Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynllun
Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref
Llangollen. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y rhaglen – Cynllun
Gwella Heol Y Castell Llangollen 2020
gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Llangollen. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ailddatblygiad
arfaethedig o hen Safle Llyfrgell Prestatyn - cymeradwyaeth i ddechrau'r broses
dendro (ystyriwyd y mater hwn fel rhan o'r Adroddiad Cyllid o dan eitem 6 ar yr
agenda) Cofnodion: Ailddatblygiad Arfaethedig
cyn Safle Llyfrgell Prestatyn -
cymeradwyaeth i ddechrau'r broses dendro Byddai’r mater
hwn yn cael ei ystyried fel rhan o’r Adroddiad Cyllid (eitem rhif 6 ar yr
agenda). |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cafodd cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 eu cyflwyno. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
PROSIECT GWELLA HEOL Y CASTELL, LLANGOLLEN, 2020 PDF 223 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau i
weithredu Prosiect Gwella Heol Y Castell Llangollen 2020. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo gweithredu Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020, yn
cynnwys y diwygiadau a geir yn Atodiad A a wnaethpwyd yn dilyn ymgysylltu â'r
cyhoedd a chyda cytundeb aelodau lleol, ac yn (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad C) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cyngor i symud
ymlaen a rhoi Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 ar waith. O ystyried yr amcangyfrif o
gost y prosiect sef £1.75 miliwn a’r diddordeb cymunedol sylweddol yn y cynllun
ceisiwyd penderfyniad gan y Cabinet er mwyn cymeradwyo ei roi ar waith. Dywedodd
y Cynghorydd Jones ei fod wedi cerdded llwybr y cynllun gyda swyddogion a
thrigolion ac roedd yn falch o nodi'r ymateb cadarnhaol i'r gwelliannau
arfaethedig a’r buddsoddiad sylweddol yn yr ardal. Roedd yr ymarfer ymgysylltu
â’r cyhoedd cynhwysfawr a’r ymateb i adborth yn nodi yn glir y gwrandawyd ar
drigolion a busnesau a bod y Cyngor wedi gweithio gyda nhw i fynd i’r afael â
phroblemau a phryderon, oedd wedi golygu newidiadau i’r cynllun, a byddai modd
gwneud addasiadau pellach fel bo’n briodol. Wrth ganmol y prosiect
dywedodd y Cynghorydd Jones fod Aelod Senedd Cymru ac Aelod Senedd y DU hefyd
yn cefnogi’r prosiect ac anogodd y Cabinet i gymeradwyo rhoi’r cynllun ar
waith. Cyflwynodd
y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (TPRSM) gyflwyniad ar
fanylion y cynllun, oedd yn fras, yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol - ·
gwaith Grŵp Llangollen
2020 yn cychwyn prosiect i ystyried traffig, parcio, diogelwch cerddwyr a
materion parth cyhoeddus yng nghanol y dref ·
sicrhawyd cyllid gan Cadwyn
Clwyd a Chyngor Tref Llangollen i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ceisio barn
pobl drwy amrywiaeth o ymarferion ymgysylltu a llwyfannau cyfryngau a nododd
nifer o bryderon. ·
amlygwyd pryderon presennol
gan gynnwys traffig a thagfeydd yn ymwneud â pharcio, palmentydd yn rhy gul,
anawsterau i gerddwyr wrth groesi Heol y Castell a chyflwr gwael y parth
cyhoeddus. ·
roedd cynigion dylunio manwl
wedi eu datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb er mwyn
creu amgylchedd oedd yn fwy cyfeillgar i gerddwyr, gyda llai o barcio ar y
stryd ac yn darparu mannau llwytho i fusnesau, roedd argraffiadau arlunydd
hefyd wedi eu darparu i ddangos sut fyddai’r newidiadau arfaethedig yn edrych ·
£1.75 miliwn yw’r amcangyfrif o
gyfanswm cost y prosiect, sy’n cynnwys cyfraniad o £780,000 gan y Cyngor a
chyllid grant Llywodraeth Cymru o £970,000 ·
roedd ymarfer ymgysylltu
cynhwysfawr â’r cyhoedd wedi ei gynnal ar y cynigion dylunio, a darparwyd
trosolwg o farn pobl am y prosiect – yn gyffredinol roedd 64% o’r farn fod y
cynllun yn syniad da a 36% o’r farn nad oedd yn syniad da yn gyffredinol ·
roedd adborth o’r gwaith
ymgysylltu â’r cyhoedd wedi golygu rhai newidiadau arfaethedig i’r dyluniad er
mwyn gwneud gwelliannau pellach ac i liniaru pryderon a fynegwyd. Ehangwyd
ar y prif faterion a godwyd gydag eglurhad o’r newidiadau arfaethedig o
ganlyniad i hynny, a rhesymau pam na wnaed newidiadau arfaethedig o ganlyniad i
broblemau eraill ·
Roedd y prosiect yng Ngham 1 a dylai’r Cabinet
gymeradwyo ei roi ar waith gan fod camau pwysig eraill angenrheidiol nawr i
ddilyn fel rheoli parcio o amgylch y dref, llwybrau teithio llesol, arwyddion a
chyflwyno cyfyngiad pwysau amgylcheddol ·
Amlygwyd y camau nesaf, pe bai
Cabinet yn cymeradwyo’r cynllun, gyda’r gwaith adeiladu i gychwyn ym mis Medi
2021 er mwyn ei gwblhau yn mis Mawrth 2022. Cyfeiriodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad at y gwaith
ymgysylltu cynhwysfawr a’r broses ymgynghori fel un arbennig o werthfawr gydag
ymgysylltiad sylweddol gan y gymuned, aelodau lleol, cyngor y dref a busnesau,
a bod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud i’r cynigion dylunio o ganlyniad i’r
broses honno. Gwahoddodd
yr Arweinydd y ddau aelod lleol i siarad am y prosiect. Amlygodd y Cynghorydd Melvyn Mile ganlyniad y broses ymgynghori gydag oddeutu dwy ran o dair o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo cychwyn proses dendro mewn perthynas ag ailddatblygiad hen
lyfrgell Prestatyn a chodi 14 rhandy un ystafell wely rhent cymdeithasol a dwy
uned fasnachol ar y llawr gwaelod. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed
o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod
- ·
{0>y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22
oedd £216.18 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).<0} ·
{0>rhagwelir y byddai gorwariant o £0.708 miliwn mewn
cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.<0} ·
{0>manylodd am
arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.448 miliwn o ran ffioedd ac
arwystlon, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac
ysgolion <0} ·
{0>tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau
presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac
ysgolion ynghyd ag effaith ariannol coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau
ariannol i Lywodraeth Cymru. <0} ·
{0>rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf
ynghylch Y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r
Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar brosiectau mawr.<0} {0><}0{>Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet hefyd am
fater brys nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac argymhelliad pellach yn
ymwneud â chychwyn proses dendro o safbwynt cyn safle Llyfrgell Prestatyn.<0} Eglurwyd pam fod y mater yn un brys o
ystyried yr amserlenni ar gyfer tendro am y cynllun arfaethedig gyda dyfarniad
contract ffurfiol i’w ddwyn o flaen y Cabinet er mwyn ei ystyried ym mis Medi. Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi
cymeradwyo’r cais oedd yn cynnwys dymchwel yr adeilad cyfredol ar y safle ac
adeiladu pedwar ar ddeg o randai un ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol a
dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod. Roedd y cynllun cyffredinol yn werth £4.3 miliwn
ac wedi ei ariannu gan y Cyfrif Refeniw Tai (£2.9 miliwn) a grant tai
cymdeithasol Llywodraeth Cymru (£1.4 miliwn). Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ddiweddariad pellach ar
hawliadau’n gysylltiedig â Covid i Lywodraeth Cymru gan gadarnhau fod hawliad
colli incwm Chwarter 1 (Ebrill – Mehefin) wedi ei gyflwyno, oedd yn £2 miliwn,
ond disgwyliwyd y byddai hawliadau o fis Gorffennaf ymlaen yn llawer is o
ystyried fod y sector hamdden ac ati yn ail agor. Wedi ystyried yr adroddiad, yr eitem frys a’r
argymhelliad ychwanegol - PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) Cymeradwyo
dechrau’r broses dendro o safbwynt ailddatblygiad arfaethedig hen Lyfrgell
Prestatyn ac adeiladu pedwar ar ddeg o randai ar gyfer rhent cymdeithasol a dwy
uned fasnachol ar y llawr gwaelod. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 277 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
{0>Cynlluniau Byw yn y Gymuned
Anableddau Dysgu Sir Ddinbych – Medi <0} ·
{0>Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Prestatyn – Rhagfyr <0} ·
{0>Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Canol Y Rhyl – Ionawr <0} {0><}100{>PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.<0} Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 am. |