Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr Y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Graham Timms gysylltiad personol gydag eitem 6 ar y rhaglen – y
broses ar gyfer sefydlu Ardal Gwella Busnes, gan ei fod yn Gadeirydd AGB
Llangollen 2020 |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim eitemau brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2019 (copi wedi’i atodi). 10.00 a.m. – 10.15 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 24 Hydref, 2019. Materion yn Codi - Tudalen 6- Materion yn Codi - Tân
Mynydd Llandysilio - cafwyd trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r
Awdurdod Tân ac Achub ynglŷn â swydd Swyddog Rheoli Rhostiroedd. Roedd yr Awdurdod Tân ac Achub wedi cadarnhau
y gallant roi cefnogaeth i Reolwr y Rhostiroedd ond ni fyddent yn cyfrannu at
ariannu’r swydd. Mynegodd y Cynghorydd
Graham Timms ei siomedigaeth na fyddai’r Awdurdod Tân ac Achub yn fodlon rhoi
unrhyw gyfraniad ariannol tuag at ariannu’r swydd. Tudalennau 6-14
(Eitem 5) – Darpariaeth safle Sipsiwn a Theithwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol
newydd- Cadarnhawyd, hyd yma, ni osodwyd dyddiad ar unrhyw raglen gwaith i’r
dyfodol ar gyfer Craffu na'r Cabinet, ond byddai'n cael ei ychwanegu yn y
misoedd sydd i ddod. Tudalennau 14-18
(Eitem 6) Prosiect Archif ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint – Roedd cais
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) wedi’i ohirio oherwydd yr
Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019. Roedd NLHF wedi gwahodd cynrychiolwyr
i Lundain i roi cyflwyniad ddechrau mis Chwefror 2020. PENDERFYNWYD
y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor
Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2019 a’u cymeradwyo fel rhai cywir. |
|
I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Perygl Llifogydd (copi ynghlwm), i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ddull y Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd a chydymffurfio ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a 5 nod lles. 10.15 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Aelod
Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones,
Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward, a Pheiriannydd
Perygl Llifogydd, Wayne Hope yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y
Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag
adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ymagwedd y Cyngor mewn perthynas â
rheoli perygl llifogydd ac a yw’r Cyngor yn cydymffurfio ag egwyddor datblygu
cynaliadwy a 5 nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Yn yr adroddiad
roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod y Cyngor yn cymryd camau addawol i
weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gymryd camau i leihau’r
perygl o lifogydd ond mae angen iddo ystyried ei gamau nesaf er mwyn ymwreiddio
egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ymhellach. Roedd pryderon yn
yr adroddiad nad oedd y Cyngor yn dangos ymagwedd o atal a oedd yn creu amodau
lle gallai problemau godi yn y dyfodol.
Roedd Strategaeth
Genedlaethol Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar gyfer Cymru yn cael ei diwygio ar
hyn o bryd a disgwylir y byddai’n alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol ac yn hyrwyddo mwy o ddefnydd o ddulliau rheoli risg naturiol ar gyfer
llifogydd. Roedd cydweithio
yn elfen allweddol o ymagwedd y Cyngor ac roedd wedi gweithio'n agos gyda
phartneriaid ar ddyluniad a darpariaeth amddiffynfeydd llifogydd ond gellir
atgyfnerthu'r cysylltiadau gyda'r gymuned ffermio a pherchnogion tir
eraill. Ar y cyfan
ystyrir ei fod yn adroddiad cadarnhaol. Roedd ymateb a
chamau gweithredu’r Cyngor wedi’u nodi yn Rhan Dau yr adroddiad. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
y Cyngor wedi derbyn grantiau ond roedd angen canolbwyntio ar ecoleg a phroses
lleihau llifogydd y risg honno. Roedd gwaith i addysgu pobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth ar y gweill. ·
Roedd
astudiaeth ar y gweill i ddatblygu gwaith gyda pherchnogion tir ac Undeb y
Ffermwyr. Bu materion gyda pherchnogion tir a ffermwyr a oedd wedi rhoi gwybod i’r
Cynghorwyr lleol bod disgwyl iddynt dalu am offer i osod cynlluniau lliniaru
llifogydd. Cadarnhawyd bod
cymorthdaliadau i ffermwyr ar gael a fyddai’n cynorthwyo gyda’r costau. ·
Cadarnhawyd
bod yr ardaloedd sy’n peri’r risg mwyaf wedi’u blaenoriaethu ond nid oedd hynny
ar draul ardaloedd eraill. Nid ar gyfer y gwasanaeth yn unig yr oedd y casgliadau, ond roedd angen
trafodaethau manylach ar newid hinsawdd. ·
Cyfrifoldeb
Cyfoeth Naturiol Cymru oedd Wardeniaid Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd o’r
prif afonydd. Cadarnhawyd y byddai'r Cydlynydd Craffu yn derbyn rhestr o'r Wardeiniaid
Llifogydd a’i dosbarthu i’r holl aelodau er gwybodaeth iddynt. Yn ystod y
trafodaethau ac yn sgil pryderon a godwyd mewn perthynas ag effaith bosibl
newid hinsawdd ar beryglon llifogydd i’r sir, cytunwyd y byddai cyfarfod
Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei gynnal ar 22 Hydref 2020 gan ganolbwyntio
ar faterion llifogydd fel a ganlyn: ·
Cyfrifoldebau
Rheoli Llifogydd yn Sir Ddinbych – gan gyflwyno casgliadau astudiaeth ar y cyd
ar ymarferion rheoli Ffos y Rhyl a Chwter Prestatyn, draeniau a charthffosydd
cyfagos a oedd eisoes wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod. ·
Rheoli
Risg Llifogydd ar draws Sir Ddinbych – trafodaethau gyda swyddogion a
sefydliadau partner eraill ar reoli llifogydd a materion lliniaru ar draws y
sir gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat a pherchnogion tir. Byddai
hyn yn cynnwys prosiectau peirianneg a mentrau rheoli tir i leihau perygl
llifogydd a mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd. Byddai gwybodaeth hefyd yn cael ei chyflwyno
ar waith yr Adran Gynllunio mewn perthynas â lliniaru llifogydd fel rhan o'r
broses gynllunio. PENDERFYNWYD- · yn amodol ar yr arsylwadau uchod, derbyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn dilyn ei archwiliad, yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y BROSES AR GYFER SEFYDLU ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) PDF 376 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Arweiniol, Cymorth i Fusnesau a Thwf Lleol a’r Tim Datblygu Economaidd a Busnes a Rheolwr Rhaglen (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth ynglŷn â’r broses o ffurfio Ardaloedd Gwella Busnes i alluogi’r Pwyllgor i archwilio'r broses yn fanwl. 10.45 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Graham Timms gysylltiad personol gan ei fod yn Gadeirydd AGB
Llangollen 2020. Roedd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,
Emlyn Jones, a'r Swyddog Arweiniol, Cefnogi Busnes a Thwf Lleol, Carolyn
Brindle, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r broses o ffurfio Ardaloedd Gwella Busnes
(AGB) i alluogi’r Pwyllgor i archwilio’r broses yn fanwl. Roedd Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi gofyn i Bwyllgor Craffu Cymunedau
ystyried y testun penodol hwn mewn ymateb i gais gan unigolyn busnes yn y Rhyl,
Lynnette Jones, oedd â phryderon am dryloywder y broses o sefydlu AGB. Roedd Lynnette
Jones, yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno rhai o’i phryderon: ·
Hyd
eithaf ei gwybodaeth, nid oedd nifer o fusnesau wedi derbyn gwybodaeth am AGB y
Rhyl. ·
Ni fu
lansiad ffurfiol ar gyfer yr AGB. ·
Ni
wahoddwyd perchnogion busnes i gyflwyno awgrymiadau o ran beth y gellir gwario
arian yr AGB arno. ·
Yn ei
safbwynt hi, roedd busnesau o dan yr argraff na fyddent yn gorfod talu unrhyw
gyfraniad ychwanegol ond nid dyma'r achos.
Roedd hyn yn broblem fawr ar gyfer busnesau sy’n wynebu trafferthion. ·
Y
ffaith fod 66 busnes allan o 99 wedi pleidleisio o blaid yr AGB ac o’r 66
hynny, roedd 41 pleidlais gan eiddo sy'n berchen i Gyngor Sir Ddinbych. ·
Ni
chafwyd unrhyw gymorth busnes. ·
Yn ei
safbwynt hi a busnesau eraill, ni chynhaliwyd ymgynghoriad addas. Yn ystod y
trafodaethau, pwysleisiwyd bod: ·
y broses i sefydlu AGB wedi’i nodi mewn deddfwriaeth ·
er na chaniateir i
awdurdodau lleol, drwy gyfraith, arwain y broses o sefydlu AGB, roedd ganddynt
rôl bwysig i hwyluso pleidlais AGB, gan roi gwybod am ganlyniad unrhyw
bleidlais a chasglu ardoll yr AGB; ·
Roedd AGB yn fenter a arweinir
gan fusnesau; ·
hyd yma yn Sir Ddinbych,
roedd pleidlais AGB wedi'i chynnal yn y Rhyl gan arwain at sefydlu AGB yn y
dref, roedd busnesau ym Mhrestatyn wedi penderfynu peidio â pharhau â'r
cynlluniau ar gyfer pleidlais i sefydlu AGB, a byddai pleidlais yn cael ei
chynnal yn Llangollen yn y gwanwyn 2020; ·
cyfrifoldeb Grŵp yr
AGB, a sefydlwyd yn yr ardal dan sylw, oedd cyfathrebu ynglŷn â chynigion
i gynnal pleidlais gyda'r nod o sefydlu AGB, ac amcanion a nodau’r AGB
arfaethedig. ·
roedd cyfradd yr ardoll
yn ardal yr AGB yn cael ei gosod gan Fwrdd yr AGB. Er
bod yr awdurdod lleol yn casglu’r ardoll roedd yn cael ei thalu i Fwrdd yr AGB
i'w defnyddio i ddarparu ei amcanion a blaenoriaethau; ·
ni chaniateir i’r
awdurdodau lleol dynnu unrhyw wasanaeth o ardal yr AGB ar y sail y gellir
defnyddio incwm yr AGB i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Roedd
holl benderfyniadau’r awdurdod lleol o ran torri gwasanaethau yn gorfod cael eu
gwneud ar sail y sir gyfan ac yn gyfartal ar gyfer yr holl breswylwyr. Ond, gellir defnyddio arian yr AGB i ategu at wasanaethau’r awdurdod lleol
pe baent yn cefnogi darpariaeth blaenoriaethau’r AGB. ·
Roedd gan y Cyngor
bleidlais ar gyfer pob un eiddo busnes yr oedd yn berchen arno o fewn rhanbarth
yr AGB arfaethedig a oedd yn diwallu trothwy gwerth ardrethol y bleidlais. Byddai Cabinet Sir Ddinbych yn penderfynu a fyddai’n bwrw’r pleidleisiau mewn pleidlais AGB a sut y dylid bwrw'r pleidleisiau hynny. Ym mhleidlais AGB y Rhyl a phleidlais AGB Llangollen sydd i ddod roedd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ei bleidleisiau o blaid sefydlu AGB ac wedi dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a'r Parth Cyhoeddus i lenwi’r holl bapurau pleidlais ar ran yr ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11.40 am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.55 a.m. |
|
BAND EANG A RHWYDWEITHIAU SYMUDOL MEWN ARDALOEDD GWLEDIG PDF 209 KB I dderbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Digidol (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau presennol mewn perthynas â band eang a rhwydweithiau symudol mewn ardaloedd gwledig. 11.25 a.m. – 12.00 p.m. Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans a'r Prif Swyddog Digidol, Barry Eaton yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol),
yn manylu ar waith y Cyngor o ran sicrhau gwell cysylltedd mewn ardaloedd
gwledig, yn unol ag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru fis Tachwedd 2018 yn
adroddiad Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig, yn enwedig o ran band
eang a rhwydweithiau ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig. Roedd gan Gyngor Sir Ddinbych bryderon ers peth amser ynglŷn ag
argaeledd band eang cyflym iawn ym mhob ardal o’r sir, felly, roedd Craffu wedi
gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd a wnaed hyd yma i sicrhau
mynediad at fand eang cyflym iawn i bawb oedd ei eisiau. Trwy ddarparu cyflwyniad
gweledol, cynghorwyd y Pwyllgor er bod 90% o’r eiddo yn Sir Ddinbych yn derbyn
mynediad at fand eang cyflym iawn, roedd 10% yn methu cael mynediad ato. Roedd mwyafrif yr eiddo hyn wedi’u lleoli yn ardaloedd gwledig y sir. Hyd yn oed ar ôl cyflwyno Cam 2 Cyflymu Cymru, a fyddai’n dod i ben yn
ystod 2021, byddai oddeutu 5% o eiddo'r sir yn parhau i fethu â chael mynediad
at fand eang cyflym iawn. Roedd y Cyngor yn gweithio’n weithredol gyda sefydliadau eraill y sector
cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru mewn ymgais ar gyfer cyllid Rhwydwaith Ffibr
Lleol Llawn (LFFN).
Pe bai’n llwyddiannus, byddai’r arian yn cael ei
ddefnyddio i gysylltu 39 eiddo sector cyhoeddus yn y sir gyda band eang cyflym
iawn (ymysg y rhai a fyddai'n elwa mae llefydd cyfarfod yr holl gynghorau
cymuned yn Sir Ddinbych). Er y byddai'r fenter hon o
fudd i nifer o gymunedau gwledig, ni fyddai'r holl ardaloedd gwledig yn elwa. Cam cadarnhaol arall oedd recriwtio Swyddog Busnes Digidol yn ddiweddar am
gyfnod o 12 mis.
Byddai’r swyddog ar gael i gynorthwyo busnesau bach a
chymunedau i nodi datrysiadau i gael mynediad at fand eang. Byddai’r swyddog hefyd yn gweithio gyda chynghorau cymuned a grwpiau
cymunedol gyda’r nod o nodi cyfleoedd i wella mynediad at fand eang, ac i
gynorthwyo i ddatblygu ceisiadau am gyllid dan arweiniad cymunedau i gynorthwyo
i dderbyn mynediad at fand eang. Cyfeiriodd yr Aelodau at sawl menter sydd ar y gweill yng Nghymru a
gwledydd Ewropeaidd eraill a oedd yn ceisio gwneud y mwyaf o fynediad at Fand
Eang ac yn gofyn i'r Cyngor gyflwyno gwybodaeth i Gynghorau Cymuned ar y gwaith
a fyddai'n cael ei gyflawni yn Sir Ddinbych i gynorthwyo cymunedau i gael
mynediad at wasanaethau Band Eang. Awgrymwyd hefyd y gallai aelodau lleol annog Cynghorau Cymuned o fewn eu
wardiau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwell mynediad at Fand Eang. Byddai penodiad diweddar Swyddog Busnes Digidol yn gymorth, gan y byddai’r
swyddog ar gael i gynorthwyo cymunedau i ganfod datrysiadau band eang a
datblygu cynigion ar gyfer cynlluniau talebau cymunedol i hwyluso darpariaeth
gwasanaethau band eang yn eu hardal. Wrth ganmol y mentrau sydd eisoes ar y gweill gyda’r nod o sicrhau mynediad band eang cyflym iawn ar gyfer mwyafrif yr eiddo yn Sir Ddinbych, roedd y Pwyllgor yn bendant y dylai llywodraeth ganolog wneud mwy i sicrhau bod pob eiddo, beth bynnag fo'u lleoliad, yn cael mynediad cyfartal at fand eang cyflym iawn. Roeddent yn teimlo y dylid ystyried mynediad at fand eang yng Nghymru yn yr 21ain Ganrif yn hanfodol ar gyfer bywyd pob dydd, yn yr un modd â dŵr glân a thrydan. Ar sail hyn cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ysgrifennu at Weinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr gan bwysleisio'r pwynt hwn a thynnu eu ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SIARTER CYDYMFFURFIO CYNLLUNIO - MABWYSIADU'R DDOGFEN DERFYNOL PDF 233 KB I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Datblygu (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad) (copi ynghlwm) i hysbysu aelodau am ganlyniadau’r ymgynghoriad ar siarter cydymffurfio cynllunio drafft Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad. 12.00 p.m. – 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod
Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, y Cynghorydd
Mark Young, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Emlyn Jones, Rheolwr
Rheoli Datblygu, Paul Mead a Swyddog Cydymffurfio Cynllunio, Adam Turner yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod
i’r Aelodau am ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch siarter cydymffurfio
cynllunio drafft y Gwasanaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, a
gynhaliwyd gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno gwybodaeth
am berfformiad y swyddogaeth cydymffurfiaeth cynllunio. Roedd y Siarter
ddrafft wedi bod yn destun ymarfer ymgynghori yn ddiweddar gyda holl gynghorau
dinas, tref a chymuned Sir Ddinbych. Roedd newidiadau a awgrymwyd gan y cynghorau
amrywiol wedi'u cynnwys yn y Siarter ddrafft ddiwygiedig, lle bo modd, a
gyflwynwyd i'r Pwyllgor i dderbyn eu sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Aelod
Arweiniol i dderbyn cymeradwyaeth yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor i
aelodau Cabinet. Roedd
yr adroddiad hefyd yn cynnwys, ar gais y Pwyllgor, gwybodaeth am berfformiad
swyddogaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio’r Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf.
Nod y Siarter oedd cynorthwyo’r
Cyngor i fynd i’r afael ag achosion o fynd yn groes i gydymffurfiaeth cynllunio
o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael tra'n rheoli disgwyliadau cymunedau
a phreswylwyr o ran beth y gellir ei gyflawni ar lefel sirol a beth y gellir ei
ddatrys ar lefel dinas, tref neu gymuned ar gam cynnar a allai liniaru yn erbyn
y risg o achosion ehangach neu fwy o fynd yn groes i Gydymffurfiaeth a fyddai’n
golygu bod angen i swyddogaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio’r Cyngor Sir i ymyrryd
drwy gamau gorfodi ffurfiol. Rhoddwyd sicrwydd
bod y Siarter yn cynnwys elfennau diogelu ar gyfer torri rheolau cynllunio,
sy’n cael eu hystyried gan yr Awdurdod fel achosion blaenoriaeth isel, yn cael
eu harchwilio a’u holrhain pe bo tystiolaeth eu bod yn niweidio iechyd a lles
unigolyn. Nod y
Siarter oedd gweithio’n agos gyda chymunedau i ddatrys materion, canfod
datrysiadau cyfeillgar a lleihau’r perygl o dorri rheolau ar bob lefel.
Cadarnhawyd bod y
Siarter yn ddogfen fyw y gellir ei diwygio. Gan fod dim ond
un swyddog ar gyfer y sir gyfan, cytunodd yr aelodau ei bod yn dasg anodd iawn.
Cadarnhawyd ei bod yn anodd cael mwy o
adnoddau yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor: (i)
yn cefnogi’r siarter
ddrafft, sef ‘Cydymffurfiaeth Cynllunio yn Sir Ddinbych – Siarter
Cydymffurfiaeth Cynllunio’ (Atodiad 1), yn unol â’r diwygiadau arfaethedig a
nodir yn Adroddiad yr Ymgynghoriad (Atodiad 2); (ii)
yn cefnogi bwriad y
swyddogion i gyflwyno’r fersiwn derfynol o’r Siarter i’r Aelod Arweiniol ei
chymeradwyo; a (iii)
chadarnhau bod yr aelodau
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3) fel
rhan o’u hystyriaethau |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 237 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.30 p.m. – 12.40 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol – ·
Y
Cyfarfod nesaf ar 12 Mawrth, i wahodd Aelodau Arweiniol perthnasol; ·
Bod
cyfarfod 22 Hydref yn cael ei ddynodi i drafod materion llifogydd; Atgoffodd y
Cydlynydd Craffu'r aelodau am y ffurflen cynnig craffu, dywedodd y dylid anfon
unrhyw gynigion ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.40 p.m. – 12.45 p.m. Cofnodion: Dim adborth |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.10 p.m. |