Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED - JANE KENNEDY Cyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist fod Jane Kennedy, cyn Bennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Dros Dro Llywodraethu Corfforaethol wedi
marw’n ddiweddar ar ôl salwch byr. Talodd deyrnged i flynyddoedd o wasanaeth
Jane i lywodraeth leol ac estynnodd
gydymdeimlad y Cyngor i’w theulu. Safodd yr Aelodau a’r swyddogion mewn
teyrnged dawel. |
|
TREFN YR AGENDA Rhoddodd yr Arweinydd wybod am ei fwriad i amrywio trefn y materion a symud
eitem 6 yr agenda, Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, i ddiwedd eitemau Rhan 1 i’w
hystyried. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: N Cofnodion: Ni chodwyd
datganiad o gysylltiad personol nac anffafriol. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 25 Mehefin 2013 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013. PENDERFYNWYD
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013 fel cofnod
cywir ac fe’u llofnodwyd gan yr Arweinydd. |
|
GRŴP TASG A GORFFEN YR ADOLYGIAD BWYD PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus, (copi'n
amgaeedig) ynglŷn â gwaith Grŵp Tasg a Gorffen yr Adolygiad Bwyd yn
dilyn y sgandal cig ceffyl. Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r
argymhellion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo argymhellion Grŵp Tasg a Gorffen yr Adolygiad Bwyd fel y
nodwyd ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd, yr adroddiad gan roi manylion canfyddiadau’r
Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a gweithdrefnau’r
Cyngor mewn perthynas â chaffael bwyd, rheoleiddio a rheoli contractau yn dilyn
y sgandal cig ceffyl. Croesawodd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ganfyddiadau’r
Grŵp ac argymhellodd fod pob un o’r 13 argymhelliad sy’n codi o’r
adolygiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w cymeradwyo. Tynnodd y Cynghorydd Smith sylw’r aelodau at
argymhelliad 3.2 oedd yn cynghori bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal
archwiliad yn Sir Ddinbych yn ystod yr wythnosau diwethaf a awgrymodd nad oedd
nifer yr aelodau staff oedd yn gallu cyflawni swyddogaethau rheoliadol i weld
yn ddigonol. Nid oedd yr adroddiad archwilio terfynol ar gael eto. Mewn ymateb
i gwestiynau, cynghorwyd yr aelodau – ·
bod y
swyddogion yn gyfrifol am weithredu’r argymhellion a byddai’r Grŵp Adolygu
Bwyd yn edrych i sicrhau bod digon o weithdrefnau ar waith ·
bod gwaith wedi’i wneud gyda’r
Gwasanaethau Cymdeithasol i gadarnhau gweithrediad caffael mwy grymus gyda mwy
o ddiogelwch dan gytundebau cyfamodol ·
bod dull rhagweithiol wedi’i
gymryd i olrhain bwyd nôl i’r ffynhonnell. Canmolodd yr Arweinydd ymateb y Cyngor i’r sgandal
cig ceffyl a diogelu budd y cyhoedd. Ar ôl ystyried yr argymhellion – PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd fel y manylir
ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad. |
|
DATBLYGU ‘CYNGOR ARDDERCHOG, SY’N AGOS AT Y GYMUNED’ PDF 153 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau,
(copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dull y Cyngor i ddatblygu'r
thema o Ddod â’r Cyngor yn Nes at y Gymuned. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cefnogi’r
agwedd newydd at y diffiniad o fod yn Gyngor Ardderchog sy’n Agos at y Gymuned,
fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) yn ei gwneud yn
ofynnol i bob gwasanaeth ddatblygu eu cynlluniau eu hunain er mwyn ymateb yn
gadarnhaol i’r pedwar thema a amlinellwyd yn y cynllun trosolwg a nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad, ac (c) chefnogi adolygiad
gweithgareddau’r Grwpiau Ardal Aelodau i sicrhau bod cyfleoedd i roi adborth a
chael barn y gymuned ar lefel leol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid
a Chymunedau’r adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddull y
Cyngor o ddatblygu’r uchelgais o ‘Ddod â’r Cyngor yn Agosach at y Gymuned’.
Manylwyd ar drosolwg o sut cysylltodd y Cyngor gyda chymunedau a’i ddull
diwygiedig yn yr atodiadau i’r adroddiad. Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cwsmeriaid ar y blaenoriaethau dynodedig ar gyfer y Cyngor er mwyn dod â’r
Cyngor yn agosach at y gymuned gyda phedair thema newydd a’r camau
cysylltiedig. Amlygodd ran pob gwasanaeth wrth gefnogi’r dull corfforaethol.
Byddai hyn yn cael ei fonitro’n barhaus trwy’r Cynllun Gweithredu, y Cynllun
Corfforaethol a thrwy’r Broses Herio’r Gwasanaeth. Cydnabu’r Cyngor y cyflawniadau a ddyluniwyd i ddod â’r cyngor yn
agosach at y gymuned a rhoddodd rai enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltiad
llwyddiannus gyda’r cyhoedd. Amlygwyd pwysigrwydd ymgysylltu a rhyngweithio
gyda chymunedau ond cydnabuwyd hefyd fod amgyffrediad y cyhoedd yn llai
cadarnhaol pan oedd yr ymgynghori’n canolbwyntio ar faterion penodol lle bu
rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd. Amlygodd y Cynghorydd Eryl
Williams y naws negyddol oedd yn perthyn i adolygiadau ysgol yn arbennig a
theimlai y byddai rhyw fath o deilyngdod mewn dileu’r cyfeiriad yn ‘agos at y
gymuned’ yn y datganiad o fwriad ac i ganolbwyntio ar yr agwedd fwy cadarnhaol
o fod yn ‘Gyngor Ardderchog’. Yng ngoleuni’r hinsawdd ariannol sy’n gwaethygu,
byddai angen gwneud penderfyniadau anos ac amhoblogaidd a fyddai’n effeithio’n
negyddol hefyd ar amgyffrediad y cyhoedd. Yn ystod y ddadl a aeth rhagddo,
derbyniwyd yn gyffredinol y byddai amgyffrediad cyhoeddus negyddol yn codi o
faterion penodol ond roedd angen i’r Cyngor ddangos eu hymrwymiad i fynd yn
agos at y gymuned. Amlygwyd y pwysigrwydd i’r Cyngor fod yn agored ac yn
dryloyw yn ei fusnes ac yn y ffordd yr oedd yn cynnal ymgyngoriadau ac yn
gwrando ac yn ymgysylltu â’r gymuned. Derbyniwyd y gallai’r cyngor fod yn agos
at y gymuned ond gallai barhau i fod yn amhoblogaidd oherwydd ni fyddai eu
penderfyniadau’n cael cefnogaeth pawb. Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley ei bod
hi’n bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn deall bod rhaid gwneud penderfyniadau
anodd. Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at yr anawsterau wrth fesur llwyddiant y
dull newydd a cheisiodd gael canlyniadau mesuradwy mwy pendant. Er bod amryw
strategaethau monitro wedi’u crybwyll, gan gynnwys y cynllun gweithredu,
adborth o amryw fforymau a chwynion/canmoliaeth ac arolygon, cydnabuwyd nad
oedd mesur llwyddiant pendant. Gan fod y mater yn ymwneud â newid mewn
diwylliant, roedd hi’n anodd ei fesur ond roedd ymrwymiad a disgwyliad i lwyddo,
a defnyddiwyd strategaethau i gyflawni’r uchelgais. Ymatebodd y swyddogion i
gwestiynau pellach fel a ganlyn - ·
cydnabuwyd yr angen am
ymrwymiad gan swyddogion gan amlygu ymwneud y gwasanaethau yn y broses ·
ymhelaethwyd
ar broses ddwy ffordd Siarter y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned a monitro’i
effeithiolrwydd yn barhaus ·
roedd
dau gyngor tref/cymuned wedi methu arwyddo’r Siarter, un o’r rhain oedd
Llandrillo a oedd heb arwyddo oherwydd adolygiad ysgolion eu hardal ·
byddai’r
rhestr wirio (dosbarthwyd Atodiad 3 yn y cyfarfod) yn cael ei defnyddio i
fonitro sut roedd gwasanaethau’n ymateb i anghenion y cwsmeriaid, a ·
byddai’r
wefan newydd yn cael ei lansio’n gyhoeddus ar 19 Awst a byddai’n fwy
rhyngweithiol i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu’n haws gyda’r Cyngor. Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ar safbwyntiau cymysg y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad ac amlygodd yr angen am gynllun ymgysylltu â’r gymuned effeithiol ac am ailwampio Siarter y Cynghorau Tref/Cymuned i’w gwneud hi’n fwy deniadol. Amlygodd hefyd yr angen i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i ymgysylltu â chymunedau, yn enwedig gyda phobl ifanc. Teimlai’r Cynghorydd Colin Hughes fod rhaid i gynghorwyr ymgysylltu â’u ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno â’r
newidiadau i drefniadau presennol diogelu oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
cynigion i newid y trefniadau cyfredol ar gyfer diogelu oedolion, yn unol â
phob partner ledled Gogledd Cymru, i’r dewis a ffafrir o Fwrdd Diogelu Oedolion
Gogledd Cymru ddwyradd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn rhoi manylion y cynigion ar
gyfer trefniadau Diogelu Oedolion i’r dyfodol yn unol â’r Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles (Cymru). Ceisiwyd cytundeb y Cabinet i newid y trefniadau
presennol i ddiogelu oedolion, yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru,
i’r dewis sy’n cael ei ffafrio sef Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy
Haen. Wrth ystyried y cynigion, ceisiodd y Cabinet gael sicrwydd mewn
perthynas â’r trefniadau ariannu a rheoli gwendidau dynodedig, yn enwedig o ran
atebolrwydd. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod disgwyl
cael cyllid cydweithredu rhanbarthol er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.
Petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus, byddai’r prosiect yn parhau i fynd yn
ei flaen ond byddai’n cymryd mwy o amser i roi’r cynigion ar waith. Darparwyd
sicrwydd y byddai’r trefniadau’n cael eu goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru. Byddai dogfennau’n cael eu paratoi ymlaen
llaw gan osod yn glir gyfrifoldebau’r byrddau rhanbarthol ac isranbarthol. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cynigion i newid y trefniadau presennol ar gyfer Diogelu Oedolion,
yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru, i’r dewis sy’n cael ei ffafrio o
Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy Haen. |
|
FFURFIO TÎM CEFNOGI TEULUOEDD INTEGREDIG PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ffurfio
Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir
Ddinbych er mwyn cyflawni e Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet i sefydlu
Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych yn unol â’r gofynion statudol. Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd rywfaint o gefndir
i’r adroddiad a’r rhesymeg y tu cefn i’r gofyniad i sefydlu Tîm Cefnogi
Teuluoedd Integredig. Adroddodd ar y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas â hynny
ac ymhelaethodd ar y cynigion yng Ngogledd Cymru a Sir Ddinbych yn arbennig a
fyddai’n debygol o fod yn weithredol o 31 Rhagfyr 2013 ymlaen. Cyfeiriwyd hefyd
at fanteision y dull hwnnw ynghyd â’r trefniadau ariannu. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd David Smith, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd y byddai cyllid grant yn 2013/14 yn galluogi ar gyfer
cyflogi tri aelod arall o staff i’r tîm. Rhoddwyd sicrwydd i Lywodraeth Cymru o
2014/15 ymlaen, y byddai rhyw £136 mil yn cael ei ychwanegu at y Grant Cynnal
Refeniw ar gyfer y trefniadau Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig a fyddai’n cael
eu defnyddio i ariannu’r swyddi ychwanegol hynny. Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro/Cyfreithiwr am
fwy o eglurder yn yr argymhelliad y manylir arno yn yr adroddiad. O ganlyniad – PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir
Ddinbych yn dilyn ei ddyletswyddau dan Adran 57 Mesur Plant a Theuluoedd
(Cymru) 2010. |
|
AROLWG LLETY SWYDDFA GOGLEDD CYMRU PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau,
(copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynigion rhesymoliad
swyddfeydd ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ynghyd â fformwleiddiad cynlluniau
datblygu tymor hir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
symud o swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn (yn amodol ar ganfod defnydd arall
i’r adeilad) fel y dewis a ffafrir (dewis 3, paragraffau 4.7-4.9) ar gyfer
ad-drefnu swyddfeydd yng ngogledd y Sir. (b) yn cymeradwyo
cynnal ymarfer marchnata ar gyfer adeilad Tŷ Nant, Prestatyn, ar sail les
tymor canolig er mwyn hwyluso symud staff Cyngor Sir Ddinbych o’r adeilad, a (c) yn cymeradwyo
ffurfio Briff Cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Prestatyn
(amlinellwyd mewn coch yn Atodiad 1) a datblygu briff dylunio ac astudiaeth
ddichonolrwydd ar gyfer swyddfeydd newydd yn y Rhyl. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynigion
rhesymoli swyddfeydd Gogledd Sir Ddinbych ynghyd â ffurfio cynlluniau datblygu
tymor hir. Amlinellodd yr adroddiad y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas ag
Adolygiad Llety Swyddfa Gogledd Sir Ddinbych ynghyd ag amlinelliad o’r
ystyriaethau a’r argymhellion strategol. Ymhelaethodd y Cynghorydd
Thompson-Hill ar y rhesymeg y tu cefn i’r cynigion terfynol a oedd yn cynnwys
gwagio swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn yn amodol ar nodi defnydd arall.
Roedd y cynigion tymor hir yn cynnwys datblygiad posibl i safle Prestatyn ac
adeilad swyddfa newydd yn y Rhyl. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymarfer ymgynghori a’r
pryderon a godwyd ynghyd â’r ymatebion i’r rheiny. Cynghorodd y Cynghorydd
Barbara Smith fod yr adolygiad yn rhan o’r strategaeth foderneiddio ac amlygodd
ymwneud y Bwrdd Moderneiddio yn y broses a phwysigrwydd bwrw ymlaen â’r
cynigion cyn gynted â phosibl. Roedd y Cabinet yn hapus bod cynnydd yn cael ei
wneud wrth adolygu asedau a mynd i’r afael â’r mater o adeiladau dros ben.
Cwestiynodd yr aelodau amryw agweddau ar y broses adolygu llety swyddfa a’r
canfyddiadau er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion terfynol wedi rhoi’r
ffordd orau ymlaen. Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad, mynegodd yr aelodau
bryder penodol mewn perthynas â’r cyflwr gwael a’r costau uchel sy’n
gysylltiedig â 6 – 8 Ffordd Llys y Nant. Ymatebodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill a’r swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn – ·
cydnabuwyd
pryderon mewn perthynas â chyflwr gwael a chost uchel 6 – 8 Ffordd Llys y Nant
gan roi manylion y rhesymau pam na chafodd ei gynnwys yn y cam cychwynnol ond
yr eir i’r afael â nhw fel rhan o’r cynigion tymor hwy ·
dan
yr arfer presennol, byddai costau symud yn cael eu talu i staff sy’n cael eu
heffeithio a fyddai’n teithio ymhellach i’r gwaith o ganlyniad i’r cynigion ·
cytunwyd
y gallai ansicrwydd o gwmpas y cynigion fod yn annifyr i’r staff ac os bydd y
Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddent yn cael eu symud ymlaen cyn
gynted â phosibl gan fod yn sensitif i’r staff a chan ddefnyddio cyn lleied o
ymyrraeth â phosibl ·
ymhelaethwyd
ar rôl y Gwasanaethau Eiddo, Adnoddau Dynol a TGCh yn y broses i sicrhau trawsnewid
llyfn a hwyluso arferion gwaith eraill ·
darparwyd
sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau prydlesu ar gyfer Ffordd Brighton gan
fod y landlord yn dymuno cadw’r Cyngor fel tenant ·
darparwyd
rhai arbedion dangosol oedd yn codi o’r cynigion o ran costau gweithredu a
phrydlesu ond byddai ffigurau mwy pendant yn cael eu cynhyrchu yn dilyn yr
ymarfer marchnata a ffurfio’r achos
busnes. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn ystyried Tŷ Nant yn ased gan
ddangos ymrwymiad a phresenoldeb y Cyngor yn y dref a chododd bryderon mewn
perthynas ag effaith economaidd y cynigion. Teimlai nad oedd yn gwneud synnwyr
busnes i barhau i brydlesu 64 Ffordd Brighton pan oedd y Cyngor yn berchen ar
Dŷ Nant yn gyfan gwbl ac awgrymwyd y gallai Ffordd Brighton gael ei
wagio’n rhannol a’i symud i Brestatyn i leihau costau rhent. Mynegodd amheuon
hefyd am ddod o hyd i denant ar gyfer Tŷ Nant a gofynnodd am sicrwydd,
petai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo, y byddai Tŷ Nant yn aros i gael ei
ddefnyddio hyd nes y deuir o hyd i denant. Darparwyd yr ymatebion canlynol: ·
rhoddwyd
sicrwydd y byddai Tŷ Nant yn parhau’n barod i’w ddefnyddio hyd nes i’r
ymarfer marchnata gael ei gyflawni i benderfynu ar ddiddordeb a gwerth · rhagwelwyd, ar yr amod bod y Cyngor yn hyblyg, y gellid dod o hyd i denant ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. (b) cymeradwyo
argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodwyd yn Atodiad 5 mewn
perthynas â gwaith dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb gytûn.
Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £45 mil ar y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
rhagwelwyd
symudiad cadarnhaol i ysgolion o £352 mil gyda chyllidebau ysgol heb eu
dirprwyo’n rhagweld tanwariant o £150 mil ·
cyflawnwyd
£1.267m (41%) o’r arbedion y cytunwyd hyd yma ·
amlygwyd
amrywiadau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Tynnwyd sylw’r aelodau hefyd at argymhelliad y Grŵp Buddsoddi
Strategol (manylion yn Atodiad 5 yr adroddiad) mewn perthynas â’r gwaith
dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. Croesawodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau’r
dull rhagweithiol a gymerwyd gan y Cyngor o ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a oedd yn dechrau cynhyrchu canlyniadau. Roedd Llywodraeth Cymru newydd
sicrhau bod cyllid ar gael i gyflymu’r cynnig yng Nglan Clwyd. PENDERFYNWYD bod – (a) y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd
yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn yn cael eu nodi, a bod (b) argymhelliad y Grŵp Buddsoddi
Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 mewn perthynas â’r gwaith dylunio ar gyfer
Ysgol Glan Clwyd yn cael ei gymeradwyo. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 142 KB Derbyn Rhaglen
Waith i’r Dyfodol y Cabinet a nodi ei chynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried. Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams y
posibilrwydd y gallai’r adroddiad ar Ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar Ffydd
gael ei ohirio o fis Medi i fis Hydref yng ngoleuni cyfoeth yr ymatebion i’r
ymgynghori a ddaeth i law. Gofynnodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau hefyd fod
adroddiad ar Reolaeth y Trysorlys yn cael ei ychwanegu at raglen waith y
Cabinet ar gyfer mis Medi. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. |
|
CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH PDF 109 KB Ystyried
adroddiad, ynghyd â’r atodiadau
cyfrinachol, gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus,
(copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gefnogi gorchymyn prynu gorfodol a
gwneud cynnig i brynu'r safle. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cefnogi
cyflwyno Gorchymyn Prynu Gorfodol ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio hefyd
yn awdurdodi hyn. (b) yn rhoi
cefnogaeth i Swyddogion wneud cynnig i brynu’r safle yn seiliedig ar ymateb y
Prisiwr Annibynnol a ffactorau pwysig eraill. (c) y dylid, cyn
prynu’r safle’n ffurfiol, drwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau,
dderbyn awdurdodiad pellach gan y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y
Cyhoedd yr adroddiad gan roi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd prosiect cyn
Ysbyty Gogledd Cymru a cheisio cefnogaeth y Cabinet i weini Gorchymyn Prynu
Gorfodol ar gyfer y safle a gwneud cynnig i’w brynu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o
wybodaeth gefndirol a arweiniodd at y sefyllfa bresennol ac amlinellodd y
risgiau cyffredinol oedd yn gysylltiedig â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol.
O gofio cymhlethdodau’r safle, argymhellwyd petai’r Cyngor yn llwyddiannus
gyda’r Gorchymyn Prynu Gorfodol neu os byddai’r cynnig i brynu’r safle’n cael
ei dderbyn, byddai awdurdodiad pellach y Cabinet yn cael ei geisio cyn cymryd
perchnogaeth ffurfiol o’r safle. Amlygodd yr Arweinydd gyfeiriadau’r cyfryngau at
leoliad y carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Eglurodd fod y safle hwn a safle
Green Gate Llanelwy yn anaddas oherwydd
y maint a’r cyfyngiadau cynllunio. Cododd yr aelodau gwestiynau mewn perthynas â’r goblygiadau ariannol a’r
bwriadau ar gyfer yr adeilad i’r dyfodol a rhoddwyd yr ymatebon canlynol - ·
byddai’r
prosiect yn arwain at ddim cost i’r awdurdod lleol na threthdalwyr y cyngor ·
roeddent
yn aros am ganlyniad y tair apêl cynllunio oedd yn weddill cyn cymryd camau i
geisio adennill taliad mewn perthynas â’r ddwy apêl annilys ·
byddai
prisiad annibynnol o’r safle’n cael ei wneud er mwyn cadarnhau gwerth yr
iawndal i’w dalu ·
penderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio fyddai cyhoeddi’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a byddai’n debygol o
gymryd rhyw bymtheg mis i’w cwblhau ·
byddai
angen ystyried bwriadau i’r safle i’r dyfodol mewn sesiwn gaeedig ond byddai
unrhyw brosiect yn ceisio bod o fantais i dref Dinbych a’r sir yn gyfan. Roedd atodiadau cyfrinachol yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn
cyd-fynd â’r adroddiad ac er mwyn trafod y mater hwnnw a bwriadau i’r dyfodol
ar gyfer y safle - PENDERFYNWYD bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael
eu gwahardd o’r cyfarfod am y rhesymau y byddai gwybodaeth wedi’i heithrio’n
debygol o gael eu datgelu fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Trafododd y Cabinet faterion yn ymwneud â’r
Gorchymyn Prynu Gorfodol gan gynnwys risgiau cysylltiedig, ystyriaethau
ariannol a chynlluniau i’r dyfodol. Roedd yr aelodau’n awyddus i ddiogelu’r
adeilad a sicrhau bod y safle’n cael ei ddatblygu i fod o fantais i’r ardal.
Wrth gydnabod yr angen am gyfrinachedd, roedd yr aelodau hefyd yn awyddus i
ymdrin â’r mater mor agored â phosibl, heb niweidio sefyllfa’r Cyngor. Ar
ddiwedd y drafodaeth, ailgydiodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cefnogi cyhoeddi Gorchymyn Prynu
Gorfodol ar y safle ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio’n awdurdodi hynny; (b) yn cefnogi’r Swyddogion i wneud cynnig i
brynu’r safle’n seiliedig ar yr ymateb gan Brisiwr Annibynnol a ffactorau
materol eraill, a (c) chyn
prynu’r safle’n ffurfiol, boed trwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy
drafodaethau, bydd awdurdodiad pellach yn cael ei geisio gan y Cabinet. |
|
AILDDATBLYGU 21 -24 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid
ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r telerau
terfynol gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin, y
Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau y cytunwyd arnynt gyda’r Partner
Datblygu Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau’r adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i’r telerau terfynol a gytunwyd gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo ar
Rodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Darparwyd manylion y Cytundeb oedd yn amlinellu’r
cynigion i ddatblygu’r eiddo ynghyd â’r telerau ariannol a’r risgiau
cysylltiedig. Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y bwrdd i ddiogelu’r safle’n
cael ei ddefnyddio fel arf hyrwyddo i greu delwedd brydferth o’r datblygiad. Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i longyfarch y
Pennaeth Cyllid ac Asedau ar ei weledigaeth a arweiniodd at ailddatblygiad
llwyddiannus yr ardal. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau a gytunwyd gyda’r ‘Partner
Datblygu’ Chesham Estates i ddatblygu’r eiddo 21 – 24 Rhodfa’r Gorllewin (a
adwaenwyd fel The Honey Club yn y gorffennol), y Rhyl ac eiddo ychwanegol sy’n
cynnwys y modurdy i gefn 27-28 Rhodfa’r Gorllewin (eiddo CSDd) a 25 – 26
Rhodfa’r Gorllewin (yn amodol ar Orchymyn Prynu Gorfodol). Mae cynllun ynghlwm
fel Atodiad B i’r adroddiad sy’n dangos yr ardal wedi’i llinellu’n goch. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fod y
Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod am yr eitemau busnes canlynol
oherwydd eu bod yn cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth wedi’i heithrio
fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol
1972. |
|
CYNLLUN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD CORWEN - GWOBRWYO CONTRACT
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus,
(cylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gwobrwyo’r contract
ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo rhoi cytundeb i’r contractwr a enwyd fel y nodwyd ym
mharagraff 3 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu contract i Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen. Cafodd
gwybodaeth gefndirol ar y cynllun rheoli peryglon a’r broses dendro ei chynnwys
yn yr adroddiad. Cymerodd y Cynghorydd Huw Jones y cyfle i ddiolch
i’r Uwch Beiriannydd – Rheoli Perygl Llifogydd am y gwaith a wnaeth mewn
perthynas â’r cynllun a werthfawrogwyd hefyd gan drigolion Corwen. Roedd y
Cynghorydd Jones yn gobeithio y byddai’r cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted
â phosibl. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contract i’r contractwr a enwyd ym
mharagraff 3 yr adroddiad. Clodd y cyfarfod am 1.05 p.m. |