Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
CYNLLUN RHEOLI SAFLE TREFTADAETH Y BYD TRAPHONT DDŴR A CHAMLAS PONTCYSYLLTE PDF 288 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) yn cyflwyno Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont
Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 2019-2019 er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cefnogi Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr
a Chamlas Pontcysyllte 2019-2029 er mwyn galluogi Cyngor Sir Ddinbych, fel un o
bartneriaid Bwrdd Strategol Safle Treftadaeth y Byd i gymeradwyo ei gyflwyno i
Weinidogion Cymru a’r Adran dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon
Llywodraeth y DU. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad ynghyd â Chynllun Rheoli Safle
Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte er cymeradwyaeth)
cyn i Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd ei gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r Adran
dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon. Y
Cyngor oedd un o’r pedwar o brif bartneriaid ar y Bwrdd Strategol (ynghyd â
Glandŵr Cymru, Cyngor Swydd Amwythig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam),
ac roedd wedi cyfrannu at y Cynllun Rheoli. Roedd y cynllun yn gosod
fframwaith ar gyfer penderfyniadau’r partneriaid ynglŷn â rheoli’r Safle
Treftadaeth y Byd a’r cyffiniau. Dywedodd y Cynghorydd Feeley
hefyd fod y Cynllun yn cynnwys camau gweithredu a oedd yn cyfrannu at yr
amgylchedd, un o flaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol, a byddai hefyd yn codi
proffil y safle i ymwelwyr ac yn rhoi hwb i economi Sir Ddinbych. Roedd y Cabinet yn gefnogol
o’r Cynllun, ac felly – PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cefnogi Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont
Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 2019-2029 ac felly bod Cyngor Sir Ddinbych,
fel un o bartneriaid Bwrdd Strategol Safle Treftadaeth y Byd, yn medru rhoi
cymeradwyaeth i’w gyflwyno i Weinidogion Cymru ac Adran Llywodraeth y Deyrnas
Gyfunol dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon. |
|
NEWIDIADAU YNG NGHYFRIFIAD GWYLIAU BLYNYDDOL PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Cabinet Arweiniol dros
Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) parthed
cynigion i symleiddio’r broses o cyfrifo hawliau gwyliau blynyddol a gwyliau
banc ar gyfer gweithwyr. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r argymhellion canlynol - (a) dylid cofnodi
hawl pob gweithiwr i wyliau blynyddol mewn oriau; (b) darparu
cyfrifiad pro rata o hawl pob gweithiwr rhan-amser i Wyliau Banc ar sail eu
horiau gwaith dan gontract, sy’n unol â’r hawl statudol, a (c) chael gwared ar
y cyfyngiad o gario 5 diwrnod (37 awr) yn unig o wyliau drosodd, a chaniatáu i
10 diwrnod (74 awr) gael eu cario drosodd yn awtomatig. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad ynglŷn â chynigion i symleiddio’r
broses o gyfrifo gwyliau blynyddol a hawliau gweithwyr i wyliau banc, drwy
ddefnyddio un o nodweddion y system Adnoddau Dynol, iTrent. Byddai’r
newidiadau arfaethedig yn ysgafnhau’r baich ar reolwyr ac yn symleiddio’r
broses gan sicrhau fod pob gweithiwr yn cael yr holl wyliau oedd yn ddyledus. Roedd y newidiadau allweddol
yn cynnwys nodi’r gwyliau oedd ar ôl mewn oriau, cyfrifiad pro rata o’r hawl i wyliau banc ar gyfer gweithwyr rhan-amser, a
galluogi pobl i gario drosodd hyd at ddeg diwrnod (74 awr) o wyliau’n
awtomatig. Roedd
angen newid y polisi presennol er mwyn hwyluso’r prosesau newydd, ac roedd
gofyn i’r Cabinet gymeradwyo hynny. Wrth
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion – ·
bod y newidiadau’n unol â
gweithdrefnau awdurdodau lleol eraill ·
mai deg diwrnod oedd yr
uchafswm a ganiateid i bobl gario drosodd mewn blwyddyn ·
trafodwyd y cynigion gan yr
Uwch Dîm Arweinyddiaeth, mewn cyfarfod rhwng Adnoddau Dynol Corfforaethol ac
Undebau Llafur, a chyfarfod o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol ·
nodwyd y pwynt ynglŷn â
chynnwys oriau ochr yn ochr â’r diwrnodau yn yr adroddiad, er eglurder. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo'r argymhellion canlynol – (a)
dylid cofnodi
hawl pob gweithiwr i wyliau blynyddol mewn oriau; (b) darparu
cyfrifiad pro rata o hawl pob gweithiwr rhan-amser i Wyliau Banc ar sail eu
horiau gwaith dan gontract, sy’n unol â’r hawl statudol, a (c) chael gwared ar
y cyfyngiad o gario 5 diwrnod (37 awr) yn unig o wyliau drosodd, a chaniatáu i
10 diwrnod (74 awr) gael eu cario drosodd yn awtomatig. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19 PDF 277 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros
Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2018-19 cyn ei gyflwyno i’r
Cyngor er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cadarnhau cynnwys yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft
2018-19. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad
Blynyddol ar gyfer 2018-19, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth a’i
gyhoeddi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Hysbyswyd
y Cabinet o newidiadau diweddar yn y dulliau adrodd a oedd yn sail ar gyfer y
ddogfen dan sylw, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarter 4 a’r
Ddogfen Gyflawni Flynyddol, a gyflwynid ar wahân fel arfer. Roedd y ddogfen gyfun yn
cynnwys adroddiad ar gynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol, ynghyd â
phrosiectau penodol i’w cyflawni yn 2019-2020 ac astudiaethau achos ac
enghreifftiau o’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol
ym mhortffolio ehangach y Cyngor. Roedd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad wedi trafod y ddogfen heb godi unrhyw faterion o bwys. Esboniodd
Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol bod y
ddogfen yn dangos mor dda oedd y cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, ond
soniont hefyd am gyfleoedd i wella a chymryd camau gweithredu priodol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r
Cabinet yn fanwl, a rhannodd y swyddogion yr holl wybodaeth ddiweddaraf
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed o ran pob un o’r blaenoriaethau corfforaethol –
er y gwnaethpwyd cynnydd gwerth chweil yn gyffredinol, roedd cyflawni’r
targedau perfformiad ar gyfer Pobl Ifanc yn flaenoriaeth o ran gwella. Rhoes y Prif Weithredwr glod
i’r gwaith a wnaethpwyd wrth gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, a’r modd y bu
i’r aelodau a’r swyddogion gydweithio er budd trigolion y sir. Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd y Cabinet y materion canlynol – ·
Clymu Cymunedau – o ran
dulliau ymarferol o ehangu rhwydweithiau band eang/ffôn symudol tra chyflym,
roedd y Cyngor yn gweithio’n uniongyrchol â darparwyr band eang a chymunedau;
roedd ffynonellau cyllid posib yn cael eu hystyried, gan gynnwys arian ffermydd
gwynt, er mwyn creu seilwaith digidol ar gyfer cymunedau cefn gwlad. Efallai na
châi’r cymunedau hynny eu cynnwys yng nghynllun Llywodraeth Cymru, Cyflymu
Cymru, ac roedd cysylltedd hefyd yn un o flaenoriaethau Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru. ·
Cymunedau Cryf – soniodd y
Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn â llwyddiant y Timau Adnoddau Cymunedol
wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn y gymuned. Soniodd hefyd am brosiectau i
gefnogi gofalwyr, a rhoes longyfarchiadau i’r Cyngor am ennill gwobr gan
Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar, i gydnabod
ei fod yn gyflogwr sy’n croesawu gofalwyr. ·
Yr iaith Gymraeg – ar gais y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, cytunodd y swyddogion i gynnwys cyfeiriad yn y
ddogfen at y Ganolfan Gymraeg newydd yn Llanelwy, a fyddai’n darparu
gwasanaethau i Sir Ddinbych gyfan. ·
Cymunedau Cryf – soniodd y
Cynghorydd Tony Thomas y byddai oddeutu £925,000 y flwyddyn ar gael drwy
Gronfeydd Buddsoddi Cymunedol Fferm Wynt Clocaenog a Brenig, ac fe gâi manylion
yr ardaloedd a fyddai’n elwa eu cadarnhau cyn hir. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd Mark Young ynglŷn â chydraddoldeb, rhoddwyd sicrwydd fod yno
brosiect ar waith i gefnogi cymunedau wrth wneud y ceisiadau cychwynnol am
gyllid, er mwyn sicrhau y gallai pob rhan o gymdeithas elwa ar hyn. Rhoes y Cynghorydd Young
longyfarchiadau i Adnoddau Dynol am yr hyfforddiant Cam-drin Domestig, ond
dywedodd y gallai llwyddiant y cwrs arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a
adroddwyd, o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth. · Clymu Cymunedau – soniodd y Cynghorydd Brian Jones nad oedd cyflwr ffyrdd Sir Ddinbych o reidrwydd cyn waethed â’r hyn a gredai’r cyhoedd, gan ystyried na fu ond mân ddirywiad yn ffyrdd A y Sir a bod ffyrdd B ac C wedi gwella – neilltuwyd cyllid ychwanegol ar gyfer priffyrdd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, a byddai newidiadau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cyngor argymell bod y Cabinet yn cefnogi mabwysiad yr Erthyglau Cymdeithasu ar gyfer Cwmni Masnachu Cyfyngedig Drwy Warant nid er elw arfaethedig yr Awdurdod Lleol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r
Erthyglau Cymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu
Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw fel yr amlinellir yn
atodiadau'r adroddiad hwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i’r argymhelliad bod y Cyngor o blaid mabwysiadu’r Erthyglau Cwmni drafft ar
gyfer y cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant, nid-er-elw, y
bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio fel dull gwahanol o ddarparu amryw weithgareddau
a swyddogaethau ym maes hamdden. Roedd yr adroddiad hwn yn gam
arall tuag at sefydlu’r Dull Darparu Amgen. Roedd
y Cyngor wedi cytuno i greu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy
Warant ar 30 Mai 2019. Y ddogfen gyfansoddiadol ar gyfer cwmni cyfyngedig drwy
warant oedd ei Erthyglau Cwmni a gofrestrwyd i’r cyhoedd eu gweld yn Nhŷ’r
Cwmnïau (Erthyglau). Yr
hyn a gynigiwyd oedd mabwysiadu Erthyglau oedd yn seiliedig ar yr Erthyglau
Enghreifftiol, gan gynnwys newidiadau yn benodol i ofynion y Dull Darparu
Amgen, er mwyn gwarchod y Cyngor a rhoi rheolaeth iddo dros y cwmni. Yn ogystal â’r Erthyglau,
roedd yr adroddiad yn sôn am Gytundeb Aelodau rhwng y Cyngor a’r Dull Darparu
Amgen a oedd yn amlinellu nifer o faterion nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr
Erthyglau. Esboniodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth y dylid
darllen yr Erthyglau Cwmni drafft, yr Erthyglau Enghreifftiol a’r Cytundeb
Aelodau drafft gyda’i gilydd, ac y byddai’r rhain i bob pwrpas yn cyfuno i
ffurfio cyfansoddiad i’r cwmni newydd. Rhoes esboniad i’r Aelodau o’r
swyddogaethau pennaf a nodwyd yn yr Erthyglau a’r telerau a bennwyd yn y
Cytundeb Aelodau. Byddai’n
rhaid diwygio geiriad y dogfennau drafft ymhellach, ac fe roddid esboniad o
hynny wrth gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor fis Gorffennaf, a cheisid awdurdod
dirprwyedig i gadarnhau’r dogfennau terfynol. Mewn
ymateb i gwestiynau cafwyd yr ymatebion canlynol gan yr Arweinydd a Phennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth – ·
yn ogystal â chyflwyno’r
cyfrifon yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, byddai’r Cyngor yn monitro er mwyn sicrhau
tryloywder o ran perfformiad ariannol; byddai’n rhaid i’r cwmni ufuddhau i
unrhyw gais gan y Cyngor am wybodaeth ariannol ·
wrth drafod a fyddai unrhyw
dargedau newydd wedi’u pennu gan y Cyngor yn berthnasol i’r cwmni newydd,
soniwyd y byddai gofyn i’r Cyngor ei gytuno â’r cwmni drwy’r cynllun busnes pe
byddai’n dymuno pennu targedau penodol i’w cyflawni; o ran adolygu perfformiad,
câi manylion y cwmni newydd eu cynnwys yn Adolygiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor, a oedd yn ymdrin â’r holl wasanaethau’r oedd y Cyngor yn gyfrifol
amdanynt (gan gynnwys rhai a gomisiynwyd) ·
yn ôl pob tebyg roedd y sail
resymegol ar gyfer yr amcan i ‘hyrwyddo swyddi a chryfhau’r economi leol’
wedi’i gynnwys er mwyn rhoi sicrwydd nad oedd bwriad cwtogi ar swyddi, ond yn
hytrach eu diogelu a’u hybu, a chydnabod fod cyfleusterau mewn rhai rhannau o’r
sir yn allweddol o ran gweithgarwch economaidd ac adfywio ·
gallai pwyllgorau craffu alw i
mewn unrhyw faterion ynglŷn â’r cwmni newydd, ac esboniodd y Pennaeth
Cyllid y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio elfennau o berfformiad
ariannol y cwmni a gâi eu cynnwys yn natganiad cyfrifon y Cyngor. Byddai gan y cwmni ei
archwilwyr ei hun hefyd ·
mater i’r Cyngor oedd penodi
Bwrdd Cyfarwyddwyr, gan fod a wnelo hynny â chyfansoddiad y cwmni newydd, a
chyflwynid adroddiad i’r Cyngor ym mis Medi yn ceisio cadarnhad o aelodaeth y
Bwrdd. Gan
ystyried yr angen i ddarllen yr holl ddogfennau gyda’i gilydd, cytunwyd i
ddiwygio’r argymhelliad fel ei fod hefyd yn cynnwys mabwysiadu’r Cytundeb Aelodau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r Erthyglau Cymdeithas drafft a
Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy
Warant nid er elw fel yr amlinellwyd yn atodiadau’r adroddiad. Yn y fan hon (11.45 a.m.) ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2019-23 PDF 292 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r fersiwn diweddaraf a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (2019-23) er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019/23 (Atodiad 1 yn yr
adroddiad) a nodi ei gyhoeddiad ar wefan y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a’r fersiwn diweddaraf o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-23
er cymeradwyaeth. Roedd y Strategaeth yn nodi’r cyd-destun
economaidd oedd yn sail ar gyfer tybiaethau cynllunio ariannol a goblygiadau
posib i gyllidebau refeniw dros y tair blynedd nesaf. Roedd hefyd yn nodi sut fyddai’r Cyngor yn
ymdrin â sefyllfaoedd cyllidebol ac yn rhoi manylion o feysydd ehangach
ariannol y cyngor, gan gynnwys balansau a chronfeydd wrth gefn, buddsoddiadau a
benthyciadau, grantiau a gwariant cyfalaf. Roedd hefyd yn nodi sut fyddai’r Cyngor yn ymdrin
ag incwm. Amlygwyd hefyd swyddogaeth ‘Bwrdd Ail-lunio Cyllideb y Cyngor’ yn y broses
gyffredinol, o ran galluogi’r Cyngor i ateb yr heriau yn y dyfodol, yn unol â’r
strategaeth. Nododd y Cabinet fod y rhan helaeth o’r ddogfen
eisoes wedi’i rannu â’r aelodau mewn amryw weithdai cyllideb, a’u bod yn rhoi
rhywfaint o gyd-destun ac esboniad o’r tybiaethau ariannol. Nodwyd hefyd y byddai angen adolygu’r
ddogfen o bryd i’w gilydd a’i diwygio er mwyn adlewyrchu’r wybodaeth
ddiweddaraf. Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan gyfeirio at y gwaith oedd yn
parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am setliad tair blynedd drwy’r Gymdeithas Llywodraeth
Leol. Mewn ymateb i gwestiynau, esboniodd y Pennaeth Cyllid – ·
pe
cynhelid Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant byddai’n gyfle i roi sicrwydd i’r holl
adrannau sy’n gwario arian cyhoeddus (gan gynnwys gweinyddiaethau datganoledig)
o ran eu cyllid am y tair blynedd nesaf, ac yn gyfle i Lywodraeth Cymru wneud
yr un fath ar gyfer y meysydd yr oedd yn eu hariannu. ·
bod a
wnelo’r Cyllidebau Atodol a gyhoeddwyd yr wythnos o’r blaen â chyllid cyfalaf
ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, ac felly y byddai’r grant
cyfalaf cyffredinol wedi'i neilltuo yn debygol o gynyddu. Byddai yno hefyd fwy
o gyllid ar gyfer gwella ffyrdd, ac efallai i hybu’r economi – byddai’r
manylion penodol ynglŷn â chyllid pob awdurdod lleol yn dod cyn hir. Nid oedd y Strategaeth yn sôn am y cyllid
hwn gan nad oedd yn hysbys pan luniwyd y ddogfen. Croesawodd yr Arweinydd y cyllid ychwanegol gan
ddweud fod hyn yn newyddion da i Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019/23 (Atodiad 1 i’r
adroddiad) ac yn nodi ei gyhoeddiad ar wefan y Cyngor. |
|
ADRODDIAD ARIANNOL (ALLDRO ARIANNOL 2018/19) PDF 385 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Corfforaethol (copi’n amgaeedig), yn manylu ar y sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2018/19 a sut y bwriedir ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r
sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2018/19; (b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3, a (c) nodi manylion y
trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn
Atodiad 4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa
alldro refeniw derfynol 2018/19 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn
a balansau. Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau. Yn
gryno, y sefyllfa alldro derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan
gynnwys ysgolion) oedd tanwariant o £1.494 miliwn (0.77% o’r gyllideb refeniw
net). Roedd yr amrywiant ar gyfanswm y gyllideb yn
danwariant o £0.481 miliwn. Amlygwyd y prif feysydd i’w nodi, gan
gynnwys gwell sefyllfa ariannol ar gyfer ysgolion (diffyg ariannol net o £0.171
miliwn, i lawr o £0.344 miliwn y llynedd), ynghyd â gwasgfeydd ar Wasanaethau
Cymorth Cymunedol, Addysg a Gwasanaethau Plant, a Gwasanaethau Priffyrdd a’r
Amgylchedd, a thrafodwyd y materion hynny ymhellach yn y cyfarfod. Cyfeiriwyd
at drosglwyddiadau rhwng cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a defnydd bwriadol o
gyllid a oedd eisoes wedi’i neilltuo yn y gyllideb neu’i gymeradwyo. Gan
ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar
gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd
fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth
cyllideb 2018/19 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes. Nododd y Cabinet y sefyllfa alldro, a rhoes y Cynghorydd Richard Mainon
glod i reolaeth ariannol ragorol y gwasanaethau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r
sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2018/19; (b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a (c) nodi manylion y
trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad
4. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) nodi’r arbedion
newydd a nodwyd o fewn y Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylchedd, a (c) chymeradwyo
dileu’r achos Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
fel y nodir yn Atodiad 5 yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2019/20, ynghyd â Llyfr Crynhoi’r Gyllideb 2019/20. Rhoes grynodeb o
sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn
2018/19) ·
nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan
gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion
ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn)
a oedd yn cynnwys arbedion newydd o £42,000 yn y Gwasanaeth Priffyrdd a’r
Amgylchedd. ·
nid
oedd amrywiadau i'w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd
nifer o risgiau i wasanaethau wedi’u nodi a oedd angen eu monitro'n ofalus. ·
rhoddwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif
Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai; ac ·
argymhellwyd
cymeradwyo dileu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield ble ellid dod
o hyd i fanylion costau lleoliadau yn y sir ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a
Phlant, er mwyn sicrhau gwerth am arian. Esboniwyd fod Llyfr y Gyllideb yn cynnwys crynodeb
flynyddol, ond roedd pob gwasanaeth unigol yn monitro lleoliadau penodol, a’r
Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol oedd yn gyfrifol am hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn ôl y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) nodi’r arbedion
newydd a nodwyd o fewn y Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylchedd; a (c) chymeradwyo
dileu’r achos Ardrethi Annomestig Cenedlaethol fel y nodir yn Atodiad 5 i’r
adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 290 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet a
nododd yr aelodau eitem ychwanegol at fis Medi ynglŷn â Rheolau
Gweithdrefnau Contractau. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r
Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYMERADWYO CYTUNDEB GOFAL YN Y CARTREF GOGLEDD CYMRU PDF 199 KB Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) ynglŷn a chanlyniad yr ymarfer caffael diweddar ar gyfer Cytundeb Gofal yn y Cartref Gogledd Cymru a chymeradwyo a gwrthod rhai tendrau penodol a ddynodwyd o fewn y adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo
tendrau 23 o gyflenwyr ac yn gwrthod tendrau 2 gyflenwr am y rhesymau y manylir
arnynt o fewn yr Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Cytundeb Fframwaith (Atodiad 1
yn yr adroddiad), a (b) chadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried y Ffurflen Gomisiynu wreiddiol (Atodiad 2
yn yr adroddiad) a’r Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer y tendr Gofal Cartref
rhanbarthol (Atodiad 3 yn yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad
a’r atodiadau cyfrinachol ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer caffael ar gyfer
Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru, a’r argymhelliad y dylid cymeradwyo rhai
tendrau penodol a gwrthod rhai eraill. Cyngor Sir Ddinbych fu’n arwain yr ymarfer caffael
ar ran y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. Hwn oedd yr ail ymarfer caffael a gynhaliwyd ar gyfer y Cytundeb,
gan gynnig cyfle arall i dendrwyr er mwyn dod â mwy o ddarparwyr i’r sector
gofal. Darparwyd manylion y drefn gaffael, ac ar sail hynny argymhellwyd derbyn
tendrau 23 o ddarparwyr, a gwrthod dau dendr am y rhesymau a nodwyd yn yr
atodiad cyfrinachol i’r adroddiad. Bu’r Cabinet yn trafod yr ymarfer caffael
diweddaraf a chanlyniad y drefn honno, ynghyd ag argymhellion yr adroddiad a’r
rhesymau, ac felly – PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cymeradwyo
tendrau 23 o gyflenwyr ac yn gwrthod tendrau 2 gyflenwr am y rhesymau a nodwyd
yn yr Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Cytundeb Fframwaith (Atodiad 1 i’r
adroddiad); a (b) chadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried y Ffurflen Gomisiynu wreiddiol (Atodiad 2 i’r
adroddiad) a’r Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer y tendr Gofal Cartref
rhanbarthol (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. [Yn y fan hon, gadawodd y Cynghorydd Richard
Mainon y cyfarfod] |
|
PENODI CONTRACTWYR AR GYFER FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW AC AILWAMPIO TAI GWAG Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion am ganlyniad y broses gaffael ar gyfer y Fframwaith Tai Gwag ac argymell penodi contractwyr. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Penodi’r contractwyr fel yr
argymhellir a manylir yn Nhabl 1, paragraff 3 yr adroddiad, sydd wedi cael ei
werthuso yn unol â'r fethodoleg sgorio a phwysoli a fanylir o fewn y dogfennau
tendro, ar gyfer Fframwaith Tai Gwag yn ôl y telerau a amlinellir o fewn yr adroddiad,
ac (b) ar gyfer Lot 1 a
2, dim ond pedwar contractwr sydd wedi cael eu dewis a chedwir yr hawl i
ddefnyddio Sefydliad Llafur Uniongyrchol y Cyngor ar rai o’r gwaith unedau
gwag; y bwriad yw defnyddio Sefydliad Llafur Uniongyrchol mewnol y Cyngor gyda
chefnogaeth contractwyr enwebedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad cyfrinachol ynglŷn â chanlyniad y broses gaffael ar gyfer y
Fframwaith Tai Gwag, a’r argymhellion ynghylch penodi contractwyr. Wrth i denantiaid Gwasanaeth Tai’r Cyngor symud,
daeth deuai oddeutu 250 o dai’n wag bob blwyddyn, ac fe gâi’r rheiny eu
hadnewyddu yn ôl y safonau newydd ar gyfer eu gosod i denantiaid eraill. Byddai Fframwaith Tai Gwag yn arbed costau
ac amser o wneud gwaith ar dai gwag, ac yn galluogi’r Cyngor i wella’r
gwasanaeth a chodi safonau. Yn dilyn trefn gaffael gystadleuol roedd yn ofynnol i’r Cabinet benderfynu
penodi’r contractwyr yn unol â’r telerau a nodwyd yn yr adroddiad. Bu’r Cabinet yn trafod defnyddio is-gontractwyr,
gan ystyried yr argymhelliad i benodi dau gwmni o’r tu allan i’r ardal. Rhoddwyd sicrwydd o ran budd cymunedol a
chyflogi gweithwyr lleol, a oedd wedi’u cynnwys yn y polisi caffael a’r broses
dendro, a byddai monitro’n parhau yn hynny o beth. Nodwyd hefyd, ar gyfer Lotiau 1 a 2, mai
dim ond pedwar o gontractwyr a ddetholwyd gan mai’r bwriad oedd defnyddio’r
Gweithlu mewnol a phenodi contractwyr dethol i’w gefnogi. Ar sail awgrym gan y Cynghorydd Barry
Mellor, cytunodd y swyddogion i ystyried dulliau o liniaru ar broblemau oedd a
wnelont â gwylanod wrth adnewyddu tai yn y dyfodol. PENDERFYNWYD – (a)
penodi’r contractwyr fel yr
argymhellir a manylir yn Nhabl 1, paragraff 3 yr adroddiad, sydd wedi cael ei
werthuso yn unol â'r fethodoleg sgorio a phwysoli a fanylir o fewn y dogfennau
tendro, ar gyfer Fframwaith Tai Gwag yn ôl y telerau a amlinellir o fewn yr
adroddiad; ac (b) dethol dim ond
pedwar o gontractwyr ar gyfer Lot 1 a 2, a chadw’r yr hawl i ddefnyddio
Gweithlu Uniongyrchol y Cyngor ar gyfer rhywfaint o’r gwaith mewn unedau gwag;
y bwriad oedd defnyddio Gweithlu mewnol y Cyngor a phenodi contractwyr dethol
i’w gefnogi. Soniodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill mai hwn oedd y tro olaf i Richard Weigh, y
Pennaeth Cyllid, ddod i gyfarfod y Cabinet, a thalodd deyrnged i’w
broffesiynoldeb a’r gwasanaeth gwerthfawr a roes i’r Cyngor am flynyddoedd
lawer. Diolchodd i’r Pennaeth Cyllid ar ran yr aelodau
eraill, a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm. |