Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott ymddiheuriadau am ei fod wedi bwriadu
mynychu. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Peter Scott wedi rhoi ei ymddiheuriadau gan ei fod wedi
bwriadu mynychu. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2019 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019. PENDERFYNWYD
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019 yn cael eu derbyn a’u
cadarnhau fel gwir gofnod. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD SIR DDINBYCH - STRATEGAETH A FFAFRIR DRAFFT PDF 309 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol
Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi ynghlwm) yn cyflwyno
argymhellion y Grwp Cynllunio Strategol mewn perthynas â Strategaeth a Ffefrir
Ddrafft y CDLl Newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
argymell argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol i’r Cyngor ynglŷn
â’r Strategaeth Ddewisol CDLl Newydd Drafft fel a ganlyn - (a) Lefelau Arfaethedig o Dwf Drafft: 68ha o dir cyflogaeth i gynnal rhagofyniad tir o 47.6ha. Tir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd i gwrdd â'r gofyniad tai o 3,275. (b) Dull Gofodol Arfaethedig Drafft: Yn seiliedig ar Opsiwn 3 -
canolbwyntio ar ddatblygu yn Safle Strategol Bodelwyddan ac aneddiadau â
gwasanaeth; y tair haen uchaf yn yr hierarchaeth aneddiadau (prif ganolfannau,
canolfannau lleol a phentrefi) gyda thwf mwy cyfyngedig yn yr aneddiadau heb
wasanaethau eraill (mewnlenwi a safleoedd bach o fewn ffiniau datblygu), yn
canolbwyntio’n bennaf ar gwrdd ag anghenion lleol (c) i argymell y Strategaeth a Ddewisir Drafft (Atodiad 2 o'r adroddiad) yn ei
gyfanrwydd i'r Cyngor, a (d) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn
rhoi manylion y Gwaith a wnaed hyd yma ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd
Sir Ddinbych ac argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol mewn perthynas â’r
Strategaeth a Ffafrir Drafft ar gyfer yr CDLl. Byddai’r CDLl Newydd yn darparu
polisïau cynllunio cyfoes a dyraniadau safle ar gyfer datblygiadau i fynd i’r
afael â materion ac anghenion yn y sir ar gyfer y cyfnod 2018 - 2033. Yn gryno,
gosododd y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft - Lefelau
Twf Arfaethedig Drafft – ·
68ha o dir cyflogaeth i
ddarparu ar gyfer gofyniad tir a ragwelir- o 47.6ha ·
Tir ar gyfer 3,775 o gartrefi
newydd i fodloni gofyniad tai o 3,275 o gartrefi Dull
Gofodol Arfaethedig Drafft – ·
Canolbwyntio datblygiad ar
Safle Strategol Bodelwyddan a’r aneddiadau a wasanaethir: y tair haen uchaf yn
yr hierarchaeth aneddiadau (prif ganolfannau, canolfannau lleol a phentrefi)
gyda thwf mwy cyfyngedig mewn aneddiadau eraill heb eu gwasanaethu (safleoedd mewnlenwi
a safleoedd bach mewn ffiniau datblygu), sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fodloni
anghenion lleol. Darparodd yr adroddiad rywfaint o gefndir mewn perthynas â sefydlu ac
aelodaeth o’r Grŵp Cynllunio Strategol ynghyd â datblygu’r Strategaeth a
Ffafrir Ddrafft o ran datblygu opsiynau twf a gofodol a gosod y cyd-destun ar
gyfer dynodi faint o dir datblygu oedd yn ofynnol ar gyfer tai a chyflogaeth ac
ymhle y dylid lleoli’r datblygiad hwnnw. Cytunodd mwyafrif y Grŵp
Cynllunio Strategol i argymell lefelau twf a ffafrir, y dull gofodol
arfaethedig a’r ddogfen Strategaeth a Ffafrir Ddrafft gyflawn i’r Cabinet a’r
Cyngor. Cefnogodd y Cadeirydd a
chynrychiolydd Grwpiau Ardal Aelodau Elwy y ffigur twf mewn tai ond nid y ffigur
tir cyflogaeth felly trwy oblygiad, ni wnaeth hefyd gefnogi’r dull gofodol. Ystyriodd
y Cabinet yr adroddiad a’r argymhellion
a roddwyd gerbron gan y Grwpiau Cynllunio Strategol a chanolbwyntiodd y ddadl
ar y meysydd canlynol - ·
Cydnabyddodd y swyddogion yr
angen i ddarparu ar gyfer safle trosglwyddo Sipsiwn a Theithwyr trwy broses yr
CDLl a oedd yn cynnwys nifer o gamau a byddent yn cael eu cynnwys yng ngham yr
CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd ynghyd â phob dyraniad safle arall. · Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Thomas at faterion a godwyd gan rai Grwpiau Ardal Aelodau a theimlai y byddai’n ddarbodus gohirio ystyriaeth o’r eitem i alluogi ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hynny a hefyd i adlewyrchu’n well anghenion busnesau bach a oedd yn hollbwysig i economi Sir Ddinbych. Ar wahoddiad y Cadeirydd, y Cynghorydd Emrys Wynne, crynhodd cynrychiolydd Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun ar y Grŵp Cynllunio Strategol bryderon Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun mewn perthynas â’r gostyngiad potensial yn swm y tir cyflogaeth sydd ar gael yn Rhuthun a’r effaith andwyol dilynol ar yr ardal a ymhelaethwyd ymhellach arni gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Eglurodd y swyddogion fod ffigurau tir cyflogaeth yn y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft wedi rhoi syniad bras o’r lefelau twf arfaethedig a fu’n seiliedig ar adroddiad y BE Group a oedd wedi ystyried y safleoedd mewn rhywfaint o fanylder ac esboniwyd y rhesymeg y tu cefn i’r argymhellion o ran safleoedd Rhuthun yng Nglasdir a Lôn Parcwr. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd unrhyw ddyraniadau safle’n cael eu cynnig ar hyn o bryd ac os oedd y Strategaeth a Ffafrir Ddrafft yn cael ei chymeradwyo am ymgynghoriad, byddai cyfle am adborth ac i roi gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo a cheisiadau gan Grwpiau Ardal Aelodau i ailymweld â’r dyraniad safleoedd cyflogaeth yn cael eu darparu ar eu cyfer. Yn ddiweddar, rhoddodd Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn safle cyflogaeth botensial gerbron i’w gynnwys yn yr CDLl a chalonogwyd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby
Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a'r Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn
amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet argymell i’r Cyngor eu bod yn cefnogi achos busnes a sefydliad
Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol ar gyfer amrywiaeth o
weithgareddau/swyddogaethau hamdden 'o fewn cwmpas' y cytunwyd arnynt eisoes
ynghyd â'r awdurdodiadau cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: CYTUNWYD bod y Cabinet yn
argymell bod y Cyngor yn - (a) Cefnogi’r Achos Busnes terfynol ar gyfer y Prosiect (bydd hyn yn cynnwys
cywreinio'r achos busnes drafft wedi’i atodi yn Atodiad A o’r adroddiad); (b) cefnogi sefydlu Cwmni Cyfyngedig drwy Warant Masnachu Llywodraeth Leol
Dielw (LATC); (c) cefnogi penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i
Fwrdd y LATC; (d) Cefnogi cadw’r enw presennol ‘Hamdden Sir Ddinbych' ar gyfer y LATC, a (e) bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr
Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B Rhif Cyfeirnod 564 yn yr adroddiad) fel
rhan o'i ystyriaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd yn gofyn
i’r Cabinet ystyried yr Achos Busnes drafft (atodiad cyfrinachol ynghlwm â’r
adroddiad) i sefydlu Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol ar gyfer ystod o weithgareddau/swyddogaethau
cysylltiedig â hamdden “mewn cwmpas” a gytunwyd yn flaenorol ynghyd ag
awdurdodiadau cysylltiedig cyn adrodd yn ffurfiol i’r Cyngor er mwyn i’r
arbedion disgwyliedig allu cael eu cyflawni o flwyddyn ariannol 2020/21. Ailadroddodd y Cynghorydd Feeley
werth a phwysigrwydd darpariaeth gwasanaeth hamdden y Cyngor o ran iechyd a
lles pobl ac amlygodd y buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau hynny yn
ddiweddar. Esboniwyd y rhesymeg y tu cefn i sefydlu Model Cyflwyno Amgen er
mwyn darparu arbedion sylweddol i’r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni
wrth alluogi i’r gwasanaeth hefyd fasnachu’n fwy masnachol er mwyn helpu cynnal
cyfleusterau i’r dyfodol. Byddai’r model yn galluogi dull mwy hyblyg, arloesol
ac entrepreneuraidd o droi at hamdden fasnachol wrth alluogi’r Cyngor hefyd i
gadw rheolaeth lwyr gyda threfniadau llywodraethu grymus wedi’u cynnig.
Cyfeiriwyd at Gynghorau eraill a oedd eisoes yn defnyddio modeli cyflwyno amgen
tebyg i gyflwyno ystod o swyddogaethau ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd a darparwyd
trosolwg o ran sut byddai Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol yn gweithredu’n
ymarferol. Adroddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ar yr ystyriaethau
ariannol y manylwyd arnynt yn gynhwysfawr yn yr adroddiad yn amlygu’r arbedion
sylweddol a’r costau gweithredol a wariwyd ar y cwmni newydd ynghyd â
chyfrifoldebau rheoli ariannol wrth symud ymlaen. Yn gryno, amcangyfrifwyd bod
yr arbedion yn £1,107,000 gyda'r arbediad blynyddol net yn y flwyddyn gyntaf
wedi’i amcangyfrif i fod yn £800,000. Gofynnodd y Cynghorydd
Mark Young am gadarnhad o delerau ac amodau staff ar gyfer y rheiny a fyddai’n
cael eu trosglwyddo i’r cwmni newydd, oherwydd codwyd y cwestiwn ar ôl cyfarfod
â’r undebau. Byddai’r staff yr effeithir arnynt yn cael eu trosglwyddo i Gwmni
Masnachu’r Awdurdod Lleol dan reoliadau
TUPE ac yn destun yr un telerau ac amodau. Cynghorwyd y Cabinet hefyd, er bod y
model cyfredol yn gysylltiedig â gweithgareddau swyddogaethau cysylltiedig â
hamdden benodol, roedd cyfleoedd potensial i ychwanegu
gweithgareddau/swyddogaethau eraill yn y dyfodol fel y bo’n briodol. Nododd y Cabinet yr arbedion ariannol sylweddol sy’n codi o’r cynnig
ynghyd â buddiannau tymor hwy i helpu diogelu hyfywedd ariannol ac ansawdd
gwasanaethau hamdden wrth symud ymlaen gyda’i gilydd a chyfleoedd am dwf i’r
dyfodol. Codwyd cwestiynau mewn perthynas â’r amryw agweddau ariannol sy’n codi
o’r adroddiad ynghyd â threfniadau llywodraethu a ystyriwyd yn elfen allweddol
wrth gyfrannu at lwyddiant Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol i’r dyfodol.
Gofynnwyd am sicrwydd hefyd o ran rheoli risgiau dynodedig a diogelu telerau ac
amodau staff wrth drosglwyddo ac yn y dyfodol. Ymatebodd
yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn – · Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young sut y byddai llif arian y busnes newydd yn llifo. Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid o ran sicrhau llif arian digonol yn y camau cyntaf a symud ymlaen, y bwriad oedd bod cymhorthdal y Cyngor yn cael ei dalu ymlaen llaw a fyddai’n caniatáu cyfalaf gweithio LATC i reoli ei faterion a hefyd i drosglwyddo cronfa arian parod i alluogi rhyddid i’r cwmni ynghylch buddsoddiad bach – ni rhagwelir y bydd y cwmni yn mynd dros y gyllideb, ond petai’n digwydd yna byddai’r ffigur arbedion net yn cael ei leihau yn unol â’r swm hwnnwgellir cymryd sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau llywodraethu grymus a gynigiwyd gyda dau fwrdd ar wahân (1) Bwrdd Gweithredol i reoli rhediad y cwmni o ddydd i ddydd, a (2) y Bwrdd Llywodraethu Strategol i ddarparu goruchwyliaeth strategol. Bydd cytundeb 10 mlynedd yn cael ei gytuno, ynghyd â strategaeth ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac (b) yn nodi defnydd arfaethedig y gwasanaeth wrth gario mlaen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn rhoi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllideb gytûn. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18) ·
rhagwelwyd
tanwariant o £0.287m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygodd
risgiau cyfredol ac amrywiadau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparodd ddiweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd nodi’r defnydd
arfaethedig o gario gwasanaeth ymlaen fel y manylwyd yn yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet fod y rhan fwyaf o’r
prosiectau cyfalaf mawrion wedi aros yn unol â’r gyllideb ac ar y trywydd iawn.
O ran Ysgol Llanfair, roedd y gwaith adeiladu ar y safle ar y trywydd iawn i
gael ei gwblhau o fewn cyfnod y contract. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn y
broses o gytuno rhyddfraint er mwyn gallu mynd at y draen budr ar dir trydydd
parti i ddarparu’r cysylltiad dŵr budr â safle’r ysgol newydd. Arwyddwyd y rhyddfraint gan y Cyngor ac
roedd gydag ymddiriedolwyr y perchennog tir i’w adolygu ar hyn o bryd. Hyd nes
i’r rhyddfraint gael ei gwblhau, ni allai gwaith oedd yn aros i gael ei
gyflawni gael ei gynllunio yn y rhaglen adeiladu na’i gyflwyno i Ddŵr Cymru. O ganlyniad, roedd oedi potensial
gyda’r prosiect oherwydd yr amgylchiadau allanol hynny a oedd gan mwyaf y tu
allan i reolaeth y Cyngor. Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn gobeithio
cael ateb cyflym i’r trafodaethau trydydd parti er mwyn osgoi unrhyw oedi
posibl gyda’r prosiect. Cyfeiriodd yr Arweinydd at Ailddatblygiad Marchnad
y Frenhines y Rhyl a diolchodd i Lywodraeth Cymru am y cymorth ariannol a
ddarparwyd i alluogi ar gyfer prynu’r safle i’w ddatblygu a’i adfywio i’r
dyfodol yn y Rhyl. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r cyllidebau a
osodwyd ar gyfer 2018/19 a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn, ac (b) yn nodi’r defnydd
arfaethedig o gario gwasanaethau ymlaen. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 364 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w ystyried a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
Symud
Cytundeb Llywodraethu Cais am Dwf y Gogledd 2 o fis Mai ·
Fframwaith
Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Gwaith Tai Gwag – i’w ychwanegu ar gyfer mis Mai PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod am yr eitem fusnes ganlynol oherwydd y
byddai’n cynnwys datgeliad tebygol o wybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad
Paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
NEWIDIADAU I BENODIADAU CONTRACTWYR I FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU (NWCF2) Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion am newidiadau i ganlyniad
proses NWCF2 a phenodiad contractwyr wedi’u hargymell. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y newid i Lot 3 a’r contractwyr a nodir ym mharagraff 3 o’r adroddiad ar gyfer
Fframwaith Contractwyr Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion Gogledd Cymru 2 yn cael
eu cymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol yn rhoi manylion newidiadau i broses canlyniad Fframwaith
Adeiladu 2 Gogledd Cymru (NWCF2) ac argymhellwyd penodi contractwyr i’w
defnyddio ar gyfer gwaith adeiladu mawr o dros £250,000. Cymeradwyodd y Cabinet benodiad y contractwyr a enwir i Fframwaith
Adeiladu 2 Gogledd Cymru ar 26 Chwefror 2019. Ers hynny, mae un o’r contractwyr
wedi’i eithrio o’r broses gaffael ac yn dilyn hynny, ceisiwyd cymeradwyaeth i
benodi’r contractwr nesaf a raddiwyd i’r lle a oedd wedi mynd yn wag yn Lot 3
fel y manylwyd yn yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet y newidiadau i ganlyniad y
broses gaffael a nodwyd er bod contractwr gwahanol wedi’i gynnig, byddai'r un
amodau’n berthnasol ac roedd yr effaith ar y Cyngor yr un fath. O ganlyniad - PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r newid i Lot 3 a phenodi’r contractwr a enwyd yn ôl manylion
paragraff 3 yr adroddiad i Fframwaith Adeiladu 2 Gogledd Cymru. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.55 o’r gloch. |