Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Eryl Williams – Cysylltiad Personol – Eitemau 7 ac 8 ar y Rhaglen.

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol - Eitem 11 ar y Rhaglen.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Eryl Williams – Personol – Eitemau 7 ac 8 ar y Rhaglen – derbyn rhyddhad ardrethi busnes

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill - Personol - Eitem 11 ar y Rhaglen - aelod o Gyngor Tref Prestatyn

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 152 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 17 Chwefror 2015 (copi ynghlwm). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2015 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2015

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2015 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

CYMERADWYO ACHOS BUSNES TERFYNOL AILDDATBLYGU YSGOL GLAN CLWYD pdf eicon PDF 264 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) yn argymell cymeradwyo Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd i’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn argymell cymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy i'r Cyngor.  Byddai’r prosiect yn darparu adeilad ysgol wedi’i ehangu a’i adnewyddu i ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y Sir.

 

Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw at yr adroddiad cadarnhaol a oedd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn addysg yn y sir a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith caled yn hynny o beth.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones hefyd at effaith gadarnhaol y prosiect ar y gymuned sy'n deillio o well mynediad i Ganolfan Hamdden Llanelwy.  Croesawodd y Cabinet yr adroddiad fel stori newyddion da a thrafodwyd a ellid gwneud mwy i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i fuddsoddiad y Cyngor mewn ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni’r wasg negyddol ynghylch cau ysgolion.  Er bod llawer eisoes yn cael ei wneud yn hynny o beth, teimlai'r Cynghorydd Williams y byddai’n werth rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwahanol gamau wrth gyflwyno prosiectau ysgol, gyda lluniau a darluniau o'r cam cynllunio hyd at adeiladu a chwblhau, yn cynnwys yr ysgol a'r disgyblion.  Roedd yn teimlo y byddai delweddu fel hyn yn ennyn sylw'r cyhoedd yn well ac yn cael mwy o effaith na datganiad i'r wasg.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan gadarnhau bod y gost ychwanegol o gadw'r bloc gwyddoniaeth wedi cael ei lyncu yn y rhaglen gyffredinol, a bod cost y prosiect yn parhau i fod yn £15,900,000. Roedd ardal hefyd wedi'i neilltuo i’w defnyddio gan y Gwasanaethau Hamdden a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y Clwb Ieuenctid.  Yn olaf rhoddwyd sicrwydd bod y rhagamcan o niferoedd disgyblion yn y prosiect hwn, ac fel rhan o'r rhaglen moderneiddio addysg ehangach, wedi cymryd datblygiad Bodelwyddan yn y dyfodol i ystyriaeth, cyn belled â bod modd, a'i effaith ar nifer y disgyblion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

 

 

6.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU GwE pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer trefniadau llywodraethu diwygiedig ar gyfer GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y trefniadau llywodraethu diwygiedig ar gyfer GwE fel y nodwyd yn yr adroddiad ac atodiadau yn cael eu cymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer trefniadau llywodraethu diwygiedig GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol).

 

Roedd y strwythur llywodraethu diwygiedig wedi cael ei lunio mewn ymateb i fabwysiadu Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol gan y chwe chyngor sy'n bartneriaid.  Eglurodd y Cynghorydd Williams y rhesymeg y tu ôl i'r newidiadau ac roedd yn awyddus i dynnu sylw at weithrediad llwyddiannus GwE yng Ngogledd Cymru, ac arweiniad Sir Ddinbych o ran safonau addysgol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·        esboniwyd rolau a chyfrifoldebau penodol yr awdurdod addysg lleol a GwE, ynghyd â'r strwythurau yn eu lle a rhyngweithio rhwng y ddau er mwyn gweithio mewn partneriaeth i effeithio ar wella ysgolion

·        tynnwyd sylw at rôl unigryw'r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn Sir Ddinbych, a oedd yn darparu fforwm cadarn i gynghorwyr graffu’n agosach ar ysgolion, gyda swyddogion GwE yn bresennol i gefnogi ysgolion unigol ac ymateb i heriau a wnaed

·        pwysleisiwyd y pwysigrwydd o atgyfnerthu gwahanol lefelau o graffu ac atebolrwydd o fewn y trefniadau llywodraethu

·        cynhaliodd Sir Ddinbych ei dyhead i fod y gorau yng Nghymru heb ostwng unrhyw dargedau ac roedd y sefyllfa honno wedi’i gwneud yn glir i GwE - er bod y dangosyddion yn gadarn, roedd angen gwneud llawer o waith o hyd i sicrhau gwelliant parhaus i ddisgyblion yn Sir Ddinbych – roedd yn bwysig nad oedd yr awdurdod yn dod yn hunanfodlon a sicrhau her gadarn gan y Cyd-bwyllgor i lawr

·        esboniwyd cyfranogiad Llywodraeth Cymru o fewn y broses ac roedd eu cyfranogiad wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan; roedd cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ei herio yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor

·        byddai ehangu aelodaeth y Bwrdd Cynghori yn eu galluogi i dynnu ar ystod ehangach o brofiad addysgol ac roedd y strwythur arfaethedig yn darparu ar gyfer llif cyfathrebu parhaus rhwng pob fforwm

·        rhoddwyd sicrwydd bod y model rhanbarthol yn bwriadu cymryd lle timau gwella ysgolion yn y chwe chyngor sy'n bartneriaid, gan leihau biwrocratiaeth

·        roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth o drefniadau llywodraethu strategol GwE tra roedd yr adroddiad ymgynghoriaeth a ddosbarthwyd i aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn canolbwyntio ar y mater ar wahân o atebolrwydd gweithredol

·        tra nodwyd y toriadau i arian ysgolion, ystyriwyd bod gwariant fesul disgybl yn Sir Ddinbych yn ffafriol o gymharu ag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru ac awgrymwyd y gallai craffu edrych ar y mater hwnnw ymhellach

·        yr Esgobaeth oedd yn gyfrifol am lywodraethu ysgolion ffydd ac roedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor - roedd yr Esgobaeth yn cael ei chynrychioli ar y Cyd-bwyllgor ac wedi ei gwahodd i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn y dyfodol.

 

Nododd yr Aelodau fod pob un o'r chwe awdurdod partner ar wahanol gamau yn eu taith gwella a gofynnwyd am sicrwydd bod Sir Ddinbych yn cael gwerth am arian wrth gydweithredu.  Yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu roedd GwE wedi canolbwyntio ar ysgolion a oedd yn methu ac yn ei ail flwyddyn, symudwyd i’r rhai mwy galluog a thalentog i godi safonau ymhellach.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai'r her oedd datblygu gwasanaeth i ddiwallu anghenion Sir Ddinbych ac awgrymodd y gellid gwneud rhagor o waith i sicrhau bod blaenoriaethau Sir Ddinbych yn cael eu hadlewyrchu yn glir o fewn y model rhanbarthol a’u trosi i gamau gweithredu ymarferol yn GwE.

 

PENDERFYNWYD bod y trefniadau llywodraethu diwygiedig ar gyfer GwE fel y nodwyd yn yr adroddiad ac atodiadau yn cael eu cymeradwyo.

 

 

7.

POLISI RECORDIO GALWADAU FFÔN NEWIDIADAU TRETH Y CYNGOR A CHYFRADDAU ANNOMESTIG CENEDLAETHOL, DISGOWNTIAU, EITHRIADAU A GOSTYNGIADAU pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd yn ymdrin â newidiadau cyfeiriad, newid sefyllfa a hawlio disgownt a gostyngiad y Gwasanaethau Refeniw.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Newidiadau Treth y Cyngor a Chyfraddau Annomestig Cenedlaethol, Disgowntiau, Eithriadau a Gostyngiadau’ fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd sy'n ymdrin â newid cyfeiriad, newid mewn amgylchiadau a hawliadau am ddisgownt a rhyddhad yn y Gwasanaethau Refeniw.

 

Roedd y Cyngor yn buddsoddi mewn system teleffoni newydd a oedd yn gallu recordio galwadau.  Byddai'r dull newydd o ddelio â newidiadau yn galluogi arferion gwaith mwy effeithlon, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid, yn gweithredu fel rhwystr i geisiadau twyllodrus ac yn cael effaith gadarnhaol ar drigolion Sir Ddinbych.

 

Croesawodd y Cabinet y polisi fel modd o ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid i drigolion wrth alluogi effeithlonrwydd pellach hefyd wrth brosesu a lleihau'r posibilrwydd o dwyll.  Codwyd cwestiynau ynghylch rheolaeth weithredol y dyfodol o’r system newydd a'r potensial ar gyfer integreiddio gyda systemau eraill.  Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd -

 

·        ni fyddai'r polisi yn cael ei gyflwyno nes bod y system teleffoni newydd yn cael ei gosod ac roedd yn fanteisiol i’r polisi fod mewn grym cyn trosglwyddo'r gwasanaeth i Civica a fyddai'n etifeddu holl bolisïau’r Cyngor ac yn glynu wrthynt

·        rhoddwyd sicrwydd na fyddai staff yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y trosglwyddiad i Civica a byddent yn cael manteision ychwanegol o fod yn weithiwr Civica – cafwyd ymateb cadarnhaol gan staff yn hynny o beth

·        roedd Civica wedi llofnodi Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor ac ni fyddai unrhyw effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg yn sgil y trosglwyddiad

·        nid oedd unrhyw gost ychwanegol i'r cwsmer o ganlyniad i'r polisi newydd ac roedd pob sianel arall o gyfathrebu â'r Cyngor yn parhau i fod - cytunodd y swyddogion i wirio a fyddai 'Type Talk' yn cael ei gynnwys a’i recordio gan y system

·        byddai gweithredu'r polisi newydd yn destun proses fonitro i sicrhau ei effeithiolrwydd ac fe adroddir yn ôl i'r aelodau yn rheolaidd.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts integreiddio’r system newydd â systemau eraill y Cyngor yn fwy, gyda golwg ar ddilysu a rhannu data er mwyn caniatáu cyfathrebu uniongyrchol gyda thrigolion fel y bo'n briodol.  Esboniodd y swyddogion y byddai'r system teleffoni newydd yn integreiddio system y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid ond bod lefel yr integreiddio yn dibynnu ar feddalwedd a chost.  Awgrymwyd pe bai gan yr aelodau farn gref ar y mater hwn, eu bod yn cysylltu â'r Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg yn uniongyrchol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Barbara Smith at feysydd eraill o waith yn gysylltiedig â'r system teleffoni newydd fel ymateb mewn argyfwng, a dywedodd bod diogelu data hefyd yn fater i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Newidiadau Treth y Cyngor a Chyfraddau Annomestig Cenedlaethol, Disgowntiau, Eithriadau a Gostyngiadau’ fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.

 

[Ni bleidleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams ar y penderfyniad uchod.]

 

 

8.

POLISI RECORDIO GALWADAU FFÔN CYNLLUN GOSTYNGIAD TRETH Y CYNGOR A BUDD-DAL TAI pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd yn ymdrin â hawliadau newydd a newid amgylchiadau Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd sy'n ymdrin â hawliadau newydd am Ostyngiadau Budd-dal Tai a Threth y Cyngor a newidiadau mewn amgylchiadau.

 

Byddai buddsoddiad y Cyngor mewn system teleffoni newydd sy’n gallu recordio galwadau yn galluogi'r awdurdod i gynnig gwasanaeth hawlio dros y ffôn newydd i drigolion.  Byddai’r dull newydd o ymdrin â hawliadau’n cynnig dewis ychwanegol i gwsmeriaid hawlio budd-daliadau neu roi gwybod am newidiadau, cyflymu'r broses hawliadau, a byddai'n debygol o leihau nifer yr hawliadau twyllodrus.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ‘Polisi Recordio Galwadau Ffôn, Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai fel y manylir yn Atodiad A gyda’r adroddiad.

 

[Ni bleidleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams ar y penderfyniad uchod.]

 

 

9.

POLISI TALIADAU TAI DEWISOL pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth fframwaith polisi wedi’i ddiwygio yn ymdrin â Thaliadau Tai Dewisol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r fframwaith 'Polisi Taliadau Tai Dewisol' diwygiedig fel y manylir yn Atodiad A gyda'r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth fframwaith polisi diwygiedig yn delio â Thaliadau Tai Dewisol.

 

Roedd arian grant wedi cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol i helpu hawlwyr â diffygion yn eu Budd-dal Tai.  Roedd yr arian a oedd ar gael am gyfnod dros dro ac wedi’i osod ar gyfradd ostyngol gyda dyfodiad Credyd Cynhwysol.  Er mwyn darparu fframwaith cyffredin cadarn i gymhwyso ac asesu hawliadau Taliadau Tai Dewisol ar draws Cymru, comisiynwyd adolygiad cynhwysfawr.  Drwy fabwysiadu’r fframwaith, sicrhawyd bod cwsmeriaid yn cael tryloywder a thegwch gan y rhan fwyaf o Gynghorau Cymru, o ran y modd y mae eu hawl i Daliadau Tai Dewisol yn cael ei gyfrifo.

 

Adroddodd y Cynghorydd Hugh Irving ar waith y Clwb Diwygio Lles a benodwyd i gynnal yr adolygiad ar Daliadau Tai Dewisol ar ran ugain Awdurdod Lleol yng Nghymru (gan gynnwys Sir Ddinbych), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod argaeledd arian grant wedi cael effaith enfawr er ei fod yn cael ei leihau’n sylweddol.  Nododd y Cabinet fod dau Gyngor yng Nghymru wedi dewis peidio â mynd i'r cynllun – roedd un wedi dilyn canllaw safonol yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r awdurdod arall wedi datblygu eu cynllun eu hunain.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r fframwaith 'Polisi Taliadau Tai Dewisol' diwygiedig fel y manylir yn Atodiad A gyda'r adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (11.20 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

10.

STRATEGAETH TYMOR HIR AR GYFER YR YSTÂD AMAETHYDDOL pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried adroddiad  gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth strategaeth ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol ar gyfer y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo strategaeth yr Ystâd Amaethyddol yn y dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1 gyda’r adroddiad yn amodol ar eglurhad ym mharagraff 4.2 o'r strategaeth y bydd y gwarediad yn cael ei ystyried i fod yn briodol lle canfyddir ei fod y dewis mwyaf manteisiol yn economaidd i'r Cyngor yn dilyn gwerthusiad defnyddiau posibl eraill o'r tir gan y Cyngor, ac ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol ar adeg y gwarediad arfaethedig;

 

(b)       Pwysleisio’r angen i waredu unrhyw fferm gael ei ystyried ar y telerau mwyaf manteisiol yn economaidd i'r Cyngor gan ystyried yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud ar adeg y gwarediad arfaethedig, ac

 

(c)        yn ofynnol i swyddogion symud ymlaen gyda thrafodaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.10 o'r strategaeth ar gyfer darparu profiad ymarferol i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant ffermio ac adrodd yn ôl i'r Cabinet o fewn y chwe mis nesaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y strategaeth yn y dyfodol ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol i'w chymeradwyo.  Rhoddodd beth cefndir i'r adroddiad a'r gwaith a wnaed i lywio'r strategaeth ddiwygiedig, gan gynnwys yr ymgynghori a oedd wedi cael ei wneud.  Roedd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad wedi ystyried y strategaeth ddrafft ac yn ei hargymell i'r Cabinet i'w chymeradwyo.

 

I grynhoi, nid oedd gan y Cyngor yr adnoddau bellach i gefnogi'r Ystâd Amaethyddol yn ei ffurf bresennol a byddai’r strategaeth arfaethedig yn cael gwared ar atebolrwydd cynnal a chadw a rheoli beichus, ac yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd o adnoddau'r Cyngor wrth liniaru effaith y toriadau mewn meysydd corfforaethol.  Fe wnaeth y strategaeth gynnig gwarediad a reolir o ddaliadau amaethyddol gyda thenantiaid yn cael y dewis cyntaf i brynu.  Byddai unrhyw ddaliadau neu dir sy’n cael eu hildio'n cael eu gwerthu ar y farchnad agored i wireddu derbyniadau cyfalaf.   Byddai’r holl werthiannau fel daliadau amaethyddol, gyda’r cyfamodau priodol a chytundebau gorswm yn rhan o’r gwerthiant.

 

Trafododd y Cabinet rinweddau'r strategaeth arfaethedig yn helaeth gan gydnabod nad oedd yr ystâd amaethyddol bellach yn cyflawni ei diben o ddarparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant ffermio.  Er eu bod yn cefnogi'r strategaeth mewn egwyddor, ceisiodd aelodau gael sicrwydd ynghylch y manylion o waredu i denantiaid presennol i sicrhau'r gwerth gorau am arian, ac mewn achosion o feddiant gwag, bod defnyddiau posibl eraill o'r tir yn cael eu hystyried er mwyn canfod y dewis mwyaf manteisiol yn economaidd.  Cafodd y defnydd priodol o gyfamodau ac adfachu darpariaethau hefyd eu hamlygu er mwyn diogelu buddiannau'r Cyngor yn y dyfodol.  Roedd y Cabinet yn arbennig o awyddus bod y gwaith arfaethedig gyda cholegau lleol, i hwyluso atebion mwy ymarferol i anghenion hyfforddi, yn symud ei flaen yn unol â'r hyn y mae sefydliadau eraill wedi bod yn ei wneud, lle’r oedd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn cael cyfle i redeg fferm am flwyddyn i ennill profiad gwerthfawr ymarferol a rheolaethol ond pwysleisiwyd y dylai perchnogaeth ystâd y fferm gael ei chadw gan y Cyngor yn yr amgylchiadau hynny.  Atgoffodd y Cynghorydd Eryl Williams yr aelodau bod rhai ffermydd wedi cael eu rhoi yn rhodd i'r Cyngor i ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth, a dylid anrhydeddu’r bwriadau hynny.  Roedd yn cefnogi edrych ar yr hyn roedd sefydliadau eraill wedi'i wneud fel modd o ddarparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid i ffermio.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd -

 

·        roedd trafodaethau'n parhau ynghylch darparu gwell cyfleoedd ymarferol i newydd-ddyfodiaid i ffermio a byddai barn aelodau wedi hynny yn cael ei hystyried yn ystod y trafodaethau hynny

·        byddai angen trafod gwerthiannau i denantiaid presennol, gan gymryd i ystyriaeth gwerth y farchnad o’r meddiant gwag a gwerth buddsoddiad y denantiaeth, a byddai trosglwyddo tir i denantiaid presennol yn cael ei wirio’n annibynnol er mwyn sicrhau’r gwerth gorau i'r Cyngor a'i thrigolion

·        yn dilyn diwedd tenantiaeth, byddai gwerthiant yn seiliedig ar werth presennol y farchnad meddiant gwag

·        byddai gwaredu’n cael ei wneud yn unol â chynllun dirprwyo’r Cyngor i swyddogion/Aelod Arweiniol/Cabinet yn ddibynnol ar werth y daliad

·        er mwyn gweithredu 'rhenti marchnad', roedd yn rhaid i ystâd y fferm fod mewn 'cyflwr y farchnad' ac er bod rhenti wedi cynyddu i ffermydd yn amodol ar fuddsoddiad, nid oedd gan y Cyngor yr adnoddau i gefnogi'r ystâd gyfan

·        derbyniwyd na fydd pob tenant mewn sefyllfa i brynu eu daliad, fodd bynnag, nodwyd na ellid cymryd yn ganiataol y gallai tenantiaid adnewyddu tenantiaeth yn awtomatig, ac roeddent yn destun cytundeb cyfreithiol gyda dyddiad terfyn

·        roedd rhywfaint o wybodaeth gefndir am ystadau amaethyddol yng Nghymru sy'n eiddo i’r cyhoedd wedi’i chasglu ar ran Fforwm Gwledig Cymdeithas  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

GWAREDU TIR AC ADEILADAU YN FFORDD LLYS NANT, PRESTATYN pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn argymell gwaredu tir ac adeiladau’r cyngor yn Ffordd Llys Nant, Prestatyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn datgan y tir a'r adeiladau fel y nodir yn Adran 2.0 o'r adroddiad yn weddill i anghenion gyda'r bwriad o gael ei waredu ar y farchnad agored ar sail Datganiad o Ddiddordeb.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn argymell gwaredu tir ac adeiladau'r cyngor yn Ffordd Llys Nant, Prestatyn ar y farchnad agored.  Cynigiwyd y byddai gwaredu ar sail mynegiant o ddiddordeb lle mae'r Cyngor yn ceisio cael y cynllun gorau ar gyfer y dref a'r safle.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar statws presennol y tir a'r adeiladau a glustnodwyd ar gyfer materion gwaredu, gan gynnwys materion yn ymwneud â deiliaid trydydd parti a hawliau tramwy ynghyd â materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.  Rhagwelwyd y byddai brîff datblygu drafft yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Mehefin.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y telerau o amgylch y preswylwyr trydydd parti a llety arall posibl. Gofynnodd y Cynghorydd Hugh Irving am sicrwydd y byddai'r bloc toiled yn aros ar agor oni bai y gwneir achos cadarn dros ei gau.  Eglurwyd nad oedd unrhyw fwriad ar unwaith i gau'r Bloc Toiled, ond roedd angen datgan bod yr ardal gyfan yn ddiangen er mwyn profi'r farchnad.  Fodd bynnag, roedd potensial y byddai’r cyfleusterau cyhoeddus hynny’n cau fel rhan o'r broses rhyddid a hyblygrwydd heb ystyried unrhyw gynnig datblygu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn datgan y tir a'r adeiladau fel y nodir yn Adran 2.0 o'r adroddiad yn ddiangen, gyda'r bwriad o’i waredu ar y farchnad agored ar sail Datganiad o Ddiddordeb.

 

 

12.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 132 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant net ar y gyllideb refeniw o £705k ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        cytunwyd ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd roedd 96% wedi’i gyflawni - roedd arian parod wrth gefn i dalu am unrhyw arbedion na chyflawnwyd yn llawn o fewn y flwyddyn ariannol (efallai y bydd angen tua £100k eleni)

·        amlygwyd yr amrywiadau allweddol eraill oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion canlynol -

 

·        Amlygodd y Cynghorydd David Smith y gorwariant yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, gan roi gwybod bod cludiant ysgol y tu allan i'w rheolaeth, a bod yr adolygiad parcio ceir wedi’i gwblhau ac yn cael ei gyflwyno i'r Grwpiau Ardal Aelodau i'w ystyried.  Fe ailadroddodd ei bryderon blaenorol hefyd bod cryn dipyn yn llai yn cael ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd gan adael diffyg o tua £800k i gynnal ansawdd ffyrdd y sir a chyflawni canlyniad y Cynllun Corfforaethol ar gyfer priffyrdd.  O ganlyniad, gofynnodd bod priffyrdd yn cael blaenoriaeth wrth ystyried tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Awgrymwyd y dylid llunio rhestr o waith priffyrdd i nodi'r gwaith sydd ei angen er mwyn cyflawni'r Cynllun Corfforaethol.  Atgoffodd y Prif Weithredwr yr aelodau bod y Cyngor wedi cytuno y dylid rhoi blaenoriaeth i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol a'r dybiaeth weithredu oedd y byddai arian yn cael ei ddyrannu at y diben hwn pan fydd arian ar gael,  a sicrhau bod gwelliannau i'r priffyrdd yn cael eu cynnal

·        nodwyd y byddai'r adroddiad alldro cychwynnol ar gael ym mis Ebrill gyda'r ffigurau terfynol ar gael ganol mis Mehefin, a byddai’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adolygu yng ngoleuni'r ffigurau hynny.  Byddai angen cynnal dadl hefyd ar ddyfodol tanwariant gwasanaethau, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan ystyried blaenoriaethau'r Cyngor y gellid eu cynnwys fel rhan o'r adroddiad ariannol rheolaidd i'r Cabinet

·        Amlygodd y Cynghorydd Huw Jones ddiffyg y gweithwyr cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg yn y Gwasanaethau Cymunedol a Chefnogaeth, ac fe roddodd y Cynghorydd Eryl Williams wybod am yr un broblem ym maes addysg ac addysgu y mae ef yn credu sy’n broblem gyffredinol ledled Cymru, sydd angen mynd i'r afael â hi

·        rhoddwyd esboniad o afreoleidd-dra gweithdrefnol hanesyddol y broses gaffael ar gyfer y bont i gerddwyr a beicwyr ar ddatblygiad Harbwr y Rhyl a oedd wedi arwain at adfachu arian grant - rhoddwyd sicrwydd bod gweithdrefnau cadarn bellach ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.  Canmolwyd cyflawni’r prosiect gwerth £10.5 miliwn o fewn y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 105 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.50 p.m.