Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO
Rhif | Eitem |
---|---|
DALIWCH SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr
a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 (copi ynghlwm). Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
Y FARGEN DWF DERFYNOL PDF 293 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i’r dogfennau allweddol sy’n ofynnol i gyrraedd y Fargen Derfynol ar gyfer
Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w cymeradwyo’n ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cymeradwyo yn
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol
fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y
sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid
Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU; (b) cymeradwyo’n
ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â
swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r
darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn
mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2:
Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y
Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU; (c) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor
Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid; (d) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir
i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian
negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y
Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel
y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr
adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1); (e) bod y Prif
Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran
151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau
gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a (f) bod y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith
ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd
ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad i
geisio cefnogaeth y Cabinet o’r dogfennau allweddol sydd eu hangen i gyrraedd y
Fargen Dwf Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w gyflwyno i'r Cyngor
ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cefndir mewn perthynas â
chymeradwyaethau o’r holl bartneriaid yn arwain at y sefyllfa bresennol.
Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni
Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru erbyn diwedd 2020 ac
roedd y ddogfennaeth berthnasol yn mynd trwy’r prosesau democrataidd ymhob
awdurdod lleol. Gofynnwyd i’r Cabinet
a’r Cyngor, ynghyd â’r holl bartneriaid, gymeradwyo amryw o ddogfennau a
fyddai’n galluogi i’r Fargen Dwf Derfynol gael ei gwblhau. Pwysleisiodd yr Arweinydd nod y Fargen Dwf i
adeiladu economi mwy cynaliadwy a chadarn yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth
â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda chymorth £240 miliwn o gyllid gan
Lywodraethau’r DU a Chymru dros y 15 mlynedd nesaf. Nod y Fargen Dwf oedd darparu buddsoddiad o
hyd at £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru er mwyn creu 3,400 – 4,200 o swyddi
newydd a chreu £2 - £2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2036.
Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi
a‘r Parth Cyhoeddus; Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Ad a Chyfraith a
Phennaeth Cyllid, gan grybwyll meysydd canlynol y Fargen Dwf - ·
y
Weledigaeth Dwf a Phortffolio'r Fargen Dwf o fuddsoddiad ynghyd â buddion
uniongyrchol i'r rhanbarth, gan gynnwys ffyniant economaidd; creu swyddi o
ansawdd gwell a gweithlu medrus, a gwelliannau i safonau byw ·
y
portffolio o raglenni sy’n ymwneud ag (1) Ynni Carbon Isel; (2) Digidol; (3)
Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel; (4) Bwyd Amaeth a Thwristiaeth, a
(5) Tir ac Eiddo ynghyd â rhaglenni heb eu hariannu’n uniongyrchol ond a
gefnogir mewn perthynas â Sgiliau a Chyflogaeth a Chludiant ·
dangos
lledaeniad daearyddol y 14 o brosiectau a nodwyd, gyda phob prosiect yn darparu
buddion eang ar draws y rhanbarth gan sicrhau newid ·
egluro’r
prosiectau penodol a nodwyd yn Sir Ddinbych mewn perthynas â (1) Parc Busnes
Llanelwy; (2) Hen Safle Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych; (3) Prosiect Fferm Carbon
Niwtral Llysfasi, a (4) Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan ·
manylion
am gyfreithlondeb y Cytundeb Bargen Dwf Derfynol rhwng yr NWEAB a
Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer darparu’r Fargen a gaiff ei arwyddo ar
sail achos busnes y portffolio a phump achosion busnes rhaglen ·
amlygu'r
ystyriaethau ariannol gan gynnwys cost y rhaglen a sut gaiff ei ariannu, gan
gynnwys cyfraniadau partner dros dymor o 15 mlynedd ynghyd â chyfraniadau
partner blynyddol a'r fethodoleg tu ôl i'r cyfrifiadau a oedd yn dod a Sir
Ddinbych rhwng £64,000 - £90,000 ·
adrodd ar Gytundeb
Llywodraethu 2 i fynd â’r bartneriaeth i gam gweithredu'r Fargen Dwf, gan
barhau'r model llywodraethu a fabwysiadwyd yng Nghytundeb Llywodraethu 1 a
diffinio'r berthynas rhwng y Bwrdd a'i sefydliadau partner, cyfyngiadau'r
ddirprwyaeth ac atebolrwydd. Roedd manylion y Fargen Dwf wedi cael eu craffu yn
eang ac yn ddiweddar wedi bod yn destun Gweithdy i Aelodau. Nid oedd y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi gallu
mynychu’r Cabinet, a gofynnodd i'r Arweinydd ddarllen ei datganiad ar
ganfyddiadau craffu yn dilyn ystyried y Fargen Dwf ar 5 Tachwedd. Yn gryno, roedd y Pwyllgor Craffu - ·
yn
cydnabod er y byddai’r prosiectau wedi’u lleoli mewn ardaloedd amrywiol ar
draws y rhanbarth, byddent oll, i ryw raddau, yn elwa'r rhanbarth gyfan ·
yn
cytuno ei fod yn hollbwysig bod y Fargen yn symud ymlaen er mwyn sicrhau cyllid
i ddarparu’r prosiect a gwireddu’r buddion economaidd a ragwelir · wedi cael ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo rhyddhau’r arian cyfalaf
£5miliwn y cytunwyd arno'n flaenorol i gyfrannu at adeiladu cam 2 Tai Gofal
Ychwanegol 2 Llys Awelon mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a (b) cymeradwyo
rhyddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at
adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feely adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i
ryddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at adeiladu
cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin. Yn 2010, ar y cyd â Grŵp Cynefin, comisiynodd y Cyngor gyfleuster
Gofal Ychwanegol 12 Uned ger Cartref Gofal Awelon. Roedd y Cartref Gofal a Chanolfan Awelon wedi
cau yn 2020 i baratoi ar gyfer ail gam y cynllun yn cynnwys 35 o unedau
ychwanegol. Byddai’r brydles bresennol
ar gyfer cam 1 y datblygiad yn dod i ben a byddai prydles hirdymor newydd yn
cael ei chyflwyno i Grŵp Cynefin ar gyfer y safle gyfan. Byddai’r datblygiad yn cymryd dull
amgylcheddol cynaliadwy gyda'r golwg o gyflawni graddfa Rhagoriaeth BREEM. Byddai’r prosiect yn creu arbedion i
gyllidebau gofal yn y gymuned ac mae manylion cost a budd o’r buddsoddiad o £5
miliwn wedi ei gynnwys fel atodiad i’r adroddiad. Eglurodd y Cynghorydd Bobby Feeley bod yr oedi i
symud ymlaen â’r prosiect yn sgil Covid-19 ac yn falch o fod mewn safle bellach
i barhau gyda'r datblygiad. Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r
cyfeiriad o fewn yr Asesiad o Effaith ar Les at Cymraeg iaith gyntaf gael ei
dynnu o ystyried bod y Grŵp Cynefin yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg
ac yn gwbl ddwyieithog. Mewn ymateb i’r
cais a sylwadau eraill cytunodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol i newid y cyfeiriad at yr iaith Gymraeg yn yr Asesiad o
Effaith ar Les; cadarnhawyd y trefniadau bwyd ac amser prydau i breswylwyr, a
nodwyd tra bo cynlluniau i adleoli’r clinig ar Mount Road, roedd meddygfa fwy
arall yn agos ac roedd gan y dref gyfleusterau gofal iechyd ardderchog. PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a (b) cymeradwyo
rhyddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at
adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon. |
|
STRATEGAETH DAI A DIGARTREFEDD DDRAFFT PDF 315 KB Ystyried
cyd-adroddiad gan y Cynghorwyr Tony
Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles
ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Strategaeth Dai a Digartrefedd
Ddrafft cyn cyflwyno i’r Cyngor llawn ar gyfer cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn argymell mynd a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft i’r
Cabinet i’w chymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas a Bobby Feeley yr adroddiad a’r Strategaeth Dai a
Digartrefedd Ddraft ar y cyd i'r Cabinet ei ystyried cyn ei gyflwyno i'r Cyngor
llawn am gymeradwyaeth. Roedd
y Strategaeth Dai yn cael ei adolygu i ffurfio Strategaeth Dai a Digartrefedd
newydd ar gyfer y sir a fyddai'r darparu datganiad clir o weledigaeth a nodau'r
cyngor am y pum mlynedd nesaf. Roedd
sicrhau bod pawb yn cael cefnogaeth i fyw mewn cartrefi oedd yn diwallu eu
hanghenion yn flaenoriaeth corfforaethol allweddol a byddai’r Strategaeth
ddiwygiedig yn darparu fframwaith ar gyfer holl swyddogaethau perthnasol y
Cyngor i fynd i’r afael â’r flaenoriaeth yn llwyddiannus. Cynigiwyd cadw’r 5 thema
allweddol o fewn y Strategaeth Dai bresennol gan ychwanegu thema ar wahân ‘Atal
a mynd i'r afael â Digartrefedd'. Roedd y Strategaeth ddrafft yn
cynnwys cynllun gweithredu newydd wedi’i strwythuro o amgylch y 6 thema
allweddol ac yn nodi’r camau gweithredu i ddarparu'r canlyniadau disgwyliedig. Croesawodd
y Cynghorydd Feeley y cysylltiad a wnaed rhwng tai a digartrefedd yn y
Strategaeth ddrafft a’r dull a gymerwyd i weithio yn y dyfodol; diolchodd hefyd
i’r swyddogion am eu gwaith caled i greu’r ddogfen. Roedd yr Arweinydd hefyd yn
cefnogi’r dull a gymerwyd a holodd sut fyddai’r gwaith yn cysylltu â’r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl). Ymatebodd
y Cynghorydd Mark Young bod y CDLl yn cyd-fynd â'r Strategaeth a byddent yn
llywio ei gilydd. Adroddodd
hefyd am ei bresenoldeb mewn cyfarfodydd y Grŵp Tai a Digartrefedd
Strategol a’r trafodaethau cadarnhaol. O ran y camau nesaf, ystyrir
tystiolaeth data gan y Grŵp Cynllunio Strategol yn gynnar yn y Flwyddyn
Newydd a fydd yn helpu i lywio'r dyraniadau tai wrth symud ymlaen yn y CDLl. O ran y Strategaeth ddrafft,
amlygodd y Rheolwr Tai a Chynllunio Strategol yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i
hysbysu'r ddogfen. Os
caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Rhagfyr, bydd darpariaeth y Strategaeth
a’r cynllun gweithredu yn cael ei oruchwylio a'i monitro gan y Grŵp Tai a
Digartrefedd Strategol a bydd adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i'r
Pwyllgor Craffu. Teimlodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylai’r Strategaeth adlewyrchu
dyheadau’r Cyngor yn y dyfodol megis cynyddu’r amod 10% ar gyfer tai
fforddiadwy. Cadarnhaodd y swyddogion
bod y cynllun gweithredu yn cyfeirio at gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a
byddai’r dull a’r trothwyon presennol ym mholisïau CDLl yn cael eu hadolygu fel
rhan o’r gwaith CDLl sy’n codi. Roedd y
gofyniad 10% yn cyfeirio at gynlluniau tai'r farchnad agored, ond roedd ystod o
ffyrdd oedd yn cyfrannu tuag at dai fforddiadwy gyda’r mwyafrif o dai
fforddiadwy yn cael eu cyflenwi drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a
chymdeithasau tai. Canran cyffredinol o
dai fforddiadwy a ddarparwyd o’r tai a adeiladwyd yn 2019/20 oedd 57%. Roedd rhaid i’r gofyniad am dai fforddiadwy a
ddarparwyd ar gynlluniau tai’r sector preifat fod yn seiliedig ar hyfywedd a’i
ystyried ar y cyd â meini prawf a lles cynllunio eraill megis cyfraniadau
addysg neu ecoleg. Pwysleisiodd Mark
Young rôl yr CCA i graffu’r data perthnasol er mwyn cytuno â’r ffigwr o dai
fforddiadwy yn y sector preifat fel rhan o'r CDLl newydd. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn argymell mynd a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft i’r Cyngor
i’w chymeradwyo. [Ar y pwynt hwn (11.45 am) cymerodd y pwyllgor
egwyl deng munud am luniaeth.] |
|
PROSIECT ARCHIFAU AR Y CYD SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT PDF 244 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer adeilad Archif Passivhaus
newydd a adeiladwyd yn bwrpasol yn Yr Wyddgrug ar gyfer Gwasanaeth Archifau ar
y Cyd newydd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gofynion arian grant ac arian
cyfatebol cysylltiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cytuno y caiff y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd gyflwyno cais i gam nesaf (Rownd 1) Cronfa
Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri; (b) nodi’r galw
posib ar £2,034,521 o gyllid y Cyngor er mwyn cyflawni’r ganolfan archifau
newydd.
Mae hyn yn dibynnu os bydd y cais yn
llwyddiannus ar gam Rownd 1 o’r broses ymgeisio am grant Cronfa Dreftadaeth y
Loteri a derbyn ffurflen cynnig cyllid, a (c) cymeradwyo’r
dull gweithredu o safbwynt Carchar Rhuthun ac estyniad arfaethedig yr atyniad
treftadaeth, fel yr amlinellir yn adran 4.8 yr adroddiad. Cofnodion: [Roedd rhaid i’r Arweinydd adael yn ystod yr eitem hon a chymerodd y
Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Gadair am weddill y
cyfarfod.] Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet am adeilad
Archif Passivhaus pwrpasol newydd arfaethedig yn yr Wyddgrug, er mwyn lletya
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd newydd ei ffurfio
a'r cyllid grant cysylltiedig a'r gofynion arian cyfatebol. Roedd
y gwasanaeth archifau ar y cyd wedi’i ffurfio i alluogi’r cynghorau i fodloni
eu cyfrifoldebau deddfwriaethol o ran dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol a
chreu gwasanaeth gwell a mwy cynaliadwy. Roedd y gwasanaeth ar y cyd yn
cael ei weithredu dros ddwy safle ym Mhenarlâg a (Carchar) Rhuthun. Datblygwyd y cais Grant
Heritage Horizons Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn ariannu adeilad
newydd pwrpasol yn yr Wyddgrug a chynllun gweithgaredd 3 mlynedd cysylltiol. Dewiswyd y safle o astudiaeth
ddichonoldeb safle a gynhaliwyd gan ymgynghorydd annibynnol. Roedd yr adroddiad yn
cyflwyno’r achos ar gyfer yr adeilad newydd; gan roi manylion ystyriaethau
ariannol, a chynigion ar gyfer Carchar Rhuthun. Amlygodd
y Cynghorydd Thomas gyfrifoldebau statudol y Cyngor i ddiogelu ei eitemau
hanesyddol a’r anawsterau presennol a wynebwyd o ran problemau capasiti, cyflwr
y cyfleusterau presennol a’r buddsoddiad sylweddol angenrheidiol wrth symud
ymlaen. Byddai’r
cynigion yn parhau i ganiatáu presenoldeb yr archifau yn Rhuthun gyda
darpariaeth cysylltu-o-bell o holl lyfrgelloedd a fyddai’n cryfhau safle a
darparu hygyrchedd i holl drigolion. Roedd ymrwymiad hefyd i
wella'r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun (gan ddefnyddio gofod gwag y
gwasanaeth archifau) gyda'r golwg o ddyblu'r 12,000 o ymwelwyr presennol i’r
safle. Roedd
mynegiannau cadarnhaol o ran y cynnig i Gronfa Heritage Horizon Cronfa Dreftadaeth
y Loteri, ond nid oedd sicrwydd o lwyddiant. Pe bydda’i cynnig yn
llwyddiannus, byddai adeilad pwrpasol newydd yn cael ei ddarparu i letya’r
gwasanaeth archifau ar y cyd a fydd yn elwa holl gymunedau, gydag ymrwymiad
llawn i wella’r ddarpariaeth yn y Carchar. Trafododd y Cabinet yr argymhellion yn fanwl. Ar y dechrau, roedd
anfodlonrwydd o ran y cynigion ar gyfer y gwasanaeth pan cawsant eu cyflwyno i
ddechrau, ond roedd mwyafrif y pryderon wedi cael eu datrys ac ar y cyfan roedd
y Cyabinet yn cefnogi’r argymhellion, yn arbennig o ystyried yr heriau o gadw
dogfennau hanesyddol ac arteffactau ynghyd â’r effaith andwyol ar ddarpariaeth
y gwasanaeth a’r goblygiadau cost sylweddol pen a fyddai’r argymhellion yn cael
eu gwireddu. Er fod anfodlonrwydd am
golli’r cyflester yng Ngharchar Rhuthun a symud tu allan i’r sir, roedd y
Cabinet hefyd wedi ystyried mai rhannu gwasanaethau oedd y dewis cywir o ran
cynaliadwyedd a chyfleoedd moderneiddio i sicrhau bod y dylestswyddau
deddfriaethol yn cael eu bodloni ac i gadw hanes a threftadaeth lleol yr
ardal. Nodwyd hefyd y byddai’r cynnig yn
darparu mynediad ehangach i wybodaeth o fewn Sir Ddinbych trwy’r gwasanaeth
llyfrgelloedd ynghyd â phresenoldeb rhan amser yng Ngharchar Rhuthun a gwell
mynediad i ysgolion a ddylai annog cynulleidfa fwy. Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi y
cynlluniau gwella ac ehangu Carchar Rhuthun o ganlyniad i hyn a fyddai’n elwa’r
sir. Ymatebodd y Rheolwr Tîm a Gwybodaeth Busnes i’r
cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn - ·
tra
bod yr adnoddau wedi cael eu rhoi tuag at y cais, cytunwyd bod angen cynllun wrth gefn os na fyddai’r
cais yn llwyddiannus a byddai'r gwaith hynny'n dechrau'n fuan · Byddai’r Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn adeiladu cronfa wrth gefn o £65,000 fel cost untro yn unol â’r costau mynegiannol a ddarparwyd er mwyn symud ymlaen â’r cynlluniau arfaethedig i ehangu’r atyniad treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun. ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr
amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelwyd
gorwariant o £5.492 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid
oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ pellach neu
geisiadau) ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu
Amgen Hamdden ·
manylion
o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd
arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad
actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion
ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn) ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan
gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor. Hefyd amlygodd y peryglon mewn perthynas ag
Incwm o Dreth y Cyngor a’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (CTRS). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi elfen o
gyllid ychwanegol ar draws Cymru ar gyfer y CTRS. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y rhagwelir
lleihad o 1.5% yn Incwm o Dreth y Cyngor ac roedd LlC wedi cytuno i edrych i
mewn i’r posibilrwydd o gyllido darpariaeth o ran hynny. Hefyd amlygwyd bod risgiau o amgylch
cyllidebau gofal cymdeithasol, cludiant ysgol a gwasanaethau gwastraff. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Roedd
y Cynghorydd Brian yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o waith y Cyngor
i wneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu er mwyn lleihau'r gorwariant a ragwelwyd a
lliniaru effaith Covid-10 ar gyllid yr awdurdod. Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cyllid bod cyllid LlC
a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn wedi cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer
colled incwm ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Roedd mwyafrif o gais Chwarter 1 wedi cael
ei fodloni ac roedd cais Chwarter 2 yn cael ei werthuso ar hyn o bryd. Byddai ceisiadau hefyd yn cael eu gwneud
ar gyfer Chwarter 3 a 4 ar yr amser priodol a byddai’r awdurdod yn parhau i
wneud cais am unrhyw ffynonellau o gyllid ar gael iddynt er mwyn gwneud y mwyaf
o incwm. ·
Roedd
y Cynghorydd Mark Young yn cydymdeimlo â’r rhai oedd yn wynebu anawsterau
ariannol a chwestiynodd y dull o adennill Treth y Cyngor. Rhoddwyd sicrwydd bod gan y Cyngor safbwynt
cytbwys gyda dull sensitif a hyblyg gan ystyried amgylchiadau unigol. Er mai ychydig iawn o gamau adennill a
gymerwyd yn ystod y chwe mis cyntaf, roedd y Cyngor bellach yn ymgysylltu â
thrigolion ac yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i dargedu cymorth
lle bo angen ac er mwyn sicrhau ei fod yn adennill ôl-ddyledion lle bo’n
briodol. Roedd disgwyliad gan Lywodraeth
Cymru i gyflawni’r gwaith adennill. ·
mewn
ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhawyd bod safleoedd
yr hen ysgol yng Nghlocaenog a Chyffylliog yn eiddo i'r Cyngor ac roedd defnydd
y safleoedd yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, yn unol â pholisi
gwaredu'r Cyngor. O ran Ysgol Llanbedr, roedd egwyddor sylfaenol
cyfnewid tir wedi cael ei gytunol fel rhan o’r cynnig gwreiddiol, er mwyn
darparu’r ysgol newydd a rhoddwyd diweddariad ar drafodaethau ar gyfer defnydd
safle'r hen ysgol yn y dyfodol, eto yn unol â pholisi gwaredu'r Cyngor. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 282 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau diwygiadau canlynol – ·
Rheolau'r Weithdrefn
Gontractau - wedi’i symud o fis Rhagfyr i fis Chwefror ·
Cynigion
Cyllideb Derfynol 2021/22 – Ionawr ·
Grant
Digartrefedd Covid Llywodraeth Cymru – i’w gadarnhau PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 13.00. |