Agenda, decisions and draft minutes
- Manylion Presenoldeb
- Blaenddalen Agenda PDF 186 KB
- Pecyn adroddiadau'r agenda
- ADRODDIAD CYLLID PDF 201 KB
- ITEM 5 SUPPLEMENT - PROPOSED CLOSURE OF YSGOL LLANBEDR - APPENDIX C PDF 296 KB
- PART 2 - FUTURE OF CLWYD LEISURE LIMITED PDF 80 KB
- SUPPLEMENT - YSGOL LLANBEDR GOVERNING BODY RESPONSE PDF 231 KB
- Penderfyniadau wedi eu hargraffu PDF 88 KB
- Cofnodion Drafft Argraffedig PDF 187 KB
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 8 -
Datblygiadau Polisi Trethi Busnes yng Nghymru. Datganodd
y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 9 –
Rhyddhad Trethi Dewisol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 8 -
Datblygiadau Polisi Trethi Busnes yng Nghymru. Datganodd
y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 9 –
Rhyddhad Trethi Dewisol |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 17 Rhagfyr 2013 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013. Tudalen Rhif: 1 - DEISEB - Gofynnodd y Cynghorydd
Bobby Feeley i'r Cabinet gael gwybod pan fydd ymateb wedi bod i’r ddeiseb. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Y CYNNIG I GAU YSGOL LLANBEDR PDF 165 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n
amgaeedig) ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol
Llanbedr ar 31 Awst 2014 ac ar symud y disgyblion presennol i Ysgol Borthyn,
Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol
Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun,
yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Cofnodion: [Ar gais yr Arweinydd Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd (PGCD) i’r materion cyfreithiol a godwyd cyn y cyfarfod ynghylch y
broses ymgynghori. Cadarnhaodd y PGCD ei fod yn fodlon ein bod
wedi cadw at y ddeddfwriaeth berthnasol ac nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol
rhag gwneud penderfyniad.] Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
a oedd yn rhoi manylion canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau
Ysgol Llanbedr ar 31 Awst, 2014 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol
Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y
Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig. Dosbarthwyd llythyr oddi wrth Esgob
Llanelwy’n gwrthwynebu'r cau yn y cyfarfod. Cydnabu'r Cynghorydd Williams fod hwn yn
benderfyniad anodd, gan nodi bod Ysgol Llanbedr yn arfer bod yn ysgol
ffyniannus, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gofal cyflawn a ddarparwyd gan yr ysgol. Nododd fod nifer o blant o Lanbedr wedi
penderfynu peidio â mynychu’r ysgol a chyfeiriodd at anawsterau blaenorol sydd
wedi effeithio ar nifer y disgyblion. Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun dros
adolygu ysgolion a thynnodd sylw at benderfyniadau a chanlyniadau blaenorol fel
rhan o'r rhaglen foderneiddio addysg. Disgrifiodd hefyd gamau’r broses adolygu a oedd yn
cynnwys cau, uno neu ffederaleiddio’r ysgol neu gynnal y drefn bresennol. Cyfeiriodd yr Arweinydd at
gyfarfod diweddar gyda rhieni a llywodraethwyr i drafod y mater o chwarae teg i
Lanbedr. Roedd yn fodlon bod y broses yn un deg ac y byddai Llywodraeth Cymru wedi
rhoi sylw i’r mater pe na bai wedi bod yn deg. Cydnabu’r Cabinet yr angen i fynd i'r afael â
lleoedd gwag fel rhan o’r adolygiad yn ardal Rhuthun a nodwyd bod 21 o
ddisgyblion yn mynychu’r ysgol a oedd â lle i 54. Nodwyd hefyd mai dim ond 7
o’r 21 disgybl oedd yn byw yn y gymuned ac nid oedd yn ymddangos bod unrhyw
ddewis penodol dros unrhyw ysgol arall. Roedd yr Aelodau'n cydnabod y pryderon a godwyd yn
ystod yr ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd darparu addysg o ansawdd
a gwneud y mwyaf o botensial addysgol pobl ifanc yn ardal Rhuthun. Gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn ag
effaith cau ar gyrhaeddiad disgyblion a gofynnwyd am eglurhad pellach o ran
dewisiadau ysgol a chymryd ymagwedd gyson tuag at ysgolion eraill. Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a'r swyddogion
fel a ganlyn - ·
Enwyd
Ysgol Borthyn fel ysgol arall (fel ysgol ffydd Cyfrwng Saesneg) gydag ysgolion
eraill yn cael eu crybwyll fel dewisiadau eraill addas gan ymatebwyr i'r
ymgynghoriad, gan gynnwys Gellifor, Bro Famau a Stryd y Rhos ·
dim
ond un ymatebydd gadarnhaodd y byddent yn anfon eu plentyn/plant i Ysgol
Borthyn gyda'r mwyafrif yn dewis peidio â datgan dewis - os cytunwyd i gau'r
ysgol, byddem yn cysylltu â rhieni ynghylch eu dewisiadau ·
eglurwyd
y rhesymeg y tu ôl i benderfyniadau cynharach a wnaed mewn perthynas ag
