Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Estynnodd yr
arweinydd groeso cynnes i aelodau’r cyhoedd a oedd yn bresennol i glywed y
drafodaeth am gynigion am ddarpariaeth ffydd. Croesawodd yr
Arweinydd Esgob Llanelwy ac Esgob Wrecsam ynghyd â'u swyddogion, Michael
Carding a Rita Price i'r cyfarfod. Eglurodd yr
Arweinydd y byddai cwestiynau gan aelodau'r Cabinet yn cael eu caniatáu yn y
lle cyntaf. Yna byddai Cynghorwyr sy’n mynychu’r cyfarfod fel sylwedyddion yn
cael cyfle i ofyn cwestiynau. Ni chaniateir i aelodau o'r cyhoedd ofyn
cwestiynau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
rheolau gweithdrefn y Cabinet fel y nodir yn y cyfansoddiad. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Hywyn Williams,
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Nid oedd unrhyw
Aelod wedi datgan unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu mewn
unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o
faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. |
|
DEISEB Rhoddodd y
Cynghorydd Richard Davies ddeiseb i’r Arweinydd sydd wedi ei llofnodi gan Ysgol
y Santes Ffraid. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2013 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 24 Medi, 2013
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2013. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 24 Medi, 2013
fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH YN SEILIEDIG AR FFYDD PDF 136 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n nodi
canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd a rhoi
ystyriaeth p'un ai i fynd ymlaen â chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad
statudol neu beidio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol, oedd yn
nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac i
ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad
statudol. PENDERFYNWYD: (i)
Nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol
ar gyfer cau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes
Ffraid ac agor ysgol newydd; (ii)
Cadarnhau’r ymrwymiad tuag at weithio mewn
partneriaeth gydag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng
Nghymru i gynnig ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd; (iii)
Cytuno i ddatblygu cynnig i alluogi
ymgynghoriad ffurfiol ar adeiladu ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd i ddisodli
darpariaeth bresennol Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol
y Santes Ffraid. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi ei gylchredeg yn flaenorol, a oedd yn
nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac yn
gofyn i’r Cabinet ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy
gyfrwng hysbysiad statudol. Rhoddodd y Cynghorydd Williams gefndir i'r sefyllfa
a thynnodd sylw at yr angen am ddull strategol a chydlynol. Gofynnodd yr
Arweinydd i Esgob Llanelwy ac Esgob Wrecsam fynegi eu barn ynghylch y
Ddarpariaeth yn Seiliedig ar Ffydd. Diolchodd Esgob
Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, am y cyfle a roddwyd i
Esgobaeth Llanelwy fod yn hyrwyddwr ar gyfer ysgol ffydd sengl newydd yn Sir
Ddinbych. Byddai'r weledigaeth yn un ar gyfer ysgol ffydd a rennir i
ddinasyddion Sir Ddinbych. Ailadroddodd yr Esgob ei fod yn credu mewn
rhagoriaeth mewn addysg ac y byddai'r cynllun yn gyfle i adeiladu rhywbeth
gwych ac i ddiwallu holl anghenion y gymuned. Anogodd Esgob Llanelwy’r aelodau
Cabinet i dderbyn yr adroddiad. Diolchodd Esgob
Wrecsam, y Gwir Barchedig Monsignor Peter Brignall, hefyd am y cyfle i gyflwyno
a chefnogi’r ddarpariaeth cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cabinet.
Mae Esgobaeth Wrecsam wedi bod yn ddarparwyr addysg uwchradd yn Sir Ddinbych
ers hanner canrif. Soniodd yr Esgob am lwyddiant y
broses o newid Ysgol Sant Joseff yn Wrecsam yn ysgol ffydd ar y cyd. Byddai'r ysgol ffydd ar y cyd yn gyfle i
ddarparu'r addysg orau i'r teuluoedd hynny sy'n dewis addysg ffydd, beth bynnag
yw eu crefydd. Fel darparydd presennol, gobeithir y bydd addysg ffydd yn parhau
i gael ei darparu, nid yn unig mewn rhan o'r sir ond ar gyfer dalgylch cyfan
ysgolion Sir Ddinbych. Mae Esgob Wrecsam yn cefnogi Esgob Llanelwy a’i
ymrwymiad i addysg yn seiliedig ar ffydd ar gyfer y genhedlaeth hon o bobl
ifanc a’r cenedlaethau i ddod. Yn ystod y
drafodaeth eglurwyd mai cam dros dro oedd Cam 1 y cynllun. Ond, yn ystod
ymgynghori, roedd pryderon o ran diffyg cefnogaeth budd-ddeiliaid allweddol i
Gam 1. Roedd modd datblygu Cam 1 ond roedd perygl y byddai hynny’n cael effaith
negyddol ar safonau. Roedd hi’n hollbwysig nad oedd safonau yn llithro'n ôl.
Gan fod hwn wedi bod yn fater o ddarparu gweithredol, yn sgil canlyniad yr
ymgynghoriad, penderfynwyd canolbwyntio ar ddarparu un ysgol Gristnogol ar un
safle. Yn y cyfamser, bydd Sir Ddinbych yn parhau i gefnogi pob ysgol. Mae Ysgol
Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Mae Ysgol y
Santes Ffraid ar gyfer disgyblion 3-19 oed. Eglurwyd yn ystod y cyfarfod y
byddai ystod oedran yr ysgol newydd yn derbyn mwy o ystyriaeth yn ystod Cam 2 y
cynllun. Byddai'r ddarpariaeth gynradd a’r ddarpariaeth ôl-16 yn cael eu
hystyried. Bydd achos busnes
yn cael ei lunio gyda’r dewisiadau a’r costau cysylltiedig. Mae cyllid o £28
miliwn wedi ei gytuno arno mewn egwyddor. Ni fyddai darparu dau gyfleuster yn
gwneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau gan y byddai hynny’n llawer mwy costus.
Bydd hyn yn cael ei ddangos yn yr achos busnes. Os bydd yr achos busnes a
gyflwynwyd yn costio mwy na'r cais, yna byddai'n rhaid i swyddogion ddod yn ôl
at yr aelodau i dderbyn penderfyniad sydd o fewn y cyllid sydd ar gael. Yn ystod Cam 2 o’r cynllun a drwy weithio gyda’r hyrwyddwyr, byddai’r trafodaethau’n canolbwyntio i ddechrau ar gadarnhau ystod oed, maint a lleoliad yr ysgol newydd. Byddai’r trafodaethau hyn hefyd yn cynnig ystyriaeth lawn o’r dewisiadau o ran y modd y byddai’r galw am addysg ffydd oed cynradd yn cyfateb â’r ddarpariaeth Uwchradd. Mae chwe safle posibl i’w hystyried. Byddai'r cynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu er mwyn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn
(11.30am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.45am. |
|
YMGYNGHORIAD FFURFIOL - YSGOL LLANBEDR PDF 92 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n darparu’r
wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol
yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig
i gau Ysgol Llanbedr. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn
diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod
Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun
a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i gymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau
Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i
Ysgol Borthyn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ac yn amodol ar gasgliadau’r
trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru. Cofnodion: Eglurodd yr
Arweinydd y byddai cwestiynau gan aelodau'r Cabinet yn cael eu caniatáu yn y
lle cyntaf. Yna byddai Cynghorwyr sy’n mynychu’r cyfarfod fel sylwedyddion yn
cael cyfle i ofyn cwestiynau. Ni chaniateir i aelodau o'r cyhoedd ofyn
cwestiynau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
rheolau gweithdrefn y Cabinet fel y nodir yn y cyfansoddiad. Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn
diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod
Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun
a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr. Cynhaliwyd
cyfarfod gyda Swyddogion Addysg o Awdurdod yr Esgobaeth ar 25 Medi i drafod y
cynnig hwn a’r materion ehangach sy’n effeithio ar Ysgol Llanfair ac Ysgol
Borthyn. O safbwynt y
cynnig arwyddocaol hwn, y canlyniad oedd na ddaethpwyd i gytundeb rhwng Sir
Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy ynglŷn â chau Ysgol Llanbedr. Os bydd y
cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd y Cyfarwyddwr, ar ran yr Esgobaeth, yn gwneud
ymateb ffurfiol, ar ôl ymgynghori eto â’r Bwrdd Addysg. Rhagwelwyd y
byddai'r Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr yn cael ei gynnal rhwng
11 Tachwedd 2013 a 23 Rhagfyr 2013. Byddai'r broses ymgynghori yn rhoi cyfle i
rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff, wneud sylwadau ar y cynigion cyn y
byddai penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet ar p’un ai dylid bwrw ymlaen
a chyhoeddi’r cynigion yn ffurfiol. Gofynnodd y
Cynghorydd Huw Williams sawl cwestiwn ar ran Ysgol Llanbedr. Cafwyd trafodaeth
ddwys lle darparwyd yr ymatebion canlynol: ·
Ar
adeg cwblhau’r adroddiad, roedd yr awdurdod wedi prosesu 4 o geisiadau ar gyfer
y dosbarth Derbyn a 5 cais ar gyfer darpariaeth Feithrin. Y dyddiad cau ar
gyfer ceisiadau meithrin a derbyn yw 29 Tachwedd 2013 a 21 Chwefror 2014 yn y
drefn honno. ·
Nodwyd
yn flaenorol mai'r cyfanswm lleoedd yn adeilad parhaol yr ysgol yw 77. Roedd
hyn yn cynnwys 54 o leoedd Parhaol a 23 o leoedd mewn dosbarth symudol. Mae’r
Corff Llywodraethu wedi cyflwyno sylwadau y dylid symud y ddarpariaeth symudol
o’r ysgol, felly cyfrifwyd mai nifer y lleoedd i ddisgyblion llawn amser yw 54.
·
Er
bod rhagamcaniadau disgyblion yn dangos cynnydd yn niferoedd y disgyblion dros
y blynyddoedd i ddod a fyddai’n lleihau nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol,
byddai Ysgol Llanbedr yn parhau i fod yn "ysgol fach" a byddai
materion yn parhau ynghylch cynaliadwyedd a hyfywedd Ysgol Llanbedr a safonau
addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol. ·
Mae ysgolion bychain yn aml yn golygu dosbarthiadau
oedran cymysg. Roedd
posibilrwydd y gallai blynyddoedd 4, 5 a 6 gael eu haddysgu mewn un dosbarth.
Mae'r awdurdod yn adolygu p’un ai yw ysgol o'r maint hwn yn darparu amgylchedd
dysgu addas. ·
Mae
modd i 21 o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Llanbedr gael eu symud i Ysgol
Borthyn gan fod ganddynt gapasiti ychwanegol ar gyfer 31 o ddisgyblion. ·
Mae polisi cludiant y sector cynradd yn nodi y
gall plentyn sy’n byw mwy na 2 filltir o'u hysgol agosaf neu ar hyd llwybr
anniogel dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol gan y Cyngor. Os yw rhieni yn dewis
ysgol arall yna byddai'n rhaid iddynt hwy dalu am y cludiant. ·
O
fewn y Cynllun Datblygu Lleol, mae cynlluniau ar gyfer datblygu 80 o gartrefi
newydd yn Llanbedr. Mae polisi mynediad Ysgol Llanbedr yn cyfyngu nifer y disgyblion
i 54. · Yn y pen draw, bydd holl ysgolion Sir Ddinbych sydd â chynhwysedd o lai na 80 o ddisgyblion yn cael eu hadolygu. Mae'r model hwn wedi ei darparu gan Estyn i edrych ar p’un ai yw ysgolion sydd â llai na 80 o ddisgyblion ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn
(1.00pm) cafwyd egwyl o 5 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 1.05pm. |
|
DIWEDDARIAD YNGLŶN Â’R ADRODDIAD ARIANNOL PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf, a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y
cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol, a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. PENDERFYNWYD bod
Aelodau’r Cabinet yn nodi’r cynnydd yn
erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyng. J. Thompson Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor a’r
cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet nodi’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. |
|
EITHRIO RHAG TENDRO GIFT PDF 121 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley i gymeradwyo Eithriad Rhag Tendro GIFT ac i
roi’r contract. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, wedi'i gylchredeg yn flaenorol, oedd yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r Eithriad Tendr GIFT ac i ddyfarnu'r
contract. PENDERFYNWYD bod
aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r eithriad tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract
i'r Wallich, y darparwr presennol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchlythyrwyd yn flaenorol, oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Eithriad Tendr GIFT ac i ddyfarnu'r
contract. PENDERFYNWYD bod
aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r eithriad tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract
i'r Wallich, y darparwr presennol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 107 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd H. H. Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y cytunwyd arnynt. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd H. H. Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Cabinet. Cytunodd y
Cabinet ar y canlynol: ·
Ychwanegu
Achos Busnes Caffael ar gyfer gwasanaeth cyfunol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint,
a oedd wedi ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd, at raglen 14 Ionawr 2013 ·
Tynnu
Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Cais Ariannu ar gyfer Prosiectau Canol Tref
y Rhyl o raglen mis Tachwedd. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y
cytunwyd arnynt. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 1.35pm. |