Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Croesawodd yr Arweinydd bawb i gyfarfod hybrid cyhoeddus
cyntaf y Cabinet. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau
Democrataidd bod Siambr y Cyngor wedi derbyn cyfarpar i alluogi cynnal
cyfarfodydd hybrid, er mwyn galluogi i gyfranogwyr ddod i’r cyfarfod yn
bersonol yn Siambr y Cyngor neu o bell dros Zoom. Er eglurder, darparwyd manylion o’r sawl oedd
yn bresennol yn Siambr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
15 Chwefror 2022. Materion yn Codi – Eitem 7 – Cynllun Dirprwyo Gwneud Penderfyniadau
Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir a Dal a Storio Carbon, ac at Ddibenion
Gwelliant Ecolegol - Cynghorodd y Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau
Democrataidd bod penderfyniad y Cabinet wedi cael ei alw i mewn i’w graffu, ac
wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau’r wythnos flaenorol, a
oedd wedi penderfynu cyfeirio’r mater yn ôl at ystyriaeth y Cabinet. O ganlyniad, byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i ystyried argymhellion y Pwyllgor
Craffu. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
15 Chwefror 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad (copi yn amgaeedig), sy’n argymell bod y Cabinet, ar ran y Cyngor,
yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol ddigonol i
awdurdodau lleol i’w helpu i gael gwared ar ddefnyddio nwyddau na ellir eu
hailgylchu a hwyluso mesurau lleihau carbon yng Ngwasanaethau Arlwyo Ysgolion. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt - (a) weithio gydag awdurdodau
lleol ar draws Cymru i geisio lleihau a dileu’r arfer o ddefnyddio plastig
untro a nwyddau na ellir eu hailgylchu yn y cyflenwad, ac wrth baratoi a gweini
prydau ysgol; (b) darparu adnoddau ariannol
digonol i’r holl awdurdodau lleol i’w galluogi i ddeall yr amcanion uchod a
hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn eu Gwasanaethau Arlwyo Ysgolion wrth
sicrhau bod gwasanaeth prydau ysgol cynaliadwy yn cael ei ddarparu, a (c) bod y Cabinet, ar ran y
Cyngor, yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am eu
cefnogaeth i lobïo Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r mesurau a nodi yn (a) a (b)
uchod. Cofnodion: Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cynghorydd Arwel
Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, yn argymell bod y Cabinet, ar
ran y Cyngor, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol
ddigonol i awdurdodau lleol i’w helpu i ddileu defnyddio nwyddau nad oes modd
eu hailgylchu, a hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn Gwasanaeth Arlwyo
Ysgolion, heb gyfaddawdu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol hyfyw a
chynaliadwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts ar y gwaith a wnaed, gyda
bwriad i ddileu defnydd nwyddau nad oes modd eu hailgylchu yn y gwasanaeth i
gefnogi uchelgais y Cyngor i fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Adroddodd ar drafodaeth fanwl y Pwyllgor mewn
perthynas â’r pwnc a chyfraniadau gwerthfawr i’r drafodaeth gan ddau ddisgybl
oedd yn cynrychioli Ysgol Dinas Brân.
Tynnwyd sylw’r Cabinet at y pwysau ariannol sylweddol oedd yn wynebu’r
gwasanaeth, a’i ddibyniaeth ar incwm o werthu diodydd mewn poteli plastig i
ddarparu prydau maethlon a chost effeithiol i ddisgyblion, ynghyd â phwysau
ychwanegol i ddod i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd,
a oedd yn cymhlethu materion ymhellach.
Diolchwyd i Ysgol Glan Clwyd am gynnal cyfnod prawf diodydd yn eu
hymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem a oedd yn amlygu’r costau sy’n
gysylltiedig â’r dull hwnnw a’r heriau cysylltiedig. Roedd yn glir bod pwysau ariannol a staffio
ar y gwasanaeth, cyfyngiadau amser i weini prydau, dim digon o le yn y ffreutur
a’r angen i addysgu disgyblion i ddychwelyd eu cytleri yn ei gwneud yn anodd ar
hyn o bryd i leihau’r ddibyniaeth ar ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu ac
ôl troed carbon y gwasanaeth, wrth baratoi prydau ysgol maethlon ond
fforddiadwy. Mae ymrwymiad y gwasanaeth
i leihau ei ôl troed carbon a defnyddio deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu
wedi cael eu nodi, yn ogystal â’r angen i ddatblygu gwasanaeth hyfyw. O ganlyniad, teimlwyd y dylid mynd at
Lywodraeth Cymru i geisio ei chefnogaeth ar gyfer awdurdodau’n genedlaethol i
gyflawni’r nodau hynny. Gofynnwyd i’r
Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt weithio gydag awdurdodau
lleol ledled Cymru i leihau a dileu ei ddefnydd o blastigion untro neu gynnyrch
nad oes modd ei hailgylchu yn y gwasanaeth a darparu adnoddau ariannol digonol
at y dibenion hynny, a hwyluso mesurau lleihau carbon gan ddarparu gwasanaeth
cynaliadwy. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Roberts am yr
adroddiad a gwaith y Pwyllgor Craffu, ac roedd yn falch o nodi cyfranogiad pobl
ifanc fel rhan o’r broses honno i sicrhau fod ganddynt lais yn y materion sy’n
effeithio ar eu dyfodol. Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r Pwyllgor
Craffu am eu gwaith, ac roedd yn cefnogi’r argymhellion yn llwyr, o wybod y
gefnogaeth ariannol sydd ei angen i gyflawni nodau mewn perthynas â lleihau
defnydd a dibyniaeth ar blastigion untro.
Fe ymhelaethodd ar y cyfnod prawf diodydd yn Ysgol Glan Clwyd, a’r
heriau a wynebir ynghyd, o ran yr effaith ariannol sylweddol: tua £220,000 y
flwyddyn ar gyfer stopio gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd a £200,000 y
flwyddyn ar gyfer gwerthu/tywallt diodydd i gwpanau y gellir eu
hailddefnyddio. Roedd problemau hefyd o
ran cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ddim yn cael eu dychwelyd. Er bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i leihau ei
ddefnydd o blastigion, roedd anawsterau o ran y costau ariannol sy’n
gysylltiedig gyda’r nod hwnnw, a’r model presennol ar gyfer arlwyo mewn
ysgolion. Roedd ehangu’r gwasanaeth i
ddarparu prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynradd yn codi heriau ychwanegol
hefyd, yn nhermau ei ddarpariaeth a’i effaith ar y gwasanaeth yn y dyfodol. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADEILADAU'R FRENHINES CAM 1 – DYFARNU CONTRACT ADEILADU PDF 321 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi'i amgáu) ynghylch ail gam y
broses o ddyfarnu contract adeiladu i ddatblygu Adeiladau’r Frenhines yn y
Rhyl, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r contractwr a ffafrir
drwy benderfyniad dirprwyedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) dirprwyo awdurdod i ddyfarnu
Contract ar gyfer adeiladu Cam 1 datblygiad Adeiladau’r Frenhines i’r
Contractwr a ffefrir i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran
151, Swyddog Monitro ac Aelodau Arweiniol perthnasol ar ddiwedd y cam dylunio
manwl ar yr amod bod y cynllun cost o fewn y terfynau fforddiadwyedd ar gyfer y
gwaith; (b) cymeradwyo rhoi’r
Penderfyniad Dirprwyedig ar waith ar unwaith oherwydd y brys i ddyfarnu
Contract i ganiatáu i waith ddechrau ar y safle cyn gynted â phosibl i fodloni
terfynau amser cyllid grant, a (c) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd gyda’r Arweinydd ar Brosiect Adeiladau’r
Frenhines yn Rhyl, ac ail gam y broses i ddyfarnu contract ar gyfer adeiladu
datblygiad Adeiladau’r Frenhines, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddyfarnu’r contract trwy benderfyniad dirprwyol. Yn dilyn cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer Achos Busnes diwygiedig a chyllid ychwanegol yn y cyfarfod
diwethaf, pwrpas yr adroddiad cyfredol oedd canolbwyntio ar osod contract
adeiladu cam 1. Cafodd Wynne
Construction ei benodi yng ngham cyntaf y gwaith, i weithio ar y cynllun drwy
ganiatâd cynllunio a dyluniad manwl yn barod i’r gwaith adeiladu ddechrau
canol/diwedd mis Ebrill. Defnyddiwyd Lot
3 Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru ar gyfer cam 1 yr elfen
adeiladu. O wybod y terfynau amser tynn
ar gyfer darparu’r prosiect, a gosod y contract, a oedd yn disgyn tu allan i
amserlen cyfarfodydd y Cabinet yn sgil etholiadau mis Mai, ceisiwyd
cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract drwy benderfyniad dirprwyol. Yn ychwanegol at hynny, nes bod contract
ffurfiol ar waith, byddai angen i’r Cyngor warantu costau o tua £500,000 ar
gyfer archebion yn ymwneud ag eitemau adeiladu a oedd yn cynnwys amser archebu
hir. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) dirprwyo awdurdod i ddyfarnu
Contract ar gyfer gwaith adeiladu Cam 1 datblygiad Adeiladau’r Frenhines i’r
Contractwr dewisol i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddog Adran
151, y Swyddog Monitro a’r Aelodau Arweiniol perthnasol ar ddiwedd y cam
dylunio manwl, os yw’r cynllun wedi'i gostio o fewn amlen fforddiadwyedd ar
gyfer y gwaith; (b) cymeradwyo gweithrediad
uniongyrchol y Penderfyniad Dirprwyol oherwydd bod brys i ddyfarnu Contract i
ganiatáu i’r gwaith gychwyn ar y safle cyn gynted â phosib i ddiwallu terfynau
amser cyllid grant, a (c) chadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
DYFARNU CONTRACT – ADNEWYDDU TAI TERAS YN 2 – 16 AQUARIUM STREET Y RHYL. PDF 218 KB Ystyried
adroddiad (sydd yn cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau
(copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i
benodi Prif Gontractwr i adnewyddu tai teras yn 2-16 Aquarium Street, y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo dyfarniad
contract i Anthony Dever Construction Limited yn unol â’r Adroddiad Argymell
Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: [Cyfeiriodd Pennaeth y
Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i atodiad cyfrinachol i’r adroddiad
oherwydd rhesymau sensitifrwydd masnachol, a chynghorodd y dylid cyflwyno
cwestiynau ynglŷn â’r elfen mewn sesiwn breifat.] Cyflwynodd y Cynghorydd Tony
Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i
benodi Prif Gontractwr i adnewyddu’r tai teras yn 2 - 16 Aquarium Street, y
Rhyl. Cynghorodd y Cynghorydd Thomas
y byddai’r cynllun yn darparu un o elfennau rhaglen adnewyddu tai Gorllewin y
Rhyl, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gwaith gwych a wnaed o ran hynny, a buddion y
cynllun ar gyfer preswylwyr yn yr ardal.
Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynllun cyfalaf tai ar Aquarium
Street, y Rhyl ym mis Mawrth 2019, ac roedd yr adroddiad yn crynhoi’r broses a
wnaed yn ystod yr ymarfer caffael, a arweiniodd at bedwar cais am dendr. Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan ddefnyddio
methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar gyfer ansawdd,
dewiswyd contractwr ac fe’i hargymhellwyd i’r Cabinet. Amcangyfrif o gost y contract oedd rhwng
£2,148,143.80 a chyfanswm y gost a amcangyfrifwyd gan y tendr a argymellwyd
oedd £2,641,828.05 a oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun
Busnes y Stoc Dai. Cyfeiriodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill i’r cynnydd yng ngwerth y contract a amcangyfrifwyd, gan amlygu
cynnydd sylweddol mewn costau adeiladu sydd wedi cael ei nodi, a thu allan i
reolaeth y Cyngor. Serch hynny, roedd y
cynllun wedi’i ariannu’n llawn, ac roedd yn cefnogi’r argymhelliad i
gymeradwyo’r dyfarniad contract.
Ychwanegodd y Rheolwr Datblygu Tai y byddai’r cynllun yn darparu tai
fforddiadwy gyda galw mawr amdanynt ar gyfer pobl leol, gan ddatblygu safle
sy’n hyll ar hyn o bryd. Mewn ymateb i
gwestiynau, fe gadarnhaodd y byddai’r estyniadau cefn yn cael eu tynnu; roedd y
contractwr dewisol wedi’i leoli’n Sir Ddinbych ac eisoes wedi gwneud gwaith i’r
Cyngor a phartneriaid eraill yn y gorffennol, ac roedd pris y tendr yn ddilys
am rhai misoedd ar ôl y dyddiad cau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Alan James ei gefnogaeth o ran y cynllun, ac
roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gwblhau, gan ddiolch i bawb oedd
yn rhan ohono. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo dyfarniad contract i Anthony Dever Limited Construction yn
unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 211 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd blaenraglen waith y Cabinet i’w ystyried. Cynghorodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod, er nad
oedd disgwyl cynnal cyfarfod y Cabinet ym mis Ebrill, roedd rhai eitemau o oedd
angen mynd i’r afael â nhw cyn etholiadau Mai, ac o ganlyniad roedd swyddogion
yn gweithio gydag aelodau i gadarnhau dyddiad ar gyfer cyfarfod ym mis Ebrill,
gan ystyried y byddai cyfarfod nesaf y Cabinet yn y Cyngor newydd ar 7 Mehefin. PENDERFYNWYD nodi blaenraglen
waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am. |