Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Williams, fe wnaeth yr
Is-Gadeiyrdd, y Cynghorydd Graham Timms gadeirio’r cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
Brian Blakeley, Anton Sampson Cheryl Williams a Huw Williams Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a Llywodraethu
Corfforaethol ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer eitem rhif 6 ar y Rhaglen
oherwydd ymrwymiad blaenorol. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn eitem rhif 5 ar y Rhaglen -
Dyluniad Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd Arfaethedig gan fod ei gwmni
yn contractio ar ran Biogen a oedd yn ymdrin â gwastraff bwyd o Waith y Waen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 6 Medi 2018 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Medi 2018. Materion yn Codi - Tudalen 9, Eitem Rhif 5 Rhoi Cynnig Gofal
Plant Am Ddim Llywodraeth Cymru ar waith yn Sir Ddinbych - roedd Swyddogion
Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r ymholiad yn ymwneud â gohebiaeth ganddynt ar
y mater hwn a oedd yn Saesneg yn unig a sicrhaodd y Swyddogion y byddai
gohebiaeth yn y dyfodol yn ddwyieithog. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2018 fel
cofnod cywir. |
|
DYLUNIAD NEWYDD ARFAETHEDIG Y GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU PDF 415 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd a Rheolwr
Ailgylchu a Gwastraff (copi ynghlwm) ar y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff
arfaethedig ynghyd ag adborth a chanfyddiadau’r ymgysylltu a gwblhawyd i
hysbysu’r cynnig. 10.10 a.m.– 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn i’r Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio
Cynaliadwy gyflwyno'r adroddiad a’r atodiadau ar y Gwasanaeth Gwastraff ac
Ailgylchu newydd arfaethedig (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol), cyflwynodd Kelly
Thomas o Raglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) Cymru i'r
cyfarfod. Eglurwyd bod WRAP Cymru yn sefydliad a oedd yn gweithio gyda
llywodraethau, busnesau a chymunedau i ddarparu datrysiadau ymarferol er mwyn
gwella economi cynaliadwy ac effeithlon o ran adnoddau. Eglurodd yr Aelod
Arweiniol bod Kelly Thomas wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor i
ddatblygu’r model arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod. Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod
Arweiniol wrth yr aelodau bod llawer o sesiynau/ gweithdai wedi’u cynnal ar
gyfer aelodau etholedig yn ystod datblygiad y model newydd arfaethedig, er mwyn
ceisio eu barn a’u briffio ar yr angen i newid y model gwastraff ac ailgylchu
presennol. Er bod Sir Ddinbych wedi llwyddo am flynyddoedd i gadw ei safle fel
y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff
y cartref, roedd targedau a disgwyliadau cenedlaethol yn newid. O dan
strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' Llywodraeth Cymru a gofynion statudol
Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, erbyn 2024/25 bydd disgwyl i awdurdodau lleol
gynyddu’r swm o wastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio
i 70%. Ar hyn o bryd, roedd Sir Ddinbych yn
bodloni’r targed o 64% a osodwyd ar gyfer 2019/20, ond roedd ei berfformiad
wedi aros yr un fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, os nad oedd yn
gallu cyrraedd y targed o 70% erbyn 2024/25 byddai modd codi dirwy arno o hyd
at £200 y dunnell ar bob tunnell yr oedd yn ei anfon i safle tirlenwi a oedd yn
uwch na’i lwfans tirlenwi. Yn ychwanegol i'r newidiadau i dargedau
cenedlaethol, roedd agwedd y cyhoedd tuag at gyfrifoldeb dynoliaeth tuag at y
blaned a chenedlaethau’r dyfodol hefyd yn newid, felly roedd angen dulliau mwy
effeithiol i gael gwared ar wastraff ac ailgylchu/ ailddefnyddio. O ystyried yr
holl elfennau hyn, roedd y Cyngor, o dan y model newydd, yn cynnig - ·
newid
amlder casgliadau gwastraff ailgylchadwy o bob pythefnos i bob wythnos ·
cynyddu
capasiti casgliadau gwastraff ailgylchadwy drwy ddarparu system ddidoli ymyl y
ffordd ‘trolibocs’. ·
ehangu’r
gwasanaeth casglu tecstilau ac esgidiau i gynnwys y sir gyfan; cyflwyno
casgliadau ymyl y ffordd ychwanegol ar gyfer offer trydanol ac electronig
gwastraff (WEEE) a gwasanaeth casglu batris y cartref. ·
cyflwyno
gwasanaeth casglu gwastraff hylendid dynol e.e. clytiau a chynhyrchion
anymataliaeth ac ati, y gellir gofyn amdano, a ·
newid
amlder y gwasanaeth caglu gwastraff gweddilliol presennol o bob pythefnos i bob
pedair wythnos ar gyfer y mwyafrif o aelwydydd. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, er nad oedd modd cyfrifo’r gost
wirioneddol o gyflwyno’r model newydd ar hyn o bryd oherwydd graddau'r gwaith a
oedd angen ei wneud i ail-fodelu depos y Cyngor i ymdrin â’r gwastraff a
fyddai’n cael ei anfon atynt, oherwydd y grant cyfalaf sylweddol ar gael gan
Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r gwasanaeth didoli ymyl y ffordd, roedd gan y
model y potensial i leihau’r pwysau ar y gyllideb a oedd eisoes yn bresennol o
fewn y gwasanaeth casglu presennol a oedd ar hyn o bryd yn cael ei gyllido gan
gronfeydd wrth gefn. Yn
ychwanegol, roedd y model newydd yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru
ar gyfer ailgylchu a rheoli gwaredu gwastraff yn y dyfodol. Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, bu i’r Aelod
Arweiniol, Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd, Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu’r
Cyngor a chynrychiolydd WRAP Cymru nodi’r canlynol - · dywedwyd bod gan yr holl fudd-ddeiliaid rôl i’w chwarae er mwyn sicrhau bod y sir yn cyflawni’r targed ailgylchu o 70%. Bydd gan ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD TWRISTIAETH PDF 208 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan Arweinydd y Tîm: Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau (copi
ynghlwm) gyda manylion ynghylch y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma gyda mentrau
twristiaeth amrywiol a’u cyfraniad tuag at ddarparu uchelgais cyffredinol y
Cyngor mewn perthynas â datblygu economaidd a chael barn aelodau am hynny. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb yr Arweinydd, cyflwynodd yr
Arweinydd Twristiaeth: Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â
mentrau twristiaeth amrywiol a’u cyfraniad tuag at gyflawni uchelgais
gyffredinol y Cyngor mewn perthynas â datblygu economaidd. Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd yr Arweinydd
Twristiaeth sylw at lwyddiant Partneriaethau Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru
a Gogledd Cymru, yn enwedig yr olaf sydd wedi derbyn £140k gan Lywodraeth Cymru
at ddibenion hyrwyddo cynnig twristiaeth yr ardal ar gyfer y gaeaf, a fyddai’n
cefnogi’r weledigaeth o farchnata’r ardal fel cyrchfan i dwristiaid drwy gydol
y flwyddyn. Y nod oedd cynyddu nifer y twristiaid a oedd yn ymweld â’r ardal,
ond wrth wneud hynny, sicrhau budd economaidd cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn
yn hytrach na thwristiaeth tymhorol a oedd o fudd i’r economi am gyfnod
cyfyngedig yn unig. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi a’r Parth Cyhoeddus
a’r Arweinydd Twristiaeth - ·
bod
staff Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau’r Cyngor yn fodlon gweithio’n agos
â grwpiau twristiaeth a digwyddiadau lleol pan yr oeddent yn trefnu
digwyddiadau yn eu hardaloedd lleol. Gyda’r bwriad o
symleiddio’r broses a hyrwyddo digwyddiadau lleol i’r eithaf, symleiddiwyd y
broses Hyrwyddo Digwyddiadau. Roedd y ffurflen Hysbysu Digwyddiadau bellach
wedi’i chrynhoi i ddwy ochr o dudalen A4. Ar ôl derbyn ffurflen wedi’i chwblhau
byddai’n cael ei rhannu â’r holl wasanaethau a’r swyddogion a fyddai angen
gwybod am y digwyddiad. Yn ychwanegol, byddai’r dyddiad arfaethedig ar gyfer y
digwyddiad yn cael ei wirio yn erbyn digwyddiadau hysbys eraill a oedd yn cael
eu cynnal ar y diwrnod hwnnw ac os teimlwyd y byddai digwyddiadau eraill yn yr
ardal leol yn effeithio ar y digwyddiad byddai’r trefnwyr yn cael gwybod. Nid
oedd hyn o reidrwydd yn golygu y byddai’n rhaid newid y dyddiad, roedd y drefn
hon ar waith er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogi llwyddiant yr holl
ddigwyddiadau lleol. ·
fel
rhan o’r gwaith i gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol ‘Cymunedau
Cysylltiedig’, trefnwyd adroddiad i’w gyflwyno i’r “Bwrdd Cymunedau a’r Amgylchedd”
yn ei gyfarfod ym mis Hydref ar sut y gellid gwella isadeiledd yn y sir i
gefnogi cynnal mathau gwahanol o ddigwyddiadau cymunedol a digwyddiadau sy’n
canolbwyntio ar dwristiaid. ·
byddai
bob amser angen am lety dros nos ychwanegol i ymwelwyr yn Sir Ddinbych. Roedd
hi’n ymddangos mai dim ond nifer gyfyngedig o leoedd oedd yn cynnig llety dros
nos i dwristiaid yn rhan ganolog y Sir. Roedd llawer o westai
i’w cael yn Ne Sir Ddinbych ac roedd llawer o safleoedd i garafannau sefydlog a
theithiol yng ngogledd y sir. Er hynny, roedd gan Sir Ddinbych nifer sylweddol
o letyau hunanarlwyo o safon ac roedd sawl un wedi ennill statws 5*. ·
roedd
gan Croeso Cymru gyllid ar gael i fusnesau llety gwyliau a oedd yn awyddus i
ennill statws 4* neu 5* er mwyn eu helpu i gyflawni’r nod hwn. ·
roedd
sylw ar gyfryngau cymdeithasol yn sicr wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr posibl a
oedd wedi ceisio gwybodaeth am yr ardal leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
gwelwyd hyn yn yr atodiadau amrywiol ynghlwm wrth yr adroddiad, yn cynnwys
Atodiad 13 a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Fonitor Gweithgaredd Economaidd
Scarborough (STEAM). Roedd STEAM yn mesur effaith ymwelwyr sy’n aros ac
ymwelwyr dydd ar yr economi leol. ·
defnyddiwyd
y cyfryngau cymdeithasol i godi proffil yr ardal a dangos yr hyn oedd gan Sir
Ddinbych i’w gynnig i dwristiaid, ond roedd y cyfryngau cymdeithasol yn un o
sawl llwyfan codi proffil a ddefnyddiwyd at y diben hwn. Ymddangoswyd i nifer
yr ymweliadau â gwefannau cyfryngau cymdeithasol gyrraedd uchafbwynt pan
gynhaliwyd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol. · roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 224 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12 hanner dydd - 12.15pm. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) sy’n gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.
Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol – ·
ail-gadarnhawyd
yr eitem ar y rhaglen gwaith ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn ymwneud â
gorfodi cynllunio a chytunwyd i wahodd yr Aelod Cabinet Arweiniol perthnasol
i’r cyfarfod hwnnw; nododd yr aelodau'r potensial ar gyfer ychwanegu eitemau at
y rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn dilyn cyfarfod y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu'r prynhawn hwnnw. ·
byddai’r
adroddiad ar gynnydd y Dyluniad Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd
Arfaethedig, a geisiwyd gan y Pwyllgor yn gynt yn y rhaglen, yn cael ei
raglennu ar gyfer mis Mai. ·
tynnwyd
sylw at faterion sy’n codi o Dân Mynydd Llantysilio i'w hystyried gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu'r prynhawn hwnnw er mwyn eu
dyrannu ar gyfer craffu fel bo’n briodol ac fe gadarnhawyd y byddai adborth o’r
cyfarfod aml-asiantaeth i ddod yn cael ei rannu ag aelodau. ·
cododd
y Cynghorydd Meirick Davies y mater o adnoddau mewn perthynas â Rheoli Adeiladu
a rhoddwyd gwybod iddo y dylid codi’r mater yn yr Her Gwasanaeth yn y lle
cyntaf (cynrychiolydd y Pwyllgor ar yr Her Gwasanaeth honno oedd y Cynghorydd
Huw Williams). Cynghorwyd iddo hefyd gwblhau Ffurflen Gynnig gan Aelod os oedd
yn dymuno i’r mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith
i'r dyfodol fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.15
p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnodd y Cydlynydd Craffu sylw'r Pwyllgor at nodiadau’r
Her Gwasanaeth Gwelliant Busnes a Moderneiddio ar 2 Hydref 2018 a oedd wedi’u
dosbarthu’n flaenorol fel rhan o Friff Gwybodaeth y Pwyllgor. Dywedodd y Cynghorydd Glenn Swingler ei fod wedi mynychu
cyfarfod llwybrau ymholi yn ddiweddar mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cwsmeriaid,
Cyfathrebu a Marchnata er mwyn ffurfio cwestiynau ar gyfer y cyfarfod Herio
Gwasanaeth a fydd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd / Rhagfyr. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth Cyhoeddus y broses i aelodau adrodd
yn ôl i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod Herio Gwasanaeth ac fe dynnodd sylw at
bwysigrwydd y ffaith bod aelodau yn ymgyfarwyddo â gwaith y ddau Fwrdd Rhaglen
Corfforaethol a’u hannog i gwblhau’r Ffurflen Gynnig gan Aelod briodol os
oeddent yn credu bod mater a fyddai’n elwa o graffu pellach. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.15pm. |