Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 11 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol gydag eitem 11 ar y rhaglen gan ei
fod yn Is-Gadeirydd Ardal Gwella Busnes (BID) y Rhyl ac roedd Civica yn casglu ardoll y BID. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019. PENDERFYNWYD
derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 a’u cadarnhau
fel cofnod cywir. |
|
DOGFEN UWCH-GYNLLUN A GWELEDIGAETH CANOL TREF Y RHYL PDF 298 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno fersiwn derfynol dogfen
weledigaeth Canol Tref Y Rhyl a’r dull arfaethedig i gyflawni’r gwaith
llywodraethu a darparu adnoddau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cefnogi’r uchelgeisiau hirdymor a’r 8 syniad allweddol sydd wedi’u nodi yn
nogfen y Weledigaeth (Atodiad 2), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau a’i fod yn ymrwymo i’r Cyngor
ganolbwyntio ar gyflawni’r effeithiau cadarnhaol, hirdymor ar les sydd wedi’u
cynnwys ynddo. Cofnodion: Cyflwynodd
yr Arweinydd yr adroddiad a fersiwn derfynol o ddogfen Weledigaeth Canol Tref y
Rhyl a'r dull arfaethedig ar gyfer llywodraethu a rhoi adnoddau i'w gyflawni. Roedd
y Cyngor wedi gweithio ar y cyd dros y deunaw mis diwethaf gan ymgysylltu gydag
ystod o bobl a phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Canol
Tref y Rhyl, a oedd yn canolbwyntio ar: ddarparu cytbwysedd bywiog o ran
defnydd, gwell mynediad at ganol y dref a llif cerddwyr o amgylch canol y dref,
ac atmosffer canol y dref dymunol. Mae wyth syniad allweddol
wedi’u cynhyrchu ac roedd gwaith ar y gweill i’w datblygu mewn rhaglen gwaith
i'r dyfodol o flaenoriaethau a phrosiectau dros gyfnod pymtheg mlynedd y
Weledigaeth. Byddai
hyn yn ffurfio sail y cynllun gweithredu drafft ar gyfer y rhaglen er mwyn i
Fwrdd Rhaglen y Rhyl ei symud ymlaen. Cyfeiriodd
yr Arweinydd at y buddsoddiad a’r gwelliannau sylweddol yn y Rhyl dros y
blynyddoedd diwethaf a bod angen cynllunio i ddatblygu canol y dref gyda
Gweledigaeth a oedd yn adlewyrchu dyheadau lleol drwy broses ymgysylltu
helaeth, ac a oedd yn ategu at gynlluniau presennol a buddsoddiad gyda dull
cydlynol. Darparodd
y Rheolwr Rhaglen a Thîm Datblygu Busnes ac Economaidd rywfaint o gefndir
creu'r ddogfen Weledigaeth a phroses ymgysylltu gynhwysfawr, gan dynnu sylw at
y prif themâu sy'n dod i'r amlwg a'r prosiectau allweddol i ddatblygu'r
syniadau allweddol, a darparu trosolwg o brosiectau presennol a'r rhai sydd
eisoes ar y gweill er mwyn cymryd mantais o'r cyfleoedd cyllid adfywio
presennol a gyda'r nod o ddenu buddsoddiad y sector preifat. Cyfeiriodd
yr Arweinydd hefyd at waith Bwrdd Datblygu Cymunedol y Rhyl yn ategu at yr uwch
gynllun a mynd i'r afael â materion cymdeithasol ac eglurodd y Prif Weithredwr
rôl y Bwrdd, yn cynnwys uwch arweinwyr o'r sectorau statudol, i ystyried sut i
wneud y budd mwyaf ar y cyd o fuddsoddiad ac adfywio wedi'i gynllunio'n
ehangach yn y Rhyl i gydlynu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd o ran cyflogaeth,
iechyd, addysg, diogelwch cymunedol a thai. Roedd y Cyngor wedi penderfynu
buddsoddi mewn Swyddog Datblygu Cymunedol yn y Rhyl i weithio gyda’r gweithwyr
o’r asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol a’r grwpiau cymunedol i
gynorthwyo i gyfeirio a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid ac adnoddau, i adrodd
i’r Bwrdd ac i Grŵp Cyfeirio’r Rhyl i sicrhau ymgysylltiad gwleidyddol, a
byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet. Roedd y Bwrdd wedi gosod
targedau llym yn seiliedig ar y dangosyddion amddifadedd gyda’r bwriad o nodi
effaith y buddsoddiad ar breswylwyr. Croesawodd
y Cabinet y ddogfen fel modd o ddarparu canolbwynt clir ar gyfer canol y dref
a’i adfywiad a rhoi hyder a chreu dyfodol hir dymor gwell ar gyfer y Rhyl. Croesawyd y broses ymgysylltu
gynhwysfawr a’r ymdrechion cydweithredol i gynhyrchu’r Weledigaeth hefyd. Roedd y prif bwyntiau trafod
yn cynnwys - ·
o ran blaenoriaethu a chynllunio prosiectau,
hysbyswyd yr aelodau bod y ddogfen Weledigaeth yn nodi rhaglen hir dymor a
byddai prosiectau’n cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio’r fethodoleg
gorfforaethol yn seiliedig ar fuddion a chanlyniadau mesuradwy; darparwyd
sicrwydd o ran hyblygrwydd o fewn y cynllun i ymateb i’r cyfleoedd fel yr
oeddent yn dod i'r amlwg pe bai cyllid ar gael, yn yr un modd pe bai diddordeb
gan y sector preifat byddai'n bosibl symud prosiect i fuddsoddiad sector
preifat diogel a gwneud y mwyaf o'r buddion. · Nododd y Prif Weithredwr adfywiad ffisegol y Rhyl a oedd yn amlwg wrth ymweld â’r dref a’r cynlluniau adfywio hirdymor, a thynnu sylw at yr her o sicrhau y byddai buddsoddi mewn isadeiledd yn cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr lleol a safonau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac
Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet o
gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol i fonitro a rheoli'r berthynas
rhwng y Cyngor a Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol sydd wedi’i nodi ym
mharagraff 4.10 o’r adroddiad fel a ganlyn - ·
Prif Weithredwr neu ei chynrychiolydd enwebedig
(Cadeirydd) ·
Yr Arweinydd ·
Aelod Arweiniol Cyllid ·
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Cadeirydd o Bwyllgor Craffu ·
Swyddog Monitro (neu gynrychiolydd enwebedig) ·
Swyddog S151 (neu gynrychiolydd enwebedig) ·
Rheolwr Contractau ·
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol i fonitro a rheoli’r berthynas
rhwng y Cyngor a Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni). [Byddai gweithrediad dydd i
ddydd y Cwmni’n gyfrifoldeb i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni sy’n destun adroddiad
ar wahân] Roedd
y Cyngor wedi cytuno i gefnogi creu cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig
drwy warant nad er elw ar 30 Mai 2019 ac roedd yr adroddiad yn gam arall yn y
broses honno. Byddai’r
Cwmni yn endid cyfreithiol ar wahân i'r Cyngor ond byddai'n darparu
gwasanaethau i'r Cyngor o dan delerau contract. O ganlyniad byddai angen
sefydlu fforwm, sef y Bwrdd Llywodraethu Strategol arfaethedig, er mwyn
galluogi’r Cyngor i gynnal gwaith monitro a darparu trosolwg rheolaidd ac
effeithiol o berfformiad y Cwmni a lle y gellir trafod materion amrywiol rhwng
y Cyngor a'r Cwmni. Ymhelaethodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd ymhellach ar rôl y Bwrdd
a'r rhesymau dros y cyfansoddiad a awgrymir i gynnwys aelodau a swyddogion
allweddol yn unol â'r rolau dynodedig o fewn yr awdurdod. Gan mai syniad y Cabinet oedd
y Bwrdd yn ei hanfod er mwyn goruchwylio'r swyddogaeth hamdden gweithredol,
penderfyniad y Cabinet ydoedd nid penderfyniad y Cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau,
pwysleisiodd y swyddogion fuddion y penderfyniad i greu Cwmni newydd a sefydlu
Bwrdd Llywodraethu Strategol i'w oruchwylio. O ran hyfforddiant staff,
cadarnhawyd y byddai gan staff o fewn y Cwmni a'r Cyngor amodau a thelerau
cyfartal a gallent ddisgwyl mynediad cyfartal ar gyfer eu hanghenion
hyfforddiant. Ond
pe nodir anghenion hyfforddiant ar gyfer staff o fewn y Cwmni, fel unrhyw
anghenion hyfforddiant a nodir ar gyfer Staff y Cyngor, ni fyddai o reidrwydd
yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a gallai gael ei ddarparu gan gorff allanol. Eglurwyd hefyd bod cyllideb
ddigonol wedi’i dyrannu i’r Cwmni ar gyfer costau prynu mewn perthynas â'r
gwasanaethau cefnogaeth megis hyfforddiant, cyfathrebu / marchnata, cyllid,
TGCh ac AD - gallai'r Cwmni ddewis, a byddent i ddechrau, yn prynu cefnogaeth
gan y Cyngor ond yn ddiweddarach efallai y byddant yn dewis prynu'r
gwasanaethau cefnogaeth o fan arall. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol fel y nodwyd ym
mharagraff 4.10 o’r adroddiad fel a ganlyn- ·
Prif Weithredwr neu gynrychiolydd enwebedig
(Cadeirydd) ·
Yr Arweinydd ·
Aelod Arweiniol Cyllid ·
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ·
Cadeirydd Pwyllgor Craffu ·
Swyddog Monitro (neu gynrychiolydd enwebedig) ·
Swyddog A151(neu gynrychiolydd enwebedig) ·
Rheolwr Contractau ·
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant (b) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith
ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'u hystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac
Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am argymhelliad y Cabinet i'r
Cyngor ynghylch cyfansoddiad a phenodi Bwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure
Limited (y Cwmni). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr
adroddiad ac argymell y cyfansoddiad hwn i’r Cyngor - ·
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r
Parth Cyhoeddus ·
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth ·
Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac
Ymgysylltu â’r Cyhoedd ·
Rheolwr Gyfarwyddwr ·
Cyfarwyddwr Annibynnol x2 ·
Aelod nad yw’n aelod o’r Cabinet (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor
ar gyfansoddiad a phenodiad Bwrdd
Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni) a fydd yn gyfrifol am
weithrediad dydd i ddydd y Cwmni. [Byddai monitro a goruchwylio
perfformiad y Cwmni yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Llywodraethu Strategol fel y
cymeradwywyd ynghynt yn y rhaglen]. Ar 30
Mai 2019 cytunodd y Cyngor y byddent yn cefnogi creu cwmni masnachu awdurdod
lleol cyfyngedig drwy warant nad er elw ac roeddent wedi cymeradwyo penodi’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus fel Cyfarwyddwr. Er bod yr achos busnes
cychwynnol wedi awgrymu Cyfarwyddwr Cyllid roedd gwaith pellach yn awgrymu y
gellir darparu arbenigedd, cyngor a rheolaeth ariannol priodol o'r Cwmni mewn
modd arall heblaw drwy greu swydd ar y Bwrdd. Felly cynigwyd bod y rolau’n
cael eu llenwi gan gynghorwyr a gweithwyr y Cwmni ynghyd ag aelodau annibynnol
sy’n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored. Eglurodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd rôl y Bwrdd ymhellach a
phwysigrwydd cynnwys cymysgedd priodol o sgiliau yn yr aelodaeth. Roedd Saith Cyfarwyddwr wedi'u
cynnig ac fe gynigwyd bod rhai swyddi penodol ar y Bwrdd yn cael eu llenwi o
ganlyniad i swydd neu gyflogaeth benodol h.y. Cyfarwyddwr Corfforaethol,
Rheolwr Gyfarwyddwr, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, Aelod Arweiniol
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Awgrymwyd Cyfarwyddwr
ychwanegol nad yw’n aelod o’r Cabinet, gyda phrofiad busnes a /neu ddiddordeb
yn y sector hamdden, gan nodi y dylid ceisio enwebiadau ar gyfer y rôl gan y
Cyngor. Awgrymwyd
y dylid llenwi’r ddwy swydd arall ar gyfer Cyfarwyddwyr gan unigolion annibynnol
sy'n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored, un gyda phwyslais ar hamdden /
cyllid a'r llall ar ddatblygu cymunedol / hamdden, ac y dylid eu penodi gan y
Cyngor. Eglurwyd
hefyd y byddai’r rhai sy’n cael eu penodi i'r Bwrdd yn destun cyfrifoldebau
statudol Cyfarwyddwyr ac yn derbyn hyfforddiant. Fel rhan arferol o’u
dyletswyddau byddai’r Cyfarwyddwyr yn cael eu digolledu mewn perthynas â'u
gwahanol rwymedigaethau. Mewn
ymateb i gwestiynau, cadarnhawyd- ·
o ran y ddau Gyfarwyddwr
Annibynnol, awgrymwyd y dylent dderbyn yr un taliadau presenoldeb â'r aelodau
cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgorau Craffu, aelodau annibynnol y Pwyllgor
Safonau ac aelod lleyg y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel y gosodwyd gan
Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac y byddai’r Cwmni’n
gyfrifol am wneud y taliadau hynny. ·
roedd gan yr holl Gyfarwyddwyr
gyfrifoldeb statudol i osgoi gwrthdaro buddiannau. Roedd
Cytundeb Aelod ac Erthyglau Cymdeithas wedi'u hysgrifennu mewn modd lle na
ddylid trin swyddogion neu aelodau o'r cyngor fel rhai sydd â buddiannau sy’n
gwrthdaro os ydynt yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwyr. O ran penodiadau annibynnol
yna byddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r holl reolau ar gyfer Cyfarwyddwyr
mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau a datgan unrhyw gysylltiad o'r fath. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cefnogi cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr
adroddiad ac yn argymell y cyfansoddiad i'r Cyngor- ·
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus ·
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth ·
Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac
Ymgysylltu â’r Cyhoedd ·
Rheolwr Gyfarwyddwr ·
Cyfarwyddwr Annibynnol x 2 ·
Aelod nad yw’n aelod Cabinet (b) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'u hystyriaethau. Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2018/19 PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn
dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion
Darbodus yn ystod 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19 a’i
chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad
Rheoli Trysorlys Blynyddol 2018/19 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r aelodau ar
berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â
chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2018/19. Wrth
grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd
rheoli’r trysorlys a chyfeirio at y cefndir economaidd a'i effaith ar
weithgareddau rheoli'r trysorlys. Nododd y prif bwyntiau ar
gyfer aelodau o ran gweithgareddau benthyca a buddsoddi a chadarnhau
cydymffurfiaeth gyda’r holl ddangosyddion darbodus a osodwyd, gan ymhelaethu ar
y dangosyddion a nodwyd yn Atodiad B a chadarnhau cymarebau priodol costau
ariannu a lefelau benthyca o fewn y terfynau. Cafwyd rhywfaint o drafod
ynglŷn â’r gymhareb ragamcanol a’r gymhareb wirioneddol o’r costau ariannu
i’r ffrwd refeniw net ac fe gadarnhawyd na osodwyd unrhyw lefel statudol ac mai
cyfrifoldeb awdurdodau unigol oedd ystyried beth oedd yn lefel ddarbodus yn eu
tyb nhw. Cyfeiriwyd hefyd at y drefn gyllid a nodwyd drwy ariannu Cynllun Amddiffyn
yr Arfordir yn Nwyrain y Rhyl yn ddiweddar ac effaith refeniw y newid hwnnw, ac
yr oedd disgwyl i'r awdurdod lleol ariannu'r holl fenthyca ymlaen llaw ond gyda
chyfraniad Llywodraeth Cymru’n cael ei ad-dalu dros y cyfnod benthyca o 25
mlynedd. Fel Aelod Arweiniol cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei fod yn
gyfforddus gyda’r lefel bresennol a nododd ei fod yn cynrychioli gwerth da ar y
buddsoddiadau a wnaed. Ychwanegodd y Prif Gyfrifydd / Swyddog A151 bod ymarferion meincnodi
ysbeidiol yn cael eu cynnal gydag awdurdodau lleol eraill at ddibenion cymharu
a oedd yn nodi bod y Cyngor o fewn terfynau cyfforddus. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) Yn nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19
a’i chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad
Rheoli Trysorlys Blynyddol 2018/19 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac (b) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r
Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn
2018/19) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £1.379 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol ·
nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys
arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion
gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn) ·
tynnwyd
sylw at risgiau ac amrywiadau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
penodol, yn enwedig o ran gorwariant yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r
Gwasanaethau Addysg a Phlant er gwaethaf cynnydd yn y cyllidebau sylfaenol, a ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r defnydd o’r
Grant Cynhaliaeth Ysgolion fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol. Trafododd y Cabinet y materion canlynol yn fanwl- ·
o ran
cludiant ysgol, roedd newidiadau deddfwriaethol sy’n dod i rym yn y flwyddyn
newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod mynediad i bobl anabl ar gludiant nad yw’n
gonsesiynol, ac o ystyried bod consesiynau’n cael eu cynnig i blant eisoes,
roedd pryderon difrifol am y gallu i ddiwallu'r ddarpariaeth. Nodwyd y byddai Grŵp Ymgynghorol Cludiant
rhanbarthol yn ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Chludiant yn tynnu sylw at y
pryderon hynny a chytunodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai hefyd yn
ysgrifennu at y Gweinidog ar ran y Cyngor. ·
Croesawodd
yr aelodau’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth
Cymru a'r newidiadau a oedd yn caniatáu defnyddio cyllid ar gyfer gwaith
hanfodol a meysydd gyda'r anghenion mwyaf ac fe gefnogodd y Cabinet y dull na
ddylid dyrannu cyllid i ysgolion ym Mand A Ysgolion yr 21ain Ganrif neu
ysgolion sy'n debygol o elwa o Fand B ac argymhellion y Grŵp Buddsoddi
Strategol. ·
Cafwyd
rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â gofal cymdeithasol plant, yn benodol o ran
costau lleoliadau, ac fe eglurodd Cyfarwyddwr : Cymunedau bod Gweithgor
Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater hwnnw ymhellach a chomisiynu darparwyr o
ansawdd uchel – cydnabuwyd bod costau lleoliadau yn wahanol mewn gwahanol
ardaloedd yn y DU gydag ardaloedd â phoblogaeth uwch yn meddu ar fwy o
bŵer prynu. Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod
y Cyngor yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r costau ac roedd
ganddo hyder yn y broses gomisiynu. Eglurodd yr anawsterau o ran creu darpariaeth arbenigol yn lleol o ystyried
y gwahanol anghenion a’r flaenoriaeth oedd comisiynu lleoliadau sy’n diwallu
anghenion y plant orau gan olygu lleoliadau y tu allan i’r sir mewn achosion
arbenigol gan achosi costau lleoliadau uchel. ·
Tynnodd
y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at y pwysau parhaus yn y Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol ac Oedolion gyda gweddill
cronfa wrth gefn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu’r gorwariant
presennol na fyddai ar gael yn y dyfodol a gofynnodd bod mwy o arian yn cael ei
ddyrannu i’r gwasanaeth. Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad
oeddent yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ymateb
fel a ganlyn – ·
o ran
balansau ysgolion, roedd cynlluniau adfer ariannol cadarn yn eu lle ar gyfer
ysgolion gyda diffyg ariannol ac rydym yn eu monitro’n agos; roedd yr holl
ysgolion gyda diffyg ariannol yn datblygu fel y disgwylir yn erbyn eu
cynlluniau adfer a byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd balansau ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 290 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Strategaeth
Llyfrgelloedd – Hydref ·
Castell
Bodelwyddan – Tachwedd Cadarnhawyd y byddai adroddiad ar Brosiect Archif
ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu
cyn y Cabinet ym mis Tachwedd. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
ESTYNIAD I GYTUNDEB GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU REFENIW A BUDD-DALIADAU
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer
darparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r buddion ariannol a buddion eraill sy’n gysylltiedig ag ymestyn y
contract gyda Civica; (b) cymeradwyo estyniad o 3 blynedd i’r contract gyda Civica i ddarparu'r
Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau, a (c) cadarnhau bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â
pharagraff 7.25 yng nghyfansoddiad y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn Cytundeb
Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau. Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir
ynglŷn â'r contract presennol ynghyd â'r rhesymau dros yr argymhelliad ar
gyfer estyniad o'r bartneriaeth o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2025 o ystyried
yr arbedion a fydd yn cael eu gwireddu yn y cyfnod ac i ganiatáu parhad
llwyddiant y bartneriaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ac i sicrhau parhad
busnes. Roedd y contract gwreiddiol yn caniatáu estyniad o 3 blynedd yn unol â’r
gofynion ond oherwydd gwerth y contract roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet. Cynigiwyd bod y penderfyniad yn cael ei
weithredu ar unwaith gan fod trafod y disgownt i ryw raddau yn dibynnu ar allu
Civica i gwblhau’r cytundeb cyn diwedd eu blwyddyn ariannol ar 30 Medi er mwyn
gallu ei ystyried yn eu datganiadau ariannol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi buddion ariannol a buddion heb fod yn ariannol o ganlyniad i
ymestyn y contract gyda Civica; (b) Cymeradwyo estyniad o 3 blynedd i’r contract gyda Civica i ddarparu
Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Gwasanaethau Refeniw a
Budd-daliadau, a (c) Chadarnhau bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â
pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |