Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nid oedd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 yn cael eu derbyn a’u
cadarnhau yn gofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli’r bont yn
amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth i’r egwyddor o newid y bont, yn amodol ar
sicrhau’r cyllid angenrheidiol. Golyga hyn gysylltu â Llywodraeth Cymru i wneud
cais am nawdd allanol. Cofnodion: [Symudwyd
yr eitem hon ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli
Pont Llannerch (sydd wedi’i lleoli rhwng Trefnant a Thremeirchion), a gollwyd
ym mis Ionawr 2021 yn ystod storm Christoph, yn amodol ar sicrhau’r cyllid
angenrheidiol. Roedd
Pont Llannerch yn ffurfio rhan o lwybr a ddefnyddiwyd yn helaeth a chysylltiad
pwysig ar gyfer cymunedau yn yr ardal. Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio
gydag ymgynghorwyr i ystyried beth allai fod yn bosibl yn nhermau gosod pont
newydd yn ei lle a hefyd faint fyddai hyn yn ei gostio, ac oherwydd y lleoliad
a'r elfennau technegol, daethpwyd i’r canlyniad y gallai gostio rhwng £6 miliwn
a £7 miliwn ac fe fyddai’n amodol ar sicrhau’r cyllid perthnasol. Cynigwyd y dylid cymryd camau i geisio cyllid
allanol, yn arbennig cysylltu â Llywodraeth Cymru, ac ymgymryd â pheth gwaith
paratoi er mwyn datblygu achos busnes mwy cadarn, ac felly cynyddu'r potensial
o ddenu cyllid allanol. Roedd
ymarfer ymgysylltu cyhoeddus wedi cael ei gynnal a’r brif neges a ddeuai yn ôl
oedd bod y gymuned eisiau i ni osod pont newydd yn lle’r bont a gwneud hynny
cyn gynted â phosibl ac mae’r ymarfer hefyd wedi darparu tystiolaeth o
gefnogaeth gymunedol sylweddol i gryfhau’r achos busnes. Roedd y Cynghorydd
Jones yn gefnogol o ymdrechion yr aelodau lleol i sicrhau pont newydd ac
eglurodd, er gwaethaf eu hymdrechion, nad oedd darparu pont newydd dros dro yn
hyfyw o ystyried y cymhlethdodau sydd ynghlwm â chyflwr y tir a ffactorau
eraill. Roedd y Cabinet yn cydnabod gwerth Pont Llannerch i gymunedau gwledig ac
yn gefnogol o argymhellion yr adroddiad. Ymatebodd y Cynghorydd Jones i gwestiynau gan gadarnhau y byddai unrhyw
bont newydd a adeiladir yn bodloni safonau modern ac hefyd yn cymryd barn pobl
leol i ystyriaeth i sicrhau ei bod yn ateb y gofyn, a’i bod hefyd yn debyg i'r
bont rhestredig gradd II blaenorol. Roedd yn hyderus y byddai achos busnes cryf
yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac amlygodd y posibilrwydd o gynnwys
teithio llesol a chysylltedd cymunedau i gryfhau’r achos ymhellach. Os na fyddai modd sicrhau cyllid gan
Lywodraeth Cymru, byddai ffynonellau cyllido allanol eraill yn cael eu
hystyried. Nodwyd, er bod y bont wedi’i chynnwys ar restr y Cyngor o brosiectau
posibl i’r dyfodol (o ystyried y posibilrwydd na fydd pont newydd yn cael ei
hariannu’n llawn, ac y bydd angen cyfraniad ariannol o bosibl), nid oedd cyllid
wedi cael ei ddyrannu hyd yma o fewn yr adnoddau cyfalaf cyfyngedig at y diben
hwnnw. Amlygodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr
Christine Marston a Meirick Davies bwysigrwydd y bont i gymunedau lleol a’r
effaith andwyol mae colli’r bont wedi’i chael yn gymdeithasol ac yn economaidd,
ac mae hyn yn amlwg yn y cyfoeth o ymatebion a gafwyd i'r ymarfer ymgysylltu
cyhoeddus. Roedd y Cynghorydd Davies hefyd yn teimlo y dylid
cofnodi statws rhestredig y bont ac y dylai’r argymhelliad gael ei gryfhau
ymhellach i sicrhau’r cyllid hanfodol ar gyfer pont newydd. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion i bwyntiau a godwyd, ac roedd y cwestiynau pellach fel a ganlyn - ·
ystyriwyd y dylid datblygu
achos busnes cadarn cyn cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio cyllid yn
ffurfiol, fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru yn y dechrau pan
gollwyd y bont am fwriad y Cyngor i geisio cyllid ar gyfer pont newydd. · o ystyried graddfa a natur y prosiect sydd ei angen o ganlyniad i’r llifogydd sylweddol, roedd yn rhesymol i’r Cyngor droi at Lywodraeth Cymru am gyllid – os na fyddai’r ymgais yn llwyddiannus, byddai'n rhaid i'r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FEIFOD PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau gan
fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Bod Meifod yn cael ei agor
fel gwasanaeth wedi ei reoli gan y Cyngor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu
cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny, yn dilyn buddsoddiad angenrheidiol
i’r adeilad/cyfleusterau presennol. Yr oedd disgwyl y gallai’r gwasanaeth
ailagor erbyn Chwefror 2022, fodd bynnag gall hyn fod yn gynt os gorffennir y
gwaith yn gyflym; (b) bod swyddogion yn darparu
opsiynau i aelodau eu hystyried drwy’r broses wleidyddol sefydledig ar: ·
ffyrdd newydd o weithio ym
Meifod i wella dysgu a sgiliau ar amrediad o weithgareddau, gan gynnwys
gweithio â phren ·
modelau cyflawni gwasanaeth
amgen ar gyfer y gweithredu ym Meifod, gyda’r bwriad o wella cynaliadwyedd
hir-dymor y gwasanaeth, gan fod y brydles ar yr adeilad yn dod i ben mewn 4
blynedd (c) bod swyddogion yn sefydlu
grŵp budd-ddeiliaid yn cynnwys unigolion sy’n mynychu Meifod a pherthnasau
cynrychioladol, neu eiriolwyr, i sicrhau eu bod yn cael ymwneud ag ailagoriad y
gwasanaeth ynghyd â datblygu opsiynau ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau
gan fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Cymerodd y cyfle hefyd i
ddiolch i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â’r broses am eu gwaith caled. Roedd
Meifod yn wasanaeth cyfleodd gwaith uchel ei barch i oedolion ag anableddau
dysgu dan reolaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Roedd y gwasanaeth wedi’i
leoli mewn uned ffatri a rentir yn Ninbych sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu
cynnyrch coed. Roedd y cyfleuster wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 yn sgil y
pandemig Covid-19 ac o ganlyniad, roedd y Cyngor wedi cymryd y cyfle i ystyried
dyfodol y cyfleuster. Roedd pawb yn cytuno bod Meifod yn wasanaeth gwerthfawr
ac yn cefnogi’r cynnig i ailagor y cyfleuster cyn gynted â phosibl; rhagwelwyd
y byddai modd cwblhau'r gwaith hanfodol ac ailagor Meifod erbyn mis Chwefror.
Roedd y brydles bresennol yn dod i ben ym mis Medi 2025, a oedd yn rhoi digon o
amser i hyrwyddo’r cyfleuster, cyflwyno gweithgareddau amgen ac ystyried
dulliau darparu gwasanaeth newydd i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyfleuster,
o ystyried y cynnydd yng nghostau darparu’r cyfleuster. Nododd y Cynghorydd
Feeley nad oedd hi nag unrhyw un arall, hyd eithaf ei gwybodaeth, wedi ystyried
cau'r cyfleuster, ond roedd angen gwneud newidiadau i wella'r cynnig ym Meifod.
Y bwriad wrth symud ymlaen oedd sicrhau fod pawb sydd â diddordeb yn derbyn y
wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag ailagor Meifod a'r cynlluniau ar gyfer
y dyfodol, gan gynnwys cysylltu â theuluoedd defnyddwyr cyfredol a darpar
ddefnyddwyr. Diolchodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith, soniodd am drafodaethau
manwl y Pwyllgor gan gefnogi argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen ymhellach
fel yr amlinellir yn yr adroddiad i fuddsoddi yn y gwasanaeth i sicrhau ei fod
yn cael ei ailagor cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu ei ddyfodol a darparu
ystod well o weithgareddau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â sicrhau bod y
ddarpariaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a pholisi iaith Gymraeg
y Cyngor i’r dyfodol. Roedd
hefyd yn falch iawn ei fod wedi clywed barn rhiant un o’r defnyddwyr gwasanaeth
yn y cyfarfod. Nododd y Cabinet yr argymhellion a oedd yn adlewyrchu casgliadau’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad ac roeddent yn falch o nodi’r adroddiad cadarnhaol
er mwyn diogelu dyfodol Meifod a’r cyfle i ddarparu ystod well o weithgareddau
i wneud y gwasanaeth yn fwy cynhwysol ac annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r
gwasanaeth. Fel aelod lleol, siaradodd y Cynghorydd Mark
Young yn gadarnhaol am ddyfodol Meifod, ac ynghyd â‘i gyd-aelod lleol, y
Cynghorydd Rhys Thomas, gofynnodd a fyddai modd iddynt dderbyn y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynlluniau i ailagor ac
unrhyw newidiadau i'r cyfleuster yn y dyfodol, a chynigodd helpu swyddogion i
gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd i'r dyfodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley unwaith eto eu
bwriad i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â phawb sydd â diddordeb a chysylltu â
theuluoedd defnyddwyr presennol yn ogystal â defnyddwyr y dyfodol. Mewn ymateb
i gwestiynau pellach, rhannodd y swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith
sydd angen ei gwblhau cyn ailagor y cyfleuster a sicrhawyd y byddent yn gwneud
pob ymdrech i sicrhau bod y cyfleuster yn ailagor cyn gynted â phosibl. Mewn
ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i addasu’r geiriad yn yr
argymhellion i ‘Wasanaethau Meifod’, cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn
hapus â’r argymhellion presennol yn yr adroddiad. Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet. Er bod aelodau’n gefnogol iawn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH GORLLEWIN CLWYD PDF 297 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio awdurdod dirprwyedig i'r
swyddogion a enwir a'r Arweinydd i gytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan
Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar
gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cefnogi thema’r cais, y
prosiectau arfaethedig sydd i’w cynnwys yn y cais, a gwerth dangosol bras pob
prosiect, ac (b) yn dirprwyo awdurdod i’r
Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Chefn
Gwlad, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a’r Arweinydd, i gaboli’r prosiectau
a chostau’r prosiectau fel bo’r angen, ac i benderfynu ar gais i’w gyflwyno i
Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod at
ddibenion cytuno ar gais ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i
Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Diben
Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU oedd buddsoddi mewn isadeiledd a fydd yn
gwneud y gwelliant mwyaf i fywyd pob dydd ac yn cael ei ddarparu drwy
awdurdodau lleol. Roedd ceisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth AS. Roedd
tair ardal yn Sir Ddinbych: Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd a De Clwyd.
Cyflwynwyd y cais ar gyfer De Clwyd yn y rownd gyntaf, ac roedd y cais yn
llwyddiannus. Roedd
yr adroddiad yn ymwneud â chais yr ail rownd ar gyfer etholaeth Gorllewin
Clwyd, a rannir gyda CBSC, a oedd yn gweithredu fel yr ymgeisydd/awdurdod
arweiniol. Gallai pob ardal
etholaeth wneud cais am hyd at £20 miliwn o gyllid cyfalaf a byddai elfen CSDd
yn oddeutu £10 miliwn. Roedd y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais
wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â ffigurau bras o’r costau a fydd yn
gliriach unwaith y bydd yr achosion busnes manwl wedi’u datblygu. O ystyried bod y prosiectau’n cael eu craffu
a’u cymeradwyo’n drylwyr ar lefel leol, nid oedd yr Arweinydd yn ystyried bod
angen craffu pellach ar hyn o bryd.
Roedd yr AS David Jones wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi elfen CSDd o’r
cais, cynhaliwyd ymgynghoriad manwl gydag aelodau lleol, ac ymgysylltwyd â
Chyngor Tref Rhuthun. Disgwyliwyd y byddai’r dyddiad cau ar gyfer ail rownd y
ceisiadau o gwmpas mis Rhagfyr 2021. Soniodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad am y broses a gymerwyd i ddatblygu’r cais, a oedd yn
cynnwys trafodaethau manwl ar lefel leol a chydweithio agos gyda’r AS David
Jones i ddyfeisio thema ynghyd ag asesu a sgorio prosiectau drwy ffurfio
achosion busnes. Y thema ar gyfer y cais oedd buddsoddiad diwylliannol a
threftadol. Byddai gwaith pellach yn cael ei gwblhau ar y prosiectau nad ydynt
yn cael eu datblygu fel rhan o’r cais, gyda’r bwriad o geisio ffrydiau cyllido
amgen i’w datblygu fel sy’n briodol. Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a'r posibilrwydd
o fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal, ac roeddent yn gefnogol iawn o'r
argymhellion i ddatblygu'r cais. Talodd y Cynghorwyr Bobby Feeley, a Huw
Hilditch-Roberts (aelodau Rhuthun) deyrnged i’r gwaith gwych a gwblhawyd gan
swyddogion a'r gymuned leol i ddatblygu'r prosiectau hyn, gan amlygu'r cyfoeth
o wybodaeth a oedd ei hangen arnynt i lywio'r broses a'r gwaith a gwblhawyd
mewn ychydig iawn o amser, ynghyd â chefnogaeth David Jones, yr AS a'i
gymeradwyaeth. Pe bai’r cais yn llwyddiannus, byddai’r buddion i Rhuthun a’r
ardal ehangach yn drawsnewidiol, gyda buddion amlwg i breswylwyr a chymunedau
lleol o ran cyfleusterau newydd a gwell, gan wneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pobl
a’r economi lleol. Fel
Cadeirydd Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun, nododd y Cynghorydd Emrys Wynne ei
fod yn gefnogol iawn o’r cynigion. Mewn ymateb i
gwestiynau a sylwadau’r Cabinet, cynghorodd yr arweinydd a swyddogion - ·
nad
oedd yn hysbys ar hyn o bryd pryd fyddai penderfyniad yn cael ei wneud ar y
cais ar ôl ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ond roedd disgwyl penderfyniad cyflym
o ystyried bod disgwyl i'r prosiectau gael eu darparu erbyn mis Mawrth 2024, ac
roedd yr angen i weithredu’n gyflym wedi cael ei godi gyda’r Tîm Rhanbarthol
sy’n arwain ar y Gronfa Codi'r Gwastad. · roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda James Davies, AS mewn perthynas â chais Dyffryn Clwyd er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran dyrannu pob prosiect mewn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
GWAHODDIAD I DENDRO'R GWASANAETH ASESU COF RHANBARTHOL PDF 219 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Sir Ddinbych
weithredu fel Comisiynydd Arweiniol ar Wahoddiad i
Dendro'r Gwasanaeth Asesu Cof Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod – (a) Cyngor Sir Ddinbych i
weithredu fel Comisiynydd Arweiniol y Gwahoddiad i Dendro’r Gwasanaeth Asesu
Cof Rhanbarthol; (b) yr ymarferiad Gwahoddiad i
Dendro i gael ei arwain gan dîm caffael Cyngor Sir Ddinbych er mwyn sicrhau bod
y drefn briodol yn cael ei dilyn, sydd yn gymwys i lefel gwerth y contract
posibl, ac (c) y Cabinet i gadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor
Sir Ddinbych (CSDd) weithredu fel y comisiynydd arweiniol ar ran y Tîm
Cydweithio Rhanbarthol (partneriaid y chwe Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru] ar Wahoddiad i Dendro gyda gwerth
contract posibl o hyd at £3.36 miliwn (dros gyfnod posibl o 5 mlynedd) ar gyfer
y Gwasanaeth Asesu Cymorth Cof Rhanbarthol. Byddai’r cyllid yn cael ei
ddefnyddio i gefnogi gweithrediad Strategaeth Ddementia Gogledd Cymru. Roedd
y rhanbarth wedi sicrhau cyllid ychwanegol / newydd a chylchol gwerth £672,000
y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull rhanbarthol gwell i gefnogi
unigolion â dementia neu broblemau / pryderon mewn perthynas â'r cof yn ystod y
camau cyn-asesu ac ôl-ddiagnosis. Darparwyd manylion y llwybr asesu cof
integredig rhanbarthol i ddarparu gwasanaeth rhanbarthol hygyrch, effeithlon,
effeithiol a theg ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr. Byddai’r gwahoddiad i
dendro'n nodi partneriaid y gallai'r prosiect weithio gyda nhw i ddatblygu'r
ddarpariaeth ranbarthol hanfodol ac roedd manylion pellach y broses
dendro/comisiynu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. O ystyried mai CSDd oedd
awdurdod cynnal y gwasanaeth cydweithio rhanbarthol, ceisiwyd cymeradwyaeth
gwasanaeth gan y Cabinet i’w galluogi i weithredu fel comisiynydd arweiniol ar
y tendr ar gyfer y rhanbarth. Nododd
y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod pob partner yn awyddus i ymgymryd ag
ymarfer cydgomisiynu ac na fyddai disgwyl
i GSDd ddarparu unrhyw gostau neu gefnogaeth ychwanegol. Mewn ymateb i ymholiad gan yr
Arweinydd ynghylch y risg yn adran 10.2 o'r adroddiad, cadarnhawyd y byddai pwy
bynnag fyddai’n cymryd rôl yr awdurdod arweiniol yn cael eu hindemnio gan bob
un o’r partneriaid mewn perthynas â’r risg o her gyfreithiol. PENDERFYNWYD bod: (a) Cyngor Sir Ddinbych yn
gweithredu fel y Comisiynydd Arweiniol ar gyfer y Gwahoddiad i Dendro'r
Gwasanaeth Asesu Cymorth Cof Rhanbarthol (b) ymarfer y
Gwahoddiad i Dendro’n cael ei arwain gan dîm caffael Cyngor Sir Ddinbych er
mwyn sicrhau bod y drefn briodol yn cael ei dilyn sy’n addas ar gyfer gwerth
posibl y contract, a (c) y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i'r Asesiad o’r Effaith
ar Les (Atodiad I yr adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. |
|
TENDR CERBYDAU FFLYD NEWYDD AR GYFER Y MODEL GWASTRAFF NEWYDD PDF 222 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ymarfer
tendro arfaethedig i gaffael fflyd cerbydau newydd ar gyfer y model gwastraff
newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo’r ymarferiad
tendro arfaethedig fel ag y nodwyd yn yr adroddiad; (b) yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad), Ffurflen Comisiynu’r Fflyd (Atodiad 2 yr adroddiad), a’r Llinell
Amser (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau; (c) yn cadarnhau y caiff y
penderfyniad ei weithredu yn syth oherwydd bod angen cychwyn y Gwahoddiad i
Dendro yn nechrau Rhagfyr 2021 i sicrhau y derbynnir y nwyddau mewn da bryd ar
gyfer lansio’r model gwasanaeth newydd. Mae hyn oherwydd bod amser arwain y
cerbydau hyn yn hir, a (d) yn nodi y bydd adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn Ionawr 2022 i gymeradwyo’r Dyfarnu Contract
yn dilyn wedi’r ymarferiad tendro, bydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli
contractau, costau wedi eu tendro, a manylion contractau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ymgymryd â phroses dendro i nodi prif gontractwr i ddarparu cerbydau fflyd
newydd i gefnogi Model Gwastraff ar gyfer casglu gwastraff aelwydydd, masnach a
chymunedol. Byddai’r
ymarfer tendro arfaethedig yn helpu i ddarparu’r newid gwasanaeth arfaethedig
ar gyfer Model Gwastraff newydd ac roedd manylion y broses dendro wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad ynghyd ag amserlenni a gwerth amcangyfrifedig y contract ar gyfer fflyd
diesel gyda’r posibilrwydd o ystyried prynu cerbydau trydan hyd at 20%, yn
amodol ar gyllid gan ffynonellau eraill i dalu’r gwahaniaeth y gost rhwng
cerbydau diesel a thrydan - roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda
Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn. Oherwydd yr amserlenni tynn,
er mwyn sicrhau bod y fflyd yn barod ar gyfer y gwasanaeth newydd, roedd yn
rhaid hysbysebu'r tendr cyn gynted â phosibl a gofynnwyd i'r Cabinet wneud
penderfyniad mewn perthynas â chymeradwyo’r ymarfer tendro cyn gynted â
phosibl. Tynnwyd
sylw’r Cabinet at y costau dangosol diweddaraf ar gyfer y cerbydau fflyd a oedd
ar gael ers cyhoeddi’r adroddiad. Y gyllideb ar gyfer y fflyd oedd £2.554
miliwn ac roedd yr amcangyfrif newydd yn awgrymu pwysau o £770,000 gyda'r
costau dangosol diweddaraf yn awgrymu y gallai'r fflyd gostio hyd at £3.325
miliwn – ni fyddai’r costau gwirioneddol yn hysbys nes y byddai’r tendrau wedi
cael eu cyflwyno ym mis Ionawr. Roedd y pwysau hwn o ganlyniad i gynnydd o 25%
mewn prisiau cerbydau am resymau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Byddai'r pwysau
ar gostau’r fflyd yn cael ei fodloni gan y swm wrth gefn a risg o £2 filiwn o
fewn y gyllideb prosiect gwastraff cyffredinol, fodd bynnag, byddai rhagor o
alw ar y swm hwnnw wrth symud ymlaen gyda phwysau i’w ddisgwyl yn y broses
dendro ar gyfer cam 2 gwaith adeiladu'r depo yn sgil costau cynyddol y
deunyddiau. Roedd disgwyl y byddai’r costau tendr ar gyfer yr elfen honno ar
gael erbyn gwanwyn 2022, a byddai’r Cabinet yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
am y sefyllfa bryd hynny. Roedd trafodaethau hefyd yn mynd rhagddynt gyda
Llywodraeth Cymru i archwilio opsiynau cyllido ychwanegol i fynd i’r afael â’r
pwysau hynny. Yr hyn a geisiwyd yn y cyfarfod
hwn felly oedd cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau’r broses
gaffael er mwyn sicrhau bod y fflyd yn barod mewn
pryd ar gyfer y newid gwasanaeth. Roedd
prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol - ·
pe bai’r amcangyfrifon o ran
costau ar gyfer y fflyd yn cael eu gwireddu, ni fyddai unrhyw broblem â dyrannu’r
contract hwn o ystyried y byddai modd defnyddio’r gronfa wrth gefn a risg o £2
filiwn i fodloni’r pwysau – fodd bynnag, pe bai angen y swm amcanol llawn, dim
ond £1.2 miliwn fyddai ar ôl yn y gronfa wrth gefn a risg ar gyfer y prosiect. ·
o ystyried y posibilrwydd o
gynyddiadau pellach o ran costau elfennau eraill o'r prosiect, mae'n bosibl na
fyddai’r gronfa wrth gefn a risg o £2 filiwn yn ddigonol - roedd gwaith yn mynd
rhagddo i ystyried atebion cyllido allanol a mewnol er mwyn osgoi'r canlyniad
hwnnw. ·
byddai’n anodd rhagweld y
goblygiadau ariannol ar elfennau eraill o’r prosiect o ystyried yr ansicrwydd
mewn perthynas â’r posibilrwydd o gynnydd mewn costau i’r dyfodol. · cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion eu bod yn gyfforddus â sefyllfa gyffredinol y prosiect a sicrhawyd yr aelodau bod trefniadau llywodraethu a monitro cadarn ar waith i oruchwylio elfennau ariannol y prosiect ac y byddai'r Cabinet yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau ynghyd â manylion pellach y tendr ar gyfer y fflyd newydd ym mis ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 2, 2021-2022 PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol
2021-2022 ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf – Medi 2021). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn nodi’r datblygiad yng nghyflawni’r Cynllun Corfforaethol fel
ag y mae ddiwedd chwarter 2, 2021/2021, ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad
drafft. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r
Cabinet ar ddarpariaeth Cynllun Corfforaethol 2021 - 2022 hyd ddiwedd chwarter
2 (Gorffennaf –Medi 2021). Roedd
Cynllun Corfforaethol 2017-2022 yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i
flaenoriaethau ac roedd cyfnod pum mlynedd y cynllun bron â dod i ben. Roedd y
mwyafrif helaeth o gynlluniau wedi'u darparu neu ar fin cael eu darparu, ond
bu’n rhaid oedi rhai ohonynt yn sgil Covid-19. Roedd Bwrdd Rhaglen y Cynllun
Corfforaethol yn parhau i fonitro darpariaeth y cynllun ac roedd gwaith yn mynd
rhagddo i nodi gwersi a ddysgwyd ac edrych ymlaen at ddatblygu’r Cynllun
Corfforaethol nesaf ar gyfer y Cyngor newydd. Roedd y crynodeb cyffredinol yn
nodi dau fesur fel ‘blaenoriaeth ar gyfer gwella’, fel yr oedd eisoes wedi'i
nodi ar gyfer Cysylltu Cymunedau a Phobl Ifanc, ond roedd yr elfennau
prosiectau wedi’u hasesu fel ‘da’ neu uwch. Nododd
Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad bod mesurau blaenoriaeth ar
gyfer gwella’n adlewyrchu ardaloedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac roedd y
prosiectau a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor wedi perfformio’n well. Roedd y
meysydd gwan yn cynnwys ffigurau Un Llwybr Mynediad At Dai (SARTH) a oedd yn
parhau i fod yn uchel, roedd disgwyl i adroddiad ymchwil gael ei lunio erbyn
diwedd y flwyddyn, ac roedd cynnydd y prosiect teithio (Cysylltu Cymunedau)
wedi bod yn araf yn sgil yr angen am rôl rheoli prosiect mae’n debyg. Er bod
data pwysau iach ar gyfer plant mewn ysgolion cynradd (Pobl Ifanc) wedi dangos
gwelliant, roedd yn parhau i fod yn achos pryder gan fod y cyllid ar gyfer y
prosiect maetheg ysgolion bron â dod i ben, roedd hyn yn codi ystyriaethau mewn
perthynas â’r graddau y gallai'r cyngor ddylanwadu ar / rheoli pwysau pobl
ifanc. Nid oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â blaenoriaeth yr Amgylchedd. O ran y canlyniad iechyd
corfforaethol, roedd y saith maes llywodraethu'n ymddangos yn iach ac nid oedd
llawer o bryderon yn codi, fodd bynnag, roedd absenoldeb salwch wedi cynyddu
rhywfaint. Amlygodd
yr Arweinydd bod y Cynllun Corfforaethol wedi bod yn fwriadol uchelgeisiol ac
roedd y meysydd heriol yn ymwneud yn bennaf â’r blaenoriaethau hynny a oedd y
tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nododd bod cysylltedd digidol yn faes arbennig o
heriol ac roedd y Cyngor wedi ceisio dylanwadu ar gyflymder y newid, ac er bod
rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ni lwyddwyd i symud ymlaen fel y gobeithiwyd. Roedd yn werth nodi bod rhai blaenoriaethau a nodwyd
ar ddechrau tymor cyfredol y Cyngor yn parhau i fod yn berthnasol a gobeithiwyd
y byddai’r gwasanaethau’n parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a’u sefydlu
mewn cynlluniau gwasanaeth i’r dyfodol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd
chwarter 2 2021/22 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r cyllidebau ar
gyfer 2021/22 ac yn symud ymlaen yn erbyn y strategaeth gyllid a gytunwyd arni,
ac (b) yn cymeradwyo addasu of Llys
Anwyl, y Rhyl, i fflatiau ar gyfer rhentu cymdeithasol (fel y nodir yn Adran
6.7 yr adroddiad, ac Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed
o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod
- ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn
2020/21). ·
rhagwelwyd
gorwariant o £1.179 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol (£0.656
miliwn fis diwethaf, roedd yr amrywiant
hwn yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o gontractwyr allanol/cynnydd
mewn prisiau deunyddiau ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau a
Gwasanaethau Amgylcheddol [£102,000] a goblygiadau ariannol y cynnydd mewn costau
contractau ysgolion ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd [£464,000]) ·
manylion arbedion ac arbedion
effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt sy'n werth £2.666 miliwn o ran ffioedd ac arwystlon,
arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion ·
tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol
yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion
ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol
i Lywodraeth Cymru, a ·
rhoddwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun
Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar
brosiectau mawr. Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet hefyd ar gyfer
addasu Llys Anwyl, y Rhyl, i randai rhent cymdeithasol fel yr amlinellir o fewn
yr adroddiad, a darparodd y Rheolwr Datblygu Tai ragor o wybodaeth a throsolwg
o’r prosiect. Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo resymau dros y
gorwariant ar gludiant i’r ysgol gan nodi y byddai asesiad yn cael ei chwblhau
fel rhan o'r broses gyllidebu i nodi a ddylid cynnwys pwysau ar gyfer yr elfen
honno wrth symud ymlaen neu beidio. Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd hefyd
bod Llywodraeth Cymru wedi tynhau'r meini prawf ar gyfer cymorth ariannol
drwy’r gronfa caledi, a byddai’r goblygiadau hynny’n gliriach unwaith y byddwn
wedi cael gwybod am ganlyniadau ceisiadau, byddai unrhyw broblemau a gaiff eu
nodi fel rhan o’r broses honno’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. O ran Ailddatblygu Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, roedd y dyfynbris
cychwynnol i ddarparu Cam 1 £1.4 miliwn dros y gyllideb, ac roedd swyddogion
wedi bod yn gweithio’n agos gyda'r contractwyr ar yr opsiynau dylunio manwl i
leihau’r costau i fodloni’r gyllideb neu fuddsoddi ymhellach mewn cynllun
gwell. PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo
addasu Llys Anwyl, y Rhyl yn rhandai rhent cymdeithasol (fel yr amlinellir yn
Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5 a 6 yn yr adroddiad) |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 292 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylid cofnodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer mis
Rhagfyr- ·
Asesiad
o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ·
Sefydlu Cydbwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol Gogledd Cymru PENDERFYNWYD
nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 am. |