Agenda and decisions
Lleoliad: Siambr yr Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
CAIS BARGEN TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – ADRODDIAD CYNNYDD PDF 316 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r diweddaraf i’r
Cabinet am ddatblygiad Cais Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth a gofyn am
gymeradwyaeth i barhau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi a
chefnogi’r cynnydd yn natblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol ar gyfer y
rhanbarth; (b) cefnogi mewn
egwyddor, y model llywodraethu a ffafrir, sef model cydbwyllgor statudol ar
gyfer ei ddatblygu ymhellach, gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch
gorchwyl a argymhellir, a Chytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn yn ddiweddarach yn
y flwyddyn. (c) awdurdodi’r
Arweinydd i weithredu fel aelod Sir Ddinbych o Gydbwyllgor ‘Cysgodol’ yn y
cyfnod interim; (d) awdurdodi’r
Arweinydd, ynghyd ag Arweinwyr y 5 cyngor partner arall, i ddechrau
trafodaethau cam cyntaf cyfun gyda’r ddwy Lywodraeth dros raddfa a chynnwys
amlinellol Cais Bargen Twf, gan nodi na ddechreuir unrhyw ymrwymiadau ariannol
nac ymrwymiadau eraill ar y cam cyntaf hwn o drafodaethau a (e) chadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL CYNGOR SIR DDINBYCH 2017-2022 PDF 231 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau (copi'n amgaeedig) ar y Cynllun Corfforaethol drafft cyn
ei gyflwyno i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo’r
Cynllun Corfforaethol drafft sydd bron yn derfynol ar gyfer ei gyflwyno i'r
Cyngor Sir ar 17 Hydref 2017 ac argymell ei fabwysiadu yn ddibynnol ar (1)
fireinio’r geiriad yn derfynol, a (2) cynnwys cynllun ariannol â chymorth, a (b) chadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad B
i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
POLISI CORFFORAETHOL: INCWM, FFIOEDD A THALIADAU PDF 355 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y
Polisi Corfforaethol: Incwm, Ffioedd a Thaliadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod
y Cabinet yn cymeradwyo'r ddogfen 'Polisi Corfforaethol: Incwm Ffioedd
a Thaliadau’ sydd fel atodiad ynghlwm i’r adroddiad hwn. |
|
POLISI ISAFSWM DARPARIAETH REFENIW DIWYGIEDIG 2017 / 18 PDF 283 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ac
argymhellion diwygiadau i Bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2017/18 i’r Cyngor
Sir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo ac
argymell y diwygiadau i’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 – ·
Polisi
ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr
Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyca â chymorth sy’n ddyledus ar 31 Mawrth
2017. Yr hyn gaiff ei gyfrifo yw'r dull 'llinol’ dros 50 mlynedd. ·
Mae
hyn yn cynrychioli newid o Opsiwn 1 (y Dull Rheoli) fel y cymeradwywyd gan y
Cyngor ar 14 Chwefror 2017 Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (y Dull Oes Ased - llinol) i'w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm
Darpariaeth Refeniw ar Fenthyca â chymorth a gafwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
Bydd y cyfrif yn defnyddio’r dull ‘llinol’ dros nifer benodol o flynyddoedd, yn
ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu
buddion. Mae hyn hefyd yn cynrychioli newid o Opsiwn 1 ·
Polisi ar gyfer 2017/18 –
Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm
Darpariaeth Refeniw ar yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca heb
gymorth. Mae hyn yn cynrychioli parhad o’r polisi sydd wedi ei gymeradwyo, (b) Cymeradwyo’r
defnydd o’r arbedion ariannol yn 2017/18 a’r arbedion cyllidebol cylchol o
2018/19 fel y nodir yn y fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig
ac mae crynodeb isod - ·
Arbedion
Ariannol 2017/18 - argymhellir fod yr arbedion ariannol o £1.861m yn cael eu
gosod yng Nghronfa Lliniaru'r Gyllideb er mwyn cynorthwyo i liniaru
effeithiau'r gostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19 ·
Arbedion
parhaus o 2018/19 – argymhellir gostwng y gyllideb ariannu cyfalafol o £1.861m
fel rhan o’r strategaeth i gydbwyso cyllideb 2018/19. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2016/17 PDF 199 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru aelodau ar berfformiad y
swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â
chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi perfformiad
swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17 a’i gydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol
2016/17 (Atodiad 1 i’r adroddiad), a (b) chadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 363 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
PARC DŴR Y RHYL: DYFARNU CONTRACTAU
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi gwybod i’r
Cabinet am ddyfarnu'r contract yn gysylltiedig â datblygiad Parc Dŵr Y
Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. |