Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nid oedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi gallu ymuno â’r cyfarfod (a
gynhaliwyd trwy gynhadledd fideo) oherwydd anawsterau technegol. Cofnodion: Nid oedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi gallu ymuno â’r cyfarfod (a
gynhaliwyd trwy gynhadledd fideo) oherwydd anawsterau technegol. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19. Cofnodion: Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau,
drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19 yn Sir Ddinbych. O ganol mis Mehefin roedd Cymru wedi gweld
cynnydd mewn achosion a chyfraddau positif.
Roedd Lloegr eisoes wedi gweld sawl wythnos o gynnydd cyflym ac fel
gyda’r ddwy don arall o'r coronafeirws, roedd Cymru oddeutu pythefnos ar eu
holau. Roedd y cynnydd uchaf ymysg pobl
ifanc nad oeddent wedi derbyn eu brechlyn eto ac yn cymdeithasu mwy yn
gyffredinol. Nid oedd yn eglur faint yr
oedd y rhaglen frechu wedi torri’r cysylltiad rhwng yr haint, derbyn i’r ysbyty
a marwolaeth a byddai oddeutu 2/3 wythnos cyn y gellir gwybod taflwybr y
feirws. Cyfradd achosion wythnosol Sir
Ddinbych oedd 104.5 fesul 100,000 o’r boblogaeth (cynnydd o 27% o’r wythnos
flaenorol) ac yn uwch na chyfartaledd Cymru o 53.1, gyda phump allan o chwech o
awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru. Roedd Sir Ddinbych wedi dechrau gweld
cynnydd mewn achosion positif mewn cartrefi gofal ac ysgolion a disgwylir i hyn
barhau ac oherwydd oedi mewn data disgwylir bod y ffigyrau diweddar yn is na’r
sefyllfa bresennol mewn gwirionedd.
Byddai'r aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
IECHYD MEDDWL YN Y GWEITHLE PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
ymdriniaeth arfaethedig y Cyngor i gefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle a
chyflwyno'r Polisi Iechyd Meddwl a’r canllawiau cysylltiedig i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Polisi Iechyd Meddwl, y Canllawiau Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr a’r
Canllawiau ar Gynnal Sgwrs Sensitif am Iechyd Meddwl yn cael eu mabwysiadu ar
gyfer y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan ddarparu trosolwg o ymagwedd
arfaethedig y Cyngor i gefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle ac yn argymell
mabwysiadu Polisi Iechyd Meddwl a dogfennaeth gysylltiol. Tynnwyd
sylw at y pwysigrwydd o gefnogi iechyd meddwl yn y gweithle gydag amcanion
allweddol i wella ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mynd i’r afael â'r hyn sy'n
achosi salwch meddwl yn ymwneud â’r gweithle, creu diwylliant yn y gweithle lle
gellir trafod iechyd meddwl, a chefnogi gweithwyr sy’n profi problemau iechyd
meddwl. Er
mwyn cyflawni’r amcanion hyn roedd y Cyngor wedi cofrestru ar gyfer Addewid
Amser i Newid gyda chynllun gweithredu i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl
a gwahaniaethu a chefnogi iechyd meddwl. Roedd Polisi drafft Cefnogi
Iechyd Meddwl yn y Gweithle wedi’i ddatblygu gyda Chanllaw Iechyd Meddwl ar
gyfer Rheolwyr. Roedd
canllawiau pellach wedi’u darparu i reolwyr o ran sut i gynnal sgwrs sensitif
gyda staff a allai fod yn profi salwch meddwl. Gyda’r camau hyn, gellir helpu
i leihau difrifoldeb, hyd a faint o salwch meddwl a geir yn y gweithle. Roedd y polisi drafft a’r
dogfennau ategol wedi’u cytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Undebau Llafur
a’u hargymell i’r Cabinet i’w mabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar
Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr. Croesawodd
y Cabinet yr adroddiad a'r ymagwedd ragweithiol a gymerir o ran iechyd meddwl
yn y gweithle, yn enwedig o ystyried effaith y pandemig a newidiadau mewn
patrymau gwaith. Roedd
yr Aelodau’n awyddus i sicrhau bod rheolwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth i
ymgymryd â'u rolau ac fe holwyd cwestiynau o ran hynny ynghyd â’r heriau o
gefnogi staff sy’n gweithio o bell a monitro canlyniadau. Ymatebodd
y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn – ·
roedd rhaglen hyfforddiant i
alluogi rheolwyr i gefnogi gweithwyr yn well wedi dechrau ac roedd rhywfaint
o’r hyfforddiant eisoes wedi’i roi ar waith. ·
roedd cefnogaeth ar gyfer
rheolwyr wedi’i nodi yn yr adroddiad ac yn cynnwys hyfforddiant a chanllawiau,
gydag arbenigwyr AD a phartneriaid busnes yn gweithio’n agos gyda’r rheolwyr ar
faterion iechyd meddwl a straen yn y gweithle. ·
roedd gwaith ar y gweill i nodi Cefnogwyr Lles
mewn gwasanaethau ac roedd rhai Cynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl eisoes wedi’u
hyfforddi ac wedi defnyddio eu sgiliau. ·
Roedd camau a gymerwyd gan
wasanaethau i alluogi rheolwyr i gadw mewn cysylltiad gyda staff a gwirio eu
lles wedi’u trafod mewn Cynhadledd Rheolwyr Canol yn ddiweddar er mwyn rhannu a
hyrwyddo arferion da ar draws yr awdurdod. ·
byddai Arolwg Lles Iechyd
Meddwl yn cael ei gynnal ym mis Medi i nodi’r sefyllfa bresennol o ran iechyd
meddwl a byddai arolygon rheolaidd i ddilyn
bob 1-2 flynedd i fesur cynnydd a sicrhau bod camau gweithredu'n effeithiol i
wella lles iechyd meddwl. PENDERFYNWYD bod
y Polisi Iechyd Meddwl, y Canllawiau Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr a’r
Canllawiau ar Gynnal Sgwrs Sensitif am Iechyd Meddwl yn cael eu mabwysiadu ar
gyfer y Cyngor. |
|
GWEITHREDU I LEIHAU CAM-DRIN DOMESTIG PDF 233 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Richard Mainon, Aelod Arweiniol
Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol a Mark Young, Aelog Arweiniol
Cyllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi ynghlwm) sy’n rhoi
diweddariad ar Flaenoriaeth Gorfforaethol Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig
a chyflwyno’r Polisi Cam-drin Domestig ar gyfer gweithwyr i’w fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Polisi
Cam-Drin Domestig i staff yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Flaenoriaeth Gorfforaethol Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig ac argymell
mabwysiadu Polisi Cam-drin Domestig ar gyfer gweithwyr. Roedd
yr achos busnes terfynol ar gyfer y flaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin
Domestig wedi'i gytuno ym mis Hydref 2019 ac er bod gwaith ar y prosiect wedi’i
ohirio oherwydd Covid-19, roedd cryn gynnydd wedi'i gyflawni ers mis Medi 2020. Roedd
y prosiect yn cynnwys 13 o ffrydiau gwaith ac yn y chwe mis diwethaf roedd
cynnydd yn canolbwyntio ar 9 o’r ffrydiau gwaith hynny (roedd crynodeb o bob un
wedi’i ddarparu) gyda'r ffrydiau gwaith sy’n weddill i’w symud ymlaen yn y
flwyddyn ariannol nesaf. Roedd
y Cyngor yn condemnio pob math o gamdriniaeth a thrais ac wedi ymrwymo i
ddatblygu diwylliant yn y gweithle o ddim goddefgarwch tuag at gam-drin
domestig a /neu drais. Roedd
Polisi Cam-Drin Domestig drafft wedi’i ddatblygu i gefnogi gweithwyr oedd yn
profi cam-drin domestig neu wedi’i brofi yn y gorffennol ac yn cynnwys
canllawiau i reolwyr o ran sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig a pha
gefnogaeth sydd ar gael i staff. Roedd y polisi drafft wedi’i
gytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Undebau Llafur a’u hargymell i’r
Cabinet i’w mabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Iechyd a Diogelwch a
Chysylltiadau Gweithwyr. Yn
ystod y drafodaeth holodd y Cynghorydd Brian Jones am yr oedi cychwynnol o ran
symud ymlaen â’r prosiect (nodwyd mai Covid-19 oedd y rheswm dros hyn) er
gwaethaf pryderon y byddai cynnydd mewn achosion / digwyddiadau cam-drin
domestig yn ystod pandemig y coronafeirws. Codwyd cwestiynau pellach o
ran cynnydd yn nifer yr achosion yr ymdriniwyd â nhw yn y deuddeg mis diwethaf
ynghyd â’r prif newidiadau i’r polisi. Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn – ·
roedd yr oedi cychwynnol gyda
rhywfaint o’r gwaith i symud ymlaen â Blaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin
Domestig o ganlyniad i'r angen i weithio gyda phartneriaid ac ati. ·
roedd polisi cam-drin domestig
eisoes ar waith ond roedd wedi’i adolygu gan ystyried y cynnydd mewn gweithio o
bell / gweithio’n hyblyg a gan ddysgu o ymdrin â materion sydd wedi codi yn
ystod pandemig Covid-19; roedd y gwaith
gyda'r flaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig hefyd wedi hysbysu'r
polisi drafft diwygiedig. ·
Roedd y polisi diwygiedig yn
fwy trylwyr ac yn darparu gwell eglurder, gan gynnig canllawiau pellach i gefnogi
rheolwyr a gweithwyr, ac yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol mewn un dogfen. Un
newid allweddol oedd cyflwyno pum diwrnod o absenoldeb oherwydd cam-drin
domestig i gefnogi gweithwyr ymhellach. ·
roedd adroddiadau cam-drin
domestig wedi cynyddu ond darparwyd sicrwydd nad oedd unrhyw oedi cychwynnol
gyda’r prosiect wedi cael effaith negyddol ar yr ymateb a’r ymatebion sy’n
ofynnol. Roedd
adroddiadau’n cael eu trin yn gyflym ac yn broffesiynol ac roedd y broses honno
wedi parhau drwy gydol y pandemig. ·
cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol
at ei ddiweddariad chwarterol i'r aelodau a oedd yn nodi'r ffigyrau a'r cynnydd
mewn trais domestig a'r rhesymeg tu ôl i'r ffigyrau hynny - cytunodd y bydd yn
ail-anfon yr wybodaeth honno at yr aelodau. [Roedd
yr eitem nesaf ar y rhaglen ar yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn
cynnwys data ar drais domestig]. Mynegodd
yr Aelod Arweiniol y pwysigrwydd o gael trafodaeth agored ar drais domestig ac
annog adrodd am achosion. Roedd yn fodlon â’r gwaith
sy’n cael ei gyflawni ac yn credu bod y partneriaethau a’r sgiliau mewnol yn eu
lle i ddelio â’r mater yn well yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Polisi Cam-drin Domestig i staff yn cael ei
fabwysiadu ar gyfer y Cyngor. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021 PDF 215 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn
ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau
cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad
Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Aethpwyd drwy’r
Adolygiad Perfformiad Blynyddol sydd wedi'i ymestyn i gyfuno nifer o
adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol, gan gwrdd â
gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno gwerthusiad
ôl-weithredol ar lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei gynlluniau yn
ystod 2020-2021 ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gellir ei gyflawni yn
2021-2022. Roedd yn cynnwys y cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau
corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y rhaglen. Roedd y
Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol hefyd wedi’u
cynnwys. Roedd yr Adolygiad wedi’i
ystyried gan Bwyllgor Craffu Perfformiad a oedd wedi gofyn am fanylion costau
cynllun unigol yn rhan cyllid yr adroddiad yn ymwneud â Phriffyrdd ac Addysg ac
roedd y gwariant yn cael ei gasglu ar hyn o bryd. Darparodd
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol drosolwg o’r cynnydd yn erbyn y
blaenoriaethau a darparodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad
drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr adroddiad er mwyn
bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021. Ystyriodd y
Cabinet yr Adolygiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn - ·
Nododd yr
Arweinydd bod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol yn
fwriadol ac roedd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed, wrth gydnabod bod rhai
blaenoriaethau, fel cysylltedd digidol, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. O ran yr
adran iechyd corfforaethol newydd yn yr adroddiad, pwysleisiodd bod angen
cydbwyso’r elfen yn briodol yn erbyn darpariaeth y blaenoriaethau hynny a oedd
yn seiliedig ar ymgysylltu â phreswylwyr a'u disgwyliadau. Cytunodd y swyddogion gan gadarnhau bod yr
amcanion perfformiad wedi’u gosod mewn lleoliad blaenllaw yn y ddogfen yn
fwriadol. ·
Cyfeiriodd y
Cynghorydd Mark Young at y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria a
chefnogaeth y Cabinet i barhau i gefnogi
ffoaduriaid drwy’r Rhaglen Adsefydlu Fyd-eang - o ystyried y pryderon
ynglŷn â chael mynediad at ofal iechyd a thai o safon gofynnodd bod y
materion hynny’n cael eu cynnwys yn yr Adolygiad hefyd er mwyn nodi’r ymateb
i’r pryderon hynny. Cytunodd y
swyddogion i adolygu’r geiriad fel y gofynnwyd ond nodwyd bod rhai materion y
tu hwnt i reolaeth y Cyngor er y gallai'r Cyngor ystyried annog sefydliadau
eraill i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. ·
er
bod tai gofal ychwanegol Rhuthun wedi profi rhai rhwystrau gyda heriau o ran
trefnu contractwr, ar y cyfan roedd hyder y byddai’r prosiect yn symud ymlaen o
fewn amserlen y Cynllun Corfforaethol cyfredol. ·
mewn
ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts tynnwyd sylw at y
ffigyrau trais domestig oedd yn dangos cynnydd yn y nifer cronnus
ail-ddioddefwyr trais domestig yn Sir Ddinbych, o 517 i 515 yn Chwarter 4
(cynnydd o 7.6% o'r flwyddyn flaenorol).
Nodwyd
faint o waith a wnaed yn y maes o ran
cynyddu ymwybyddiaeth ac ati, ac felly disgwylir newid mewn ffigyrau ac mae'n
debyg bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith ar droseddau domestig. Er nad oedd ganddo fanylion y ffigyrau trais
domestig wrth law, eglurodd y Cynghorydd Mark Young fod ei adroddiad chwarterol
i’r aelodau yn darparu dadansoddiad o’r ffigyrau a byddai’n ei ail-anfon at yr
aelodau. ·
roedd
y Cyngor yn gweithio’n rhanbarthol o ran cyllid gofal cymdeithasol ac roedd y
ffioedd yn seiliedig ar y farchnad ac wedi cynyddu dros amser ac yn uwch na
chwyddiant. Roedd yn faes oedd yn cael ei ystyried ond roedd yn ddibynnol iawn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD CYLLID (MAI 2021/22 – YN CYNNWYS ADRODDIAD CRYNO AR GYLLIDEB 2021/22) PDF 290 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo
cynnwys £250k yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn cyrraedd y gofynion
arian cyfatebol o 10% ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad (fel nodwyd yn adran 6.9
yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2021/22, ynghyd ag Adroddiad Crynhoi’r Gyllideb 2021/22. Rhoddodd
grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn
2020/21). ·
rhagwelir
y byddai gorwariant o £0.708miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol. ·
tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol
yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag
effaith ariannol Coronafeirws a’r sefyllfa o ran hawliadau i Lywodraeth Cymru. ·
nodwyd
arbedion ac effeithlonrwydd a gytunwyd o £4.448m gyda’r tybiaethau bod arbedion
gweithredol a chynnydd mewn ffioedd a chostau wedi’u cyflawni ac roedd arbedion
ysgolion wedi’u dirprwyo i gyrff llywodraethu i'w monitro a'u darparu; byddai'r
arbedion o £0.781m yn cael eu monitro'n agos yn ystod y flwyddyn ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Gofynnwyd hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo
cynnwys £250,000 yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn bodloni’r
gofyniad arian cyfatebol o 10% (£423,181) ar gyfer cynnig Cronfa Codi’r Gwastad
– De Clwyd. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
croesawyd
y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru (LlC) o ran parhad y system gyfredol o hawliadau o ran gwariant a cholli incwm ar
gyfer y ddau chwarter nesaf gydag arwyddion, yn amodol ar argaeledd y gyllideb,
y byddai cyllid LlC yn parhau y tu hwnt i’r terfyn amser hwnnw os oes angen ·
adroddodd
yr Arweinydd ar y berthynas dda gyda LlC a’r gefnogaeth ariannol sylweddol a
ddarparwyd i liniaru pwysau ariannol o ganlyniad i Covid-19. Ond nid oedd
setliad ariannol llywodraeth leol wedi bod yn ddigon i fynd i'r afael â'r
pwysau parhaus a'r heriau ariannol a'r buddsoddiad sydd ei angen i symud yr
awdurdod yn ei flaen. Roedd pryder hefyd bod Sir Ddinbych wedi llithro
o'r setliad chwartel uchaf. Parhaodd yr Arweinydd i lobïo am setliad ariannol 3 blynedd er mwyn gallu cynllunio'n ariannol yn well
ac roedd LlC wedi nodi y byddai hynny'n dibynnu ar Lywodraeth y DU. Roedd y tebygolrwydd na fyddai’r setliad
ariannol yn hysbys tan fis Rhagfyr yn peri heriau pellach o ran cynllunio’r
gyllideb. Er yr anawsterau hynny, croesawodd yr Arweinydd yr eglurder yn yr adroddiad
a’r ymagwedd a gymerwyd o ran gosod
cyllideb a diolchodd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y gwaith caled a
wnaed. ·
eglurwyd
yr ymagwedd a gymerwyd i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyllid sydd
ei angen ar gyfer cynnig De Clwyd ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad o ystyried y terfyn
amser tynn ar gyfer y cynnig mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam. Roedd cynigion cyllid y dyfodol ar gyfer Dyffryn
Clwyd a Gorllewin Clwyd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf ar y sail y
byddai angen 10% o gyllid cyfatebol; gobeithir y byddai rhywfaint o'r cyllid yn
deillio o brosiectau a nodwyd fel rhan o broses cynllunio ar gyfer y dyfodol yr
awdurdod a byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni o ran hynny dros y misoedd
nesaf ·
cafwyd
rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r risgiau a nodwyd yn y cyllidebau
corfforaethol a’r effaith barhaus ar Dreth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth
y Cyngor ynghyd â’r setliadau talu ar gyfer 2021/22. Er bod rhagolygon
presennol yn dangos y byddai cyllid arian at raid yn gofalu am yr elfennau
hynny gobeithir y byddai LlC yn parhau i gydnabod y pwysau hynny ac yn darparu
cyllid yn unol â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ar gyfer Treth y Cyngor a
Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Ond nodwyd bod y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 283 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. Nododd yr Aelodau’r diddordeb tebygol gan y
Cyhoedd yn eitem Llangollen 2020 a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf a holodd
y Cynghorydd Brian Jones a fyddai’n bosibl cyfarfod yn Siambr y Cyngor er mwyn
hwyluso’r eitem honno’n well. Cadarnhawyd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell yn unol â chanllawiau
Llywodraeth Cymru ond byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu yn dibynnu ar yr
amgylchiadau ar y pryd a chyngor diweddaraf LlC. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am. |