Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
Michelle Blakeley-Walker. Roedd y Cynghorydd Brian Jones wedi rhoi gwybod i’r
Cadeirydd na fyddai’n gallu bod yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod yn sgil
apwyntiad a oedd eisoes wedi cael ei drefnu ganddo, ond byddai’n ymuno yn nes
ymlaen. Cyn symud ymlaen â’r rhaglen, rhoddodd y Cadeirydd wybod,
mewn ymateb i gais gan Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y byddai’n
amrywio trefn yr eitemau ar y rhaglen er mwyn gallu ystyried adroddiadau’r Prif
Swyddog ar sail olynol. Felly, byddai
eitem 7, ‘Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth
Gwastraff’, yn symud i eitem 6, a’r ‘Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr’ yn
symud i eitem 7. Diolchodd i’r
swyddogion a oedd yn bresennol am dderbyn y newidiadau i’r rhaglen. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr canlynol gysylltiadau personol: Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gydag eitem 5 ‘Adolygu
Tariffau Meysydd Parcio’ (fel perchennog/gweithredwr mewn dwy dref yn Sir
Ddinbych. Y Cynghorwyr Alan James a Merfyn Parry – Eitem 7,
‘Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr’ gan fod y ddau’n aelodau, roedd James hefyd
yn Is-gadeirydd ar y Grŵp Tasg a Gorffen, a byddai’r adroddiad hwn yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor dan yr eitem arbennig hon.
|
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar [dyddiad] (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 7 Medi 2023. Felly: Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r
gweithrediadau. Materion yn codi Tudalen 8, ‘Cofnodion’ - Rhoddodd y Cydlynydd Craffu
wybod bod aelodaeth y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Risg Llifogydd wedi cael
ei gwblhau yn ddiweddar a bod eu cyfarfod cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer 23
Tachwedd 2023. |
|
ADOLYGU TARIFFAU MEYSYDD PARCIO PDF 218 KB Ystyried adroddiad
(ynghlwm) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd ar y newidiadau
arfaethedig i bolisi tariffau meysydd parcio’r Cyngor a strwythurau tariff
cysylltiedig. 10:15 – 11:00 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd
a’r Amgylchedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y newidiadau
arfaethedig i Bolisi Tariffau Meysydd Parcio’r Cyngor a’r strwythurau tariff
cysylltiedig. Amlygodd yr Aelod Arweiniol y pwysau ar
gyllideb y Cyngor ac eglurodd fod y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd parcio’n
ffordd o ddod ag arian i’r Cyngor. Pwrpas yr adroddiad oedd egluro’r
cynnydd arfaethedig mewn prisiau ym meysydd parcio’r Cyngor, newidiadau i
gyfnodau codi tâl yn y meysydd parcio a’r posibilrwydd o gyflwyno ffioedd mewn
rhai meysydd parcio sydd am ddim ar hyn o bryd. Pwysleisiodd y Pennaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fod y newidiadau arfaethedig i’r
tariffau parcio’n rhan o benderfyniad Corfforaethol ar arbedion ac yn ffordd o
ddod ag incwm i’r Cyngor. Roedd y
cynigion hefyd yn cynnwys adolygu’r opsiynau talu sydd ar gael mewn meysydd
parcio ac adolygu’r oriau lle mae’r Cyngor yn codi tâl. Nid oedd tariffau meysydd parcio’r Cyngor wedi cael
eu hadolygu ers 2016, felly, fel gwasanaeth, teimlwyd ei fod yn rhesymol eu
hadolygu nawr yn sgil yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Nodwyd hefyd y byddai’r newidiadau
arfaethedig i dariffau parcio’n gyfraniad cadarnhaol at sefyllfa ariannol y
Cyngor. Dan bwerau dirprwyol, y Pennaeth Gwasanaeth fyddai
yn y pen draw yn penderfynu ar y newidiadau arfaethedig i dariffau parcio, fodd
bynnag, nodwyd y byddai swyddogion yn gweithio’n agos gydag Aelodau i geisio eu
barn ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Rhan
arall o’r broses fyddai i swyddogion weithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu
Cynllun Ymgysylltu â grwpiau amrywiol a fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf gan y
newidiadau. Rydym yn bwriadu parhau i gynnig ein hamrywiol
fentrau parcio am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys parcio am ddim ar ôl 3pm ym mhob
un o’n meysydd parcio talu ac arddangos canol tref o ddiwedd Tachwedd tan 31
Rhagfyr bob blwyddyn. Roedd yr ychydig fannau parcio am ddim am gyfnodau byr a
oedd i’w gweld yn rhai o’n meysydd parcio talu ac arddangos hefyd yn parhau. Yn
olaf, byddai’r Cyngor yn parhau i gynnig 5 diwrnod parcio am ddim bob blwyddyn
ym mhob Dinas, Tref a Chymuned y mae gennym ni gyfleusterau parcio talu ac
arddangos ar waith ynddyn nhw. Roedd Asesiad o Effaith ar Les ynghlwm â’r
adroddiad i’w ystyried gan aelodau. Arweiniodd y Rheolwr Diogelwch Traffig,
Parcio a Ffyrdd yr Aelodau drwy bwyntiau allweddol yr adroddiad fel a ganlyn
- ·
Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o dariffau
parcio yn 2016. ·
Wrth ystyried cynyddu’r prisiau parcio,
ystyriodd y Cyngor y prisiau y mae Cynghorau Sir eraill Gogledd Cymru yn eu
codi, a’r chwyddiant rhwng 2016 a 2023, gan gynnwys lwfans “diogelu ar gyfer y
dyfodol” ar gyfer lefelau chwyddiant uchel parhaus. ·
Mae prisiau ein meysydd parcio’n weithredol
rhwng 8am a 5pm ar hyn o bryd. Cynigwyd ein bod yn ymestyn y cyfnod hwn fel bod
angen talu rhwng 8am ac 11pm. ·
Cynigwyd cynyddu costau trwyddedau parcio fel y nodir yn
atodiad D (a oedd ynghlwm â’r adroddiad).
·
Roedd y cynnig yn cynnwys gwaredu’r tariff 30 munud,
Cyngor Sir Ddinbych oedd yr unig Gyngor a oedd yn cynnig y tariff hwn ar hyn o
bryd. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr
adroddiad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau. Gofynnodd aelodau am fanylion cynnal a
chadw’r meysydd parcio fel y cytunwyd yn yr adolygiad diwethaf o’r tariffau yn
2016. Mynegodd aelodau bryderon am
ymddangosiad cyffredinol y meysydd parcio yn eu wardiau. Nododd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad bod cynllun buddsoddi ar waith, gyda chynllun buddsoddi’n cael ei ddatblygu ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd rhwng 2024 a 2029. Byddent yn hapus i gyflwyno hyn i’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF PDF 236 KB Cael adroddiad
diweddaru (ynghlwm) gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu yn ymwneud â
chyflwyno’r gwasanaeth newydd. 11:45 – 12:15 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd
a’r Amgylchedd adroddiad diweddaru (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar gyflwyniad y
Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff newydd. Bwriad yr adroddiad oedd rhoi gwybod i'r Pwyllgor
Craffu Cymunedau am gynnydd presennol y prosiect ac amlygu'r risg o ran
cymeradwyo'r drwydded weithredol sydd ei hangen ar gyfer Cynllun Trosglwyddo
Gwastraff newydd Dinbych yn amserol. Eglurodd swyddog arweiniol Tîm Gweithredol
Corfforaethol y Prosiect i Aelodau mai’r Gwasanaeth Gwastraff newydd oedd y
newid gweithredol mwyaf a ddarparwyd gan y Cyngor ers blynyddoedd ac roedd
llawer o waith cynllunio wedi cael ei gwblhau i gyrraedd y cam hwn. Byddai’r gwasanaeth newydd yn cynnwys casglu
gwastraff wedi’i ailgylchu yn wythnosol mewn cynwysyddion ar wahân a chasglu
gweddill gwastraff y cartref bob mis. Y brif broblem ar hyn o bryd oedd cael y drwydded
weithredol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ni ellir gweithredu’r Orsaf
Drosglwyddo Gwastraff heb y drwydded hon.
Disgwyliwyd y byddai’r drwydded yn cael ei chyflwyno yn y Gwanwyn
2024. Roedd y Cyngor wedi cyflwyno’r
ffurflen gais ar gyfer Depo Trosglwyddo Gwastraff Dinbych ym mis Ionawr 2023,
fodd bynnag, roedd oedi wedi bod yn sgil croniad o drwyddedau i’w cyflwyno gan
CNC. Roedd y broblem hon bellach wedi’i
datrys, roedd y broses y disgwyliwyd iddi gymryd hyd at 4 mis i’w chwblhau
bellach ar waith, ac roedd trafodaethau cadarnhaol wythnosol yn parhau gyda
CNC. Byddai unrhyw broblemau a godir yn
ystod y cyfarfodydd hyn yn cael eu huwchgyfeirio ar unwaith i Aelod Arweiniol a
Swyddog Arweiniol y Tîm Gweithredol Corfforaethol. Roedd bwriad i gyflwyno’r Prosiect Ailfodelu’r
Gwasanaeth Gwastraff o fis Mehefin 2024 a chwblhau’r depo erbyn mis Rhagfyr
2023. Roedd angen canolbwyntio ar recriwtio staff a
darparu’r cynwysyddion newydd i bob aelwyd yn y sir. Byddai’r Tîm Prosiect yn mynychu bob cyfarfod
Grŵp Ardal Aelodau ym mis Chwefror / Mawrth 2024 i gynnig rhagor o
fanylion am gyflwyniad y Prosiect yn eu hardaloedd. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Swyddog
Arweiniol Gweithredol y prosiect am y diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan
Aelodau. Nododd Aelodau bod yr ymweliad diweddar â depo
gwastraff newydd Dinbych yn fuddiol iawn a gofynnwyd am ymweliad arall cyn
cyflwyno’r gwasanaeth. Holodd aelodau am y newid i wagenni trydan dan y
gwasanaeth newydd a gofynnodd pwy oedd yn gyfrifol am y costau
cysylltiedig. Nododd Swyddog Arweiniol
Gweithredol y Prosiect bod ar y gwasanaeth newydd angen fflyd newydd o wagenni
i ymdrin â’r cynwysyddion sortio ar ymyl palmant o fewn y Gwasanaeth Ailgylchu
newydd. Fodd bynnag, byddai cerbydau
gwastraff cyffredinol presennol yn parhau i fod yn addas ar gyfer darparu’r
gwasanaeth gan nad oedd y model gwasanaeth yn newid, dim ond amlder y
ddarpariaeth gwasanaeth. Er bod rhagor
o gerbydau trydan wedi cael eu cyflwyno i’r fflyd, nid oedd y fflyd i gyd yn
drydan gan fod angen sicrhau cadernid cylchoedd casgliadau gwastraff yn y
sir. Nododd aelodau eu pryderon am yr helynt posibl yn
sgil cwynion gan y cyhoedd a nododd nad oedd hyn yn cael ei amlygu ddigon yn yr
adroddiad. Darparodd Swyddog Arweiniol
Gweithredol y Prosiect sicrwydd i aelodau eu bod yn deall y byddai gan
breswylwyr rai pryderon am y newid. Yn y
flwyddyn newydd (Ionawr 2024), byddai prosesau cyfathrebu arfaethedig yn cael
eu rhoi ar waith 6 mis cyn gweithredu.
Nododd awdurdodau eraill a oedd eisoes wedi trosglwyddo i’r Gwasanaeth
Ailgylchu Gwastraff newydd bod rhai pryderon ar ddechrau’r cyflwyniad. Fodd bynnag, unwaith yr oedd preswylwyr wedi
dod i ddeall y system newydd, roeddent yn ei ffafrio. Gofynnodd Aelodau beth oedd cyfanswm y costau a oedd ynghlwm â chyflwyno’r prosiect. Nododd Swyddog Arweiniol Gweithredol y Prosiect fod y Prosiect yn costio oddeutu £22 ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR PDF 368 KB Ystyried
adroddiad (ynghlwm) gan y Rheolwr Prosiect Corfforaethol ar yr Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig cyn ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru. 11:15 – 11:45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu
Lleol a Chynllunio adroddiad yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a
Theithwyr (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i
Aelodau. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud
yn ofynnol i gynnal a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i
Lywodraeth Cymru bob 5 mlynedd. Cyflawnodd y Cyngor yr asesiad rhwng Awst a
Hydref 2021, a chafodd ei gyflwyno i LlC ar 24 Rhagfyr 2021. Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet a
chyflwyno’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru,
cysylltodd deulu gydag angen, a oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn flaenorol, â’r
Cyngor i ofyn am gael eu cynnwys. Yn dilyn adroddiad i Friffio’r Cabinet
ar 9 Ionawr 2023 ail-sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen Asesiad o Anghenion
Llety Sipsiwn a Theithwyr er mwyn cefnogi’r gwaith ar yr asesiad newydd. Roedd
y Grŵp Tasg a Gorffen bellach wedi gorffen ei waith ac roedd yr adroddiad
terfynol gan y Grŵp wedi’i atodi fel Atodiad 1. Roedd yr adroddiad hwn yn
darparu canlyniadau gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen. Amlinellodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen
gasgliadau’r grŵp a’r gwaith a gwblhawyd fel a ganlyn: ·
Cafodd y Grŵp Tasg a Gorffen 4 cyfarfod a
chynhaliodd yr ymgynghorwyr, ORS, gyfweliadau gyda’r teulu ychwanegol a
chynhaliwyd adolygiad ysgafn gyda’r teuluoedd a oedd wedi ymgysylltu â’r broses
asesu yn y gorffennol i sicrhau bod eu canfyddiadau’n dal i fod yn berthnasol. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn fodlon
bod y broses gywir wedi cael ei dilyn. ·
Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn fodlon fel grŵp
bod canfyddiadau ac argymhellion yr asesiad yn ganlyniad o ddilyn methodoleg
Llywodraeth Cymru a defnyddio dull cadarn o weithio. ·
Fel grŵp, teimlwyd bod Grŵp Tasg a
Gorffen Aelodau gydag aelod etholedig o bob Grŵp Ardal aelodau wedi
gweithio’n dda, ac y byddai’r dull yn fuddiol ar gyfer gwaith i’r dyfodol. Diolchodd yr
Aelod Arweiniol i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith caled ac i’r
Cynghorydd Scott am ei rôl fel Cadeirydd.
Pwysleisiodd y Rheolwr Prosiect
Corfforaethol rwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor. Roedd Deddf Tai (Cymru) yn ei gwneud yn
ofynnol i bob Cyngor gynnal a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a
Theithwyr i Lywodraeth Cymru. Roedd
cyfrifoldeb hefyd i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion a nodwyd. Roedd y Bwrdd Prosiect yn arwain y prosiect, gan
gynnwys Uwch Swyddogion a’r Aelod Arweiniol, ac roedd yr holl waith yn cael ei
oruchwylio gan y Grŵp Tasg a Gorffen. Gan gydnabod yr angen a nodwyd o fewn yr Asesiad ar
gyfer caeau preswyl, gofynnodd aelodau pam nad oedd angen ar gyfer darpariaeth
dramwy wedi cael ei nodi. Rhoddodd yr
Aelod Arweiniol a’r swyddogion wybod er bod achosion o wersylla anghyfreithlon
yn codi ar draws y sir o bryd i’w gilydd, dim ond am gyfnodau byr oedd yr
achosion hyn gan amlaf ac roeddent yn cael eu rheoli a’u trafod yn fwy
effeithiol drwy ddull rhesymegol a goddefol.
Dyma oedd barn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr hefyd. Diolchodd y Cadeirydd am y diweddariad
a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau. Soniodd Aelodau am y broses well sydd
ar waith a’r gwaith rhagorol a gwblhawyd, a fyddai’n cefnogi datblygiad y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) maes o law. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Aelod a’r Swyddogion am eu hadroddiad. Yn dilyn trafodaeth fanwl: Penderfynwyd: (i)
cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen bod methodoleg Llywodraeth
Cymru wedi cael ei ddefnyddio’n briodol i’r dadansoddiad o angen; (ii) cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 236 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion
perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy
adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 7 Rhagfyr
2023, yn cynnig pedair eitem ar gyfer y rhaglen.
i.
Ail gartrefi a thai gosod byrdymor.
ii.
Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft.
iii.
Cyllidebau a Chynnydd Rhent Tai 2024/2025.
iv.
Rhaglen Adfywio a Llywodraethu y Rhyl. Rhoddodd y Cydlynydd
Craffu wybod i’r Pwyllgor na fyddai’r adroddiad ‘Ail gartrefi a Thai Gosod
Byrdymor’ yn barod ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr yn dilyn trafodaeth gyda
swyddogion, gan eu bod yn aros am ganllawiau pellach ar drefn drwyddedu ar
gyfer eiddo o’r fath gan Lywodraeth Cymru.
Rhoddodd y pwyllgor ganiatâd i’w aildrefnu. Byddai adroddiad ar
Gynllun Buddsoddi Drafft Meysydd Parcio 2024 - 2029 yn cael ei ychwanegu at y
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer mis Chwefror / Mawrth 2024. Anogodd y Cydlynydd Craffu
Aelodau i nodi unrhyw gwestiynau neu faterion ar y Ffurflen Cynigion Aelodau
(Atodiad 2) i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu ar 28 Tachwedd 2023. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar
aildrefnu’r eitem ‘Ail Gartrefi a Thai Gosod Byrdymor’ uchod, ynghyd â chynnwys
adroddiad ‘Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio Drafft y Cyngor 2024-29’ yn
gynnar yn 2024, a gytunwyd yn gynharach yn y cyfarfod, cadarnhau rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
|
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Delyth Jones wybod i aelodau ei bod
wedi cynrychioli’r Pwyllgor yn ddiweddar yng nghyfarfod Herio Gwasanaeth Addysg
a Gwasanaethau Plant. Roedd hi’n aros am
nodiadau’r cyfarfod ar hyn o bryd.
Unwaith y byddai hi wedi’u derbyn, byddai hi’n briffio’r Pwyllgor ar y
trafodion. Diolchodd y Cadeirydd i’r
swyddogion a’r aelodau am fynychu’r cyfarfod a therfynwyd y cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm |