolion ac aelodau lleol. ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu safon adeiladu CSDd ar gyfer gwaith adeiladu newydd a phrosiectau adeiladu estyniad mawr /ailwampio i ddiwallu targedau carbon mewn defnydd ac wedi’u hymgorffori. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cytuno i fabwysiadu a
gweithredu Safon Adeiladu CSDd ar gyfer gwaith adeiladu newydd annomestig a
phrosiectau adeiladu estyniad/ailwampio i fodloni targedau carbon mewn defnydd
ac wedi'i ymgorffori; (b) bod rhaid gweithredu’r safon
hwn mewn modd sydd yn cyd-fynd â nod y Cyngor i fod yn Ecolegol Gadarnhaol
erbyn 2030, a (c) y
Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (yn absenoldeb y Cynghorydd Brian Jones
oherwydd problemau cysylltedd) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a
gweithredu safon adeiladu newydd ar gyfer adeiladau annomestig newydd a
phrosiectau adeiladu estyniadau/gwaith ailwampio mawr i ddiwallu targedau
carbon mewn defnyddi ac wedi'i ymgorffori. Eglurodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y cynnig yn
ffordd arall o helpu’r Cyngor i wireddu ei nodau carbon sero net erbyn
2030 yn dilyn datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor. Tra bo ymdrechion wedi’u gwneud i leihau
allyriadau carbon o adeiladau annomestig presennol y Cyngor roedd bwriad i
ddefnyddio’r safon yn seiliedig ar ddiffiniad Cyngor Adeiladau Gwyrdd y DU ac
arfer gorau ar gyfer prosiectau'r dyfodol yn seiliedig ar ymdriniaeth
gynyddrannol mewn modd sy'n cyd-fynd â nodau ecolegol y Cyngor. Cyfeiriwyd hefyd at y goblygiadau ariannol a
fydd yn deillio o’r newid. Trafododd y
Cabinet gyda’r swyddogion rinweddau cyflwyno'r targed a’r risgiau a ddynodwyd,
yn arbennig y goblygiadau ariannol y bydd angen eu monitro'n ofalus a’r
adnoddau staffio wrth symud ymlaen gyda’r posibilrwydd o uwchraddio sgiliau
staff mewnol a’r defnydd posibl o ymgynghorwyr allanol. Tra byddai’r cynnig yn darparu arbedion yn yr
hirdymor drwy well costau rhedeg/cynnal a chadw ac yn lleihau effeithiau
amgylcheddol, cydnabuwyd y byddai cynnydd posibl o 19% yng nghostau cyfalaf
cychwynnol prosiectau. Roedd yn bwysig
manteisio ar unrhyw gyllid peilot sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sicrhau
bod y costau llawn wedi’u cynnwys wrth gynllunio ar gyfer prosiectau yn y
dyfodol. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth
Cymru yn debygol o edrych ar safonau tebyg ar gyfer yr holl gynlluniau a noddir
ganddynt yn y dyfodol. Er gwaethaf y
cynnydd a ragwelwyd mewn costau yn sgil cyflwyno’r safon newydd, cytunodd y
Cabinet mai dyma’r ffordd gywir o weithredu yng ngoleuni’r effeithiau
amgylcheddol ac roedd yn falch bod y Cyngor ar y blaen gyda’r newidiadau hyn ac
yn arwain yn hyn o beth o’r cychwyn cyntaf. Atebodd y
Swyddogion gwestiynau pellach gan roi sicrwydd ynghylch yr ymrwymiad i gaffael
y deunyddiau a’r gwasanaethau angenrheidiol yn lleol ble bynnag bosib a
chadarnhau hefyd y byddai cyfleoedd yn cael eu hyrwyddo’n lleol a bod angen
ystyried y gost o ran carbon yn ogystal â chostau ariannol wrth symud ymlaen. Roedd Aelodau’n falch y glywed bod llawer o
frwdfrydedd o du’r diwydiant adeiladu ynghylch y safon werdd a thynnwyd sylw at
gyfleoedd iddynt addasu i’r gofynion newydd.
O ran adeiladau rhestredig byddai’r ymdriniaeth o ran rhoi’r safon
newydd ar waith yn un ymarferol ac er y bydd rhai adeiladau lle nad yw'n bosibl
oherwydd safonau technegol nid yw hyn yn tynnu oddi wrth nod gyffredinol y
safon newydd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cytuno i fabwysiadau a gweithredu Safon Adeiladu CSDd ar gyfer adeiladau
annomestig newydd a phrosiectau adeiladu estyniadau/ailwampio mawr i ddiwallu
targedau carbon mewn defnydd ac wedi’i ymgorffori. (b) yn cytuno bod yn rhaid gweithredu’r safon hon mewn ffordd sy’n cyd-fynd â
nod Ecolegol Gadarnhaol y Cyngor erbyn 2030; ac (c) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
SEFYDLU CYDBWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU PDF 217 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) ar y trefniadau sydd angen eu gwneud ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (CJC) a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi cymeradwyaeth mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i’r CJC drwy gytundeb dirprwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor bod swyddogaethau Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo ar ffurf cytundeb dirprwyo i
Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar yr amodau canlynol; (a) bod y fframwaith statudol y
mae Llywodraeth Cymru yn ei lunio yn caniatáu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau
gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol, (b) bod Cyd-bwyllgor
Corfforaethol Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-bwyllgor, gan gytuno ar aelodaeth
gyda’r Cyngor, i ymgymryd â swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd. Cynigir y trawsnewid yma er
mwyn cyflawni model llywodraethu symlach, gan osgoi dyblygu. Bydd adroddiad manylach arall am y
fframwaith a fydd yn cael ei weithredu yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arall
o’r Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar y trefniadau sydd i'w gwneud i sefydlu
Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r
Cydbwyllgor Corfforaethol drwy gytundeb dirprwyo. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd rywfaint
o gefndir i gread y Cydbwyllgor Corfforaethol ar 1 Ebrill 2021 ynghyd â’r
swyddogaethau y bydd yn eu harfer o 30 Mehefin 2022 a’r gofyniad i osod
cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Rhoddodd drosolwg
cynhwysfawr o’r trefniadau i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi’i
sefydlu’n gywir fel y gall arfer ei swyddogaethau erbyn 30 Mehefin 2022 a
chyfeiriodd at yr adroddiad safonau sydd i’w ystyried gan bob un o chwe phrif
gyngor Gogledd Cymru yn ystod mis Rhagfyr. Bydd
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Strategol
a Chynllun Cludiant Rhanbarthol a bydd ganddo bwerau cyffredinol ym maes lles
economaidd. Cafodd
y Cabinet wybod am y rhesymeg y tu ôl i drosglwyddiad arfaethedig
swyddogaethau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol drwy
gytundeb dirprwyo ac am yr egwyddorion y cytunodd Prif Weithredwyr ac Arweinwyr
arnynt fel sail ar gyfer gweithredu unrhyw drosglwyddiad er mwyn gwireddu model
llywodraethu wedi’i resymoli a fyddai’n osgoi dyblygu. Ceisiwyd cytundeb mewn
egwyddor gan y Cabinet a fyddai'n ddibynnol ar ddatblygiad fframwaith
deddfwriaethol priodol gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu’r dirprwyo. Bydd adroddiadau pellach ar
sefydliad y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael eu rhoi gerbron y Cabinet maes o
law. Wrth
ystyried yr adroddiad cwestiynodd y Cynghorydd Bobby Feeley y fiwrocratiaeth
gysylltiedig â hyn gofynnodd am eglurder pellach ynghylch y goblygiadau
ariannol, yn cynnwys y costau perthnasol i Sir Ddinbych ac i Gymru gyfan. Gofynnodd y Cynghorydd Mark
Young hefyd am eglurhad ar yr effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol yn sgil
dyletswydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol,
gam amlygu pwysigrwydd penderfyniadau lleol ar gyfer cymunedau lleol. Mewn ymateb i’r materion hyn a
chwestiynau pellach gan Aelodau heb fod yn aelodau o’r Cabinet, dywedodd yr Arweinydd, Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod: ·
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol
wedi’i greu gyda dyletswyddau cyfreithiol o fis Mehefin 2022 ac mai’r bwriad
oedd gwneud ei weithrediad mor syml ac anfiwrocrataidd â phosibl, sydd yn un
o'r amcanion y tu ôl i’r penderfyniad mewn egwyddor a geisir ·
mae’r rhanbarth wedi derbyn
grant o £250k gan Lywodraeth Cymru i helpu i sefydlu’r Cyd-bwyllgor
Gorfforaethol ac i’w ddefnyddio ar gyfer y cyngor arbenigol a’r capasiti rheoli
prosiect a fydd yn angenrheidiol i wneud hynny. ·
Mae’n ofynnol i’r Cyd-bwyllgor
Corfforaethol bennu ei gyllideb erbyn 31 Ionawr ar gyfer y flwyddyn ariannol i
ddod a chytuno ar y cyfraniadau y bydd pob awdurdod lleol yn eu gwneud ar gyfer
treuliau’r Cyd-bwyllgor nad yw ffynonellau eraill o gyllid yn eu diwallu. ·
mae swyddogion Adran 151
wrthi’n gweithio ar y gyllideb gychwynnol a thra bydd yr elfen gorfforaethol/
ddemocrataidd i raddau helaeth yn cael
ei chynnal gan swyddogion allweddol cyfredol, mae gwaith yn mynd rhagddo i
ddynodi'r gofynion ariannol ar gyfer darparu’r elfennau cynllunio a chludiant
gyda nifer o opsiynau i’w hystyried; gobeithir y bydd Llywodraeth Cymru yn
darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyflawni'r dyletswyddau newydd a bydd
galwadau'n cael eu gwneud arnynt yn y cyswllt hwnnw. ·
unwaith y bydd y gyllideb ar
gyfer 2022/23 wedi’ gosod bydd yr effaith ariannol ar Sir Ddinbych ac ar draws
Gogledd Cymru yn hysbys ac mae’n bwysig sicrhau bod Sir Ddinbych yn cael gwerth
am arian o'i gyfraniad. · Mae ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ddyletswydd i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol sydd yn gynllun haen wahanol ac ar wahân i’r Cynllun ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
AILDDATBLYGU HEN LYFRGELL PRESTATYN - DYFARNU CONTRACT PDF 217 KB Ystyried adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract ar gyfer ailddatblygu hen safle Llyfrgell Prestatyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo dyfarnu’r
contract i Wynne & Sons Limited Construction yn ôl Adroddiad Argymhelliad
Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen,
deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad 2 o’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i ailddatblygu hen safle
llyfrgell Prestatyn i gynnwys adeiladu 14 rhandy un ystafell wely hygyrch gyda
lifft ar rent cymdeithasol gyda dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod ynghyd â
gwell mynediad, lle parcio a lle amwynder awyr agored i'w rannu gyda
phreswylwyr fflatiau Llys Bodnant. Cymeradwyodd
y Cabinet yr achos busnes dros ddatblygiad y safle ym mis Medi 2021 ac roedd yr
adroddiad yn rhoi crynodeb o’r prosesau yr ymgymerwyd â hwy yn ystod yr ymarfer
caffael a arweiniodd at gyflwyniad 5 cynnig tendr. Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan
ddefnyddio methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar
gyfer ansawdd, dewiswyd contractwr ac fe’i argymhellwyd i’r Cabinet. Y gost amcangyfrifedig
hollgynhwysfawr a gyflwynwyd gan y cynigiwr a argymhellwyd oedd £3,454,773.11 a
oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn: (a) cymeradwyo dyfarniad contract i Wynne & Sons Limited Construction yn
unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb, a (b) cymeradwyo Sylfaen y Dreth
Gyngor i osod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a
wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir
isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn
2020/21). ·
rhagwelir
y byddai gorwariant o £1.349 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol. ·
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y
cytunwyd arnynt gwerth £2.666 miliwn yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion
gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion. ·
tynnwyd sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol
yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion
ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol
i Lywodraeth Cymru. ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai,
Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Gofynnwyd hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo
Sylfaen Treth y Cyngor er mwyn gosod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn Atodiad
5 yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill hefyd bod yr
amrywiad yng nghyllidebau gwasanaethau’n bennaf gysylltiedig â chynnydd o £182k
yng nghostau lleoliadau preswyl yn y Gwasanaeth Addysg a Phlant nad oedd gan y
Cyngor fawr o reolaeth drosto. O ran prosiectau cyfalaf mawr bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar
Ddatblygiad Marchnad y Frenhines, y Rhyl ym mis Chwefror er mwyn dyfarnu cam 1
o’r contract adeiladu ac mae gwaith y mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ar
beirianneg gwerth y costau fel sy'n briodol ond mae'n debygol y bydd yn ofynnol
clustnodi rhywfaint o gyllid ychwanegol i'r cynllun. Mae’r holl brosiectau eraill ar y trywydd
cywir ac o fewn y gyllideb. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn: (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni, a (b) cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor i osod cyllideb 2022/23 fel y manylir yn
Atodiad 5 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 291 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. Nododd yr aelodau eitem ychwanegol ‘Ymestyn Contract y Gwasanaethau
Hamdden’ ar gyfer naill ai fis Ionawr neu fis Chwefror 2022. PENDERFYNWYD nodi
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet. Diolchodd yr Arweinydd i aelodau'r Cabinet am eu
cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac i bob aelod am eu cyfraniadau at y
trafodaethau. Dymunodd Nadolig Llawen a
Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 1.05 am. |