Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) cymeradwyo trosglwyddo arian o’r Cyflawniad Arbedion Wrth Gefn i’r
Gwasanaethau Hamdden i osod yn erbyn yr angen i ddyrannu’r arbedion Benthyca
Darbodus i’r SC2 yn hytrach na’r oedi i sefydlu’r Model Cyflenwi Amgen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn
2018/19) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £1.733 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol ·
nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan
gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion
ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852
miliwn). ·
Tynnwyd
sylw at y risgiau a’r amrywiadau sy’n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol gan
gynnwys newidiadau yn dilyn ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac effaith
ar y gyllideb yn dilyn trosglwyddo Cludiant Ysgol o'r Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol i Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo
cyllid arian parod o’r Gronfa Wrth Gefn i Gyflawni Arbedion i'r Gwasanaethau
Hamdden i'w osod yn erbyn yr angen i ddyrannu i'r arbedion Benthyca Darbodus
i’r SC2 yn hytrach nag oedi cyn sefydlu’r Model Darparu Amgen (ADM). O ran cefndir eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill
bod yr achos busnes gwreiddiol ar gyfer SC2 wedi’i briodoli ar gymhorthdal sy’n
gostwng nes y cyrhaeddir pwynt o adennill costau ym mlwyddyn 5. Dangoswyd
colled yn y gyllideb o £378mil yn y flwyddyn gyntaf gyda nifer o ddewisiadau
wedi'u nodi i leihau'r golled gan gynnwys oedi Benthyca Darbodus – gwnaed y
penderfyniad o ystyried ei fod yn fusnes newydd ac mae’n debyg y byddai
amrywiadau. Ond yn dilyn adolygiad arbedion roedd yn amlwg na fyddai’r cyfanswm
arbediad o £850mil yn ymwneud â'r cynnig ADM yn cael ei gyflawni’n llawn ac fel
Cyngor penderfynwyd y dylid defnyddio’r dull o oedi’r Benthyca Darbodus i
alluogi cyflawni’r arbediad ADM o £850mil fel rhan o broses y gyllideb yn
2019/20, gan leihau’r angen ar gyfer toriadau i wasanaethau eraill. O ganlyniad cynigiwyd bod £612mil yn cael
ei ddefnyddio o’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar gyfer arbedion nas cyflawnir
i ddiwallu diffyg cyllid blwyddyn 1 SC2. Er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd
yn y dyfodol ar gyfer SC2 roedd y gwasanaeth wedi pwysleisio na fyddai'r sefyllfa
yn digwydd eto yn y flwyddyn ariannol nesaf o ystyried y mesurau a roddwyd ar
waith. Cydnabu’r Cabinet eu bod fel Cyngor wedi cael
gwybod am y risgiau ariannol a’r amrywiadau posibl ar ddechrau cynllun SC2 ac
wedi cynllunio mesurau lliniaru er mwyn mynd i’r afael â nhw. Canmolodd y Cabinet y cyfleuster a oedd yn
darparu atyniad cyffrous ac unigryw a chydnabod y buddion ehangach i’r economi
ac i fusnesau lleol eraill. Yn ystod y drafodaeth ceisiwyd
rhagor o eglurder ynglŷn â’r rhesymau dros y cynnydd yn y golled
gyllidebol ar gyfer y flwyddyn gyntaf ynghyd â sicrwydd o ran ffigyrau masnachu
ariannol y blynyddoedd sydd i ddod a sicrhau llwyddiant hir dymor parhaus y
cyfleuster. Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill i’r materion
a godwyd fel a ganlyn- ·
yn
seiliedig ar y ffigyrau presennol a’r achos busnes diwygiedig roedd hyder y
byddai SC2 yn niwtral o ran costau erbyn blwyddyn 5 – fel atyniad roedd y
cyfleuster eisoes yn llwyddiant: roedd niferoedd yr ymwelwyr yn uchel ac fe
groesawyd y cyfleuster gyda’r pwll yn gweithredu bron yn llawn yn ystod y rhan
fwyaf o’r cyfnod masnachu. · roedd cyfuniad o ffactorau wedi cyfrannu at y diffyg cyllid gan gynnwys (1) colli cyfnod masnachu'r Pasg ar gyfer y Pad Sblasio y tu allan a'r incwm cysylltiedig a ragwelwyd (2) nad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 285 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif: Cynigion Band B-
Tachwedd ·
Ardal
Gwella Busnes (BID) Llangollen – Ionawr PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CASTELL BODELWYDDAN Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad
y Cabinet i adolygu'r telerau i werthu’r eiddo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) bod y Cyngor yn gwerthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell
Bodelwyddan ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) bod y Cyngor yn gwerthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yn eiddo Ymddiriedolaeth
Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y
Lodge a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad; (c) y Cyngor i gadw’r parcdir maes parcio porfa, ynghyd â phrydles 999 mlynedd
o’r coetir a’r ddôl, ar gyfer mynedfa gyhoeddus a gynhelir gan y Gwasanaethau
Cefn Gwlad (yn amodol ar y Grŵp Buddsoddiad Strategol yn cymeradwyo’r
cyllid angenrheidiol i sefydlu a chynnal yr ardal hon a gynhelir gan Gyngor Sir
Ddinbych. (d) tir sydd ar hyn o bryd ar denantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw a’i reoli
ar y cyd â thir a ffermydd amaethyddol eraill y Cyngor, a’r (e) bwthyn bach ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor nes
ceir adolygiad o'i ddefnydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol yn ceisio adolygiad y Cabinet o delerau gwerthiant yr
eiddo. Eglurwyd a thrafodwyd manylion y telerau
arfaethedig ar gyfer gwerthu rhydd-ddaliad Gwesty Castell Bodelwyddan a rhan
o’r ystâd ynghyd â chadw’r ardaloedd eraill ar gyfer mynediad cyhoeddus. Tynnwyd sylw at y gwahaniaethau i’r
adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Medi 2018 ac eglurwyd a
chadarnhawyd bod y derbyniad cyfalaf i'r Cyngor yn parhau i fod yr un fath. Darparwyd diweddariad ynglŷn â’r
trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan ynglŷn â’r brydles
bresennol. Trafododd y Cabinet yr adroddiad yn helaeth gyda’r
Aelod Arweiniol a’r swyddogion ynglŷn â’r ystyriaethau ariannol, gan
gynnwys sut yr oedd y ffigyrau a nodwyd yn yr adroddiad wedi’u deillio ynghyd
â’r cyfrifoldebau ariannol ac atebolrwydd y partïon dan sylw o dan y brydles
bresennol ac wrth symud ymlaen â’r gwerthiant. Trafodwyd rheolaeth ac uchelgais ar gyfer yr
ardaloedd a gedwir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad a fyddai’n destun cynigion
cyllid i’r Grŵp Buddsoddi Strategol. Nododd y Cabinet fanteision y gwerthiant o ran
diogelu dyfodol yr adeilad a sicrhau ei lwyddiant yn y dyfodol gyda buddion i'r
economi leol a thwristiaeth ynghyd â chadw ardaloedd ar gyfer mynediad i'r
cyhoedd a chyfleoedd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad cefnogodd y Cabinet argymhellion yr
adroddiad ac fe- BENDERFYNWYD – (a) dylai’r Cyngor werthu’r rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ar
delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) dylai’r Cyngor werthu’r rhydd-ddaliad yn y Castell, eiddo Ymddiriedolaeth
Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y
Lodge a thir parc) ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (c) y Cyngor i gadw’r tir parc a maes parcio ynghyd â phrydles 999 mlynedd y
coetir a’r ddôl, i ddarparu mynediad i'r cyhoedd dan ofal y Gwasanaethau Cefn
Gwlad (ar yr amod bod y Grŵp Buddsoddi Strategol yn cymeradwyo'r cyllid
gofynnol i sefydlu a chynnal yr ardal a gedwir gan Gyngor Sir Ddinbych); (d) bod tir sydd ar hyn o bryd ar denantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw a’i
reoli ar y cyd â thir a ffermydd amaethyddol eraill y Cyngor, a (e) bydd y lodge bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y
Cyngor nes ceir adolygiad o'i ddefnydd. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.10am. |