Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 (copi’n amgaeedig). |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu’r contract i Denbighshire Leisure Limited (DLL). Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 197 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet a nodi’r cynnwys. |
|
RHAN 2 - MATERION CYFRINACHOL GWAHARDD Y WASG
A'R CYHOEDD Argymhellir, yn
unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn
cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr eitem ganlynol yn cael ei thrafod
oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel
y'i diffinnir ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
AIL-GAFFAEL GWASANAETHAU TROSGLWYDDO A THRIN DEUNYDDIAU AILGYLCHU CYMYSG SYCH Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet roi
cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â chaffael a dyfarnu contract ar gyfer gwasanaethau
deunyddiau ailgylchu cymysg sych ynghyd ag estyn y trefniadau contract
presennol yn ystod y cyfnod trawsnewid. Dogfennau ychwanegol:
|