Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23 (copi o Swydd Ddisgrifiad Aelod Craffu, Cadeirydd/Is-Gadeirydd yn amgaeëdig).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Karen Edwards gan y Cynghorydd Brian Blakeley ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Blakeley gan y Cynghorydd Delyth Jones.

 

Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill, a thrwy bleidlais unfrydol:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Karen Edwards yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Karen Edwards i bawb am eu hyder ynddi i fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 432 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.  

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 fel cofnod gwir a chywir o’r trafodion.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

 

6.

RHAGLEN ADFYWIO'R RHYL pdf eicon PDF 401 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn archwilio effeithlonrwydd gwaith y Bwrdd Rhaglen yn darparu’r rhaglen adfywio

10:15am – 11:00am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, hysbyswyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd bod yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, a Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd ymrwymiad cynharach.

 

Cyflwynwyd Rhaglen Adfywio’r Rhyl a’r Adroddiad Llywodraethu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan Bennaeth Gwella Busnes ar y Cyd Dros Dro, Nicola Kneale, er mwyn amlinellu’r gwaith a wnaed drwy Raglen Adfywio’r Rhyl. 

 

Yr oedd Adfywio’r Rhyl wedi bod yn flaenoriaeth gan y Cyngor (a Llywodraeth Cymru (LlC)) ers llawer o flynyddoedd oherwydd lefel yr amddifadedd yn y dref.  Yr oedd y 2 ward fwyaf amddifad yng Nghymru yng Ngorllewin y Rhyl, ynghyd â Chanol y Dref ac o’i gwmpas.

 

Cafwyd swm sylweddol o fuddsoddiad ar gyfer adfywio’r Rhyl, gyda chymorth cyllid grant sylweddol.

 

Yr oedd cam presennol y gweithgareddau adfywio yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd dros flynyddoedd blaenorol, ac yn canolbwyntio ar adfywio Canol y Dref.

 

Ailsefydlwyd Grŵp Gweithredol Adfywio’r Rhyl ym mis Gorffennaf 2020 fel Bwrdd Rhaglen Adfywio’r Rhyl.  Yr oedd y Bwrdd Rhaglen yn gyfrifol am oruchwylio cyfraniad y Cyngor at gyflawni Gweledigaeth Canol y Dref ynghyd â rheoli unrhyw brosiectau adfywio o dan arweiniad y Cyngor yn y dref.

 

Gan gymryd ei arwain gan Weledigaeth Canol y Dref, yr oedd y Bwrdd Rhaglen yn canolbwyntio ar 5 prif ffrwd waith:–

·         Manwerthu a Masnachol

·         Yr Amgylchedd

·         Adeiladau’r Frenhines

·         Preswyl

·         Priffyrdd a Mynediad.

 

Yr oedd Pennaeth Gwella Busnes ar y Cyd Dros Dro’n cefnogi Bwrdd Datblygu Cymunedol y Rhyl, ac yr oedd hefyd yn aelod o Fwrdd Rhaglen Adfywio’r Rhyl.  Gweithiai Cadeiryddion y Byrddau’n agos gydag Arweinydd y Cyngor, ac yr oedd hyn yn sicrhau bod cyfathrebu da rhwng y ddau Fwrdd a’r Cyngor, gyda gwaith yn mynd rhagddo tuag at yr un nod.

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd (RhGCADE), Gareth Roberts, y trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi’r gwaith.

 

Bu gweledigaeth y Rhyl drwy broses ymgynghori maith.   Hyd yn ddiweddar, Llywodraeth Cymru (LlC) oedd prif ffynhonnell y cyllid, ond cyflwynwyd ceisiadau yn ddiweddar ar gyfer Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

 

Crynhowyd rhestr y prosiectau a gynhwysir yn Atodiad 2 gan RhGCADE.  Dyma oedd y prif brosiectau –

 

Eitem 1 – Adeiladau’r Frenhines oedd y prosiect mwyaf.  Dymchwelwyd yr adeilad gwreiddiol, ond cafodd y gwaith o godi adeilad newydd ei ohirio oherwydd bod gwylanod yn nythu yno.  Yr oedd y datblygiad yn cynnwys adeiladu neuadd fwyd a marchnad, man hyblyg ar gyfer digwyddiadau, a pharth cyhoeddus allanol cysylltiol.  Penodwyd y prif gontractwyr, ac yr oeddynt i leoli eu compownd gerllaw’r safle. 

 

Eitem 13 – Porth 1 a 2.  Yr oedd y Cyngor wedi caffael 131 a 123-129 Stryd Fawr i greu man gwyrdd / parth cyhoeddus.  Dymchwelwyd 123-125 Stryd Fawr yn ddiweddar gan fod yr adeilad mewn cyflwr peryglus iawn.  Yr oedd angen cau’r ffordd ar gyfer dymchwel yr adeilad.  Yr oedd y cynlluniau ar gyfer y safle’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

 

Eitem 11 – Strategaeth Parth Cyhoeddus.  Yr oedd hyn yn rhan o’r Gronfa Ffyniant Bro ac yn gysylltiedig ag Eitem 9 – Ailgysylltu pen uchaf Stryd Fawr y Rhyl â’r traeth.

 

Yr oedd llawer iawn o waith i’w wneud o hyd o ran tu blaen y siopau, ac yr oedd y Tîm Gorfodi yn ymwneud â hyn.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol –

·         Cyfeiriwyd at hen adeilad Woolworth ym mhen uchaf y Stryd Fawr fel dolur llygad.  Cadarnhaodd swyddogion bod cyswllt wedi ei wneud â pherchennog yr eiddo, ac yr oedd ef yn awyddus bod gwaith yn cael ei wneud.  Cafwyd problemau hefyd gyda’r gwydrau yn y ffenestri,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

AIL GARTREFI A THAI GOSOD BYRDYMOR pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y  Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn ymwneud â’r gofynion cynllunio mewn perthynas ag eiddo/anheddau fel hyn.

11:00am – 11:45am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor nad oedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Win Mullen-James, yn gallu bod yn bresennol yn cyfarfod oherwydd salwch.

 

Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, Angela Loftus, Adroddiad Gofynion Cynllunio parthed Ail Gartrefi a Thai Gosod Byrdymor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), i roi gwybodaeth am y gofynion a’r rheolaethau cynllunio cyfredol sydd ar gael parthed ail gartrefi a thai gosod byrdymor.

 

Cyfyngwyd yr adroddiad i ystyried y defnydd o eiddo ar y farchnad ar gyfer ail gartrefi neu dai gosod byrdymor. Diffinnir ail gartref at ddibenion treth y cyngor fel annedd nad yw’n unig gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi ei ddodrefnu’n helaeth.  Ystyrir tŷ gosod byrdymor yn gyffredinol fel eiddo sy’n cael ei osod ar gyfer gwyliau’n unig; byddai gan y gwestai brif gartref yn rhywle arall a byddai’r tŷ gosod yn cael ei osod am lai na 3 mis.

 

Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu’r sefyllfa ail gartrefi a thai gosod byrdymor, gan roi sylw i’r effaith ar gymunedau Cymru.  Dull gweithredu Llywodraeth Cymru oedd canolbwyntio ar y canlynol:–

·         Cefnogaeth – mynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai;

·         Fframwaith a system reoleiddio – yn ymdrin â chyfraith cynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau;

·         Cyfraniad tecach – defnyddio systemau trethu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol yn y cymunedau y maent yn prynu eiddo. 

 

Y mae ardal beilot am fod yng Nghymru, y penderfynir arno yn ystod yr haf, lle bydd mesurau newydd yn cael eu treialu a’u gwerthuso cyn eu hystyried ar gyfer eu cyflwyno’n ehangach.

 

Yr oedd gweithredoedd cefnogol eraill i ddechrau dros yr haf yn ogystal, yn cynnwys y gwaith ar gynllun cofrestru ar gyfer pob llety gwyliau ac ymgynghoriad ar newidiadau i drethi lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar.

 

Byddai Cynllun Tai Cymunedol parthed y Gymraeg, i ddiogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori arno yn yr hydref.

 

Y llynedd, daeth Cymru i fod yr unig wlad yn y DU i roi’r pŵer i awdurdodau lleol godi cynnydd o 100% yn nhreth y cyngor ar ail gartrefi.  Cyflwynwyd hyn gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2017, ac fe’i cymeradwywyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2018.

 

Aeth LlC ati i wneud ymarfer ymgynghori, a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2022, ar ‘Ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a thai gosod byrdymor’.  Er nad oedd canlyniadau’r ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi’n llawn eto, yr oedd y dull gweithredu tri phen a amlinellwyd yn natganiad LlC i’r wasg yn ffurfio rhan o ymateb y Llywodraeth i ganfyddiadau’r ymarfer ymgynghori.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:–

·         Mynegwyd pryder bod rhai cartrefi gwyliau’n cael eu gadael yn wag yn ystod misoedd y gaeaf, ac yr oedd hyn yn achosi rhwystredigaeth gan fod gymaint o bobl a theuluoedd lleol yn chwilio am gartrefi.

·         Cadarnhawyd bod Treth y Cyngor yn dreth sydd heb ei neilltuo, ac felly ni ellir yn gyfreithiol ei glustnodi ar gyfer dibenion penodol.   Ar hyn o bryd, codid 150% o Dreth y Cyngor ar ail gartrefi yn Sir Ddinbych, ond ar ôl mis Ebrill 2023 byddai gan yr awdurdod lleol ganiatâd i benderfynu ei gynyddu i 300%.

·         Gwneid y penderfyniad ar ba un a fo eiddo’n ail gartref neu’n dŷ gwyliau i’w osod, ac a yw’n agored i Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (AAC) ynteu Dreth y Cyngor, gan y Swyddfa Brisio ac nid gan yr awdurdod lleol.  Byddai’n rhaid i berchnogion eiddo a all fod yn gymwys i’w cofrestru fel  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi'n amgaeëdig) sy'n gofyn i'r Pwyllgor adolygu ei raglen waith i'r dyfodol ac yn diweddaru'r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11:45am – 12:00 noon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol:–

·         Hysbyswyd yr aelodau gan y Cydlynydd Craffu bod yr eitem hon ar y rhaglen yn eitem sefydlog ar raglen pob cyfarfod.

·         Atodiad 1 oedd y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 8 Medi.  Yr oedd 2 eitem sylweddol ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

·         Y mae dwy eitem o’r cyfarfod hwn wedi eu hychwanegu at gyfarfod yn y dyfodol – Rhaglen Adfywio’r Rhyl ac Ail Gartrefi a Thai Gosod Byrdymor.

·         Cyn Covid, yr oedd yn arferol cynnal rhag-gyfarfod.  Gellid cynnal hwn bellach dros y we ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod os yw aelodau’r Pwyllgor yn cytuno.  Cytunwyd i drafod mwy yng nghyfarfod nesaf Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu.

·         Yr oedd proses wedi ei sefydlu, a gynhwysir yn Atodiad 2, a oedd yn cynnwys ffurflen i’w llenwi pe bai aelodau’n dymuno i eitem gael ei hystyried ar gyfer ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.  Cyflwynid y ffurflen i grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar gyfer ei hystyried, ac yna byddent yn mynd drwy brawf a oedd ar ochr arall y ffurflen. Gwneid y penderfyniad wedyn ynglŷn ag a oedd yr eitem yn addas ar gyfer Craffu arni a pha Bwyllgor ddylai ei hystyried.

·         Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet, er gwybodaeth.

·         Atodiad 4 oedd y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion o’r cyfarfod diwethaf.

 

Fel arfer byddai eitem sefydlog arall ar y rhaglen, sef adborth gan aelodau sy’n gwasanaethu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol fyrddau neu grwpiau.  Adferir yr eitem hon unwaith y byddai’r aelodau wedi cael eu dyrannu i’r grwpiau hynny.

 

Cytunodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol ar yr eitemau a restrwyd ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr ychwanegiadau uchod, derbyn a chadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11:50 A.M.