Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a drafodir yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 398 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm).

 

10.05 – 10.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

5.

POLISÏAU CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD AR GYFER FFYRDD DIDDOSBARTH pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Asedau a Risgiau Priffyrdd (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno polisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd diddosbarth ynghyd â’r meini prawf a’r fformiwla a fydd yn cael eu defnyddio i ddyrannu a gwario’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i neilltuo ar gyfer priffyrdd y sir.

 

10.10 – 11.00 a.m.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am ddau funud er mwyn caniatáu i swyddogion ac Aelodau Arweiniol ymuno â’r cyfarfod.

 

Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr aelodau trwy’r adroddiad (dosbarthwyd eisoes). Pwysleisiwyd wrth aelodau fod 44% o’r rhwydwaith ffyrdd a welir yn yr awdurdod yn ffyrdd di-ddosbarth. Atgoffwyd Aelodau fod swyddogion wedi parhau i bwysleisio’r angen i fuddsoddi mwy yn y rhwydwaith ffyrdd. Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol mai’r egwyddor allweddol erioed fu sicrhau bod o leiaf un ffordd o ansawdd da yn gwasanaethu unrhyw gymuned. Clywodd Aelodau na fyddai ffyrdd eraill sy’n gwasanaethu cymuned yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gwelliant ar brydiau. Cyfeiriwyd Aelodau at y dyfyniadau o God Ymarfer Priffyrdd Sir Ddinbych, a oedd yn nodi’r meini prawf a’r dull gweithredu o ran gwaith

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod dwy agwedd i’r gwaith priffyrdd. Rhoddodd fanylion y ddwy agwedd i’r Aelodau. Y cyntaf oedd y Rhaglen Gyfalaf, sef cyllid i wneud gwaith atgyweirio i ffyrdd a gytunwyd yn yr awdurdod. Cadarnhawyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i bob Grŵp Ardal Aelodau i gytuno'r rhaglen waith. Yr ail agwedd oedd gwaith cynnal a chadw priffyrdd mewnol a gaiff ei ariannu gan refeniw. Rhoddwyd rhagor o gyd-destun i Aelodau am yr adnoddau oedd ar gael ar gyfer y tîm cynnal a chadw mewnol. Yn yr awdurdod, roedd 14 gweithredwr priffyrdd yn cael eu cyflogi, roedd y nifer hon wedi lleihau o’r blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd yn teimlo bod y cyllid priffyrdd yn hynod o bwysig a dylid ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd yr Aelod Arweiniol o’r farn fod yr adran mewn sefyllfa fwy cadarnhaol nag ar ddechrau’r tymor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad a nododd y pwysau ar swyddogion oherwydd y gwaith anodd. Pwysleisiodd fod cynnal a chadw priffyrdd wedi bod yn fater cynyddol i geisio ei ddatrys.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y manylion canlynol:

·         O’r gyllideb a ddyrannwyd o £2.5 miliwn ar gyfer 2021/22, roedd £800,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer trin wynebau ffyrdd. Dywedodd swyddogion fod mwyafrif y gwaith trin wynebau ffyrdd wedi’i wneud ar rwydwaith ffyrdd A a B. Roedd gwaith ailwynebu wedi’i drefnu ar gyfer ffyrdd B. Dywedodd swyddogion fod 50% o’r gyllideb wedi’i ddyrannu ar gyfer 80% o’r rhwydwaith. Pwysleisiodd swyddogion fod yr adran yn rheoli risg a bod gan ffyrdd prysurach risg uwch a bod angen eu blaenoriaethu os oedd angen eu hatgyweirio.

·         Roedd cyllid ychwanegol o £900,000 wedi’i ddarparu. Roedd dyraniad o £450,000 wedi’i wneud ar gyfer ffyrdd gwledig. Roedd y gwaith wedi'i restru ar y rhestr wrth gefn yr oedd swyddogion wedi’i dosbarthu i Grwpiau Ardal Aelodau eisoes.

·         Clywodd Aelodau fod amlder arolygiadau wedi newid. Roedd canol trefi yn cael eu harolygu bob mis; roedd gweddill y rhwydwaith yn cael ei arolygu bob 4 mis, a ffyrdd gwledig yn cael eu harolygu bob 6 mis. Pan fyddai swyddogion wedi cael gwybod am dwll mewn ffordd, roedd polisi ar waith a oedd yn nodi y dylid ei atgyweirio cyn pen 10 diwrnod. Gan ymateb i gwestiynau Aelodau, y cyfnod hwyaf ar gyfer atgyweirio twll mewn ffordd felly, fyddai chwe mis a deg diwrnod.   Fodd bynnag pe bai cynghorydd, aelod o staff neu’r cyhoedd wedi rhoi gwybod am dwll mewn ffordd cyn yr arolygiad a raglennir, byddai’n cael ei atgyweirio cyn pen 10 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod amdano.  Dyna pam mae’n bwysig bod pawb yn rhoi gwybod am dyllau mewn ffordd pan fyddan nhw’n eu gweld.

·         Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DIOGELU ENWAU LLEOEDD CYMRAEG YN SIR DDINBYCH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Tim Dillon, Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd, i gyfarfod y pwyllgor. Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Aelodau trwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan nodi bod yr adroddiad yn cyflwyno dyletswyddau a rôl yr awdurdod o ran diogelu enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol yn y sir.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm – Tîm Lleoedd ragor o fanylion i aelodau gan ddweud mai’r sefyllfa gyfreithiol oedd rhoi sylw dyledus i’r canllawiau, a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Nid oedd yn ddyletswydd benodol i fod ag enwau Cymraeg caeth, ond dylid rhoi sylw dyledus i hyn. Dywedwyd wrth Aelodau fod Sir Ddinbych wedi cymeradwyo polisi yn ddiweddar iawn yng nghyd-destun enwi a rhifo strydoedd, lle’r oedd yr awdurdod yn dangos yn uwch na’r gofyniad cyfreithiol. O fewn y polisi a fabwysiadwyd, roedd yn nodi bod rhaid i unrhyw stryd newydd a gaiff ei henwi yn yr awdurdod fod yn y Gymraeg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddog i sylwadau, pryderon a chwestiynau'r Aelodau fel a ganlyn –

 

·         Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm y byddai’n dilyn trywydd pryderon a godwyd gan gynghorwyr o ran strydoedd penodol yn wardiau’r aelodau. Gofynnodd i Aelodau gysylltu ag ef gyda manylion er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

·         Gallai perchennog ystâd newydd gynnig enwau i’r sir eu cymeradwyo gan ddilyn y broses a thrafodaethau cywir.

·         Rhoddwyd canmoliaeth i’r awdurdod am yr ymrwymiad o ran enwi strydoedd yn y Gymraeg.

·         Mynegodd Aelodau bryderon am ddefnyddio’r gair ‘drive’ ar enwau strydoedd Cymraeg. Defnyddiwyd y gair ‘Ffordd’ ar nifer o arwyddion stryd. Awgrymodd yr Arweinydd Tîm y dylid argymell i’r Cabinet bod y polisi’n cael ei ddiwygio i ddileu’r gair ‘Dreif/Drive’ o’r rhestr a nodir yn y polisi. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y gallai hwn fod yn benderfyniad i’r Aelod Arweiniol gan mai dim ond mân ddiwygiad oedd hwn. Byddai eglurder o ran y weithdrefn gywir yn cael ei geisio a’i fabwysiadu.

·         Nododd Aelodau bwysigrwydd y dreftadaeth sy’n sail i nifer o ffyrdd ag enwau Cymraeg. Roedd dyletswydd ar Awdurdodau lleol i roi ystyriaeth i enwau Cymraeg hanesyddol ac nid y dehongliad neu gyfieithiad llythrennol.

·         Roedd y polisi’n nodi na ellid enwi stryd ar ôl unigolyn, byw neu farw. Byddai newid enw stryd bresennol yn cael ei wneud gan ddilyn y weithdrefn sydd wedi’i nodi yn y polisi newid enw strydoedd. Byddai polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddilyn er mwyn i’r newid hwnnw gael ei wneud. 

 

Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben ac amlygodd y pryder am y diwygiad i’r polisi a godwyd gan Aelodau i’w ystyried wrth ffurfio eu penderfyniadau. Ar ôl trafodaeth olaf ar y penderfyniadau -

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           Cadarnhau eu bod yn fodlon fod y Cyngor yn defnyddio ei holl bwerau o ran diogelu enwau Cymraeg a hanesyddol yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig; a

(ii)          Bod sylwadau’n cael eu gwneud i’r Aelod Cabinet Arweiniol gan ofyn iddo dan bwerau a gafodd eu dirprwyo iddo fel Aelod Arweiniol, gymeradwyo dileu’r rhagddodiad/ôl-ddodiad ‘Dreif/Drive’ o’r rhestr ‘Enwau Strydoedd Newydd’ yn Adran B2 Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd Sir Ddinbych 2021.

 

7.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11.50 – 12.10 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar y materion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol -

·         Gwnaed penderfyniad gan y grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ym mis Tachwedd 2021 i ganslo cyfarfodydd Craffu yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a fyddai’n dechrau ar 18 Mawrth 2022.

·         Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i drefnu ar gyfer 10 Mawrth 2022. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y bydd pedair eitem yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth Aelodau nad oedd wedi cael cadarnhad y byddai pob adroddiad yn barod ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Roedd y grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer perygl llifogydd a pherchnogaeth tir ar lannau afon wedi gofyn am gael adrodd yn ôl i’r pwyllgor am ei benderfyniadau yng nghyfarfod mis Mawrth hefyd. 

·         Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod ymholiadau’n cael eu gwneud am Strategaeth Arwyddion i Dwristiaid oherwydd ei fod wedi’i oedi o ganlyniad i Covid-19. 

·         Atgoffwyd yr aelodau bod angen iddynt lenwi ffurflen cynnig pwnc craffu os oes unrhyw faterion y maent am iddynt gael eu harchwilio mewn manylder.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod a chanlyniadau cyfarfod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a fyddai’n cael ei gynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.10 – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau Afon yn cynnal ei gyfarfod olaf y diwrnod canlynol.  Yn y cyfarfod hwnnw, gobeithiwyd y byddai’n cadarnhau cynnwys a chasgliadau ei adroddiad, gyda’r bwriad o gyflwyno ei argymhellion i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Mawrth 2022.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Merfyn Parry yr Aelodau fod cais am adroddiad am effaith cau Ysgol Rhewl ar y gymuned wedi’i gyflwyno i’r pwyllgor.

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod adroddiad gwybodaeth wedi’i gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol, i’w ddosbarthu i aelodau fis nesaf.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.47 am.