Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26
Chwefror 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019. Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 4 Cofnodion (Materion yn Codi) –
Cabinet 30 Hydref 2018 (Darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr) – Adroddodd y
Cynghorydd Peter Scott ar ei gyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cymunedau i drafod yr adroddiad ymgynghori cyn cynllunio. Roed yn teimlo nad oedd yr adroddiad wedi bod
yn agored a thryloyw ac roedd yn bryderus fod sylwadau a gwrthwynebiadau pwysig
gyda chyfiawnhad wedi cael eu diystyru gyda chamau lliniaru aneffeithiol ac
amhriodol wedi’u cynnig. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Scott y byddai’n ymhelaethu mwy ar ei bryderon o dan yr eitem ar y
rhaglen ynghylch Darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR PDF 225 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio
a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig), yn diweddaru'r Cabinet ar yr ymarfer
ymgynghori cyn cynllunio o ran darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a
sefydlog, a chyflwyno’r dewisiadau ar gyfer bwrw ymlaen â’r prosiect. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi
dadansoddiad o’r ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gwblhawyd mewn perthynas â
safleoedd preswyl a thramwy arfaethedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar safle
Fferm Greengates (Dwyrain) yn Llanelwy
fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn. (b) yn nodi argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth
2019 fel y nodwyd ym mharagraff 8.4 yr adroddiad; (c) wrth ymateb i’r
pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn cynllunio ynglŷn ag
agosrwydd y safleoedd i’w gilydd, diffyg ymgynghoriad arwyddocaol gyda’r Gymuned Deithiol gan
gydnabod yr angen blaenoriaethol ar gyfer y teulu preswyl, bod y Cabinet yn
cytuno i beidio â symud ymlaen gyda'r safle tramwy Sipsiwn a Theithwyr ar Fferm
Greengates (Dwyrain) trwy gais cynllunio ffurfiol, a bod lleoliad y safle
datblygu arfaethedig hwn yn cael ei benderfynu trwy broses ddyrannu safle
ffurfiol fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol newydd; (d) wedi ystyried yr
opsiynau ar gyfer y safle preswyl i Sipsiwn a Theithwyr, cytuno i symud ymlaen
â datblygiad safle preswyl Sipsiwn a Theithwyr Fferm Greengates (Dwyrain)
drwy’r broses cais cynllunio ffurfiol yn y lleoliad a nodir yn Atodiad 3 yr
adroddiad, ac y dylai’r cais cynllunio ffurfiol gynnwys fel cefndir wybodaeth
gefnogol yr holl wybodaeth statudol yn ogystal ag asesiadau effaith busnes a
phreswyl a mesurau addas ar gyfer lliniaru lle bo hynny'n angenrheidiol; (e) pa bynnag
opsiynau sy’n cael eu dewis i bennu lleoliad ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy, na chaiff y safleoedd hynny eu datblygu yn agos
i’w gilydd; (f) nad yw’r Cabinet
yn argymell dyrannu safle tramwy yn Fferm Greengates (Dwyrain) fel rhan o
broses y Cynllun Datblygu Lleol, a (g) yn cadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad
5 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet
yn dilyn yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gynhaliwyd mewn perthynas â
darparu safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac amlinellu’r
opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r prosiect ac argymhellion mewn perthynas â
cham nesaf y prosiect. Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i'r swyddogion am eu
gwaith caled yn hynny o beth. Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir yn yr adroddiad, gan gynnwys gofyniad statudol y
Cyngor i gynnal asesiad o anghenion llety preswyl a thramwy ar gyfer sipsiwn a
theithwyr a gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd pan nodwyd angen. Roedd yr
asesiad wedi nodi'r angen am un safle preswyl ac un safle tramwy ac yn dilyn
proses gynhwysfawr o ddewis safleoedd, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cynnal
ymgynghoriad cyn-gynllunio ar y cynnig i leoli'r ddau safle ar Greengates
Farm East, Llanelwy. Darparwyd manylion yr ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys
dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd, yn yr adroddiad ynghyd ag
argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ôl ystyried yr ymarfer ymgynghori
cyn cynllunio a dadansoddiad o ymatebion. Argymhellodd yr
adroddiad fod y Cabinet yn cytuno i beidio â symud ymlaen â'r safle tramwy yn Greengates
Farm East a bod y lleoliad yn cael ei benderfynu drwy'r broses ffurfiol o
ddyrannu safleoedd fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd.
Argymhellwyd hefyd y dylai'r Cabinet ystyried a ddylid datblygu safle preswyl
yn Greengates Farm East trwy gais cynllunio ffurfiol neu drwy
broses y CDLl. Mewn unrhyw achos, argymhellwyd na ddylid lleoli'r safleoedd
tramwy a phreswyl yn agos at ei gilydd. Trwy gyflwyniad
power point, gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y pwyntiau canlynol – ·
ail-bwysleisiwyd dyletswyddau statudol a
deddfwriaeth berthnasol y Cyngor yn hynny o beth ·
darparwyd trosolwg o'r cynigion ar wahân ar gyfer
safleoedd preswyl a thramwy ·
rhoddwyd trosolwg o'r broses ymgynghori cyn
cynllunio ·
rhoddwyd crynodeb o weithgarwch lleol o amgylch yr
ymgynghoriad ·
amlygwyd y pryderon Cydraddoldeb a godwyd fel rhan
o'r ymgynghoriad ·
darparwyd trosolwg a dadansoddiad o'r ymatebion a
dderbyniwyd a'r materion a godwyd. Wrth gloi dywedodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai barn y swyddogion oedd y gellid lliniaru'r
materion cynllunio perthnasol yn foddhaol a bod ymchwil yn awgrymu nad oedd yr
effeithiau canfyddedig yn debygol o ddigwydd. Cadarnhaodd yr
Arweinydd fod cyfrifoldebau statudol y Cyngor yn glir o ran darparu llety i
Sipsiwn a Theithwyr a rhaid i'r Cabinet fod yn fodlon mai'r lleoliad
arfaethedig oedd yr un cywir ar gyfer y safleoedd hynny. Ychwanegodd na fyddai
dadl ar sefyllfa teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y datblygiadau posibl. Rhoddodd y Cynghorydd
Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, drosolwg o'r ddadl graffu
ar yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio ac adborth yn ystod y cyfarfod ar 14
Mawrth 2019 ac ymhelaethodd ar y rhesymeg y tu ôl i'w hargymhellion i'r Cabinet
“(i) nad yw’r safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu datblygu yn agos at ei gilydd, ble
bynnag y meant yn cael eu lleoli, a (ii) bod lleoliad y safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu penderfynu drwy broses barhaus y Cynllun
Datblygu Lleol”. Fel pwynt o eglurhad cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones
y byddai'r CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu yn 2021 ar gyfer y cyfnod hyd at
2033. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r Cabinet yn ystyried safbwynt y
pwyllgor craffu yn ofalus a’i fod yn gwerthfawrogi eu mewnbwn i'r broses gwneud
penderfyniadau. Roedd y prif
feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol – · Adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y broses ymgynghori gynhwysfawr ac ymhelaethodd ar bryderon y gymuned fusnes, gan nodi tystiolaeth o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) yn nodi'r
defnydd arfaethedig o arian a ddygwyd ymlaen o ran gwasanaethau, ac (c) yn cymeradwyo
cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium Street a John Street Y Rhyl fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y manylwyd yn yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni.
Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd
£194.418m (£189.252m yn 2017/18) ·
rhagwelwyd gorwariant o £0.487m ar gyfer cyllidebau
gwasanaeth a chorfforaethol ·
tynnu sylw at risgiau ac amrywiannau cyfredol sy'n
ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparu diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw
Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun
Corfforaethol). Gofynnwyd i'r
Cabinet hefyd nodi bod y defnydd arfaethedig o gyllidebau a gaiff eu cario
drosodd gan wasanaethau a chymeradwyo'r cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium
Street a John Street, Y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol ac a nodwyd yn yr adroddiad. Codwyd y materion
canlynol yn ystod y drafodaeth – ·
rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i'r Cabinet gan
ddweud bod y duedd ar i lawr o ran y pwysau cyllidebol yn ystod yr ychydig
fisoedd diwethaf wedi digwydd yn bennaf oherwydd y camau cadarnhaol a gymerwyd
gan uwch swyddogion wrth reoli gwariant i sicrhau sefyllfa fwy cadarn yn y
dyfodol. ·
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod Dawnus
Construction, a oedd wedi is-gontractio’r contract cynnal a chadw pont Pont y
Ddraig allan, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar. Darparwyd sicrwydd
bod mesurau dros dro wedi eu gweithredu i sicrhau bod y bont yn gweithredu'n
effeithiol a'i bod yn cael ei chynnal a'i chadw'n iawn cyn dyfarnu contract
cynnal a chadw ffurfiol. ·
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd hefyd fod Dawnus Construction yn un o'r cynigwyr
llwyddiannus ar Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru ac adroddodd ar drafodaethau
gyda'r gweinyddwyr ynghylch eu sefyllfa a'u cyfreithlondeb ynghylch y broses
honno a gwaharddiad posibl Dawnus o'r fframwaith – pe byddai’n cael ei wahardd,
mae'n debyg y byddai Dawnus yn cael ei ddisodli gan y cyflenwr â’r sgôr uchaf
nesaf. ·
roedd cyfeiriad at orwariant yn ymwneud ag SC2
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ac eglurodd y Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a
Thai nad oedd gorwariant ar SC2 ac eglurodd fod y gwasanaeth, yn hytrach na
gofyn am arian corfforaethol, wedi dewis cynnwys y costau sefydlu cyfan. Roedd
y ddarpariaeth ar gyfer costau sefydlu wedi ei chynnwys yn yr achos busnes
gwreiddiol ac roedd y gwasanaeth cyfan wedi cyflawni gormod i gynnwys y costau
sefydlu hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth
gyllideb y cytunwyd arni; (b) nodi'r
defnydd arfaethedig o gyllidebau a gaiff eu cario drosodd gan wasanaethau, a (c) chymeradwyo'r
cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium Street a John Street, Y Rhyl fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 283 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 pm. |