Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr
a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Meirick Davies ac Arwel Roberts gysylltiad personol ag eitem 9 -
Adroddiad Cyllid. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Adroddiad Cyllid
- Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd
Arwel Roberts – Ymddiriedolwr yng Nghylch Meithrin Ysgol Dewi Sant |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Cafwyd
datganiadau ar y canlynol - (i)
Y
penderfyniad anodd i gau ysgolion cynradd yn fuan ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb
ar 16 Rhagfyr yn unol ag ysgolion cynradd eraill yng ngogledd Cymru; (ii)
Diweddariad
ar y cylch diweddaraf o gyllid grant Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau
wedi'u heffeithio gan Covid-19, wedi’i weinyddu gan y cyngor; (iii)
Adlewyrchu
ar yr heriau a wynebodd yr awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cofnodion: Gwnaed
datganiadau am y canlynol - (i)
Fe
soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am y penderfyniad anodd i gau
ysgolion ar gyfer dysgu wyneb i wyneb yn gynnar o 16 Rhagfyr ymlaen, gyda dysgu
o bell i ddisgyblion ar 17 a 18 Rhagfyr. Gwnaed y penderfyniad ar ôl
trafodaethau gydag Aelod Arweiniol Addysg, Pennaeth Addysg ac mewn partneriaeth
ag ysgolion cynradd y sir. Teimlwyd bod
gadael ysgolion ar agor am wythnos lawn yn anghynaladwy o ystyried y sefyllfa
yng Nghymru a gan bod ysgolion cynradd eraill yn cau ar draws Gogledd Cymru. Mynegodd Aelod Arweiniol Addysg ei siom bod
Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cau ysgolion uwchradd o blaid dysgu o bell o
14 Rhagfyr. Ar y pryd, dim ond 5 achos o Covid-19 oedd wedi’u cofnodi yn
ysgolion Sir Ddinbych, ac roedd 98% o ddisgyblion yn yr ysgol ar 14 Rhagfyr
sy’n brawf o’r mesurau rheoli effeithiol yn yr ysgolion, gan arwain at lai o
reolaeth ar ôl i’r ysgolion cau ac effaith posibl ar y gymuned. (ii)
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at nodyn briffio a e-bostiwyd i aelodau gyda
diweddariad am y gyfran ddiweddaraf o gyllid grant Llywodraeth Cymru i gefnogi
busnesau lleol oedd wedi’u heffeithio gan Covid-19 oedd yn cael ei weinyddu gan
y Cyngor. Roedd y grantiau ychwanegol ar gael yn sgil cyfyngiadau pellach o
fewn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden, manwerthu a’r gadwyn gyflenwi
o 4 Rhagfyr 2020. Mae trosolwg o’r ddau gynllun wedi cael ei ddarparu a
chyhoeddwyd canllaw terfynol ddiwedd yr wythnos flaenorol. Mae staff wedi bod yn gweithio’n ddiflino i
roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn gweinyddu’r cynlluniau, a rhoddwyd
teyrnged i’w gwaith caled. Byddai’r
grantiau cyfnod atal byr i’r busnesau hynny yn y sector lletygarwch yn cael ei
brosesu'r wythnos honno a byddai dros 400 o fusnesau yn derbyn taliadau gwerth
£1.4m. (iii)
Roedd
yr Arweinydd yn teimlo bod diwedd 2020 yn amser i edrych yn ôl ar yr heriau a
wynebodd yr awdurdod dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y prif feddyliau gyda phreswylwyr a’u teuluoedd oedd wedi dioddef yn
sgil Covid-19 ar draws Sir Ddinbych a’r rhanbarth yn ehangach. Diolchodd i’r holl staff am eu gwaith a’u
hymroddiad, roedd llawer ohonynt wedi mynd yr ail filltir, gan sicrhau bod
gwasanaethau o ddydd i ddydd yn parhau i redeg gan amddiffyn pobl ddiamddiffyn
a chefnogi busnesau lleol. Diolchwyd hefyd i bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus
am eu cefnogaeth ac i aelodau, a rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i waith
Arweinwyr Grŵp am weithredu prosesau democrataidd. Roedd hi’n rhyddhad gallu nodi bod
brechlynnau ar gael a byddai’r awdurdod yn chwarae ei ran yn cyflwyno’r rhaglen
frechu. Yn y cyfamser, rydym yn wynebu gaeaf llwm gyda’r cyfartaledd treigl o
bobl sy’n cael prawf positif am y feirws ar draws Cymru yn codi, ac rydym yn
edrych ar realiti o gyfnod clo hir ar ôl y Nadolig. I gloi, dymunodd yr Arweinydd Nadolig diogel
ac iach, heddychlon ac ymlaciol i bawb. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2020 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2020. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
POLISI BUDDION CYMUNEDOL CSDd PDF 216 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Bolisi Buddion Cymunedol arfaethedig y cyngor a’r argymhellion wrth gefnogi ei ddefnyddio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) Cymeradwyo'r Polisi Buddion Cymunedol; (b) Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 2) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Bolisi
Buddion Cymunedau arfaethedig. Ym mis
Mehefin 2019, cymeradwyodd Bwrdd Rhaglen Pobl Ifanc a Thai sefydlu Canolfan
Buddion Cymunedol (Canolfan BC) i gefnogi a galluogi gwasanaethau i gynnwys
buddion cymunedol mewn contractau mor gynnar â phosibl er mwyn cynyddu gwerth
ar gyfer gwariant y cyngor. Penodwyd
Rheolwr a Swyddog Canolfan BC yn gynharach yn y flwyddyn ac fe luniwyd y polisi
a gyflwynwyd i bob Grŵp Ardal yr Aelodau a chafodd ei adolygu gan y
Pwyllgor Craffu Cymunedau a argymhellodd bod y polisi’n cael ei gymeradwyo. Byddai’r polisi’n darparu
fframwaith ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac allanol, ac yn gweithio i
gefnogi’r Ganolfan Buddion Cymunedol i fonitro’r canlyniadau oedd yn cael eu
cyflwyno yn sgil manteision cymunedol. Gwariodd
y Cyngor oddeutu £116m yn flynyddol, felly roedd sgôp i wneud buddion sylweddol
o ganlyniad. Nid buddion ariannol oedd y
buddion cymunedol y cyfeiriwyd atynt yn yr achos hwn, ond buddion mewn nwyddau
megis hyfforddiant a phrentisiaethau ac ati. Er bod cytundebau A.106 y tu allan
i gylch gwaith y polisi, roedd y Ganolfan Buddion Cymunedol wedi ymgymryd â rôl
‘system glirio’ er mwyn sicrhau bod y budd cymunedol gorau posib yn dod ohono. Rhoddodd
y Rheolwr Canolfan Buddion Cymunedol rywfaint o gefndir gan ailadrodd gwariant
sylweddol y Cyngor ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau trydydd parti a’r
potensial i gael buddion ychwanegol mewn nwyddau o’r gwariant hwnnw. Roedd y polisi presennol yn amodi y dylai gwariant
contract oedd yn fwy na £1m ystyried buddion cymunedol. Roedd y polisi
arfaethedig yn gostwng y throthwy hwnnw i gontractau gwaith o fwy na £100,000 a
chontractau gwasanaethau nwyddau o fwy na £25,000 er mwyn agor cyfran helaeth o
wariant y Cyngor i ddenu buddion cymunedol. Serch
hynny, ni fyddai’r trothwyon hynny yn berthnasol yn awtomatig. Fe fyddai yna
ymagwedd cais a chefnogaeth i fuddion cymunedol ac ymgysylltu â thimau caffael
a thimau chomisiynu o ran hynny. Byddai
mabwysiadu’r polisi yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddion cymunedol, yn dilysu
ymagwedd y Cyngor i alluogi cyfleoedd i sicrhau buddion sydd ar gael ac yn
gwneud y mwyaf o werth gwario i breswylwyr ac yn sefydlu buddion cymunedol mewn
prosesau caffael. Byddai’r
polisi hefyd yn cyd-fynd ag uchelgais di-garbon y Cyngor gyda photensial ar
gyfer buddion cymunedol i gyfrannu at fesurau lliniaru a lleihau carbon. Ymatebodd
y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i
gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn - ·
o ran
prentisiaethau roedd yna nifer o gyfleoedd roedd y Cyngor yn eu dilyn trwy Sir
Ddinbych yn Gweithio, ond pwrpas y polisi Buddion Cymunedol oedd ystyried y
manteision y gellir eu sicrhau trwy wariant caffael. Serch
hynny, roedd nifer o leoliadau wedi cael eu sicrhau trwy ymagwedd buddion
cymunedol ac roedd y Ganolfan Buddion Cymunedol yn gweithio’n agos â Sir
Ddinbych yn Gweithio er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd posibl o ran hynny. ·
rhoddodd
eglurhad o rôl adrannau’r gyfraith a chynllunio o ran trefniadau A.106, ac
eglurodd bod y Ganolfan Buddion Cymunedol wedi ymgymryd â rôl monitro a thracio
trefniadau A.106 er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n iawn. Cadarnhawyd
y gallai manylion y gwaith hwnnw gael ei rannu ag aelodau. ·
roedd
yn cydnabod y potensial i ymestyn cylch gwaith Canolfan Buddion Cymunedol, ond
cadarnhaodd bod y flaenoriaeth bresennol i sicrhau buddion cymunedol yn cael eu
sefydlu o fewn y broses gaffael ac yn cael eu hystyried yn gynnar yn y broses
ynghyd â monitro'r buddion cymunedol hynny’n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod
yn cael eu cyflwyno. · rhoddwyd sicrwydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeëdig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) Nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni; (b) Cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r
Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol
ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7; (c) Cymeradwyo defnyddio’r dyraniad grant dangosol sydd wedi’i ddyfarnu i’r
Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer difrod i asedau priffyrdd, fel yr
argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr
adroddiad hwn ac atodiadau 8, 9 a 10; (d) Cymeradwyo defnyddio’r Grant Gofal Plant Cyfalaf sydd wedi’i ddyfarnu i’r
Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 11 a 12. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr
amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelwyd
gorwariant o £2.476miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
(roedd y gorwariant yn cynnwys £2.7miliwn a dalwyd ar gyfer grant ‘colli incwm’
ar gyfer Chwarter 2) ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu
Amgen Hamdden ·
manylion
o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd
arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad
actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion
ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn). ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd
gymeradwyo defnyddio dyraniadau grant fel yr awgrymodd y Grŵp Buddsoddi
Strategol yn ymwneud ag (1) Grant Cynnal a Chadw Ysgolion, (2) Adfer ar ôl
Llifogydd mis Chwefror (Asedau Priffordd), a (3) Grant Cyfalaf Gofal Plant, ac
fe soniwyd mwy am yr elfennau hynny yn y cyfarfod. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan
gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor. Roedd
y gorwariant o £2.475miliwn a ragwelwyd (£5.492miliwn fis diwethaf) yn cynnwys
£2.7miliwn a dalwyd mewn cysylltiad â grant ‘colli incwm’ ar gyfer Chwarter 2
(roedd yr hawliad llawn yn £3.233miliwn). Darparwyd naratif hefyd ynglŷn
ag amrywiadau gwasanaeth a thynnwyd sylw at symudiadau o’r mis blaenorol. Er
nad oedd cyllidebau corfforaethol yn dangos amrywiant, roedd hi'n debygol y
byddai holl wariant yn ôl disgresiwn a chyllidebau wrth gefn yn cael eu
rhyddhau er mwyn helpu i ariannu’r sefyllfa gyda risgiau yn parhau o ran Incwm
o'r Dreth Gyngor a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae’n bosibl y bydd
angen adolygu Balansau Cyffredinol heb eu clustnodi wrth i ni barhau i deimlo
effaith y pandemig. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i
gwestiynau fel a ganlyn – ·
roedd
y golofn ‘disallowed’ o ran hawliadau a gyflwynwyd yn ymwneud ag elfennau o’r
hawl roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad oedd yn gymwys ac felly ni
fyddai'n cael ei dalu. Ar yr ochr
gwariant, roedd hawliadau o £119,649 wedi cael eu gwrthod oedd yn ymwneud ag
elfennau nad oedd LlC yn ystyried oedd yn wariant ychwanegol, ac mewn rhai
achosion roedd hi’n anodd i wasanaethau benderfynu ar gymhwysedd, ond daeth y
canllaw a ddarparwyd gan LlC yn fwy clir dros amser ac mae’r Cyngor wedi dod yn
fwy medrus gyda'r broses hawlio gan ymarfer cyfrifyddu llyfr agored. Cafodd hawliadau colli incwm a wrthodwyd
gwerth £642,922 yn bennaf eu priodoli i hawliadau cychwynnol ar gyfer colledion
y cyfrif refeniw tai a ffioedd ar draws awdurdod. Cafodd colledion y cyfrif refeniw tai eu
gwrthod am resymau rheoleiddio gan fod rhaid eu trin yr un fath â Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig ac nid oedd hawliadau ar gyfer incwm gan awdurdodau
lleol eraill bellach yn gymwys yn dilyn cytundeb rhanbarthol y gallai’r
taliadau contract yma rhwng yr awdurdodau gael eu bodloni. O ganlyniad, nid oedd cyfanswm y swm a
wrthodwyd yn cynrychioli’r incwm a gollwyd na fyddai’n cael ei ad-ennill, ond
roedd yn adlewyrchu mireinio’r broses ar gyfer gwasanaethau penodol. · roedd y golofn ‘Holding’ yn ymwneud â hawliadau a gyflwynwyd y mae LlC wedi gofyn am ragor o wybodaeth a thystiolaeth cyn penderfynu i dalu'r hawliad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 365 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w ystyried, a dywedodd aelodau bod Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid
Ecolegol CSDd (2021/22 – 2029/30) wedi cael ei aildrefnu o fis Ionawr i fis
Chwefror. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
GWAHARDD Y WASG PENDERFYNWYD y byddai aelodau’r Wasg yn cael eu gwahardd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail fod yr eitem yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel
y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
DYFARNU CONTRACT CAEL GWARED AR ASBESTOS Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeëdig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract gwaith i Gontractwr Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig a hynny ar unwaith. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) Cytuno i ddyfarnu’r contract gwaith i’r contractwr a argymhellir, fel y
nodir yn yr adroddiad, sy’n gontractwr cael gwared ar asbestos trwyddedig ac
sydd wedi cyflwyno’r tendr sydd wedi derbyn y sgôr uchaf, fel y nodir yn
Atodiad 1; (b) Cadarnhau bod y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar unwaith i atal
unrhyw oedi wrth ddyfarnu’r contract i sicrhau nad oes bwlch yn y ddarpariaeth
frys pan fydd y fframwaith presennol yn dod i ben ar 20 Rhagfyr 2020. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract
gwaith i Gontractwr Gwaredu Asbestos trwyddedig yn syth. Roedd y trefniadau presennol i gael gwared ar
asbestos o eiddo’r cyngor trwy fframwaith cydweithredol fod i ddod i ben ym mis
Rhagfyr 2020, ac roedd y Cabinet wedi cytuno ar fanylion a chychwyn y broses
gaffael ar gyfer contract gwaith ym mis Hydref 2020. Roedd manylion y broses
werthuso tendrau a gyflwynwyd ynghyd â'r system sgorio wedi cael eu cynnwys yn
yr adroddiad, ynghyd â'r dyfarniad contract a argymhellir. Fe awgrymwyd hefyd bod y penderfyniad i ddyfarnu’r contract yn cael ei
weithredu yn syth er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw fwlch mewn yswiriant o
ystyried bod y fframwaith presennol wedi dod i ben ar 20 Rhagfyr 2020. Ystyriodd y Cabinet ganlyniad y broses gaffael
ynghyd ag argymhellion yr adroddiad ac o ganlyniad – PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cytuno i
ddyfarnu’r contract gwaith i’r contractwr a enwyd ac a awgrymwyd yn yr
arddodiad oedd yn Gontractwr Gwaredu Asbestos trwyddedig, ac a dderbyniodd y
sgôr uchaf fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) chadarnhau bod y
penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith er mwyn atal unrhyw oedi wrth
ddyfarnu’r contract er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw fwlch mewn yswiriant pan
fyddai’r fframwaith presennol yn dod i ben ar 20 Rhagfyr 2020. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25am. |