Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd Cofnodion: Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol:
Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 22 Ionawr 2019 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019. Materion yn codi -
Tudalen 6, Eitem 4 Cofnodion (Materion yn Codi) - Cabinet 30 Hydref 2018
(Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr) - Diolchodd y Cynghorydd Peter Scott
i'r Arweinydd am y datganiad diweddar i'r wasg yn darparu'r wybodaeth
ddiweddaraf ar y safleoedd sipsiwn a theithwyr arfaethedig a chadarnhau ei fod
yn edrych ymlaen at y cyfarfod adroddiad darpariaeth gyda Chyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau’r wythnos ganlynol. Mewn
ymateb i’w gais bod y mater yn cael ei atgyfeirio i’r pwyllgor craffu
cadarnhawyd y byddai’r mater yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau
ar 14 Mawrth 2019. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol dros Safonau
Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu nifer o bolisïau
cyflogaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo’r
polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y
Cyngor, a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad
i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn argymell mabwysiadu chwe
pholisi cyflogaeth a oedd wedi’u datblygu /diwygio mewn ymgynghoriad â’r
Undebau Llafur cydnabyddedig. Roedd
y chwe polisi’n ymdrin â’r canlynol- (1) Gweithdrefn
Presenoldeb yn y Gwaith (polisi diwygiedig) (2) Canllawiau
Addasiadau Rhesymol (polisi newydd) (3) Polisi
Darfyddiad Mislif (polisi newydd) (4) Polisi
Alcohol a Chamddefnyddio Sylweddau (polisi diwygiedig) (5) Polisi
Dim Ysmygu (polisi diwygiedig) (6) Absenoldeb
Brys wedi’i gynnwys yn y Polisi Amser o'r gwaith (geiriad diwygiedig) Crynhodd
y Cynghorydd Young y broses cyn cyflwyno’r polisïau i’r Cabinet i’w cymeradwyo
a oedd yn cynnwys ymgynghori gyda Gweithgor Polisïau yn cynnwys cynrychiolwyr o
Adnoddau Dynol, adran y Gyfraith a'r Undebau Llafur cyn cyflwyno i'r
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (LJCC) a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr Cyflogwyr
ac Undebau Llafur. Roedd
adborth ar y broses yn gadarnhaol gan yr holl bartïon ac roedd yr LJCC wedi
argymell y polisïau i’r Cabinet i’w mabwysiadu. Darparodd
y Partner Busnes Arweiniol – Datblygu Sefydliadol grynodeb byr o bob polisi, yn
tynnu sylw at y newidiadau arfaethedig o fewn y polisïau oedd yn bodoli eisoes
a'r angen ar gyfer polisïau newydd ynghyd â'r rhesymau dros hynny, a oedd yn
cynnwys newidiadau deddfwriaethol ac eglurder er mwyn sicrhau ymagwedd gyson a
chywir. Ystyriodd
y Cabinet yr adroddiad a nodi bod yr holl bolisïau wedi bod yn destun Asesiad o
Effaith ar Les unigol. Ar
ôl cyfrannu at y broses roedd y Cynghorydd Richard Mainon yn awyddus bod y
polisïau yn cael eu mabwysiadu ac roedd yn canmol y broses a thalu teyrnged i
waith caled y rhai a gyfrannodd at gyflwyno’r polisïau. Ychwanegodd bod effaith lawn y
polisïau wedi’u hadlewyrchu’n gywir yn yr Asesiadau o Effaith ar Les gan gynnwys
cydnabod unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad, ac eglurodd yr elfen o ran
y Polisi Presenoldeb yn y Gwaith a’r posibilrwydd o golli sgiliau posibl drwy
salwch. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
mabwysiadu yn y Cyngor, a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) chyhoeddi
datganiad i alw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gydnabod anawsterau darparu
gwasanaethau statudol yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofyn iddynt
weithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cyllido fel eu
bod yn gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418 miliwn (£189.252miliwn yn
2017/18) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.774 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol ·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6 miliwm a gytunwyd arnynt
gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y
byddai pob arbediad effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai
unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo’r angen ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Codwyd y materion canlynol gan y Cabinet wrth drafod
– ·
Cludiant i’r Ysgol - cyfeiriwyd at y
gorwariant a ragwelir yng nghyllideb cludiant ysgol ac at y trafodaethau
blaenorol a ddylid gosod y gyllideb yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
(HES) neu Wasanaethau Addysg a Phlant (ECS). Eglurwyd
y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad i osod y gyllideb gyda HES o ystyried fod
ECS yn cynnal y broses o asesu i bennu a oedd plentyn yn gymwys i dderbyn
cludiant i'r ysgol, ond roedd y trefniant comisiynu ar gyfer y rhai hynny a
oedd yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnal gan HES oherwydd
yr arbenigedd a’r sgiliau oedd eu hangen ar gyfer trafod y contractau ysgolion. Roedd HES hefyd yn darparu
gwasanaeth tebyg ar gyfer darpariaeth cludiant mewn meysydd gwasanaeth eraill
gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Cydnabuwyd bod cludiant i’r
ysgol yn bwysau ar y gyllideb a oedd angen ei ddatrys lle bynnag y caiff ei
leoli ac fe gytunwyd y dylai unrhyw adolygiad neu drafodaeth bellach am hynny
gael ei gyflawni gyda’r swyddogion y tu allan i’r cyfarfod hwn. ·
Cyllid y Cyngor–- cyfeiriodd
yr Arweinydd at y pwysau gwasanaeth parhaus y mae awdurdodau lleol yn eu
hwynebu ac adroddodd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn parhau i
lobïo
Llywodraeth Cymru gyda’r nod o fuddsoddi mewn gwasanaethau craidd a darparu
cynllun ariannol hir dymor i gynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol. Er bod
y Cyngor yn falch o’i gofnod o ran buddsoddi mewn gwasanaethau megis addysg a
gofal cymdeithasol ac mewn trawsnewid gwasanaethau a datblygu gwydnwch, roedd
hyfywedd a chynaliadwyedd y gwasanaethau lleol mewn perygl oherwydd y toriadau
parhaus a chyson i gyllid llywodraeth leol. Cydnabuwyd y gwaith a wnaed
gan CLlLC ar ran yr awdurdodau lleol yng Nghymru ond roedd y Cabinet yn teimlo
y byddai'n ddefnyddiol cyflwyno datganiad yn tynnu sylw at yr anawsterau
ariannol ac i alw am ddarpariaeth cyllid digonol i sicrhau cynaliadwyedd
gwasanaethau hanfodol yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at adolygiad
o wariant Llywodraeth y DU sydd i ddod, i benderfynu ar y setliad ar gyfer
Cymru ac yn dilyn hynny byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ddyraniadau
cyllid ar gyfer y swyddogaethau datganoledig hynny, gan gynnwys llywodraeth
leol, a bryd hynny efallai y byddai cyfle pellach i ddylanwadu ar benderfyniadau
cyllidebol a lobïo
ar ran y preswylwyr. Mewn
ymateb i gwestiynau gan aelodau nad ydynt yn aelodau Cabinet ynglŷn â
gorwariant amrywiol mewn adrannau gwasanaeth, eglurodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill- · y byddai disgwyl i’r holl wasanaethau gydbwyso eu cyllidebau'n fewnol lle bynnag y bo modd ac roedd mesurau i fynd i'r afael â gorwariant yn ymwneud â phrosiect SC2 wedi'u nodi ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 268 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at y
rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth- Llety Sipsiwn a Theithwyr. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Ar y pwynt hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Mainon y cyfarfod. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
PENODI CONTRACTWYR I FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU 2 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn argymell penodi
contractwyr i Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru 2. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi'r
contractwyr a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad ar gyfer Fframwaith
Contractwyr Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion Gogledd Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol yn argymell penodi’r contractwyr a enwyd i Fframwaith
Adeiladu Gogledd Cymru 2 (NWCF2) i’w defnyddio ar gyfer gwaith adeiladu mawr
dros £250,000. Roedd fframwaith cyntaf cytundeb NWCF wedi dod i
ben ym mis Mai 2018 ac wedi bod yn hynod lwyddiannus. Roedd yr adroddiad yn nodi buddiannau’r
dull cydweithredol ar draws chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, dan arweiniad
Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys arbedion sylweddol o ran costau ac amser. Y bwriad oedd gweithredu’r fframwaith am
gyfnod o bedair blynedd o fis Mawrth 2019 (gyda chymal terfynu i’w adolygu ar
ôl 2 a 3 blynedd). Roedd y contractwyr a argymhellwyd wedi’u gwerthuso yn unol â’r fethodoleg
sgorio a phwysoli a nodwyd yn y dogfennau tendro. Cytunodd y Cabinet bod nifer addas o gontractwyr
ym mhob Lot i ddarparu cystadleuaeth ac yn fodlon nodi cynnydd yn nifer y
contractwyr lleol ar draws y rhanbarth o fewn y fframwaith. Mewn ymateb i gwestiynau ymhelaethodd y
Cynghorydd Thompson-Hill a’r swyddogion ar yr ymgysylltiad helaeth gyda'r
diwydiant adeiladu a'r ymarfer gwersi a ddysgwyd i sicrhau arfer orau ar gyfer
yr ail fframwaith. Darparwyd sicrwydd hefyd o ran monitro ac archwilio prosiectau unigol a
gwneud y mwyaf o ddarparu buddion cymunedol. Llongyfarchodd y Cabinet y swyddogion ar lwyddiant
y fframwaith cyntaf ac ar y gwobrau a enillwyd ynghyd â'r gwaith a wnaed i
sicrhau bod mwy o lwyddiant a buddiannau yn deillio o'r ail fframwaith o ran yr
economi leol, cyfleoedd cyflogaeth a buddion cymunedol. PENDERFYNWYD penodi'r
contractwyr a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad ar gyfer Fframwaith
Contractwyr Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion Gogledd Cymru. Daeth y cyfarfod i ben am 11.05. |