ysgolion llai a'r cynigion ar gyfer ysgolion eraill fel rhan o adolygiad ardal
Rhuthun yn seiliedig ar ffactorau penodol yn ymwneud â’r ysgolion hynny ·
nid
fu’r adolygiadau blaenorol yn seiliedig ar niferoedd yn llwyddiannus a gellid
buddsoddi mewn ysgolion llai os oeddynt yn gynaliadwy ·
adroddwyd ar y safonau da o gyrhaeddiad yn
ysgolion Rhuthun, gan dynnu sylw at y ffaith fod perfformiad y tair ysgol ffydd
yn dda ·
nad
oedd unrhyw broblemau gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg na dwyieithog yn yr
ardal. Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn cau Ysgol Llanbedr ac roedd yn siomedig bod y mater wedi’i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar ôl dyddiad cau'r ymgynghoriad. Tynnodd sylw at y cysylltiadau cymunedol cryf rhwng yr ysgol a'r eglwys, a chefnogaeth rhieni a phlant lleol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
FFRAMWAITH AR GYFER GWASANAETHAU INTEGREDIG AR GYFER POBL HŶN PDF 122 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r aelodau o fwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig
i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r
Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru mewn ymateb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (gwelwch Atodiad 1)
i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth
Cymru "Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol
Integredig" (Gorffennaf 2013). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad
yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft (ynghlwm wrth yr
adroddiad) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’w bwriad i sefydlu
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag
anghenion cymhleth. Roedd y Datganiad yn ddogfen ranbarthol ond yn tynnu sylw at feysydd o
arfer da a ddatblygwyd yn Sir Ddinbych. Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau,
y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor
archwilio ar y Datganiad a chadarnhaodd bod y pwyllgor wedi croesawu'r cynigion
ac wedi gofyn i ddigon o adnoddau gael eu darparu i gynnig y gwasanaethau
integredig. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol - ·
Amlygwyd
yr Iaith Gymraeg fel elfen bwysig o ran sicrhau y gallai pobl sgwrsio yn
Gymraeg os oeddent yn dymuno - nodwyd hefyd fod hwn yn fater a allai elwa o
fonitro fel rhan o'r fframwaith integreiddio ·
rhoddwyd
manylion yr amserlen ar gyfer datblygu cynigion am ddarpariaeth integredig drwy
gyflwyno’r camau gweithredu pellach i Lywodraeth Cymru oedd yn ofynnol ystod y
flwyddyn a’r dyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2014 ·
sefydlwyd
fod y rhaglen integreiddio hefyd yn cynnwys y sector gwirfoddol ond byddai
angen archwilio arian ar gyfer grwpiau gwirfoddol drwy’r ardaloedd lleol ·
gobeithiwyd
y gellid hwyluso anawsterau blaenorol o ran gwaith partneriaeth gyda Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel rhan o’r rhaglen integreiddio ac
roedd yn fater a fyddai'n elwa o gael ei fonitro’n agos ·
Amlygwyd
swyddogaeth hanfodol Meddygon Teulu wrth sefydlu gwasanaethau integredig ynghyd
â phryderon dros amseroedd aros am apwyntiadau a sut y gellid ymdrin â’r
materion hynny drwy'r fframwaith integredig – roedd y mater yn cael ei reoli
drwy nifer o fforymau, gan gynnwys timau arweinyddiaeth lleol dan arweiniad
meddygon teulu. O safbwynt amseroedd aros, nodwyd fod y mater wedi’i godi o’r blaen gyda
BIPBC a gellid ei amlygu eto fel rhwystr rhag integreiddio. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno y dylid cyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (fel y
nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol
cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru “Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal
Iechyd a Chymdeithasol Integredig” (Gorffennaf 2013). |
|
POLISI DYRANIADAU CYFFREDIN - UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI PDF 108 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau
(copi'n amgaeedig) sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai ar
draws Gogledd-ddwyrain Cymru Ac yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi
Dyraniadau Cyffredin i’w weithredu’n lleol . Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo'r
Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad A i'r
adroddiad, (b) yn gofyn i
swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio ar y camau i'w cymryd mewn
perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y
nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a phwyntiau pellach a godwyd gan aelodau
etholedig yn y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad ar ddatblygu Un Llwybr
Mynediad at Dai (SARTH) ar draws isranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru a gofyn i’r
Cabinet roi cymeradwyaeth i weithredu’r Polisi Dyraniadau Cyffredin yn lleol. Roedd SARTH yn brosiect partneriaeth rhwng
landlordiaid cymdeithasol mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Roedd yr adroddiad yn manylu ar nod y
Polisi Dyraniadau Cyffredin (PDC) a’i weithrediad arfaethedig ar draws sefydliadau
partner. Ymatebodd y swyddogion i nifer o wahanol senarios
a gyflwynwyd iddynt mewn perthynas ag anghenion tai a chadarnhawyd nad oedd
unrhyw gyswllt trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol. Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl
leol, gan gynnwys y rhai a oedd ar y rhestr dai ar hyn o bryd, o dan anfantais
o ganlyniad i’r polisi newydd a bod cysylltiadau lleol yn nodwedd amlwg yn y
broses asesu. Cyfeiriwyd at y cyd-destun cyfreithiol a’r categorïau dewis rhesymol mewn
perthynas ag anghenion tai lle gellid gweithredu cysylltiadau lleol hefyd. Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y
pwyllgor archwilio ar yr adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bryderon a oedd
wedi eu manylu yn Atodiad C yr adroddiad. Adroddodd swyddogion ar y cynnydd wrth fynd i'r
afael â rhai o'r materion a godwyd, a nodwyd y dylid delio â phryderon mewn
perthynas â thai o ansawdd gwael a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig fel mater ar wahân. Cododd aelodau eraill faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r
PDC, gan gynnwys is-osod tai fforddiadwy; safonau llety gwarchod a diffyg
wardeiniaid mewn ardaloedd penodol, a thenantiaid nad oedd yn cynnal eiddo ac
yn mynd ati i atal gwelliannau i eiddo. I sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r holl
faterion, cytunwyd y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor archwilio
ar hynny. PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo'r Polisi
Dyraniadau Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylwyd yn Atodiad A yr
adroddiad, a (b) gofyn i
swyddogion adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio ar y camau i'w cymryd mewn
perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y
nodir yn Atodiad C yr adroddiad a phwyntiau eraill a godwyd gan aelodau
etholedig yn y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu
fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFODOL CLWYD LEISURE LIMITED
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden,
Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi i ddilyn) ar y dewisiadau ar
gyfer cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) bod y Cyngor yn
ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r
radd flaenaf fel rhan o'r cynnig tymor hir; (b) bod y Cabinet yn
gofyn i Fwrdd Clwyd Leisure Limited ymateb erbyn 31 Ionawr 2014 gan nodi eu
cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer eu cyfleusterau; (c) bod y Cabinet yn
cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Cyfyngedig Clwyd Leisure yn ormod o risg; (d) yn sgil y
pryderon parhaus a chanfyddiadau ymarfer sylw dyledus, bod y Cyngor yn rhoi'r
gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen; (e) bod y cyllid
presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200 mil yn
2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu cynnig
dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar y cynnig tymor hir. Cofnodion: [Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen ar y rhaglen
gyda chydsyniad yr Arweinydd] Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad
cyfrinachol ar yr opsiynau ar gyfer darparu’r cyfleusterau a weithredir ar hyn
o bryd gan Clwyd Leisure Limited yn y dyfodol. Darllenwyd deiseb a gydlynwyd gan aelod o staff
Canolfan Fowls Gogledd Cymru yn annog y Cyngor i gymryd camau i atal y
cyfleusterau rhag cau. Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i
ganfyddiadau'r ymarferiad diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd a'r achos a wnaed ar
gyfer opsiynau i'r dyfodol a manteisiwyd ar y cyfle i holi’r swyddogion ar
hynny er mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau o weithredu. Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd pryderon
dwys am y ffordd roedd y cwmni’n cael ei redeg a gweithrediad y cyfleusterau. Er y cytunwyd na allai'r Cyngor gymryd
drosodd na pharhau i ariannu'r cwmni yn sgil y pryderon hynny, ailadroddwyd eu
hymrwymiad i wella’r ddarpariaeth twristiaeth a hamdden arfordirol. PENDERFYNWYD - (a) bod y Cyngor yn
ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r
radd flaenaf fel rhan o'r ddarpariaeth arfordirol tymor hir. (b) bod y Cabinet yn
galw ar Fwrdd Clwyd Leisure Limited i ddatgan erbyn 31 Ionawr 2014 beth oedd eu
cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer gweithredu’r cyfleusterau; (c) bod y Cabinet yn
cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Clwyd Leisure Limited yn ormod o risg. (d) yn sgil y
pryderon parhaus a chanfyddiadau’r ymarferiad diwydrwydd dyledus, dylai’r
Cyngor roi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen, a (e) bod y cyllid
presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200k yn 2014/15)
yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu darpariaeth
dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar ddyfodol tymor hir y ddarpariaeth
arfordirol. Ar y pwynt hwn,
cafodd y Cabinet egwyl ar gyfer cinio ac ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn
agored am 3.00 pm |
|
DATBLYGIADAU POLISI TRETHI BUSNES YNG NGHYMRU PDF 78 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) ynghylch newidiadau deddfwriaethol i Drethi
Busnes i hyrwyddo datblygiadau newydd a dod eiddo gwag hir dymor yn ôl i
ddefnydd. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cabinet fabwysiadu’r ddau gynllun
newydd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr aelodau yn mabwysiadu'r 'penderfyniadau enghreifftiol’ yn ffurfiol a’r
'ffurflenni cais enghreifftiol' ar gyfer y ddau gynllun fel y nodir gan
Lywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu ar newidiadau deddfwriaethol i Drethi Busnes i hyrwyddo
datblygiadau newydd a gwneud defnydd o’r newydd o eiddo gwag hir dymor, ac
argymhellodd y dylai’r Cabinet fabwysiadu’r ddau gynllun newydd. Crëwyd y ddau gynllun i hyrwyddo twf a chynyddu
lefelau cyflogaeth ar raddfa genedlaethol. Mewn ymateb i gwestiynau,
dywedodd y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau y byddai uchafswm y terfynau
cymorth Ewropeaidd yn berthnasol ac y byddai trethdalwyr yn elwa ar y cynllun
mwyaf ffafriol mewn achosion lle'r oedd mwy nag un yn berthnasol. Nododd y Cabinet rinweddau’r cynlluniau a
gofynnodd yr Arweinydd iddynt gael eu hyrwyddo gymaint ag y bo modd i sicrhau’r
budd economaidd mwyaf. PENDERFYNWYD mabwysiadu
‘penderfyniadau enghreifftiol’ a 'ffurflenni cais enghreifftiol' y ddau gynllun
mewn perthynas â Threthi Busnes yn ffurfiol fel yr amlinellir gan Lywodraeth
Cymru. |
|
GOSTYNGIAD DEWISOL AR DRETHI PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) sy'n adolygu lefelau Gostyngiad Dewisol ar Drethi a
ddyfarnwyd i elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Mae’r adroddiad yn gofyn i'r
Cabinet gymeradwyo diwygiadau arfaethedig i'r Meini Prawf ar gyfer Gostyngiad
Dewisol ar Drethi. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n cymeradwyo'r newidiadau bwriedig i'r Meini Prawf Rhyddhad Trethi
Dewisol i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2014 ar gyfer ymgeiswyr newydd ac 1
Ebrill 2015 ar gyfer ymgeiswyr presennol, fel y nodir ym mharagraffau 4.1-4.9
o’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad ar lefelau’r Gostyngiad Dewisol ar Drethi (GDD) a ddyfarnwyd i
Elusennau a sefydliadau Nid am Elw a gofynnodd am gymeradwyaeth i ddiwygiadau
arfaethedig i'r Meini Prawf GDD. Rhoddwyd amlinelliad i’r Aelodau o gost bresennol
GDD i’r Cyngor ynghyd â chamau i sicrhau arbedion ar gyfer 2015/16, a gofynnwyd
iddynt ystyried diwygiadau pellach i feini prawf y GDD. Dan y ddeddfwriaeth bresennol byddai ond
yn bosibl diwygio gostyngiad ar drethi o 2015/16 ar gyfer ymgeiswyr presennol
ond byddai’n dod i rym ar unwaith ar gyfer ceisiadau newydd. Trafododd y Cabinet yr achos dros ddiwygio
a chroesawyd y cynigion fel ffordd deg ymlaen i sicrhau fod y Cyngor yn parhau
i ddarparu gostyngiad dewisol lle bo angen a bod hynny er budd y gymuned leol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn rhoi cymeradwyaeth i weithredu'r diwygiadau bwriedig i'r Meini Prawf
Gostyngiad Dewisol ar Drethi o 1 Ebrill 2014 ar gyfer ymgeiswyr newydd ac o 1
Ebrill 2015 ar gyfer ymgeiswyr presennol, fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.1
- 4.9 yr adroddiad. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r
gyllideb ac yn manylu ar gynigion i’w cymeradwyo gan y Cyngor Sir er mwyn pennu
cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1
o'r adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn, (b) yn argymell y
cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2014/15 i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2014/15 a’r cynnydd o 3.5% yn lefel
Treth y Cyngor yn sgil hynny. Roedd cynigion ar gyfer arbedion ychwanegol o £2m i’r
gyllideb er mwyn cwblhau’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 wedi’u hatodi i’r
adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â manylion am arbedion o £6.5m ar y gyllideb a
gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer 2014/15 (Atodiad 2). Cyfeiriwyd at farn yr aelodau yn deillio o'r Gweithdy
diweddar ar y Gyllideb a’r rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd. Mynegwyd rhai amheuon ynghylch y defnydd o
falansau cyffredinol i helpu ymateb i’r diffyg o ran arbedion, ond rhoddwyd
sicrwydd i’r Cabinet y byddai balansau’n aros ar lefel resymol ac nad oedd yn
peri risg i'r Awdurdod. Roedd y defnydd o falansau wedi’i fwriadu fel dyraniad un
waith yn unig i ganiatáu amser i ddatblygu cynigion pellach am arbedion ar
gyfer 2015/16. Byddai unrhyw ddigwyddiadau ar hap ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol yn cael eu dyrannu i falansau cyffredinol oni bai eu bod wedi’u
clustnodi ar gyfer gwasanaethau penodol. Amlygwyd hefyd yr her ariannol
sylweddol dros y blynyddoedd nesaf gyda phenderfyniadau anoddach i'w gwneud. Talodd y Cynghorydd David Smith deyrnged i'r Pennaeth
Cyllid ac Asedau a’i dîm am eu gwaith caled a’r rheolaeth o’r broses o bennu’r
gyllideb. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr
adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn, ac (b) argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny ar gyfer
2014/15 i’r Cyngor llawn. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi i ddilyn) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth
a gytunwyd ar gyfer y gyllideb. (b) yn cymeradwyo
trosglwyddo’r symiau canlynol i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn Adran 6 yr
adroddiad:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant o £951k ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
76% (£3.061m) o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u sicrhau hyd yma ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol ·
symudiad
negyddol o £6k ar falansau ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13. ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet
gymeradwyo tri throsglwyddiad i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn adran 6 yr
adroddiad: Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, dywedodd y Cynghorydd
Thompson-Hill fod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £950k ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond gallai’r ffigwr hwnnw newid. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a
gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a (b) Cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn
Adran 6 yr adroddiad:
|
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 119 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet amgaeedig a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Os bydd un o’r pwyllgor archwilio’n galw
ar y Cabinet i adolygu'r penderfyniad a wnaed mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr,
dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai angen
ystyried y mater yn y cyfarfod ym mis Chwefror. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
FFRAMWAITH CONTRACTWR YSGOLION AC ADEILADAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn argymell penodi’r contractwyr a enwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod
y contractwyr a enwir ym mharagraff 3 yr adroddiad yn cael eu penodi Fframwaith
Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell penodi contractwyr a enwyd i
Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWSPBCF). Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion ar ganlyniad
proses gaffael NWSPBCF a rhinweddau’r ymagwedd o gydweithio. Cyflwynodd y Cynghorydd Thompson-Hill y tîm sy’n
gweithio ar y fframwaith a thalodd deyrnged iddynt am eu gwaith caled. Cadarnhaodd y swyddogion y gallai pob
awdurdod bennu eu hanghenion economaidd penodol eu hunain a’r manteision
cymunedol y ceisir eu sicrhau ar gyfer pob prosiect. PENDERFYNWYD penodi’r
contractwyr a enwir ym mharagraff 3 yr adroddiad i Fframwaith Contractwyr
Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru. Daeth y cyfarfod i ben am 4.15pm |