Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via Video Conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Anton Sampson

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hugh Irving i’w gyfarfod cyntaf. Roedd y Cynghorydd Irving wedi cael ei benodi gan Grŵp y Ceidwadwyr yn lle'r Cynghorydd Rachel Flynn fel un o’i gynrychiolwyr ar y Pwyllgor.  Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Flynn am ei chyfraniad i waith y Pwyllgor yn ystod ei thymor fel aelod.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adan 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn cofnodion:

 

(i)            Cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 (copi yn amgaeëdig); a’r

 

(ii)          Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021 (copi yn amgaeëdig).

 

 

10.05am – 10.10am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

(a)       Pwyllgor Craffu Cymunedau (1 Gorffennaf 2021)

 

Dim pwyntiau cywirdeb.

 

Materion sy'n Codi – Eitem 6: Adran 19 Adroddiad Ymchwiliad ar Lifogydd Sir Ddinbych yn Chwefror 2020 (tudalen 10) – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod y wybodaeth y gofynnwyd amdano gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2021 (wedi ei aildrefnu o fis Medi 2021).

 

(b)      Pwyllgor Craffu Cymunedau Arbennig (26 Gorffennaf 2021)

 

Dim pwyntiau i’w cywiro na materion yn codi.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 a 26 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

PROSIECT DOLYDD BLODAU GWYLLT pdf eicon PDF 304 KB

Ystyried adroddiad a baratowyd ar y cŷd gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Swyddog Ecoleg y Cyngor (copi yn amgaeëdig) sydd yn gofyn i’r Pwyllgor archwilio’r cynnydd hyd yma o ran cyflawniad y prosiect ac sydd hefyd yn ceisio ei gefnogaeth i egwyddorion y prosiect a’r cynigion o ran gwella cyhoeddusrwydd ac ymgysylltu â chymunedau mewn perthynas â’r prosiect.

 

10.10am – 11am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y swyddogion oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, gan gynnwys y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Swyddog Ecoleg a oedd wedi cynhyrchu adroddiad ar y cyd â'r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.  Roedd Dr. Kate Petty, Rheolwr Ymgyrchoedd Ymyl Ffyrdd Plantlife hefyd yn bresennol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer yr egwyddor y gall ardaloedd preswyl/trefol fod yn lleoliadau addas ar gyfer dolydd blodau gwyllt a chynigion i wella cyhoeddusrwydd ac ymgysylltiad ar gyfer y prosiect.  Dechreuodd y prosiect fel peilot yn 2020 gyda 21 o safleoedd wedi’u dewis, ac roedd safleoedd pellach wedi eu hychwanegu ac roedd 58 o safleoedd dolydd blodau gwyllt wedi’u rheoli oedd yn cyfrannu i gyfoethogi rhywogaethau.  Roedd y safleoedd yn cael eu rheoli gyda thorri borderi, ni dorrwyd y gwair rhwng Mawrth ac Awst, ac fe dorrwyd y safle cyfan gydag offer torri gwair arbenigol gan alluogi'r dôl i hadu a darparu’r buddion gorau i fywyd gwyllt, gyda phlannu blodau gwyllt ychwanegol os oes angen.  Cafodd y prosiect hefyd ei gefnogi gan statws Cyfeillgar i Wenyn y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y prosiect ac i fynd i'r afael â chwynion/pryderon a dderbyniwyd gan rai preswylwyr ac aelodau oedd yn credu na ddylai'r safleoedd dolydd blodau gwyllt gael eu datblygu i mewn i leoliadau preswyl.  O ganlyniad i hynny, ceisiwyd cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer y prosiect yn destun strategaeth ymgysylltu mwy cadarn.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor i’r pwyntiau canlynol -

 

·         roedd y prosiect yn elfen bwysig o Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor a fabwysiadwyd yn 2021 a’r gyriant i ddod yn Cyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030 gan gefnogi'r egwyddor o fynd i'r afael â newid hinsawdd

·         roedd y mater penodol o dan ystyriaeth mewn perthynas ag addasrwydd ardaloedd preswyl/trefol fel lleoliadau ar gyfer dolydd blodau gwyllt gyda gwrthwynebiad gan rai preswylwyr o ran nifer fechan o safleoedd, yn seiliedig ar estheteg a cholli man amwynder neu drefol

·         ar ôl ystyried y pryderon hyn, ymatebodd y swyddogion fod (1) dewisiadau estheteg yn oddrychol gyda barn gwahanol, ond roedd yn bwysig nodi nad oedd y prosiect wedi cael ei gyflawni ar gyfer dibenion estheteg, ond er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, felly nid oedd estheteg yn cael ei ystyried fel rheswm i barhau neu stopio'r prosiect, (2) roedd colli man amwynder neu drefol yn cael ei ystyried fel rheswm dilys, ac fe ystyriwyd hyn, ond nid oedd digon o dystiolaeth i gefnogi'r pryderon gyda dim ond dau achos lle gosodd rhieni'r mater nad oedd plant yn gallu chwarae ar y safleoedd hynny.  Ym mwyafrif yr achosion nid oedd gweithgarwch wedi digwydd ar y safle nad oedd posib parhau ei gyflawni ac roedd y swyddogion cynllunio wedi cadarnhau nad oedd newid mewn rheolaeth wedi golygu colli man agored cyhoeddus.  Fodd bynnag ar safleoedd mwy, roedd ardaloedd defnydd amwynder clir wedi cael eu torri er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio, megis Parc Violet Grove yn y Rhyl.

·         roedd galwadau i dynnu unrhyw safleoedd mewn ardaloedd preswyl/trefol o'r prosiect yn achosi pryder a byddai'n dinistrio'r coridorau blodau gwyllt cysylltiol sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd; sail y cyllid grant a ddefnyddiwyd ar gyfer yr offer i gynnal y prosiect oedd i sicrhau fod gan bawb fynediad at natur ar eu stepen drws ac felly rhaid i safleoedd fod yn agos i le mae pobl yn byw.

·         wrth ystyried y cwynion mewn cyd-destun, roedd yn bwysig nodi bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi yn amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11am – 11.20am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (wedi’i rannu ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion canlynol:-

 

·         y rhesymeg tu ôl i ddiwygiadau rhaglen waith y Pwyllgor ers y cyfarfod diwethaf, ynghyd â newidiadau posibl yn y dyfodol

·         eitemau ychwanegol posibl i’w dynodi i’r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu y prynhawn hwnnw ar gyfer y cyfarfodydd ym mis Hydref a Rhagfyr mewn perthynas â’r cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd

·         gofynnwyd i aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynigion o ran testunau ar gyfer craffu i’r Cydlynydd Craffu mewn da bryd er mwyn i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu eu hystyried yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd

·         cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran yr eitemau ar eu rhaglen gwaith i'r dyfodol yn eu cyfarfod nesaf ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD yn amodol i'r addasiadau a'r sylwadau isod, ac yn destun unrhyw argymhellion diwygiedig a all godi o'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, a oedd yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw, i gadarnhau rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol fyrddau a grwpiau’r Cyngor.

 

11.20am – 11.30am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Brian Blakeley ar ei bresenoldeb yn y cyfarfod Herio Gwasanaeth ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar 23 Gorffennaf 2021 a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion yn ymwneud â mynwentydd, staffio ac ailfodelu'r Gwasanaeth Gwastraff.  Amlygodd y Cynghorydd Meirick Davies y diffyg ymateb gan y Cyngor ar faterion o fandaliaeth ym Mynwent Coed Bell ym Mhrestatyn a dywedodd y Cydlynydd Craffu y byddai’n debygol o fod yn fater ar gyfer Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn a Gallt Melyd i’w ystyried, ond cytunwyd i godi’r mater yn uniongyrchol gyda swyddogion.

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a ddarparwyd ar waith y grwpiau amrywiol gan gynrychiolwyr y Pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm.