Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 9 ar y Rhaglen Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Tony Thomas yn datgan cysylltiad personol yn eitem 6 gan ei fod yn
byw’n agos at yr ardal yr effeithir arni gan lifogydd er nad oedd wedi
effeithio ar ei eiddo ef. Datganodd y
Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol yn eitem 9 oherwydd ei fod yn
Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25
Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Cabinet Arweiniol Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) yn cyflwyno dau bolisi
cyflogaeth i'w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo’r
polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y
Cyngor, a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad
i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad yn argymell mabwysiadu dau bolisi
cyflogaeth newydd a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur
cydnabyddedig oedd yn cynnwys (1) Dileu Swydd a (2) Cydraddoldeb Traws a
Rhywioldeb. Darparwyd
crynodeb byr ar bob polisi ac eglurodd y Cynghorydd Mainon yn dilyn adborth y
cynhaliwyd adolygiad o’r Polisi Dileu Swydd presennol i ddarparu polisi mwy
strwythuredig gyda rolau, cyfrifoldebau ac amserlenni cliriach (byddai’r cyfrif
dileu swydd yn aros yr un fath), ac roedd Polisi Cydraddoldeb Traws a
Rhywioldeb wedi’i ffurfio i roi cyngor ac arweiniad cyffredinol ar faterion
traws ac ailbennu rhywedd o fewn fframwaith clir. Roedd y ddau bolisi wedi eu
llunio yn dilyn cydweithio cadarnhaol drwy’r broses ymgynghori y cytunwyd arni
a derbyniwyd ymateb da ac yn dilyn hynny cymeradwywyd gan y Cydbwyllgor
Ymgynghorol Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Cyflogaeth. Hefyd cadarnhawyd bod y
polisïau newydd yn fwy cyson gyda rhai awdurdodau eraill. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
mabwysiadu yn y Cyngor, a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL PDF 498 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn
arfordir Dwyrain y Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet
– (a) Yn cadarnhau ei
fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiad o Effaith ar Les (a atodwyd yn Atodiad 1
yr adroddiad); (b) yn
cefnogi’r cais i symud y cynllun ymlaen at y cam adeiladu, gan ddefnyddio'r
model cyllido cymorth grant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn argymell i’r
Cyngor y dylid cymeradwyo’r cais, a (c) Yn
argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Bwrdd Prosiect
Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (y Bwrdd Prosiect i’w sefydlu yn
dilyn cadarnhad o gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen at y cam adeiladu) i
gyflawni’r cynllun, cyn belled nad yw’r gost targed terfynol yn fwy na £27.5
miliwn. Dylid
dod a'r prosiect yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged
terfynol yn fwy na £27.5 miliwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn
arfordirol yn Nwyrain y Rhyl a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r cynllun a gofynion
cyllid a’i argymell i’r Cyngor yn unol â hynny.
Dwyrain
y Rhyl oedd maes blaenoriaeth uchaf y Cyngor ar gyfer cynllun amddiffyn
arfordirol o ystyried y byddai’n fwy tebygol o brofi llifogydd difrifol nag
unrhyw le arall yn y sir. Wrth gyflwyno’r achos ar gyfer
y cynllun arfaethedig, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddifrod llifogydd
Rhagfyr 2013 a bregusrwydd yr ardal yn y dyfodol o safbwynt perygl llifogydd. Roedd ymchwiliad i lifogydd
2013 yn dangos y gall eiddo ddioddef llifogydd yn ystod 1 digwyddiad mewn 20
mlynedd a byddai’r cynllun yn darparu safon priodol o amddiffyniad llifogydd i
oddeutu 1650 eiddo gydag amddiffyniad yn erbyn 1 digwyddiad mewn 200 mlynedd. Fodd bynnag, bydd cost y
prosiect, sydd wedi’i amcangyfrif yn £27.5m ar hyn o bryd, yn rhoi baich
refeniw ychwanegol ar y Cyngor. Roedd
manylion y goblygiadau refeniw a amcangyfrifir a’r rhagdybiaethau ariannol yn
seiliedig ar fenthyca presennol wedi’i fanylu o fewn yr adroddiad. Roedd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yn cefnogi’r argymhelliad a chadarnhaodd fod y Grŵp
Buddsoddiad Strategol wedi cymeradwyo’r cynllun. O safbwynt ariannol, amlygodd
y newid i’r drefn gyllido ac effaith y newid hwnnw ar refeniw. Er bod y cynllun yn gymwys ar
gyfer 75% o gyllid grant Llywodraeth Cymru disgwylir i’r Cyngor gyllido’r swm
cyfan, gyda 75% o’r gost benthyca yn cael ei ad-dalu i’r Cyngor yn flynyddol
drwy’r Grant Cefnogi Refeniw dros 25 mlynedd.
Roedd
angen cyfraniad o £6.87miliwn gan y Cyngor a byddai angen benthyg y mwyafswm
o’r cyllid hwnnw (£2m cyllid cyffredinol wedi’i glustnodi eisoes ar gyfer y
cynllun) am gost amcangyfrifiedig o £29mil yn 2020/21, £205mil yn 2021/22 yn
codi i £286mil y flwyddyn o 2022/23. Gan
dybio na fyddai’r sefyllfa cyllideb refeniw yn gwella byddai’n rhaid i’r swm
ad-daliad gael ei glustnodi fyddai’n effeithio ar arbedion/toriadau yn y
dyfodol. Roedd
y Cabinet yn derbyn bod achos wedi’i wneud ar gyfer y prosiect o safbwynt
amddiffyn rhag llifogydd o ystyried y risg sylweddol i’r gymuned ac ystyriwyd
yr elfen gyllido a goblygiadau ariannol datblygu’r cynllun, gan nodi’r
ymrwymiad tymor hir oedd yn ofynnol o safbwynt ad-dalu’r benthyciad a’r effaith
ar y gyllideb refeniw. Trafodwyd
y materion canlynol ymhellach - ·
Gofynnodd Mark Young am y risg o orwariant o
ystyried na fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle'r
oedd costau wedi cynyddu uwchlaw’r swm a gymeradwywyd a chadarnhawyd y byddai’r
Cyngor yn atebol am unrhyw orwariant. Fodd
bynnag roedd y risg wedi’i leihau drwy ddefnyddio fframwaith caffael cadarn
oedd wedi arwain at lefel uchel o sicrwydd cost a £4miliwn wrth gefn ar gyfer
risg wedi’i gynnwys yn y gyllideb £27.5miliwn gyda lwfans ar gyfer chwyddiant;
yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, byddai’r gwaith yn dechrau yn Ebrill 2020.
·
Roedd y Cynghorydd Bobby
Feeley yn amlygu meysydd eraill o fewn y cyngor oedd yn tueddu i ddioddef
llifogydd a gofynnodd am effaith ar gyllido cynlluniau llifogydd eraill o
ystyried y cyllid sylweddol oedd yn ofynnol yn yr achos hwn. Dywedodd
swyddogion am reoli llifogydd mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan gynnwys
cynlluniau arfordirol ac afonol oedd mewn amrywiol gamau datblygu a datblygir
drwy’r Bwrdd Rhaglen. Awgrymwyd
bod Bwrdd Prosiect Perygl Llifogydd yn cael ei sefydlu i oruchwylio cynllun
Dwyrain y Rhyl a hefyd i ystyried opsiynau ar gyfer cynlluniau eraill. Byddai’r prosiect dod yn ôl at
y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged derfynol yn fwy na £27.5
miliwn. · Wrth gofio difrod llifogydd 2013 roedd y Cynghorydd Tony ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles
ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i gost gweithredu’r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Cyfyngedig drwy Warant
nid er elw yr Awdurdod Lleol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi gweithredu'r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill y cydadroddiad yn gofyn i’r
Cabinet gymeradwyo cost gweithredu’r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu
Cyfyngedig Drwy Warant Awdurdod Lleol nid er elw ac i gynghori’r Cabinet ar yr
arbediad net diwygiedig i’r Cyngor yn y flwyddyn gyntaf 2020/21. Roedd
y Cyngor wedi cytuno i gefnogi creu LATC ar 30 Mai 2019 ac roedd yr adroddiad
yn gam arall o fewn y broses honno. Dywedodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill bod gwaith wedi’i wneud o safbwynt ariannol a benderfynwyd
gymaint â phosibl. Er
mwyn i’r LATC allu bod yn weithredol erbyn 6 Ebrill 2020 roedd un cost
gweithredu o £391mil wedi’i ragamcanu ac roedd arbedion refeniw net cysylltiol
yn y flwyddyn gyntaf wedi’i ailasesu a’i ragamcanu i fod yn £785mil. Roedd y Cynghorydd
Thompson-Hill hefyd yn ymhelaethu ar y gost ac ystod o ffactorau oedd yn
cyfrannu at y rhagamcanion cost terfynol oedd wedi arwain at £18 mil yn llai o
arbedion nag y rhagwelwyd yn wreiddiol. O ganlyniad gofynnwyd i’r
Cabinet gytuno ar y gost gweithredu untro a noddi’r targed arbediad oedd
ychydig yn llai ar gyfer y flwyddyn gyntaf.
Ymatebodd
swyddogion i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young, yn dweud fod y Cyngor wedi
cymeradwyo creu ADM ac oherwydd bod gweithredu'r gwasanaethau hamdden yn
swyddogaeth weithredol gofynnwyd i'r Cyngor gymeradwyo'r cyllid ar gyfer
gweithredu. O ganlyniad, nid oedd bwriad
ar gyfer yr adroddiad penodol ar gostau gweithredu i fynd i’r pwyllgor craffu
er efallai y bydd y prosiect cyffredinol yn ddarostyngedig ar gyfer craffu ar
rhyw bwynt. Gall unrhyw aelod wneud cais
ar gyfer craffu i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu. Roedd swyddogion hefyd yn
ymateb i gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet o safbwynt
cyfrifoldebau gweithredol a strategol oedd yn ymwneud â’r LATC ynghyd â
rheolaethau a threfniadau mewn lle a rhwymedigaethau ariannol. O ran TAW ac Ardreth
Annomestig Genedlaethol derbyniwyd cyngor arbenigol yn cadarnhau y gall yr
arbedion a nodwyd yn yr adroddiad gael eu gwireddu yn unol â deddfwriaeth
bresennol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cefnogi gweithredu'r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol
Cyfyngedig drwy Warant nid er elw |
|
CYTUNDEB CYLLIDEB GYFUN AR GYFER LLETY CARTREF GOFAL I BOBL HŶN 2019-2020 PDF 341 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles
ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynghylch sefydlu un gyllideb
gyfun ranbarthol heb rannu risg ar gyfer swyddogaethau llety cartref gofal i
bobl hŷn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) nodi’r cynnydd a
wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i
sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hŷn; (b) cymeradwyo
sefydlu cronfa gyfun nad yw’n rhannu risg ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl
hŷn fel y nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu
fel Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol ar gyfer blwyddyn
ariannol 2019/20; (c) rhoi
cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, i reoleiddio’r
broses sefydlu, gweithrediad a threfniadau llywodraethu’r gronfa gyfun am
gyfnod o 3 blynedd, a (d) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les a atodir fel
Atodiad 1 fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian
Thompson-Hill y cydadroddiad ynglŷn â sefydlu un gronfa gyfun ranbarthol
heb risg ar gyfer swyddogaethau llety cartrefi gofal i bobl hŷn. Darparodd y Cynghorydd Feeley rywfaint o gefndir a
chyfeiriodd at sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o dan Rhan 9 Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i symud ymlaen i integreiddio
iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn effeithiol. Amlinellodd y dull rhanbarthol arfaethedig i gyflawni’r gofyniad
cyfreithiol o ran sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety
cartref gofal, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel awdurdod sy'n lletya
ar ran chwe Chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae cytundeb cyfreithiol wedi’i baratoi i
adlewyrchu’r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda phartneriaid o ran y gronfa
gyfun am dair blynedd. Sylwyd bod y gwariant rhanbarthol cyffredinol yn 2018/19 yn £111miliwn. Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y
fethodoleg ar gyfer y gronfa gyfun gyda phob un o’r saith partner yn darparu
cyfraniadau cwbl ar wahân yn cyfateb i’r treuliau oedd yn berthnasol felly’n
sicrhau nad oedd unrhyw risg yn cael ei rannu na thrawsgymhorthdal rhwng
partneriaid. Eglurodd y byddai £20mil o gyllid trawsnewid a weinyddwyd yn rhanbarthol yn
cael ei dalu i Sir Ddinbych i gydnabod cost lletya'r gronfa gyfun ac felly
byddai gweithrediad y gronfa yn niwtral o ran cost. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n cynnwys gofyniad
cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal i
bobl hŷn; (b) cymeradwyo sefydlu cronfa gyfun nad yw’n rhannu risg ar gyfer llety
cartrefi gofal i bobl hŷn fel y nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir
Ddinbych yn gweithredu fel Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol
ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20; (c) rhoi cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwech awdurdod lleol Gogledd Cymru, i
reoleiddio’r broses sefydlu, gweithrediad a threfniadau llywodraethu’r gronfa
gyfun am gyfnod o 3 blynedd, a (d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les a atodir fel Atodiad 1 fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) yn cymeradwyo
Datblygiad Fflatiau’r Dell, Prestatyn, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol ac fel y nodwyd yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad hwn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn
2018/19) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.912 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol ·
nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan
gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion
ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852
miliwn). ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai Hefyd gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo adeiladu
fflatiau yn y Dell, Prestatyn fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddiad
Strategol. Roedd y Cabinet yn trafod y gorwariant a
ragamcanwyd o fewn Gofal Cymdeithasol Oedolion ac Addysg a Gwasanaethau Plant
(er gwaethaf cynnydd yn y gyllideb sylfaenol) oedd yn parhau i achosi pryder. Dywedodd y Prif Weithredwr am waith
cyfredol gydag Aelodau Arweiniol a’r Uwch Dîm Arwain i reoli’r costau hynny
fyddai hefyd yn cael eu trafod fel rhan o’r broses gosod cyllideb
cyffredinol. Roedd yr Aelodau Arweiniol ar gyfer y
gwasanaethau hynny hefyd yn ymhelaethu ar anawsterau a wynebir a’r angen i
flaenoriaethu gwasanaethau i blant ac oedolion agored i niwed. O ran toriadau yn y dyfodol cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y flaenoriaeth ar gyfer diwallu anghenion
plant ac oedolion agored i niwed oedd yn cynnwys cost ond roedd yn bwysig
ystyried pob agwedd o’r busnes ac roedd yn iawn i gwestiynu priodoldeb yr
ymyrraeth a’r camau a gymerwyd. Roedd yr Arweinydd yn amlygu nad oedd y pwysau a nodwyd yn unigryw i Sir
Ddinbych ac roedd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ac roedd gan
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rôl i lobio Llywodraeth Cymru ar eu rhan i
sicrhau darpariaeth cyllid priodol. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies pam na ellir
trosglwyddo’r diffyg ar gyfer Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones i’r ysgol
newydd. Eglurwyd bod dwy ysgol yn uno i fod yn un ysgol
wahanol ac felly yn creu endid cyfreithiol newydd, o ganlyniad ni ellir trosglwyddo
balans diffyg nac arian dros ben. Byddai’r ysgol newydd yn dechrau heb falans a phenderfynir ar ei chyllideb
newydd yn unol â'r meini prawf arferol e.e. nifer disgyblion ac ati. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) chymeradwyo Datblygiad Fflatiau’r Dell, Prestatyn, fel yr argymhellwyd gan
y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y nodwyd yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad
hwn. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 291 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol - ·
Grŵp
Cynllunio Strategol: Newidiadau arfaethedig i’r Cylch Gorchwyl – i’w
hychwanegu ar gyfer mis Medi ·
Cytundeb
Llywodraethu Cynnig Twf Gogledd Cymru 2 – i’w symud o fis Medi i fis Ionawr PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25am. |