Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Tynnodd Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol, AD a Democrataidd sylw pawb at y canllawiau a ddarperir
i aelodau etholedig o ran sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a’u
cyfrifoldebau yn hynny o beth i sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n amhleidiol. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau gan aelodau. Steve Gadd, Prif Gyfrifydd a Swyddog S.151 Cofnodion: Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau gan aelodau. Steve Gadd, Prif Gyfrifydd a Swyddog Adran 151 |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019. Cywirdeb – Tudalen 8, Eitem 6 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet – er bod yr wybodaeth yn y
cofnodion yn gywir ar y pryd, mae’r
Cyng. Huw Hilditch-Roberts wedi dweud bod yr eitem ar raglen Ysgolion yr 21ain ganrif: Cynigion
Band B wedi’i haildrefnu o fis Tachwedd i fis Rhagfyr yn unol â chanllawiau cyn
etholiad. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
STRATEGAETH LLYFRGELL 2019-22 PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn cyflwyno’r Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 ar gyfer cymeradwyaeth
gan y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Cefnogi
Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cyng. Tony Thomas yr adroddiad a Strategaeth Llyfrgell 2019-22 i’r Cabinet ei
chymeradwyo. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r
weledigaeth ar gyfer gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych a’r
nodau i’w cyrraedd yn ystod y tair blynedd nesaf. Amlygodd
y Cyng. Thomas bwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell a darparodd nifer o ystadegau
perfformiad allweddol i ddangos pa mor dda mae’r gwasanaeth yn perfformio, gyda
Sir Ddinbych ymhlith y deg awdurdod uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer o fesurau. Amlygodd y Prif Weithredwr werth y sesiynau cymorth
digidol, yn enwedig o ystyried y materion ynghylch cysylltedd digidol yn y sir. Eglurodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau y rhesymeg y tu ôl i’r strategaeth er mwyn
amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth o fewn cymunedau a sut mae’n cyfrannu at
flaenoriaethau strategol y Cyngor. Adroddodd
hefyd ar y buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn
adeiladau llyfrgell a staff ac am ddatblygiadau pellach mewn partneriaethau i
wneud y mwyaf o’r buddion, gan bwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth yn nhermau
lles, dysgu a ffyniant, a hefyd rôl allweddol cymunedau o ran cymryd
perchnogaeth a chymryd rhan. Cost y
gwasanaeth llyfrgell yw ychydig dan £3 fesul ymweliad ac yn ôl astudiaeth
genedlaethol yn 2013 mae gwariant lleol defnyddwyr llyfrgell yn oddeutu £8,
sy’n mynd yn ôl i’r economi lleol. Roedd
y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell i gymunedau lleol ac
iechyd a lles pobl a chanmolwyd yr ystod o weithgareddau a mentrau a ddarperir. Wrth ystyried y strategaeth, roedd y prif feysydd
trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:– ·
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng.
Mark Young cadarnhawyd fod oriau agor yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn
diwallu anghenion cymunedau o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael a
rhoddwyd sicrwydd bod Wi-Fi ar gael ymhob llyfrgell at ddefnydd y cyhoedd. ·
Roedd y Cyng. Richard Mainon
yn awyddus i weld mwy o fasnacheiddio a chynhyrchu incwm, ynghyd â defnyddio
mwy ar wirfoddolwyr ac estyn oriau agor i wneud y mwyaf o fuddion y gwasanaeth;
roedd hefyd yn teimlo y byddai datblygu targedau CAMPUS i fesur cynnydd yn beth
da. Eglurwyd
beth yw rôl allweddol gwirfoddolwyr o fewn y cynllun gweithredu i ddatblygu
mentrau a phrosiectau penodol. Amlygwyd
y gwaith o hyrwyddo llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol ac ar gyfer
gweithgareddau cymunedol y tu allan i’r oriau agor arferol, a chyfeiriwyd yn
benodol at y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Tref Rhuddlan a Chyngor
Dinas Llanelwy yn hynny o beth. ·
Eglurwyd yr anawsterau wrth
gymharu costau’r gwasanaeth gydag awdurdodau eraill oherwydd mai gwasanaeth
llyfrgell Sir Ddinbych yw’r unig wasanaeth llyfrgell sydd wedi’i integreiddio â
gwasanaethau i gwsmeriaid. Fodd bynnag, ymddengys bod gwasanaeth llyfrgell Sir
Ddinbych yn ddrutach o gymharu ag awdurdodau lleol eraill ac mae gwaith
dadansoddi pellach yn cael ei wneud i weld pam ac i nodi arbedion
effeithlonrwydd posibl. ·
Amlygodd y Cyng. Bobby Feeley
werth cymdeithasol y gwasanaeth a chyfeiriodd at yr ystod o wasanaethau i
ymgysylltu â chymunedau a phobl fwy diamddiffyn, ond roedd hi hefyd yn deall yr
angen am wneud llyfrgelloedd yn fwy masnachol a chost effeithlon gan chwilio am
gyfleoedd i wneud hynny. Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, manylodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau ar y gwasanaethau amrywiol a geir, gan gynnwys y gwasanaeth ar gyfer y rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Eglurwyd nad yw’r £2.94 fesul ymweliad â’r llyfrgell yn cynnwys y gwasanaeth i’r rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Holodd y Cyng. Meirick Davies am effaith peidio â darparu copïau papur o geisiadau cynllunio mewn llyfrgelloedd. Cytunodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 2 – 2019 I 2020 PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol
2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2019). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd
chwarter 2 o 2019/20 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i
Aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2. Mae’r
Cynllun Corfforaethol yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau
dros y cyfnod o bum mlynedd. Mae
crynodeb o’r data a’r diweddaraf am brosiectau wedi’i ddarparu ar gyfer
chwarter 2, ynghyd â thablau data yn amlinellu’r sefyllfa bresennol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae
prosiectau a nodwyd i gefnogi pob blaenoriaeth yn datblygu. Mae’r perfformiad yn ôl y disgwyl ar gyfer hanner
ffordd drwy’r Cynllun Corfforaethol ac er bod amrywiadau mewn meysydd
blaenoriaeth unigol mae crynodeb perfformiad y ddau fesur a’r prosiectau yn
dangos fod pob blaenoriaeth ac eithrio un wedi’i hasesu’n ‘dderbyniol’ ac un
wedi’i hasesu’n ‘rhagorol’. Eglurodd
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y dull adrodd gwahanol yn sgil
mabwysiadu’r templed hygyrchedd. Aeth
â’r Aelodau trwy’r adroddiad a darparodd ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn pob
blaenoriaeth gorfforaethol, gan amlygu materion allweddol a datblygiadau
prosiect. Roedd 15 eitem o ddata newydd
yn niweddariad chwarter 2 – saith wedi dirywio a 6 wedi gwella. Ychwanegodd y Cyng. Julian Thompson-Hill fod y
mesuryddion perfformiad yn cael eu monitro drwy fecanweithiau monitro arferol y
Cyngor a bod pob prosiect unigol yn cael ei fonitro gan y Byrddau Rhaglen. Wrth
ystyried yr adroddiad, cododdd y Cabinet y materion canlynol:– ·
Cyfeiriodd y Cyng. Bobby
Feeley at uno’r strategaethau tai a digartrefedd mewn un ddogfen a chytunodd y swyddogion
i adlewyrchu’r newid hwnnw mewn adroddiadau perfformiad yn y dyfodol ac
ystyried cynnwys mesuryddion perfformiad digartrefedd fel y bo’n briodol. ·
Cyfeiriodd y Cyng. Huw
Hilditch-Roberts at y tablau cymharu a holodd pam bod llawer o’r mesuryddion yn
amherthnasol ac fe amlygodd hefyd nifer o enghreifftiau lle mae perfformiad
wedi dirywio neu wella ond heb newid statws. Ymatebodd
y Cyng. Julian Thompson-Hill gan ddweud bod anamlder rhai mecanweithiau adrodd
yn golygu nad oes data cymharol ar gael ar adegau penodol; o ran statws, mae
amrediad wedi’i osod ar gyfer pob mesur ac felly mae perfformiad yn gallu
gwella neu ddirywio o fewn yr amrediad a pheidio â newid y statws. Amlygwyd hefyd bod y mesur ar gyfer ffyrdd A a B
wedi’i feincnodi yn erbyn data Cymru Gyfan a’i fesur o fewn y cyd-destun hwnnw. Er eglurder, cytunwyd y byddai adroddiadau
perfformiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am sut mae mesurau penodol wedi’u
hasesu ac amlder hynny er mwyn adlewyrchu eu perfformiad yn well o fewn y
cyd-destun perthnasol, ynghyd ag eglurhad ynghylch eu statws. Wrth
ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r
Aelodau Arweiniol a’r swyddogion:– ·
Band Eang Cyflym Iawn a
Rhwydweithiau Ffonau Symudol – gofynnodd y Cyng. Meirick Davies am gwmpas Band
Eang ac o ystyried bod ongl wleidyddol i’r ymateb cytunodd y Cyng. Richard
Mainon i ddarparu ymateb y tu allan i’r cyfarfod er mwyn cydymffurfio â’r
canllawiau cyn etholiad. ·
Prosiect Maetheg Ysgolion –
cyfeiriwyd at graffu ar ôl-ddyledion prydau ysgol sydd wedi lleihau’n sylweddol
ac mewn ymateb i adroddiadau newyddion diweddar rhoddwyd sicrwydd bod pob
plentyn yn Sir Ddinbych wastad yn cael pryd o fwyd os nad oes ganddynt becyn
bwyd neu os oes gan y rhieni/gofalwyr ôl-ddyledion. ·
Rhaglen Moderneiddio Addysg –
manylwyd ar y sefyllfa o ran y Ganolfan Ddatblygu’r Gymraeg ynghyd â gwahanu’r
gwaith adeiladu i addasu’r adeilad presennol a’r elfennau parcio sy’n gofyn am
ganiatâd cynllunio. · Canran y boblogaeth 18-24 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith – eglurwyd fod y cynnydd yn hafal i 130 yn fwy o bobl ifanc ond ei fod yn rhy gynnar dweud a yw’r mesur yn adlewyrchu cyflwyno credyd cynhwysol neu a yw ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a
wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn:– ·
Y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418 miliwn yn
2018/19) ·
Rhagwelir
y bydd gorwariant o £1.2.111 miliwn yng nghyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
Amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ·
Nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan
gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion
ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852
miliwn), gyda dyraniad cymeradwy o £616,000 o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni
Arbedion i osod yn erbyn yr arbedion heb eu cyflawni ·
Rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai O ran y gorwariant o 2.11 miliwn a ragwelir,
eglurwyd, yn absenoldeb unrhyw ostyngiad, y bydd angen defnyddio adnoddau o’r
cronfeydd wrth gefn sylfaenol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Meirick Davies
ynglŷn ag Ailddatblygu Marchnad y Frenhines, dywedodd Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus fod
trafodaethau yn cael eu cynnal gyda stondinwyr a chadarnhaodd fod swyddogion yn
darparu cyngor i fusnesau ac yn cefnogi tenantiaid gyda'r symud yn ôl yr angen. Cyfrifoldeb y busnesau yw rhoi gwybod i gwsmeriaid i ble maent yn symud. Dywedodd y Cyng. Brian Jones fod y broses o wagio’r safle wedi’i mynd
rhagddi’n dda. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 293 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr Aelodau’r eitem ychwanegol ar Gynigion Cyllideb
2020/21 ar gyfer mis Ionawr. Er bod y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar ôl yr
etholiad, bydd yn rhaid cyhoeddi’r rhaglen yn gynt o fewn y cyfnod cyn yr
etholiad. O ganlyniad, os yw eitem yn wleidyddol
sensitif byddai’n rhaid ei chadw ar y rhaglen ond ni fyddai’r adroddiad
cysylltiedig yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl yr etholiad, ond mewn da bryd i’w
ystyried yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |