Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitemau 6 ac 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Glenn Swingler – Cysylltiad Personol – Eitemau 5 ac 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Rhys
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd yr
aelodau gysylltiad personol yn yr eitemau a ganlyn - Cynghorydd
Meirick Davies – Eitem 6 ar y Rhaglen fel Cadeirydd Awdurdod Tân Gogledd Cymru
ac Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn rhentu garej gan y cyngor Y Cynghorydd
Glenn Swingler – Eitem 5 ar y Rhaglen fel Gweithiwr Cefnogi ar gyfer pobl gydag
anableddau dysgu ac Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn gynghorydd ar Gyngor
Tref Dinbych Y Cynghorydd Rhys
Thomas – Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn gynghorydd ar Gyngor Tref Dinbych |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim materion brys
wedi eu codi ac angen penderfyniad arnynt. Cofnodion: Dim materion brys
wedi eu codi ac angen penderfyniad arnynt. Roedd cwestiwn
wedi ei dderbyn gan y Cynghorydd Rhys Thomas y cytunodd yr Arweinydd y gellir
delio ag o dan faterion brys. Cyflwynodd y
Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol: “Yn sgil y newyddion fod Hitachi wedi atal eu
gwaith yn y Wylfa Newydd oherwydd costau cynyddol, a yw’r Cabinet wedi ystyried
goblygiadau’r newyddion ar Gynnig Twf Gogledd Cymru gan ei fod yn dibynnu’n
drwm, fel y mae, ar ddau brosiect mawr arall sy’n gysylltiedig â’r diwydiant
niwclear?” Ymatebodd yr
Arweinydd i’r cwestiwn drwy nodi, gan fod y cyhoeddiad ond newydd gael ei wneud
ar ddiwedd yr wythnos flaenorol, nid oedd y Cabinet wedi cael cyfle hyd yma i
ystyried y mater. Fodd bynnag, roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru (NWEAB) wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac Ynni
Niwclear Horizon y diwrnod blaenorol ac wedi rhyddhau’r datganiad canlynol – “Mae’r Bwrdd yn llwyr gefnogol i
ddatblygu atomfa niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn a’r buddion economaidd y
bydd hyn yn ei gynnig i’r rhanbarth cyfan.
Caniatawyd
cwestiwn atodol a holodd y Cynghorydd Rhys Thomas a fyddai unrhyw gyfle i gael
prosiectau ynni adnewyddadwy eraill yng Ngogledd Cymru a fyddai’n fwy
manteisiol i Sir Ddinbych pe na bai’r prosiect yn mynd yn ei flaen. Ymatebodd
yr Arweinydd gan ddweud fod NWEAB yn parhau i gefnogi'r datblygiad ac roedd
trafodaethau’n parhau gyda’r rhai a oedd yn ymwneud â chynnydd y prosiect fel y
bwriadwyd yn wreiddiol os oedd modd.
Os na fyddai modd cyflawni
hynny, byddai cyfleoedd i ailedrych ar brosiectau presennol o fewn y Fargen Dwf
na fyddai angen cymaint o ffocws ar ynni niwclear ar gyfer y rhanbarth. Roedd
hefyd cyfle i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Fargen
Dwf, a fyddai, pe bai’n llwyddiannus, yn galluogi prosiectau eraill i amlygu eu
hunain. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018. Materion yn Codi – Tudalen 8, Eitem 4 y Cofnodion – Cabinet 30 Hydref
2018 (Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr) – holodd y Cynghorydd Peter Scott
ynghylch cynnydd o ran dadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cyflwyno cais
cynllunio, ac o ystyried y sibrydion oedd ar led ynglŷn â’r mater,
gofynnodd am eglurhad i drigolion Llanelwy. Cadarnhaodd
y Cynghorydd Tony Thomas fod y dadansoddiad bron yn gyflawn, nid oedd unrhyw
benderfyniad wedi ei wneud hyd yma, a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno er
mwyn cael penderfyniad yn y Gwanwyn.
I ymateb i’r sibrydion,
cytunodd yr Arweinydd y byddai’n Cyngor yn cadarnhau’r sefyllfa bresennol yn
gyhoeddus. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 fel cofnod
cywir. |
|
STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU GOGLEDD CYMRU PDF 304 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac
Annibyniaeth (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
cyfranogiad Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a oedd yn cynnwys Strategaeth Anabledd
Dysgu Gogledd Cymru 2018 – 2023 a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i
gyfranogiad y Cyngor yn y Strategaeth honno. Datblygwyd
y Strategaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, chwe
chyngor Gogledd Cymru, ac wedi ei chefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd yn cynnwys dull
rhanbarthol o weithio tuag at wasanaethau anabledd dysgu integredig yng
Ngogledd Cymru ac wedi ei llywio gan bobl gydag anableddau dysgu a’u gofalwyr
gyda’r nod o gyflawni gwell ansawdd bywyd i’r rhai hynny sydd ag anableddau
dysgu. Roedd
y Strategaeth yn cynnwys pum maes gwaith ac roedd yn cyd-fynd â blaenoriaethau
corfforaethol y Cyngor. Roedd
y costau darparu wedi eu cefnogi gan werth £1.7m o gyllid Llywodraeth Cymru ac
ni ddylai greu unrhyw bwysau ychwanegol yn lleol. Trafododd
y Cabinet y dogfennau gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion a - ·
ddarparodd sicrwydd ynghylch
materion cydraddoldeb a chael gafael ar wasanaethau ·
cadarnhaodd yr heriau a
gyflwynwyd wrth ddiwallu anghenion ardaloedd gwledig a oedd wedi eu nodi ac
roedd cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i’r perwyl hwnnw i liniaru effeithiau
negyddol o ran diogelu a hyrwyddo annibyniaeth ·
cadarnhaodd y byddai dull rhanbarthol
yn cryfhau gwasanaethau ac nid eu gwanhau ·
eglurodd ddarpariaeth cyllid
grant a oedd yn parhau am flynyddoedd i ddod a’r angen i gyd-fynd â’r galwadau
cynyddol ar wasanaethau. Wrth
ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad oedd yn Aelodau o’r Cabinet, gwnaeth yr
Aelod Arweiniol a swyddogion - ·
gadarnhau y gellid darparu
gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ·
adrodd ar y sefyllfa o
safbwynt o ran ymateb cwmnïau bysiau o safbwynt dangos chwarae teg i bobl gydag
anableddau dysgu drwy hunan-eiriolaeth ·
nodi fod diogelu a’r oes
ddigidol yn fater ehangach ac roedd protocolau pendant ynghylch camdriniaeth ar
y we, a oedd yn fater arall ·
cadarnhau y gellid trefnu
hyfforddiant perthnasol ar gyfer cynghorwyr ·
egluro fod rhaid defnyddio cyllid
rhanbarthol at ddibenion penodol ac roedd un o’r pum maes gwaith yn y
Strategaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu'r gweithlu ·
nodi fod y Strategaeth yn cael
ei chyfieithu ar hyn o bryd a byddai fersiwn Gymraeg ar gael mor fuan â
phosibl. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyfranogiad
Cyngor Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2019/20 PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo
Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a’r Cynllun
Busnes Stoc Dai. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r
adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); ac (b) Cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar
gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu
o ddydd Llun 1 Ebrill 2019. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai. Soniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau am ffigurau’r gyllideb a
rhagdybiaethau lefel yr incwm a oedd wedi’u cyfrifo gan ystyried Polisi
Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai mewn perthynas â thai cymdeithasol a’i
dull ar gyfer cynyddu rhenti. Y cynnydd ar gyfer 2019/20 oedd 2.4% a
byddai’n gadael 40% o gartrefi ar lefelau rhent targed. Daeth
y polisi presennol i ben yn 2018/19 ac roedd y cynnydd ar gyfer 2019/20 yn
bolisi dros dro am flwyddyn ac mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar y
polisi rhent yn y dyfodol ym mis Ebrill 2019. Dangosodd yr adolygiad blynyddol
o’r Cynllun Busnes Stoc Dai ei fod yn parhau’n gadarn ac yn hyfyw’n ariannol ac
roedd digon o adnoddau i gefnogi rheolaeth a goruchwyliaeth o’r gwasanaeth tai
a’r angen am fuddsoddiad yn y stoc. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol - ·
eglurwyd
y gofyniad i gynnwys darpariaeth dyledion drwg ynghyd ag effaith Credyd
Cynhwysol a dull rhagweithiol y Cyngor i’r perwyl hwnnw a darparu cyngor
ariannol a chymorth i denantiaid – nodwyd fod cyfraddau casglu rhent yn
parhau’n uchel ac roedd yr ôl-ddyledion ymhlith y rhai isaf yng Nghymru. ·
o
safbwynt colli incwm ar Dai Gwag, cydnabuwyd ei bod wedi cymryd amser i gwblhau
gwaith i sicrhau fod eiddo gwag o safon uchel - roedd y bendithion yn cynnwys
cyn lleied o amhariad â phosibl i denantiaid yn y dyfodol a chartref o ansawdd
uchel gyda llai o gostau atgyweirio yn y dyfodol, rhywbeth roedd tenantiaid yn
ei werthfawrogi. ·
nodwyd
nad oedd yr adroddiad yn ymdrin â garejys gan nad oedd yn destun Polisi Rhenti
Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei adolygu gan y Pennaeth Gwasanaeth dan
awdurdod dirprwyedig - yn hanesyddol, roedd rhenti garejys yn dueddol o gael eu
cynyddu yn unol â rhenti tai. Teimlai’r
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai rhinwedd i’r Cabinet osod lefelau
rhenti garejys wrth osod lefelau rhent ar gyfer tai. Roedd
yr adolygiad o garejys yn tynnu at ei derfyn, a gofynnodd yr Arweinydd i
aelodau gael eu hysbysu ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, a fyddai hefyd yn
amser priodol i ystyried y pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts ·
derbyniwyd
y gallai Ffederasiwn Tenantiaid a Thrigolion Sir Ddinbych fod yn fwy cynrychioliadol,
fodd bynnag roedd perthynas dda’n bodoli gyda thenantiaid ac roedd cynllun
cyswllt manwl i gael adborth a llywio cynlluniau yn y dyfodol ·
gwerthfawrogwyd
y gallai unrhyw gynnydd rhent gael effaith ar allu rhai tenantiaid i gyflawni
eu hymrwymiadau ariannol a byddai swyddogion yn parhau i helpu cwsmeriaid i
reoli eu cyllid yn effeithiol a chynyddu eu hincwm. Cydnabuwyd yr
angen i sicrhau fforddiadwyedd a gwerth am arian, a dangosodd adborth
cychwynnol gan yr arolwg STAR diweddaraf fod 89% o denantiaid yn ystyried fod
eu cartref yn cynnig gwerth am arian. PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a (b) cynyddu rhent
anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai
Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu o ddydd Llun 1
Ebrill 2019. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y
Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf
2019/20. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r
adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2019/20 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng
Nghynllun Cyfalaf 2019/20 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau
drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau
bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus a oedd hefyd yn cynnwys dyraniadau dros
dro cyn cael cadarnhad o’r cyllid grant cyfalaf cyffredinol ychwanegol o
£1.680m. Mae’r arian grant ychwanegol wedi ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ers
hynny ac felly gallai’r dyraniadau dros dro gael eu cadarnhau hefyd. Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r
cynigion am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe
ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth
Kensler, cadarnhawyd nad oedd rhan o’r dyraniad bloc ar gyfer priffyrdd yn
cynnwys elfen o atgyweirio troedffyrdd a fyddai’n cael ei flaenoriaethu fel
oedd yn briodol gan yr adran honno. PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r
adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2019/20 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i'r Cyngor llawn. Ar y pwynt hwn
(11.30 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION TERFYNOL PDF 507 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad
Llywodraeth Leol 2019/20 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2019/20; (b) cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad sy’n cyd-fynd
â’r cynigion a gyflwynwyd yn y gweithdy cyllideb i’r aelodau a gynhaliwyd ar 11
Ionawr 2019, ac felly’n eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb
2019/20; (c) cymeradwyo’r arbedion sy’n dod i £223k wedi'u rhestru yn Atodiad 2 fel rhan
o’r pecyn cyllideb; (ch) argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 6.35% yn Nhreth y Cyngor, sy’n
cydnabod pwysau cynyddol amrywiol, gan gynnwys cynnydd o ran costau ar
wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o
£2.0m o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth, a (d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar
Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau
Setliad Llywodraeth Leol 2019/20 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2019/20, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Darparodd y Cynghorydd
Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac
ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r cyngor llawn er
mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Roedd y setliad terfynol wedi arwain at
sefyllfa ariannu niwtral, ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral o
safbwynt y pwysau ariannu isafswm, byddai angen i’r setliad fod yn nes at +5%. Roedd
y pwysau’n cynnwys tâl, pensiwn, Cyflog Byw Cenedlaethol, chwyddiant pris/
ynni, ardoll y gwasanaeth tân, lwfansau ar gyfer cynnydd yn y cynllun
gostyngiad Treth y Cyngor, gostyngiad yng Ngrant Gweinyddu’r Adran Gwaith a
Phensiynau ac arian wrth gefn canolog.
Mae pwysau ar y gyllideb mewn
meysydd blaenoriaeth hefyd wedi ei gydnabod gan gynnwys gofal cymdeithasol,
ysgolion a chludiant. Mae cynnydd o 6.35% mewn Treth y Cyngor
wedi ei gynnig er mwyn codi £797,000 yn ychwanegol o’i gymharu â'r cynnydd mewn
Treth y Cyngor yn 2018/19, i’w ddefnyddio fel rhan o’r pecyn cyffredinol i fynd
i’r afael â’r diffyg ar y gyllideb – roedd hyn yn cynnwys £2 filiwn yn
ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol. Diolchodd y Prif Weithredwr i aelodau’r Cabinet a swyddogion am roi pecyn o arbedion at ei gilydd a oedd yn diogelu gwasanaethau rheng flaen am gyhyd â phosibl a hefyd yn cydnabod pwysau o ran galw. Roedd y pecyn wedi ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a datblygu modelau darparu amgen. Cydnabuwyd fod penderfyniadau anodd wedi eu gwneud, gan gynnwys o ran lefel Treth y Cyngor, a chydnabuwyd y byddai’r blynyddoedd i ddod yr un mor heriol. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd aelodau’r Cabinet y cynigion yn fanwl, ynghyd â swyddogion, ac ymatebwyd i gwestiynau amrywiol a oedd yn ymwneud â meysydd penodol o fewn eu portffolios gan gynnwys ystod eang o wahanol faterion. Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn - · y rhesymeg tu ôl i gyfran y dyraniad cyllid ychwanegol arfaethedig i Wasanaethau Cymorth Cymunedol (CCC) a thrafodwyd Addysg a Gwasanaethau Plant (AGP) o ystyried y gwahaniaethiad yn y cyllidebau sail. Nodwyd fod cynigion cyllid wedi eu trafod yn seiliedig ar amcanestyniadau galw ar gyfer y gwasanaethau unigol er mwyn mynd i'r afael yn briodol â materion uniongyrchol ym mhob maes gwasanaeth. Roedd y strategaeth ar gyfer ymdrin â CCC hefyd yn cynnwys defnydd o gronfa wrth gefn benodol i reoli’r pwysau ac roedd argaeledd tebygol cymorth grant ychwanegol ar gyfer 2019/20 wedi ei ystyried hefyd. Roedd CCC ac AGP yn wasanaethau statudol ond, er fod y mwyafrif o wasanaethau i oedolion yn gallu cael eu darparu o fewn y sir, roedd yn rhaid diwallu anghenion rhai plant y tu allan i’r sir mewn darpariaeth arbenigol am gost sylweddol. Roedd £750,000 ychwanegol wedi ei neilltuo i CCC yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac roedd £1.5 miliwn yn ychwanegol wedi ei gynnig ar gyfer 2019/20 – gobeithiwyd fod y dull o godi’r gyllideb sail yn mynd i’r afael â’r mater yn y tymor hir. · mae’r cyngor yn parhau i gefnogi ysgolion drwy ariannu tâl a chwyddiant cysylltiedig ac unrhyw newid mewn perthynas â nifer y disgyblion. Gofynnwyd i ysgolion nodi arbedion gwerth 2% ac er bod hynny’n anodd, cafwyd ymateb cadarnhaol gan benaethiaid drwy’r Fforwm Cyllidebau Ysgolion ac roedd hyder y byddai modd cyflawni arbedion. Mater i ysgolion unigol fyddai asesu effaith yr arbedion a'u gweithredu, a fyddai'n wahanol ar gyfer pob ysgol · o safbwynt yr arbediad arfaethedig o £23,000 yn ymwneud â chostau rhedeg ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418 miliwn (£189.252m yn
2017/18) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.756 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a
chorfforaethol ·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6 miliwm a gytunwyd
arnynt gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth
y byddai pob arbediad effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai
unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Ymatebodd aelodau’r Cabinet i nifer o gwestiynau a
godwyd, gan ymhelaethu ar y rhesymeg y tu ôl i’r gorwariant yn y gwasanaethau
Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata a’r gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd. O safbwynt cludiant i'r ysgol, roedd y
mater o ran a fyddai’n well gosod y gyllideb o fewn Priffyrdd a'r Amgylchedd
neu Addysg a Gwasanaethau Plant wedi ei drafod yn flaenorol er ei fod yn bwysau
a gydnabuwyd a oedd angen mynd i'r afael ag o ble bynnag y byddai'n cael ei
leoli. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 280 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y
rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth – Rhoi Model Darparu Amgen ar waith ar gyfer
gwahanol weithgareddau / swyddogaethau cysylltiedig â hamdden (i gymeradwyo’r
achos busnes). PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar
y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 12, 14 a 15 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
RHOI MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR WAITH AR GYFER GWAHANOL WEITHGAREDDAU / SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN Ystyried
adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol
ar gyfer Lles ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet
ar gyfer y brîff prosiect. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo’r Brîff Prosiect yn amgaeedig i'r adroddiad er mwyn gallu symud
Achos Busnes llawn y Prosiect ymlaen, a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar
Lesiant i ystyriaeth (Atodiad B o’r
adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol ar y cyd
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Briff Prosiect Model Darparu Amgen, i'n
galluogi i fwrw ymlaen â’r achos busnes llawn ar gyfer y prosiect. Amlygwyd gwerth a phwysigrwydd darpariaeth gwasanaeth hamdden y Cyngor a
bod buddsoddiad sylweddol wedi bod yn ei gyfleusterau. Eglurwyd y rhesymeg y tu ôl
i’r prosiect er mwyn cynnal a, gobeithio, gwella’r ddarpariaeth honno o
ystyried y cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu’r awdurdod a’r arbedion sylweddol y
gellid eu cynhyrchu gan ymagwedd o'r fath. Pwrpas y brîff prosiect oedd
ystyried y cwmpas o safbwynt pa weithgareddau / swyddogaethau cysylltiedig â
hamdden y dylid eu symud ymlaen i achosion busnes ar hyn o bryd, tra hefyd yn
cydnabod y cyfleoedd posibl i ychwanegu swyddogaethau / gweithgareddau yn y
dyfodol fel y bo’n briodol. Eglurwyd
y rhesymeg y tu ôl i’r elfennau o’r ddarpariaeth a gynigiwyd eu cynnwys o fewn
cwmpas y brîff prosiect er mwyn adlewyrchu’r busnes hamdden craidd a’r elfennau
hynny a oedd yn cynnig eu hunain i ddull mwy masnachol. Trafododd
y Cabinet rinweddau’r brîff prosiect a chwmpas gweithgareddau yn ymwneud â
hamdden i’w cynnwys fel rhan o’r cam nesaf. Holodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts a fyddai modd defnyddio matrics sgorio i asesu’r elfennau
hynny i’w cynnwys i sicrhau rhesymeg glir y tu ôl i'r penderfyniad i gynnwys
neu hepgor elfennau penodol ynghyd â chostau manwl. Rhoddwyd sicrwydd ynghylch
lefel y manylion a fyddai’n cael eu cynnwys o fewn yr achos busnes. Canolbwyntiodd y drafodaeth
bellach ar elfennau staffio ac adnoddau’r cynnig a rhoddwyd cadarnhad, er fod
angen gwaith pellach o safbwynt datblygu'r costau gweithredol a fyddai’n cael
eu cynnwys fel rhan o’r achos busnes, gellid cyflenwi arbedion ar unwaith o
safbwynt rhyddhad ar drethi busnes ac esemptiadau TAW. O safbwynt yr effaith ar y
Gymraeg, rhoddwyd sicrwydd y byddent yn ymdrin â’r mater fel rhan o unrhyw
drefniadau llywodraethu yn y dyfodol a byddai ymlyniad at bolisi’r Cyngor yn
cael ei gynnwys yn nhelerau ac amodau’r cwmni darparu amgen newydd. Rhoddwyd sicrwydd pellach
hefyd o safbwynt sicrhau bod gwasanaethau hamdden yn parhau’n fforddiadwy i
drigolion o ystyried y ffocws ar ddull mwy masnachol. O safbwynt yr amserlenni, y
bwriad oedd cynnig gwybodaeth ar yr achos busnes i Frîff y Cabinet ym mis
Chwefror, wedi ei ddilyn gan Weithdy Aelodau ym mis Mawrth, rydym yn aros am
benderfyniad ar yr achos busnes sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet ar ôl y
Gweithdy Aelodau gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor ym
mis Ebrill. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cymeradwyo’r
Brîff Prosiect yn amgaeedig i'r adroddiad er mwyn gallu symud Achos Busnes
llawn y Prosiect ymlaen, a (b) yn cadarnhau ei
fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel
rhan o'i benderfyniad. Daeth y cyfarfod i ben am 14.15 pm. |