Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Cefyn Williams a Cheryl
Williams gysylltiad personol yn eitem 5 (Adolygu’r Polisi Cludiant o’r Cartref
i'r Ysgol). |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Mai 2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 12 Mai 2016:- PENDERFYNWYD –
y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD O'R POLISI CLUDIANT O'R CARTREF I'R YSGOL PDF 199 KB Ystyried
canfyddiadau adolygiad o effaith gweithredu'r polisi cludiant i'r ysgol a
gwybodaeth am y blaengynllunio ar gyfer trefniadau cludiant mis Medi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Aelodau er mwyn
ystyried effaith y polisi cludiant ysgol newydd ar gyfer disgyblion ysgolion
uwchradd sydd ar waith o fis Medi 2015. Eglurodd y Pennaeth Addysg bod aelodau etholedig
wedi cymeradwyo i gynnal adolygiad o'r Polisi Cludiant Ysgol bresennol yn y
Gweithdy Rhyddid a Hyblygrwydd a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2014. Mae'r
broses wedi arwain at Bolisi diwygiedig yn cael ei weithredu o fis Medi 2015. Pwrpas yr
adolygiad oedd edrych ar y meysydd canlynol: ·
Sicrhau
bod y rheol 2-3 milltir cynradd/uwchradd yn cael ei chadw ·
Darpariaeth
Ffydd/Iaith ·
Darpariaeth
ôl-16 ·
Dichonoldeb
pwyntiau casglu canolog ·
Darpariaeth
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ·
Llwybrau
peryglus Mae'r adolygiad
hefyd yn cydnabod pwysau ariannol ar y gyllideb Cludiant Ysgol ar y cyfnod
hynny, rhai ohonynt wedi’u priodoli i anghysondebau hanesyddol yn y
gwasanaethau a ddarperir, lle’r oedd yr adolygiad yn gofyn am gywiriad. Wrth gymhwyso'r
Polisi, dynodwyd "mannau codi" lle mae gan ddisgyblion yr hawl i
gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol gan dderbyn cludiant i’w "hysgol
addas" agosaf. Yn sgil
cymhwyso'r Polisi, mae nifer o gwynion wedi dod i law gan rieni/gwarcheidwaid,
y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chael gwared ar dacsis o’r cartref i’r ysgol
neu gyflwyno "mannau codi dynodedig" a'r ffaith ei fod yn gyfrifoldeb
ar y rhiant/gwarcheidwad i drefnu taith y disgybl at y "man codi
dynodedig". Ar ddiwedd 2015,
ysgogwyd her Adolygiad Barnwrol gan riant a oedd yn herio fod gan yr Awdurdod
Lleol ddyletswydd i gludo eu plentyn o'r cartref i'r man codi, gan eu bod o'r
farn bod y llwybr yn un peryglus.
Ar ôl cael cyngor cyfreithiol
gan Gwnsler, dyma’r Cyngor yn yr achos penodol hwn, yn defnyddio ei bwerau
dewisol i ddarparu gwasanaeth tacsi o gartref y disgybl at y "man
codi" dynodedig. Mewn ymateb i'r
cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd, eglurodd y Cyngor hefyd eiriad y Polisi ac o
dan amgylchiadau lle y dylid cymhwyso disgresiwn, ail-archwiliwyd nifer o
achosion eraill. Lle bo'n briodol, ailgyflwynwyd gwasanaethau tacsi sy’n bwydo
i’r bysiau a gafodd eu tynnu yn ôl yn flaenorol. M
Mae’r Cyngor wedi cysylltu â rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant oedd yn arfer
cael eu danfon mewn tacsis ond lle cafodd y gwasanaeth ei dynnu'n ôl ond sydd
heb apelio neu gwyno, ac sydd o bosibl yn byw ar lwybr peryglus, yn eu cynghori
i ailymgeisio am gludiant am ddim ac i ddarparu tystiolaeth berthnasol o'r
llwybr peryglus. Yn dilyn her yr
Adolygiad Barnwrol, mae canllawiau pellach wedi'u cyhoeddi i egluro'r polisi, a
chopi wedi ei atodi i'r adroddiad er gwybodaeth i'r Aelodau. O
ganlyniad i'r adolygiad barnwrol, a'r canllawiau a gyhoeddwyd, mae gofyn i’r
Polisi ei hun i gael ei adolygu. Amlinellodd y Pennaeth Addysg yr amserlen
arfaethedig ar gyfer y broses adolygu, fel y nodir ym mharagraff 4.4.2 yr
adroddiad. Gofynnodd yr
Aelodau a oedd ysgolion cymunedol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hystyried o
hyd yn "ysgolion bwydo" ar gyfer ysgolion uwchradd penodol, ee Ysgol
Bro Fammau yn Llanferres yn gwasanaethu cymunedau Llanferres, Llanarmon yn Iâl
a Graianrhyd ac yn y gorffennol wedi bod yn "ysgol fwydo" i Ysgol
Brynhyfryd. Fodd bynnag, ers gweithrediad llym y Polisi
Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol, nid oedd Ysgol Brynhyfryd bellach yn cael ei
ystyried fel yr "ysgol briodol agosaf" ar gyfer rhai o ddisgyblion
Ysgol Bro Fammau gan eu bod yn byw yn nalgylch ysgolion yr Wyddgrug. Mae'r
broblem hon yn effeithio mwy ar ardaloedd gwledig nag ar ardaloedd trefol, a
allai o bosibl yn y tymor hir effeithio ar ddemograffeg ardaloedd gwledig. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, roedd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CEFNOGI BYW'N ANNIBYNNOL PDF 91 KB Ystyried y
cynnydd a wnaed gyda chyflwyno'r Gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol, manylion
am y cyllid Cefnogi Pobl ar gyfer y Gwasanaeth a manteision cymryd dull
symlach, integredig o reoli Cefnogi Byw’n Annibynnol, Ailalluogi a'r Gwasanaeth
Gweithiwr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd â mentrau eraill i wireddu
gwerth am arian (yr adroddiad i gynnwys y nifer o dderbynwyr Gwasanaeth Cefnogi
Byw’n Annibynnol ym mhob ward y Cyngor a'r Cynllun Gweithredu Cefnogi Byw’n
Annibynnol) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) fel bod yr
Aelodau’n gallu monitro cynnydd Cefnogi Byw'n Annibynnol (SIL) wrth ddiwallu
anghenion cymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl hŷn ar draws y sir. Mae nodau ac
amcanion y Gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol yn cynnwys cefnogi unigolion
drwy ddarparu cymorth ymyrraeth gynnar i gefnogi'r rhai ag anghenion mwy
cymhleth. Dywedwyd wrth yr
Aelodau er na fu unrhyw doriad i'r grant Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2016/17, nid oedd unrhyw sicrwydd na fyddai LlC yn torri'r cyllid yn y
dyfodol. Pwysleisiwyd na ellir defnyddio cyllid Cefnogi
Pobl i ddarparu tai statudol neu wasanaethau gofal cymdeithasol. Ar
hyn o bryd mae'r gwasanaethau Cefnogi Byw’n Annibynnol ond yn cyflenwi 400 awr
o gefnogaeth yr wythnos, a oedd gryn dipyn yn llai na'r gofyniad cytundebol o
507 awr yr wythnos. Fodd bynnag, mae gwaith ar y gweill
i fynd i'r afael â’r diffyg hwn trwy wella’r gwaith o farchnata’r gwasanaeth,
yn enwedig i'r sectorau hynny o'r gymuned a oedd yn ymddangos i danddefnyddio’r
gwasanaeth hy perchennog preswyl a deiliaid tai rhent preifat. Gan ymateb i
gwestiynau'r aelodau cynghorodd y Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl:- ·
bod
pobl sy'n holi am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn cael eu cyfeirio at yr
adran berthnasol gan y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (SPoA) ·
bod y
cyllid a ddyrannwyd i'r Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i dalu staff
Cefnogi Byw’n Annibynnol, a oedd yn cynnwys cyn-wardeniaid y llety gwarchod lle
mae pob un ohonynt yn awr yn gweithio i'r Gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol ·
bod y
gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth ledled y sir i bob math o aelwydydd a oedd yn
gymwys ar gyfer cymorth, a bod y Gwasanaeth heb ei gyfyngu i gyn gyfadeiladau
llety cysgodol ·
bod
unigolion sydd wedi derbyn cymorth yn gyffredinol dros 50 oed ·
bod
nifer cynyddol o bobl hŷn sydd â dibyniaethau alcohol neu sylweddau, rhai
ohonynt hefyd yn cyflwyno nodweddion ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn
cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol ·
bod y Gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol yn
gweithio’n agos ag Ymarferwyr Iechyd i gefnogi unigolion lle bo hynny'n briodol ·
ar ôl
derbyn atgyfeiriad, bydd holl anghenion yr unigolyn yn cael ei asesu, bydd
asesiad yn un cyfannol sy'n cynnwys edrych ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth
a rhai ei deulu/theulu/ gofalwyr ac ati, ac ·
rhai
defnyddwyr gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol yn defnyddio canolfannau dydd y
Cyngor ac/neu wasanaethau cysylltiedig eraill os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Trafododd y
Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl gyda'r Rheolwr Un Pwynt Mynediad y mathau o wybodaeth
a rannwyd yn rheolaidd rhwng y ddau wasanaeth fel mater o drefn gan archwilio a
ellir gwella’r llif gwybodaeth ymhellach. Ar ddiwedd y
drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i'r Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl am fynychu a
phwysleisiodd y pwysigrwydd i holl wasanaethau'r Cyngor gydweithio â’i gilydd i
ddarparu gwasanaethau gwell, effeithiol a di-dor i drigolion. Felly: PENDERFYNWYD: (i)
(a) yn amodol ar y wybodaeth uchod, i
dderbyn yr adroddiad, a (ii) bod
adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Hydref
2016 ar y manteision posibl o fabwysiadu ymagwedd symlach i reoli Cefnogi Byw'n
Annibynnol, Ail-alluogi a Gwasanaethau Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 104 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Waith i'r Dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi
crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu
gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Ystyriodd y
Pwyllgor ei Rhaglen Waith i'r Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol,
Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a'r ychwanegiadau canlynol:- 8 Medi 2016 ·
Absenoldeb
mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd ·
Llwybrau
Peryglus i’r ysgol ·
Arolwg
Preswylwyr, ac ·
Darpariaeth
Adran Gwaith a Phensiynau/People Plus yn Sir Ddinbych. Gwahoddiad
wedi'i ymestyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau a People Plus i fynychu'r
cyfarfod. Cyn y cyfarfod ar
8 Medi, 2016, trefnwyd rhag-gyfarfod ar gyfer Aelodau yn dechrau am 9.00am 27 Hydref 2016 - Cefnogi Byw'n Annibynnol 15 Rhagfyr 2016 – Polisi Cymhwysedd Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Drafft PENDERFYNWYD -
yn amodol ar y newidiadau a chytundebau uchod, i gymeradwyo’r Rhaglen Waith fel
y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt yma,
gofynnodd y Cynghorydd Cheryl Williams am ddiweddariad ynghylch â’r problemau
gyda Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio y byddai cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 7
Gorffennaf 2016 lle byddai croeso i'r Cynghorydd Williams i fod yn bresennol i
gyflwyno ei chwestiwn. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cynghorydd Martyn Holland ei fod wedi mynychu: ·
Cyfarfod
y Gweithgor Mynd i'r Afael â Thlodi ·
Cyfarfod
Sgwrs y Sir – roedd y presenoldeb yn wael i’r cyfarfod hwn, a ·
Cynhaliwyd cyfarfod o'r
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (CBYLl) y diwrnod blaenorol, a gafodd ei ganslo
ar ôl hynny oherwydd dim ond un cynrychiolydd Undeb oedd yn bresennol. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Brian Blakeley ei fod wedi ymddiswyddo o'r Cyngor Iechyd Cymuned
(CIC). |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.08am. |