Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorwyr Richard Davies, Huw Hilditch-Roberts, Huw Jones, Martyn Holland, Dewi Owens, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Joe Welch gysylltiad personol yn Eitem Rhaglen Rhif 5. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Richard Davies, Huw Hilditch-Roberts, Huw Jones, Martyn Holland,
Dewi Owens, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Joe Welch gysylltiad personol
yn Eitem 5 ar yr Agenda. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd ei lofnodi. |
|
POLISI CYMHWYSTER CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL PDF 305 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n
amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth i gael mannau codi disgyblion ysgolion
uwchradd ac i egluro'r polisi presennol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cytuno i
ddiwygio'r polisi presennol i gyflwyno mannau casglu canolog ar gyfer pob
disgybl ysgol uwchradd; (b) nodi'r polisi
llawn yn Atodiad 1 i'r adroddiad a fydd yn ei grynodeb yn darparu cludiant am
ddim i'r ysgol uwchradd briodol agosaf o fan casglu dynodedig; (c) caniatáu i
ddisgyblion ysgol uwchradd presennol barhau i gael mynediad i gludiant am ddim
am weddill eu bywyd ysgol statudol presennol o fan casglu canolog; (d) nodi nad oes
unrhyw newid i gludiant ar gyfer disgyblion ysgol gynradd; (e) cytuno bod yr
argymhellion uchod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn unol â galwad y
Cyngor o ran rheolau gweithdrefn a gynhwysir yn y cyfansoddiad yn wyneb yr
amgylchiadau a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad, (f) gofyn i'r
Grŵp Strategol Addysg Gymraeg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor
yr hydref a chyflwyno adroddiad i’r pwylgor archwilio yn gynnar yng ngwanwyn
2015; a (g) fod asesiad o effaith adolygu’r polisi yn
cael ei gynnal gyda’r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgor archwilio ar
derfyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod
Arweiniol Addysg adroddiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i weithredu mannau codi ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ac i
egluro'r polisi presennol. Darparwyd ychydig o gefndir i'r adroddiad ynghyd
ag eglurhad o'r broses ymgynghori a'r amserlenni i’w gweithredu. Diolchodd y Cynghorydd Williams i
ymatebwyr i’r ymgynghoriad am eu cyfraniad. Mae'r holl ymatebion wedi'u hystyried yn ofalus ac
mae'r prif faterion a godwyd wedi cael sylw yn yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet i weithredu mannau casglu
canolog ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a fyddai'n cynhyrchu arbedion o
tua £272k a nodwyd bod adborth wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn dibynnu os
oedd y prosesau asesu risg perthnasol yn eu lle. Canolbwyntiodd y Cabinet hefyd ar ganlyniad
gorfodi'r polisi newydd i gael gwared ar anghysondebau hanesyddol yn y broses
cymhwyster ynghyd â'r pryderon a godwyd fel rhan o'r broses ymgynghori, gan
gydnabod ei fod yn fater cymhleth iawn. O ganlyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau yn
ogystal â cheisio cael sicrwydd ynghylch materion penodol a godwyd er mwyn
bodloni eu hunain bod y cynigion a gafwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli'r
ffordd orau ymlaen. Canolbwyntiodd prif rannau’r drafodaeth ar y
canlynol - ·
cydnabuwyd
bod unrhyw arbedion a gynhyrchir yn gweithredu mannau casglu canolog yn mynd
i'r afael â'r gorwariant presennol yn y gyllideb cludiant ysgol yn unig ac ni
fyddai'n dod i rym tan fis Medi 2015 – o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol
sydd ohoni byddai adrannau anstatudol eraill o’r polisi yn debygol o fod yn
amodol i adolygiad yn y dyfodol ·
eglurwyd
bod anghysondebau wedi'u creu dros nifer o flynyddoedd oherwydd y diffyg
eglurder yn y polisi gyda swyddogion wedi cymryd ymagwedd bragmatig a rhesymol
i geisiadau, ond mae'r costau cynyddol a diffyg eglurder yn golygu bod angen
adolygiad i fynd i'r afael â'r materion hynny – roedd aelodau’n cydnabod bod
yna angen am bolisi clir a chryno i sicrhau dull cyson ar draws Sir Ddinbych a
chydraddoldeb i bob disgybl ·
dywedodd
y swyddogion er mwyn bod yn gymwys am gludiant ysgol am ddim roedd y pellter
rhwng y cartref a'r ysgol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ffyrdd
dosbarthiadol - cydnabuwyd o bosib na fyddai’r llwybr mwyaf uniongyrchol yn
cael ei ddefnyddio i gludo disgyblion yn dibynnu ar y nifer a lleoliad y
disgyblion eraill i gael eu cludo a chan gymryd i ystyriaeth y llwybr mwyaf
diogel, a dyna pam mae anghysondeb lle mae'r man codi ar gyfer disgyblion yn nes
i ysgol wahanol na'r un y maent yn ei fynychu - efallai y bydd achlysuron pan
ei fod yn fwy cost-effeithiol i ddarparu cludiant i ysgol arall a'r hawl i
ddefnyddio disgresiwn yn yr amgylchiadau penodol hynny wedi cael ei gynnwys yn
y polisi hwn ·
nododd
yr aelodau bryderon rhieni yn ardal Saron lle byddai gorfodi’r polisi yn
effeithio’r arw ar eu plant ac er y
cafodd y posibilrwydd o ysgolion sy'n
bwydo gael ei grybwyll cydnabuwyd mai’r dull o gyfrifo cymhwyster o'r cartref
i'r ysgol yn hytrach na ysgol i ysgol a ddefnyddiwyd ac ni fyddai'n gyfreithlon
i wneud eithriad i'r polisi ar gyfer un ysgol neu ardal benodol · dangosol yn unig oedd y rhestr o fannau codi yn y polisi drafft ar hyn o bryd a byddai'n amodol ar asesiadau risg a wnaed yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) – darparodd swyddogion fanylion penodol am y broses asesu risg a rhoi sicrwydd bod y ffordd rhwng Saron a Chyffylliog (a oedd wedi bod yn destun pryder penodol) ddim yn cael ei ddefnyddio gan fysiau ysgol ac yn amodol ar asesiad risg ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DEDDF A SGORIO HYLENDID BWYD (CYMRU) 2013 - AWDURDOD DIRPRWYEDIG PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
(copi’n amgaeedig) yn argymell pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) y pwerau o dan
Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ynghyd ag unrhyw reoliadau a wnaed o
dan hynny ac unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau iddo ac ymarfer yr holl bwerau
perthnasol eraill, gan gynnwys pwerau i gael mynediad o dan ddeddfwriaeth o'r
fath, yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, (b) y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn cael yr awdurdod i ddirprwyo’r pwerau hyn ymhellach i swyddogion yn y gwasanaeth gyda'r cymwyseddau perthnasol, sgiliau, cymwysterau ac awdurdodiadau Cofnodion: Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr
adroddiad su’n argymell pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Byddai rhoi pwerau dirprwyedig yn galluogi
gorfodi'r ddeddfwriaeth ac yn caniatáu i’r dyletswyddau statudol hynny dan y
Ddeddf i gael eu rhyddhau. Cadarnhawyd y dylai bathodyn y System Sgorio Hylendid Bwyd gael ei
arddangos eisoes mewn eiddo busnesau bwyd. Talodd yr Arweinydd deyrnged i waith y Tîm
Diogelwch Bwyd ar gyfer busnesau sy'n dal i gyfrif a'r cymorth a'r cyngor y
maent yn ei ddarparu. PENDERFYNWYD - (a) bod y pwerau o
dan y Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ynghyd ag unrhyw reoliadau a
wnaed o dan hynny ac unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau iddo, a'r holl bwerau perthnasol eraill, gan gynnwys
pwerau i gael mynediad o dan ddeddfwriaeth o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a (b) bod Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn cael yr awdurdod i ddirprwyo’r pwerau
hyn i swyddogion o fewn y gwasanaeth gyda'r cymwyseddau, sgiliau, cymwysterau
ac awdurdodiadau perthnasol. |
|
DEDDF RHEOLI CEFFYLAU (CYMRU) 2014 - AWDURDOD DIRPRWYEDIG PDF 125 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
(copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu’r ddeddfwriaeth newydd a’r pwerau
dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) Deddf Rheoli
Ceffylau (Cymru) 2014 yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod hwn; (b) y pwerau o dan
Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd, (b) awdurdod
dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo’n awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf. Cofnodion: Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr
adroddiad sy’n argymell mabwysiadu deddfwriaeth newydd sef y Ddeddf Rheoli
Ceffylau (Cymru) 2014 a dirprwyo pwerau ychwanegol i’r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd. Esboniodd fod y Ddeddf yn rhoi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol i fynd
i'r afael â'r materion gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon. PENDERFYNWYD - (a) mabwysiadu Deddf
Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 gan yr Awdurdod hwn; (b) bod y pwerau o
dan Ddeddf Rheoli Ceffylau a Merlod (Cymru) 2014 yn cael ei ddirprwyo i'r
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. (c) bod yr awdurdod
dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo yn awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf. |
|
DEDDF CARTREFI SYMUDOL (CYMRU) 2013 – AWDURDOD DIRPRWYEDIG PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
(copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu’r ddeddfwriaeth newydd a’r pwerau
dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) Deddf Cartrefi
Symudol (Cymru) 2013 yn cael ei mabwysiadu ar ran y Cyngor; (b) y pwerau o dan
Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd; (c) awdurdod
dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo’n awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wneir o dan y Ddeddf; (d) awdurdod
dirprwyedig i osod ffioedd a thaliadau i’w darparu i'r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd; (e) y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei awdurdodi i ddirprwyo'r pwerau i
Swyddogion eraill sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy’n gymwys o fewn y
Cyngor drwy ddarparu Awdurdodiadau perthnasol iddynt. Cofnodion: Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr
adroddiad sy’n argymell mabwysiadu deddfwriaeth newydd sef y Ddeddf Cartrefi
Symudol (Cymru) 2013 a dirprwyo pwerau ychwanegol i’r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd. Eglurodd bod y Ddeddf yn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i wella
rheoleiddio'r diwydiant cartrefi symudol fel bod amodau ar safleoedd cartrefi
symudol yn well a bod hawliau trigolion yn cael eu hamddiffyn yn well. Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving am y problemau a
brofwyd gan breswylwyr cartrefi symudol yn ei ward ac am y gobaith y byddai
mabwysiadu'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y byddai'r materion hynny yn derbyn
sylw. Ymatebodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau ac eglurodd sut y
byddai'r broses drwyddedu yn cael ei weithredu a'i reoli er mwyn sicrhau bod
safonau'n cael eu bodloni. PENDERFYNWYD - (a) bod y Ddeddf
Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael ei mabwysiadu ar ran y Cyngor; (b) bod y pwerau o
dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd; (c) bod awdurdod
dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo yn awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf; (d) rhoi awdurdod
dirprwyedig i osod ffioedd a thaliadau i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd, a (e) bod y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei awdurdodi i ddirprwyo'r pwerau i
Swyddogion eraill sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy’n gymwys o fewn y
Cyngor drwy ddarparu awdurdodiadau perthnasol iddynt. Ar y pwynt hwn
(11.30am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2013/14 PDF 82 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol
drafft 2013/14 i'r Cabinet cyn ei gyflwyno i'r Cyngor er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
bydd Adolygiad Perfformiad Blynyddol
drafft 2013/14 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith ddrafft o’r
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013/14 i'r Cabinet i'w ystyried cyn ei
gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo. Mae gofyn i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Blynyddol
ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref pob blwyddyn. Darparodd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol
werthusiad ôl-weithredol o gynnydd y Cyngor yn ystod 2013/14 a bod trefniadau
wedi’u gwneud i sicrhau gwelliant parhaus. Ar y cyfan yr oedd yn adroddiad cadarnhaol ac
roedd yn galonogol nodi'r gwelliannau a wnaed mewn meysydd penodol. Trafodwyd y materion canlynol:- ·
roedd
problemau gyda echdynnu data o'r System Rheoli Cyswllt Cwsmer (RhCC) a
chafodd dangosyddion eu hadolygu o
ganlyniad – roedd llawer o’r gwaith yn mynd rhagddo er mwyn moderneiddio a
gwella'r broses a gwnaed achos busnes ar gyfer RhCC newydd ·
cydnabuwyd
nad oedd dangosyddion coch o reidrwydd yn achosi pryder a bu'n rhaid eu
hystyried mewn cyd-destun, roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd yn cynnwys
amseroldeb cyfarfodydd grŵp craidd yn dilyn cynadleddau amddiffyn plant a
nifer y diwrnodau/shifftiau gwaith a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch -
cytunwyd darparu’r cyd-destun hwn yn y crynodeb canlyniadau yn adroddiadau’r
dyfodol ·
adroddodd
y swyddogion ar y broses ar gyfer pennu dangosyddion a throthwyon gan ystyried
data cenedlaethol a’r lefelau a'r blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor ·
nid
oedd yn glir yn y ddogfen fod y saethau yn dynodi tuedd o welliant/dirywiad a
chytunodd yr aelodau bod yr eglurhad hwn yn cael ei ddarparu mewn adroddiadau
yn y dyfodol er mwyn osgoi dryswch ·
o ran
canlyniad 7 - byddai myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, fe adroddodd y
Cynghorydd Eryl Williams ar y canlyniad eleni a oedd yn dangos ychydig o
welliant ar gyfer Sir Ddinbych. Atgoffodd yr aelodau bod Sir Ddinbych wedi dechrau o sylfaen dda a bod
strategaeth yn ei le i herio a gwella canlyniadau ar gyfer y blynyddoedd i
ddod. Fe ystyriodd y Cabinet hefyd sut y byddai'r
toriadau sylweddol yn y gyllideb sy'n wynebu'r awdurdod yn effeithio ar
berfformiad yn y dyfodol ac a oes angen adolygu’r dangosyddion o ganlyniad i
hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr am yr angen i wneud penderfyniadau ymwybodol
ynglŷn â pha adrannau y byddai'r Cyngor yn fodlon derbyn gostyngiad mewn
perfformiad ond cynghorwyd yn erbyn adolygu dangosyddion tuag i lawr, gan
ychwanegu y dylai'r Cyngor ymdrechu i gadw ei safle fel y gorau yng Nghymru. Adroddodd am waith i alinio proses y
gyllideb gyda'r broses o reoli perfformiad yn ei le i olrhain effaith y
penderfyniadau hynny. Ar ôl cwblhau hynny byddai'r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno i'r aelodau. Dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith y byddai
Chwarter 2 o’r Adroddiad Perfformiad yn cael ei gynhyrchu ym mis Tachwedd ac yn
cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w ystyried. PENDERFYNWYD –bod
drafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013/14 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor
Sir i’w gymeradwyo. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2013/14 PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth
rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys
a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
caiff yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2013/14 yn cael ei nodi.
Cofnodion: Fe gyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys
a dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion
Darbodus yn ystod 2013/14. Wrth grynhoi'r adroddiad fe esboniodd y Cynghorydd
Thompson-Hill ei bod yn ddogfen hanesyddol a thynnodd sylw’r aelodau at y prif
bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch buddsoddi yn ystod 2013/14 ac
ymhelaethodd hefyd ar nifer o ddangosyddion darbodus allweddol. Fe dynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau
(HFA) sylw at yr ansicrwydd yn y sector yn ariannol a chyfeiriodd at y
strategaethau a ddefnyddir i reoli'r risgiau hynny a'r angen i edrych ar
fuddsoddiadau eraill yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ail-ariannu dyled fe eglurodd y Pennaeth
Cyllid ac Asedau ers cyflwyno cosbau mawr gan y llywodraeth nid yw bellach yn
opsiwn ymarferol. PENDERFYNWYD bod
Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2013/14 yn cael ei nodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth cyllideb y cytunwyd arni; (b) Cymeradwyo’r gwaith o greu Gwarchodfa Offer Newydd ar gyfer y Gwasanaethau
Hamdden gan nodi y byddai dyraniadau i'r gronfa wrth gefn yn amodol ar
gymeradwyaeth bellach gan y Cabinet; (c) Cymeradwyo proses o drosglwyddo £30k i Gronfa Gwasanaeth y Crwner a fydd yn
helpu i hwyluso gostyngiad yn y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
gorwariant net ar y gyllideb refeniw o £114k ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod y rhain
wedi eu cyflawni ·
amlygwyd
y prif amrywiadau eraill o gyllidebau neu dargedau arbedion sy’n berthnasol i feysydd gwasanaeth unigol,
a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo’r Cronfa
wrth gefn ar gyfer Newid Offer i Wasanaethau Hamdden a throsglwyddo £30k i'r
Gronfa Gwasanaeth Crwner. Tynnodd y Cynghorydd Hugh Irving sylw at y posibilrwydd o ostyngiad mewn incwm parcio
o ystyried y ddarpariaeth parcio am ddim ym Mharc Prestatyn. Tynnodd sylw at y problemau sy'n
gysylltiedig â pharcio ceir yn anghyfrifol a bod angen mynd i'r afael â’r
broblem. Cytunodd y Cynghorydd David Smith bod lle i wella gan ddweud y byddai'r
wardeiniaid traffig yn cael eu defnyddio ar ddiwrnodau afreolaidd gydag oriau
amrywiol ac y byddai'n cadw llygad barcud ar y mater. Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams fod
angen presenoldeb dyddiol mewn trefi ac awgrymodd dull partneriaeth gyda
chynghorau tref i fynd i'r afael â'r mater a fyddai hefyd yn darparu incwm. O ran balansau ysgolion fe atgoffodd y
Cynghorydd Williams yr aelodau nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros y
ffordd y byddai’r cyllid hynny’n cael ei wario. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby
Feeley ynghylch y Gronfa Gofal Canolraddol fe gynghorodd y Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn disgwyl cadarnhad ynghylch a fyddai'r grant
yn cael ei ymestyn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo creu Cronfa ar gyfer Newid Offer ar gyfer Gwasanaethau Hamdden
gan nodi y byddai dyraniadau i'r gronfa wrth gefn yn amodol i gymeradwyaeth
pellach gan y Cabinet, a (c) cymeradwyo trosglwyddo £30k i Gronfa Gwasanaeth y Crwner a fydd yn helpu i
hwyluso gostyngiad yn y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 115 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol i’r aelodau ei ystyried ac fe nododd yr aelodau nifer o
eitemau ychwanegol i'w cynnwys. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |