Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy gyfrwng fideo

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor. Y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, roedd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd/Swyddog Monitro yn dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus (byddai’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd yn dirprwyo yn y cyfarfod)

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 505 KB

Derbyn -

 

a)    Cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (copi wedi'i amgáu), a

 

b)    Chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 (copi wedi'i amgáu).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)  Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau Arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020

 

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws.  Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 fel cofnod cywir.

 

 

(b)  Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020

 

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd: - Yn ddibynnol ar ddilyn yr ymholiadau y gofynnwyd amdanynt a'u bod yn cael eu hadrodd yn ôl i aelodau, fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Cymunedau arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020.

 

(a)       Pwyllgor Craffu Cymunedau Arbennig (5 Hydref 2020)

 

Dim pwyntiau i’w cywiro na materion yn codi.

 

(b)      Pwyllgor Craffu Cymunedau (22 Hydref 2020)

 

Eitem 5 Effaith Adolygiad Cynradd Rhuthun (tudalen 20) – Eglurodd y Cynghorydd Merfyn Parry fod yr adroddiad gwybodaeth y gofynnodd amdano yn ymwneud â chanlyniadau asesiad o'r effaith ar y gymuned ar gymunedau Rhewl a Llanynys yn dilyn cau Ysgol Rhewl.  Dywedodd fod y cyn Bennaeth Addysg a'r cyn Bennaeth Moderneiddio Addysg wedi addo cynnal yr asesiad o'r effaith ar y gymuned pan benderfynwyd cau'r ysgol.  Cytunodd y Cydlynydd Craffu i wneud ymholiadau mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw.

 

Eitem 7 Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Charchar Rhuthun (tudalennau 22/23) – Cofrestrodd y Cadeirydd ei siom bod yn rhaid i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gamu i mewn cyn i'r ddolen i'r arolwg ar-lein ar Borth Sgwrs y Sir ar Wasanaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gael ei dosbarthu i gynghorwyr sir yn dilyn cais y Pwyllgor i hynny gael ei wneud ar unwaith er mwyn hyrwyddo ymgysylltu â’r cyhoedd â'r ymarfer ymgynghori.  Gofynnodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ofyn am esboniad ynghylch yr oedi ac i bwysleisio wrth Benaethiaid Gwasanaeth bwysigrwydd ymateb i geisiadau Pwyllgorau ac adrodd yn ôl i'r aelodau ar ganlyniadau unrhyw ymholiadau mewn modd amserol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies a ddylid ymgorffori'r pwynt bwled olaf mewn perthynas â'r polisi iaith fel rhan o argymhelliad y Pwyllgor.  Dywedodd y Cydlynydd Craffu y byddai'r polisi iaith yn rhan o'r bartneriaeth ffurfiol/ Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd a dywedodd pe bai'r Pwyllgor yn dymuno diwygio'r argymhellion yn y cofnodion i gynnwys argymhelliad mewn perthynas â'r polisi iaith y gallai wneud hynny yn y cyfarfod presennol.  Ni ofynnodd unrhyw aelod o'r Pwyllgor yn ffurfiol iddynt gael eu diwygio.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       bod cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo fel cofnod cywir, ac

 

(b)       ar yr amod bod yr ymholiadau y gofynnwyd amdanynt yn cael eu dilyn a'u hadrodd yn ôl i'r aelodau, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad i gymeradwyo.  Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod am ymatal.

 

 

5.

RHEOLI RISG LLIFOGYDD AR DRAWS SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd (copi wedi’i amgáu) sy’n amlinellu mesurau rheoli a lliniaru llifogydd er mwyn delio â phob math o lifogydd ar draws y sir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn ddibynnol ar yr arsylwadau uchod fod

 

(i)           gweithgareddau rheoli perygl llifogydd presennol y Cyngor a'r rhai sydd wedi eu cynllunio yn cyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth perygl llifogydd perthnasol, a'i fod yn defnyddio'r pwerau a ganiateir yn effeithiol i gynnal gwelliannau yn ymwneud â llifogydd ac amddiffyn yr arfordir;

(ii)          fod y Cyngor yn mabwysiadu mesurau digonol i weithio’n effeithiol gyda thirfeddianwyr, datblygwyr ac awdurdodau eraill yn ymwneud â rheoli risg i reoli perygl llifogydd yn Sir Ddinbych;

(iii)         fod y Cyngor yn cyflawni’r canlyniadau a’r mesurau a amlinellir yn y Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd;

(iv)        fe ddylid ymgysylltu gyda’r Grwpiau Ardal yr Aelodau priodol mewn perthynas â chynllun a chamau datblygu Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl a Chynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn yn ystod y 12 mis nesaf a dylai casgliadau’r cam hwn o’r cynlluniau gael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law;

(v)           fod grŵp tasg a gorffen yn cael ei sefydlu i archwilio dulliau i gryfhau rhyngweithio a pherthnasoedd gwaith ymhellach rhwng awdurdodau rheoli perygl llifogydd cyhoeddus a thirfeddianwyr glannau afon ar draws y sir gyda’r bwriad o wella  dealltwriaeth ei gilydd o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â sicrhau llif dirwystr o ddŵr drwy'r tir y maent yn ei reoli; a

(vi)        cyflwyno’r adroddiadau ar y cynigion rheoli llifogydd ar gyfer Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, yn ogystal â’r adroddiad ar yr ymchwiliad i lifogydd Chwefror 2020 yn Sir Ddinbych, i’r pwyllgor cyn gynted â’u bod ar gael.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan gynnwys Simon Cowan a Martin Williams, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Keith Ivens, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer y drafodaeth ar reoli risg llifogydd ar draws Sir Ddinbych.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau ac Amgylcheddol yr eitem.  Esboniwyd bod adroddiad ar Astudiaeth Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn a oedd i'w drafod yn y cyfarfod wedi'i ohirio a'i aildrefnu ar gyfer mis Mai 2021.  Roedd yr ymchwiliadau i ddigwyddiadau llifogydd Chwefror 2020 ac effaith ddilynol pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu CNC i ddatblygu'r gwaith sydd ei angen i gwblhau'r astudiaeth.  Nodwyd y byddai adroddiad yr ymchwiliad i lifogydd mis Chwefror 2020 yn debygol o fod ar gael erbyn diwedd mis Chwefror 2021.  Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y cyngor yn rhagweithiol o ran rheoli risg llifogydd ar draws y sir a thynnodd sylw at y gwaith a wnaed ar gynlluniau amddiffyn yr arfordir a thynnodd sylw at y ffaith bod Sir Ddinbych wedi derbyn £1m (100%) yn ddiweddar mewn arian grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Prosiect Rheoli Llifogydd Naturiol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Peiriannydd Risg Llifogydd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn amlinellu mesurau rheoli a lliniaru llifogydd i ddelio â phob math o berygl llifogydd ledled y sir.  Roedd y mesurau hynny'n cynnwys gwaith gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat a thirfeddianwyr, prosiectau peirianneg a gweithgareddau rheoli tir, gyda'r nod o leihau'r risg o lifogydd a gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion y gwaith yr oedd yr Adran Gynllunio yn ei wneud mewn perthynas â lliniaru llifogydd fel rhan o'r broses gynllunio.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at y canlynol –

 

·         roedd gan wahanol awdurdodau gyfrifoldeb dros wahanol feysydd rheoli risg llifogydd – Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) mewn perthynas â dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin a risg erydu arfordirol; Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â phrif afonydd a'r môr, a Dŵr Cymru (DCWW) mewn perthynas â charthffosydd cyhoeddus.  Roedd gan unrhyw un a oedd yn berchen ar dir wrth ymyl afon, nant neu ffos gyfrifoldebau hefyd fel 'tirfeddiannwr glannau’r afon'.  Gweithiodd y cyngor gydag awdurdodau rheoli risg llifogydd eraill, yn ogystal â datblygwyr a thirfeddianwyr, i chwilio am gyfleoedd i reoli a lleihau'r risg o lifogydd yn well

·         roedd y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol – cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol gyntaf ar lifogydd yn 2011 ac yn ddiweddar cyhoeddodd ei strategaeth newydd ym mis Hydref 2020.  Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor, fel yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol, gael strategaeth ar gyfer rheoli risg llifogydd yn lleol sy'n canolbwyntio ar ddŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin – cyhoeddodd y cyngor ei strategaeth leol yn 2014, yr oedd yn ofynnol ei hadolygu erbyn mis Rhagfyr 2022

·         roedd y cyngor yn ystyried risg llifogydd wrth asesu ceisiadau cynllunio gan gyfeirio'n benodol at bolisi cynllunio Nodyn Cyngor Technegol 15.  Comisiynwyd Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd i gefnogi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2006 - 2021 a oedd yn ystyried goblygiadau risg llifogydd ar gyfer elfennau allweddol a nodwyd yn y CDLl.  Yn 2019 daeth y cyngor yn Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gyda chyfrifoldeb am gymeradwyo a mabwysiadu draenio dŵr wyneb ar ddatblygiadau newydd.

·         ers 2003 roedd y cyngor wedi buddsoddi tua £41m o arian cyfatebol Llywodraeth Cymru a'r cyngor i leihau'r risg  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chafwyd unrhyw bleidlais ffurfiol. Cynigiwyd yr argymhelliad i gymeradwyo ac fe’i eiliwyd. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

gadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor yn ddibynnol ar y diwygiadau a'r hyn sydd i’w gynnwys yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol drafft a gynigiwyd yn ystod y cyfarfod.  

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol

 

·         ailgadarnhawyd yr eitemau a restrwyd ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 21 Ionawr 2021

·         roedd Astudiaeth Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn wedi'i threfnu ar gyfer y cyfarfod ar 13 Mai 2021 ond byddai'n cael ei chyflwyno pe bai ar gael yn gynharach

·         nid oedd angen y cyfarfod ychwanegol a drefnwyd ar gyfer 4 Chwefror 2021 i ystyried Prosiect Ailfodelu'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu mwyach a byddai pob agwedd ar y prosiect yn cael ei hadrodd i'r Pwyllgor ym mis Mai 2021 fel y bwriadwyd yn wreiddiol

·         gofynnwyd i'r aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig ynghylch pynciau i graffu arnynt cyn cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 21 Ionawr 2021, a

·         chyfeiriwyd at y brîff gwybodaeth a ddosbarthwyd i'r aelodau cyn y cyfarfod yn amgáu'r adroddiadau gwybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor amdanynt.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y gwelliannau a'r ychwanegiadau i'r rhaglen waith i’r dyfodol ddrafft a gynigiwyd yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor.

 

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad i gymeradwyo.  Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod am ymatal.

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

Penderfyniad:

Nid oedd yna unrhyw adborth gan gynrychiolwyr i’w adrodd.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr pwyllgorau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd.