Agenda and draft minutes
Lleoliad: via video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Cheryl Williams.
|
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 (copi
ynghlwm). 10.05 -10.10 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar
21 Ionawr 2021. PENDERFYNWYD
y dylid derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm), yn rhoi diweddariad
i’r aelodau am y penderfyniadau a’r datblygiadau diweddar i geisio gwella’r
ffordd mae’r Cyngor yn ymateb i wersylloedd answyddogol gan Sipsiwn a
Theithwyr. 10.10 – 11.15 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i’r
aelodau y bu iddo lunio’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y cyd â’r
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel. Amlygwyd i’r aelodau bod yr adroddiad yn dangos y ffordd orau o wella’r
broses wrth gynnal ymweliadau â gwersylloedd diawdurdod. Esboniodd yr Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y cytunwyd protocol
rhanbarthol yng ngogledd Cymru yn 2015 ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod.
Yn sgil hynny cyflwynwyd adroddiad i’r Uwch Dîm Arwain a roes grynodeb o’r
trefniadau oedd ar waith. Ers hynny
roedd yr Uwch Dîm Arwain wedi gwneud argymhellion ar gyfer datblygu a diwygio’r
prosesau. Hysbyswyd yr aelodau o’r trefniadau cyfreithiol a’r pwerau’r oedd Cyngor
Sir Ddinbych wedi’u sefydlu. Yn ystod y pandemig Covid-19 roedd Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â symud gwersylloedd a throi
trigolion allan, a oedd yn datgan na ddylid symud gwersylloedd diawdurdod na throi’r trigolion
allan oni bai fod eu presenoldeb yn peri peryglon enbyd i ddiogelwch ac iechyd
y cyhoedd. Esboniwyd y câi pob achos ei drin yn ôl ei rinweddau unigol ac y dilynwyd
Canllawiau Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Mabwysiadwyd asesiad lles
cychwynnol i ganfod y dull gorau o ymyrryd.
Roedd y canllawiau’n pwysleisio mai’r arfer orau oedd sefydlu un pwynt
cyswllt. Yr unigolyn dan sylw a fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw
gwestiynau ac ymholiadau ynglŷn â Sipsiwn a Theithwyr. Argymhellwyd y dylid mabwysiadu dewis B o
blith y cynigion a gyflwynwyd. Roedd y dewis hwn eisoes wedi cael sêl bendith
yr Uwch Dîm Arwain a’r Cabinet mewn sesiwn briffio. Clywodd yr aelodau bod y dewis hwnnw’n
cynnwys swydd Un Pwynt Cyswllt a fyddai yn y pen draw’n dod yn rhan o’r
Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata dan arweiniad Liz Grieve. Esboniodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy
Diogel y gwahaniaeth rhwng gwersylloedd ar dir oedd yn eiddo i Gyngor Sir
Ddinbych a gwersylloedd ar dir ym mherchnogaeth eraill. Esboniwyd y weithdrefn yn y ddau achos i’r
aelodau. Cadarnhawyd y bu cryn gydweithio rhwng gwasanaethau wrth gasglu gwybodaeth,
a chyfrannwyd llawer o amser gan swyddogion.
Roedd y gwaith wedi amlygu mor fuddiol a phwysig oedd gweithio rhwng
gwasanaethau wrth ymdrin â gwersylloedd answyddogol Sipsiwn a Theithwyr, a sut
fyddai ymdrin â’r gwaith yn gorfforaethol yn gallu arwain at well gwasanaeth i
bawb yn y dyfodol. Pwysleisiodd yr
Aelodau Arweiniol mor bwysig oedd cael yr un pwynt cyswllt wrth fabwysiadu’r
dull corfforaethol hwn. Gallai trefniadau gweithio rhanbarthol a rhwng siroedd
ddatblygu dros amser, a byddai deiliad y swydd newydd yn gweithio’n agos ag
awdurdodau lleol eraill. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad manwl.
Wrth drafod yr adroddiad, ymhelaethodd y swyddogion ac Aelodau Arweiniol ar y
materion canlynol: ·
Esboniwyd pa fath o wersylloedd answyddogol a gafwyd yn
Sir Ddinbych, a faint ohonynt oedd yno. Hysbyswyd yr aelodau fod gwersylloedd a
sefydlid am hyd yn oed noson neu ddwy yn unig yn medru achosi problemau mawr.
Roedd hi’n anodd darparu ffigyrau manwl gywir o’r nifer o wersylloedd a
sefydlid ar dir nad oedd Cyngor Sir Ddinbych yn berchen arno, gan na hysbysid
swyddogion ohonynt yn aml iawn. Hyderid y byddai’r pwynt cyswllt newydd yn
cryfhau’r cysylltiad â’r gymuned, gan ei gwneud yn haws i bobl hysbysu’r Cyngor
o wersylloedd. · Byddai deiliad y swydd arfaethedig yn gweithio’n agos â gwersylloedd dros dro. Byddai gwaith ymgysylltu a chyfathrebu gan swyddogion o wahanol rannau o’r Cyngor yn parhau, a byddai’r swydd newydd arfaethedig yn allweddol wrth hwyluso a chryfhau cyfathrebu rhwng yr holl randdeiliaid oedd yn gysylltiedig â gwersylloedd answyddogol neu’n cael ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11.30 – 11.45 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn
â materion perthnasol. Bu trafodaeth ynghylch y materion canlynol: ·
Cadarnhawyd yr eitemau a restrwyd ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol ar gyfer y cyfarfod dilynol ar 13 Mai 2021. Cadarnhaodd y Swyddogion a
chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai modd cynnwys yr eitemau ar y
rhaglen y gofynnwyd amdanynt. ·
Thema Adfer wedi COVID-19:
cytunodd y Cadeirydd y dylid gohirio’r adroddiad ar Adeiladau’r Cyngor tan fis Gorffennaf
2021, oherwydd y sefyllfa gyfredol gyda'r pandemig. ·
Gofynnwyd i'r aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig
ynghylch pynciau i graffu arnynt. ·
Dosbarthwyd y ddogfen Briff Gwybodaeth i’r aelodau cyn y
cyfarfod, ac roedd yn cynnwys tri o adroddiadau. ·
Byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn trafod Rheoli Perygl
Llifogydd a Pherchnogaeth Tir ar Lannau Afonydd, gan obeithio cynnal y cyfarfod
cyntaf ym mis Ebrill. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y gwelliannau a'r ychwanegiadau i'r drafft o’r rhaglen
gwaith i’r dyfodol a gynigiwyd yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr pwyllgorau. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol: |