Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn absenoldeb yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, cadeiriodd y Dirprwy Arweinydd, y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a
Llywodraethu Corfforaethol. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 fel cofnod
cywir. |
|
SYSTEM BRYNU DDEINAMIG FFRAMWAITH DYLUNIO GRAFFEG AC ARGRAFFU PDF 234 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gael eu cynnwys ar y fframwaith Prynu Ddeinamig ar gyfer dylunio ac argraffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r rhestr o gyflenwyr sydd wedi cael eu monitro ar gyfer
y Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad i geisio derbyn cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer y cyflenwyr i’w cynnwys ar fframwaith y System Brynu Ddeinamig
newydd ar gyfer dylunio ac argraffu. Mae’r
System Brynu Ddeinamig yn system ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint a gan fod y
gwariant amcangyfrifedig yn fwy na £4 miliwn mae angen cymeradwyaeth y Cabinet.
Ar 23
Mawrth 2021 rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i hysbysebu’r fframwaith newydd
hwn ar gyfer dylunio graffeg, argraffu, baneri ac arwyddion, cynllun lliwiau
cerbydau ac argraffu arbenigol ar draws 5 ‘lot’ caffael dros gyfnod o chwe
blynedd ar y cyd â Sir y Fflint. Yn
dilyn y broses werthuso ddilynol, gofynnir i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i
ymrwymo i gontract gyda rhestr o gyflenwyr sydd i'w cynnwys yn y fframwaith
newydd sydd wedi’i manylu arni yn yr adroddiad dan y 5 ‘lot’ caffael. Dywedwyd
fod modd ychwanegu at y rhestr fel y bo’n briodol yn ystod y chwe blynedd, yn
dilyn proses ymgeisio a gwerthuso. Cadarnhawyd
fod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Tîm Datblygu Busnes ac Economaidd, a’r tîm
cyfatebol yn Sir y Fflint, i ymgysylltu gyda chwmnïau lleol er mwyn eu cynnwys
yn y fframwaith newydd. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo rhestr cyflenwyr fframwaith y System Brynu Ddeinamig
newydd, sydd wedi’u gwerthuso ac a fanylir arnynt yn yr adroddiad. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i ddewis prif gontractwr i ddarparu Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) Cymeradwyo’r
ymarfer tendro arfaethedig fel y manylir yn yr adroddiad, ac yn (b) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r
ymarfer tendro arfaethedig i ddewis prif gontractwr i ddarparu Ail Gam Gorsaf
Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd yn Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. Mae
angen Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff i gefnogi’r newid arfaethedig i gasgliadau
gwastraff aelwydydd. Mae manylion yr ymarfer caffael wedi’u nodi yn yr
adroddiad, ynghyd â gwerth amcangyfrifedig y contract o £5.2 miliwn sydd o fewn
y dyraniad cyllidebol presennol. Darparwyd
manylion caniatâd blaenorol ar gyfer agweddau gwahanol o’r newid cyffredinol
i’r gwasanaeth casglu gwastraff a manylion y broses dendro ac amlygwyd y dull
cydweithio a roddwyd ar waith a manteision y prosiect ehangach i fusnesau lleol
ar y safle. Mae’r gymeradwyaeth a geisir
yn yr adroddiad yn gam arall yn y broses i hwyluso’r newid arfaethedig i’r
gwasanaeth. Byddai dyfarnu’r contract ei hun yn destun adroddiad arall i’r
Cabinet yn dilyn y broses dendro, a fyddai hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli
contract, costau'r tendr a manylion y contract. Cynghorwyd y Cabinet fod yr
amserlenni yn yr adroddiad yn ddynodol ar hyn o bryd ac o ystyried y gwaith
sydd angen ei wneud fe all yr amserlen lithro ychydig. Gofynnwyd
ynghylch lleddfu risgiau allweddol a nodwyd a’r posibilrwydd i ymweld â’r safle
ac amlygwyd yr angen am gynllun cyfathrebu cadarn ar gyfer trigolion ar yr adeg
gywir yn y broses. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol
a'r swyddogion i’r cwestiynau gan wneud y sylwadau canlynol: ·
Roeddynt yn hyderus y bydd
cynigion yn cael eu cyflwyno o ystyried y diddordeb sydd wedi'i ddangos eisoes
yn y broses dendro ·
Mae’r risgiau ariannol,
oherwydd eu natur, wedi’u categoreiddio yn risgiau ‘uchel’ ond mae diwydrwydd
dyladwy a gwiriadau ariannol wedi’u cynnal fel rhan o’r broses i reoli’r risg
honno ·
Mae yna bwysau yn y farchnad o
ran prisiau a deunyddiau, sydd y tu allan i reolaeth y Cyngor, ac fe all hynny
gael effaith ar bris tendrau – bydd y costau yn cael eu hadolygu yn hynny o
beth. Nid
oes modd gwybod beth fydd effaith y pwysau hynny ar y farchnad hyd nes byddwn
wedi derbyn tendrau ond rydym ni'n ffyddiog y bydd y gyllideb ddyranedig yn
gallu cwrdd ag unrhyw gynnydd yn y pris ·
Mae’r trefniadau llywodraethu
sydd yn eu lle a gwaith y Bwrdd Prosiect i oruchwylio a monitro cynnydd a
datblygiadau yn darparu sicrwydd ·
O ran yr awgrym i drefnu
ymweliad safle ar gyfer Aelodau, cynghorodd y swyddogion y byddai gwanwyn/haf
yn adeg dda ar ôl cwblhau cam cyntaf y prosiect ·
Er nad yw’n rhan o’r adroddiad
hwn, roedd y swyddogion yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu gyda thrigolion ar
yr adeg briodol ynglŷn â gweithredu’r model gwastraff newydd, a darparwyd
sicrwydd bod cynllun cyfathrebu manwl yn cael ei ddatblygu ar gyfer hynny. Dywedwyd
y byddai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y
Model Gwastraff newydd, a fyddai hefyd yn gyfle iddynt drafod y mater ymhellach
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Cymeradwyo’r ymarfer tendro fel y nodir yn yr adroddiad; (b) Cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 1) fel rhan o’u hystyriaethau. |
|
Ystyried adroddiad (sydd yn cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i awdurdodi dyfarnu contract i reoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn dilyn proses gaffael ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ynghyd â mabwysiadu Polisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y Cyd gyda Chonwy ac atodlen codi tâl 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) Y Cabinet yn
awdurdodi dyfarnu’r contract i’r Cynigydd A Ffafrir sydd wedi’i gynnwys yn yr
Adroddiad Gwerthuso Tendr Caffael ar y cyd (Atodiad 1 o’r adroddiad) sydd wedi
arddangos eu bod wedi cyflwyno’r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd ac yn
nodi bod y contract yn cael ei ddyfarnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel
yr awdurdod arweiniol; (b) aelodau yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac yn nodi y bydd yn
cael ei ddiweddaru ar ôl dyfarnu’r contract; (c) Polisi Canolfan
Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y Cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
(Atodiad 2 o’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu o ddyddiad dechrau’r contract; (d) Arwystlon Gwastraff
Adeiladu DIY (Atodiad 3 o’r adroddiad) yn cael eu mabwysiadu yn ffurfiol o
ddyddiad dechrau’r contract; (e) system archebu
ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y cyd yn cael ei ddatblygu’n fewnol gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cael ei fabwysiadu'n barhaol; (f) yr adroddiad yn
mynd yn ôl i Bwyllgor Craffu Partneriaethau er mwyn adolygu blwyddyn gyntaf o
weithrediad y contract newydd, a (g) y Cabinet yn nodi
bod angen cytuno ar Gontract Awdurdodau ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, gan ofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol i gefnogi’r
gwasanaeth gyda pharatoi’r contract hwn. Cofnodion: [Eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod elfen gwerthuso
tendr yr adroddiad yn gyfrinachol oherwydd sensitifrwydd masnachol a
chynghorodd y Cabinet i gynnal sesiwn gaeedig os ydynt yn dymuno trafod yr
elfen honno o’r adroddiad.] Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i geisio derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i
awdurdodi dyfarnu contract i reoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn
dilyn proses gaffael ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) ac i
fabwysiadu Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y cyd â CBSC ac
atodlen brisiau 2022/23 er mwyn cyflawni’r arbedion mwyaf drwy’r broses
gaffael. Amlygwyd manteision y dull ar y cyd o safbwynt trigolion Sir Ddinbych
a Chonwy, yn cynnwys gallu defnyddio canolfannau ailgylchu dros y ffin a chael
dewis amgen i hurio sgip i waredu deunyddiau DIY a gwastraff adeiladu am bris
rhesymol, a pharhad y system archebu. Hefyd,
amlygwyd yr arbedion yn sgil y newidiadau. Eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod prif agweddau’r adroddiad
yn ymwneud â dyfarnu contract rheoli canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
ar draws dwy ardal awdurdod lleol a mabwysiadu cyfres newydd o bolisïau ar
ddefnyddio’r canolfannau hynny. Roedd y broses dendro yn seiliedig ar y
dybiaeth y byddai’r polisïau’n cael eu mabwysiadu ac y byddai incwm yn cael ei
gynhyrchu drwy’r polisïau hynny. Felly
mae angen cymeradwyo’r ddwy elfen. Yn
dilyn pryderon blaenorol ynghylch y cyfyngiad i dri ymweliad y mis mae’r
cyfyngiad wedi’i godi i ganiatáu i aelwydydd fynd â nwyddau i ganolfan
ailgylchu hyd at chwe gwaith bob deufis er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i
drigolion. Ystyriodd
yr Aelodau’r adroddiad cynhwysfawr ac roeddynt yn falch o nodi’r newid i roi
mwy o hyblygrwydd o ran nifer yr ymweliadau yn dilyn y pryderon a godwyd. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Pennaeth
Gwasanaeth a’r Aelod Arweiniol fod y system archebu arfaethedig wedi’i datblygu
gan CBSC a’r bwriad yw defnyddio’r system honno yn y ddau awdurdod lleol a
fyddai’n ddefnyddiol i drigolion, yn cynnwys gallu archebu i fynd i unrhyw
ganolfan yn y ddwy sir. Rhoddwyd sicrwydd hefyd y
byddai’r darparwr arfaethedig mewn sefyllfa i weithredu’r contract yn
llwyddiannus ar 1 Ebrill 2022. Cafwyd
trafodaeth ar bwysigrwydd cael cynllun cyfathrebu cadarn i weithredu’r model
gwastraff newydd a’r newidiadau cysylltiedig i sicrhau bod trigolion yn ymwybodol
ohonynt a’n bod ni’n cadw mewn cysylltiad â nhw er mwyn darparu gwybodaeth,
tawelu pryderon a chyfrannu at lwyddiant y prosiect i’r dyfodol. Roedd gan y
Cynghorydd Emrys Wynne beth amheuaeth ynghylch y cynigion i godi tâl am dderbyn
gwastraff DIY ac adeiladu, a gofynnodd am eglurhad ynghylch y trefniadau codi
tâl am eitemau penodol a sut mae modd cyfleu hynny’n briodol i drigolion. Gan
gydnabod nad oes yn rhaid i’r Cyngor dderbyn gwastraff nad yw’n wastraff
cartref a bod y cynnig hwn yn ehangu’r gwasanaeth, efallai na fyddai codi tâl
am rai elfennau yn cael ei ystyried yn ffafriol gan drigolion, yn enwedig os
ydynt yn gorfod talu i waredu eitemau a oedd am ddim o’r blaen. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth a darparodd sicrwydd pellach y byddai neges glir yn cael ei chyfleu i drigolion. Eglurodd y broses archebu i fynd i ganolfan ailgylchu, sy’n cynnwys categorïau gwastraff ac yn cadarnhau a oes angen talu – mae’r gweithwyr ar y safle hefyd yn gallu helpu trigolion i wneud dewisiadau gwybodus o ran gwaredu gwastraff a sut. Darparwyd sicrwydd hefyd y byddai staff yn derbyn hyfforddiant priodol i ddelio gydag unrhyw broblem ar y safle. Mae’r broses wedi gweithio’n dda yng Nghonwy heb fawr o broblemau na phryderon, sy’n rhoi ffydd i ni yn y system ac yn darparu gwersi ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo
defnyddio’r Grant Cynnal a Chadw Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan
Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (a
fanylir arno yn Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 7 o’r adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr
adroddiad sy’n manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol gytunedig fel yr amlinellir isod – ·
Mae’r
gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 yn £216.818
miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21) ·
Rhagwelir
gorwariant o £0.656 miliwn yn y
cyllidebau gwasanaeth a corfforaethol ·
Ceir gwerth £4.448 miliwn o arbedion ac arbedion
effeithlonrwydd cytunedig yn ymwneud â ffioedd, arbedion gweithredol,
newidiadau mewn darparu gwasanaethau ac ysgolion ·
Amlygir risgiau presennol a thybiaethau yn ymwneud
â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion, ynghyd ag
effaith y coronafeirws a sefyllfa’r hawliadau ariannol i Lywodraethu Cymru ·
Diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys
a’r Cynllun Cyfalaf, a diweddariad ar brosiectau mawr Gofynnir hefyd i’r Cabinet gymeradwyo defnyddio’r
Grant Cynhaliaeth Ysgolion, a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, yn
unol ag argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid y rhesymeg y tu ôl i’r gymeradwyaeth a geisir.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol i’w wario yn ystod y flwyddyn sy’n golygu bod modd
i’r Cyngor gario arian sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ysgolion ymlaen fel
tanwariant. Mae’r rhestr o waith wedi’i flaenoriaethu
wedi’i chytuno arni gyda'r Gwasanaeth Addysg, mewn ymgynghoriad ag ysgolion,
a'r Gwasanaethau Eiddo. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni; (b) Cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion, a ddyfarnwyd i’r Cyngor
gan Lywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol
(a nodir yn Adran 6.7 yr adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 5 yr adroddiad). |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 284 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet
i’w hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiad canlynol - ·
Dyfarnu
Contract: Ailddatblygu hen lyfrgell Ffordd Llys Nant,
Prestatyn – symud yr eitem o fis Tachwedd i fis Ionawr ·
Dyfarnu
Contract: Cymeradwyo Fflyd Gwastraff newydd i gefnogi model
newydd ar gyfer gwasanaethau – ychwanegu at raglen mis Ionawr ·
Cynigion
Cyllideb 2022/23 – i’w ychwanegu at raglen fis Ionawr ·
Dyfarnu
Contract: Cymeradwyo gwaith adeiladu cam 2 Gorsaf
Trosglwyddo Gwastraff CSDd i gefnogir Model Gwastraff newydd – i’w ychwanegu at
raglen mis Chwefror PENDERFYNWYD nodi
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am. |