Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
wrth y Pwyllgor y byddai cefnogaeth gorfforaethol ar gyfer y Pwyllgor, yn dilyn
penodi’r cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus i rôl y
Prif Weithredwr, yn cael ei darparu ganddo ef a’r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran
151 bob yn ail nes rhoddir gwybod ymhellach. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9
Medi 2021. Materion yn codi – Gofynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry a oedd diweddariad am y Prosiect Dolydd
Blodau Gwyllt, ac a fyddai trafodaeth bellach yn cael ei chynnal am y mater. Dywedodd y
Cydlynydd Craffu wrth y Cynghorydd Parry fod y mater wedi’i gynnwys ar y
rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer mis Medi 2022, fodd bynnag byddai’n
cysylltu â swyddogion a gweld a ellid dosbarthu adroddiad ysgrifenedig i
aelodau’r pwyllgor. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi
2021 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD ADRAN 19 - YMCHWILIAD I LIFOGYDD AR 20 IONAWR 2021 PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn
cyflwyno adroddiad Adran 19 statudol i’r Pwyllgor am lifogydd Ionawr 2021 ac yn
ceisio cefnogaeth yr aelodau i gael sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y gweithredir
ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad. 10:05am – 11:05am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, a’r
Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Peiriannydd Perygl
Llifogydd Adroddiad Adran 19 - Ymchwiliad i Lifogydd ar 20 Ionawr 2021 (a
ddosbarthwyd eisoes). Yn ystod eu
cyflwyniad, gwnaethant egluro fod Storm Christoph wedi dod â gwyntoedd cryfion,
glaw trwm ac eira rhwng 18 a 20 Ionawr 2021, gyda’r glawiad dwysaf yn digwydd
dros Ogledd Cymru a gogledd Lloegr, gan ddod â llifogydd lleol i lawer o
ardaloedd. Adroddodd y Swyddfa Dywydd fod 50 i 100mm o law wedi cwympo’n eang
ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gyda dros 100mm ar draws ardaloedd ucheldirol Cymru. Profodd Sir Ddinbych
effeithiau'r Storm hon, gyda glaw trwm ac estynedig yn peri llifogydd i oddeutu
67 o gartrefi a 6 busnes ar 20 Ionawr. Roedd mwyafrif y llifogydd yn dod o
ffynonellau prif afonydd. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod rheoli
risg llifogydd perthnasol ar gyfer prif afonydd, wedi cynnal ei ymchwiliadau
llifogydd ei hun. Roedd adroddiadau ymchwilio i
lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad
ymchwiliad trosfwaol. Roedd gan
Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol
Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i
archwilio llifogydd yn ei ardal. Diben adroddiad
yr archwiliad oedd mynd i’r afael â’r cwestiynau
allweddol canlynol: ·
Pam ddigwyddodd y
llifogydd? ·
Pa mor debygol y bydd
llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto? ·
Pa welliannau oedd eu
hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei rheoli’n briodol yn y
dyfodol? Cyn dechrau’r drafodaeth, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y
Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau
Afon, a oedd yn archwilio materion llifogydd a materion perchnogaeth tir ar hyn
o bryd wedi sylweddoli bod y rhain yn feysydd hynod o gymhleth. Roedd sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru
a’r Cyngor yn awdurdodau rheoli risg, fodd bynnag, yn anaml iawn mai nhw oedd y
perchnogion tir oedd â chyfrifoldeb i sicrhau bod afonydd a chyrsiau dŵr a
oedd yn croesi eu tir yn cael eu cynnal a'u cadw. Gan ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor, darparwyd y manylion
canlynol: ·
Eglurodd
swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru fod perchnogion tir, fel perchnogion
glannau’r afon yn gyfrifol am gynnal a chadw afonydd o fewn ffiniau eu tir.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd)
a Chyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdodau rheoli perygl llifogydd, a Chyfoeth
Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am brif afonydd a chyrsiau dŵr mwy a CSDd oedd yr awdurdod rheoli risg ar gyfer cyrsiau dŵr
arferol. ·
Gallai
Cyfoeth Naturiol Cymru a CSDd ddefnyddio eu pwerau i
wneud gwaith ar ddyfrffyrdd at ddibenion lliniaru perygl llifogydd posibl. Pe
bai perchennog tir am wneud gwaith, roedd ganddynt hawl cyfreithiol i’w wneud,
fodd bynnag byddai angen i’r gwaith hwn sicrhau nad oedd effaith andwyol ar
natur, ecosystem yr afon nac ar bobl eraill. Byddai angen Trwyddedau
Gweithgarwch Perygl Llifogydd cyn i unrhyw waith gael ei wneud. ·
Nodwyd bod Llanynys wedi’i
adael allan o’r adroddiad. Gofynnodd yr aelod lleol fod Llanynys yn cael ei
gynnwys yn yr adroddiad oherwydd nid oedd am i’r pentref fethu allan ar unrhyw
waith lliniaru perygl llifogydd posibl yn y dyfodol. · Nid oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at golli Pont Llannerch, oherwydd bod yr adroddiad yn delio ag effaith llifogydd ar eiddo. Fodd bynnag, nid oedd hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau’r effaith yr oedd colli’r bont wedi’i chael ar y cymunedau roedd yn eu gwasanaethu na’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach yn y sir. Roedd ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar ddatblygu cyswllt cludiant yn ei le wedi dod i ben yn ddiweddar, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD I FFOS Y RHYL A GWTER PRESTATYN PDF 217 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Perygl Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn rhoi
casgliad i’r Pwyllgor o’r astudiaeth ar y cyd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol
Cymru, i welliannau posibl i reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn. Mae’r adroddiad yn ceisio adborth yr aelodau
ar ganfyddiadau a chasgliadau’r astudiaeth. 11:05am – 12:05pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, gyda
chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Rheolwr
Perygl Llifogydd yr adroddiad Cyfrifoldebau Rheoli Perygl Llifogydd i Ffos y
Rhyl a Chafn Prestatyn. Yn ogystal â swyddogion Cyngor Sir Ddinbych,
roedd tri chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol ar gyfer y
drafodaeth - Keith Ivens, Daniel Bryce-Smith a Paula Harley. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r astudiaeth ar y cyd, dan
arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried a ellid gwneud gwelliannau i’r
drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, y draeniau a’r carthffosydd
cyfagos – rhwydwaith cymhleth o gyrsiau dŵr yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, a oedd yn cynnwys cyrsiau dŵr naturiol,
rhai a oedd wedi’u haddasu, yn ogystal â dyfrffyrdd wedi’u hadeiladu. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu
cyfrifoldebau pob sefydliad o ran rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd. Ar ôl y llifogydd a effeithiodd ar rannau o’r Rhyl a Phrestatyn
ym mis Gorffennaf 2017, cychwynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad ar
hydroleg a threfn reoli a chynnal a chadw Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy’n
cael eu cyfrif yn gyrsiau dŵr “prif afon”. Cytunodd Cyngor Sir Ddinbych a Dŵr Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru â’r prosiect, a fyddai hefyd, gobeithio, yn rhoi gwell
dealltwriaeth ynglŷn â sut mae asedau pob sefydliad yn gweithio gyda’i
gilydd, yn enwedig pan mae glaw trwm. Cynhaliwyd y
prosiect mewn tri cham. (i)
Roedd Cam 1 yn cynnwys astudiaeth i fodelu’r perygl o
lifogydd, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru am hydroleg
dalgylchoedd yr afonydd. (ii) Roedd Cam 2
wedi arwain at adroddiad rheoli dalgylch, a oedd yn cynnig trosolwg eang o’r
drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn a’r ardaloedd o amgylch y ddau gwrs
dŵr. (iii) Mae Cam 3 hefyd
wedi adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad rheoli Cam 2 ac wedi cynnwys
trafodaethau â thimau cynnal a chadw gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru i
ystyried effeithiau’r gwaith cynnal a chadw mewn gwahanol is-rannau o’r cyrsiau
dŵr. Roedd rhywfaint o waith eto i’w wneud o ran llunio cynllun cynnal a
chadw a rheoli cynhwysfawr a byddai angen ymgynghori â’r
cyhoedd a budd-ddeiliaid i wneud hyn. Dangoswyd
cyflwyniad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor a oedd yn
amlinellu’r gwaith a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru, CSDd
a Dŵr Cymru. Roedd y tri cham cyntaf wedi’u cyflawni bellach, a byddai’r
canfyddiadau’n caniatáu i dimau rheoli perygl llifogydd ddatblygu strategaethau
rheoli a chynnal a chadw hirdymor. Roedd y dull a
ddilynwyd ar gyfer y trydydd cam yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio
modelu hydrolig manwl. Roedd y gwaith
hwn wedi cynnwys asesiad o effaith llystyfiant sianel (garwder), lefelau’r
gwelyau, a rhwystrau mewn lleoliadau allweddol. Mae hyn wedi gwella
dealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o waith cynnal a chadw lleol a llywio
technegau rheoli effeithlon sy’n seiliedig ar beryglon ym mhob is-ran. Yn ystod y
trydydd cam, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu nodi cyfleoedd posibl ar
gyfer ymyriadau cyfalaf er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd hefyd. Roedd yn
cydnabod y perygl presennol o lifogydd i gymunedau Prestatyn a’r Rhyl, ac mae
cynlluniau ar waith i gynnal gwerthusiad llawn o ddewisiadau ar gyfer gwaith
gwella, gan ddechrau gydag Achos Amlinellol Strategol yn 2022. Yn ystod y drafodaeth: ·
diolchodd aelodau i swyddogion
am y gwaith a wnaed, fodd bynnag, roedd rhai yn teimlo y dylai rhai agweddau ar
y gwaith fod wedi’u gwneud yn gynharach.
· Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod materion fel cynnal a chadw gerddi a waliau eiddo, a’r angen i ddiogelu darnau ac ati ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 253 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12:05pm – 12:25pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn
i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
ynglŷn â materion perthnasol. Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r
materion canlynol – ·
Dywedodd y Cydlynydd Craffu y
byddai tair eitem sylweddol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Gofynnwyd i
aelodau a fyddent yn hapus i gynnal y cyfarfod mewn dwy sesiwn ar wahân ar yr
un diwrnod er mwyn hwyluso amseriad y drafodaeth am yr Asesiad o Lety Sipsiwn a
Theithwyr. Cytunodd yr aelodau â’r cynnig hwn. ·
Roedd 5 eitem ychwanegol wedi’u
hychwanegu at raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn ystod cyfarfod diweddar y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, ac roedd manylion amdanynt
wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. ·
Gofynnodd y Cynghorydd Merfyn
Parry i’r Cydlynydd Craffu a oedd diweddariad am yr adroddiad y gofynnwyd
amdano beth amser yn ôl am yr effaith ar y gymuned o ganlyniad i gau Ysgol
Rhewl. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Cynghorydd Parry fod yr eitem yn dal
i fod ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth aelodau
fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion o’r Gwasanaeth Addysg a
swyddogion yn y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio o ran sut i ddatblygu’r
gwaith hwn. PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau a'r pethau i’w cynnwys uchod, cymeradwyo rhaglen
gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
adborth gan aelodau’r Pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 11:45am. |