Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y cysylltiadau canlynol wedi eu nodi yn eitemau busnes 5 a 6 i gael
eu hystyried yn y cyfarfod. Roedd y Cynghorwyr H. Hilditch-Roberts yn datgan cysylltiad fel
Ymgynghorydd i'r GIG a B. Blakeley fel Aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar: (i) 5 Tachwedd, 2015 (copi ynghlwm). (ii) 16
Tachwedd, 2015 (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2015:- Materion yn codi:- 5. Adolygiad o’r Polisi Cludiant o’r
Cartref i’r Ysgol – esboniodd y Cynghorydd M.L. Holland ei fod wedi codi’r mater
bod Ysgol Alun, Yr Wyddgrug wedi ei hyrwyddo fel dewis arall yn lle Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, a diffyg
darpariaeth cludiant i ddisgyblion sy'n byw yn Eryrys sy'n mynychu Ysgol Alun,
Yr Wyddgrug. Eglurodd mai’r man codi agosaf ar gyfer cludiant ar hyn o
bryd oedd yn Llanarmon yn Iâl. Hysbysodd y Cydlynydd
Archwilio’r Aelodau bod y Cynghorydd M.Ll. Davies wedi gofyn i’r enw
"Cefnmeiriadog" gael ei newid i ddarllen "Cefn Meiriadog". 7. Strategaeth Tai Drafft - Cyfeiriodd y Cynghorydd ML Holland at bwynt tri ar dudalen
12 yn ymwneud â "chyfyngiadau'r polisi Pentrefannau cyfredol". Eglurodd bod dau o Gymdeithasau Tai wedi gwrthod cynnig
gan berchennog y tir, yn ei ward, i ddatblygu tir ar gyfer tai gan nad oedd
unrhyw alw oherwydd lleoliad a diffyg amwynderau lleol. Eglurodd y Cynghorydd Holland nad oedd y cynnig wedi ei
wrthod yn sgil y Polisi Pentrefan, fel y cyfeiriwyd yn y cofnodion. Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion perthnasol gael
gwybod yn unol â hynny. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod
cywir. (a) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2015:- PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH GOFAL SYLFAENOL YN ARDAL PRESTATYN Cael cyflwyniad
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
9.35 a.m. Cofnodion: Rhoddodd
cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gyflwyniad yn
amlinellu cefndir y newidiadau arfaethedig yn narpariaeth gofal iechyd
sylfaenol ym Mhrestatyn. Roedd y prif feysydd a nodwyd yn y
cyflwyniad PowerPoint yn cynnwys:- Ø
Cefndir,
yn cynnwys trosolwg o ofal sylfaenol traddodiadol Ø
manylion
y darparwyr meddygon teulu presennol Ø
Trosolwg
ar y model gofal sylfaenol cyfoes: ·
Canolfan
Gofal Sylfaenol Heb ei Drefnu ·
Gofal
wedi'i gynllunio ·
Cymorth
Cartref Gofal Cartref ·
Yr
academi Ø
Cynnydd
hyd yma Dywedodd y
cynrychiolwyr BIPBC fod:- ·
Y
ffaith bod dwy Feddygfa yn ardal Prestatyn wedi rhoi hysbysiad o'u bwriad i
derfynu eu contract â'r Bwrdd Iechyd o’r 31 Mawrth 2016 wedi golygu bod angen
i'r Bwrdd ystyried yr ateb mwyaf priodol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd
sylfaenol i boblogaeth o tua 21,000 o gleifion; ·
Er bod
y meddygon teulu yn y ddwy feddygfa yn rhoi’r gorau i’w contract Gwasanaethau
Meddygol Cyffredinol (GMC), sef y math traddodiadol o gontract y mae’r rhan
fwyaf o wasanaethau meddygon teulu yn eu darparu ar draws Gogledd Cymru, roedd
y rhan fwyaf o feddygon teulu yn y meddygfeydd dan sylw yn dal â diddordeb mewn
darparu gwasanaethau meddygon teulu os byddai eu rolau yn fwy hylaw; ·
Mae
ymchwil ac astudiaethau cenedlaethol diweddar wedi nodi bod darparu gofal
sylfaenol angen newid i gynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gofal iechyd
h.y. nyrsys, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, awdiolegwyr, y sector gwirfoddol
ac ati ·
Oherwydd
y nifer o gleifion yn ardal Prestatyn roedd y Bwrdd Iechyd o'r farn mai’r ateb gorau
ar gyfer darparu gwasanaethau i boblogaeth yr ardal fyddai datblygu Cyfleuster
Gofal Sylfaenol Cyfoes, a fyddai'n cynnwys:- Ø
Canolfan
gofal sylfaenol heb ei drefnu (lle gallai cleifion gael apwyntiad yr un diwrnod
gyda'r ymarferydd iechyd perthnasol) Ø
Canolfan
Gofal Wedi’i Gynllunio (lle gallai cleifion gael gofal rheolaidd ar gyfer
cyflyrau cronig a ddarperir gan yr un ymarferydd) Ø
Cefnogaeth
Cartref a Gofal Cartref (darpariaeth gofal iechyd arbenigol pwrpasol ar gyfer
cleifion diamddiffyn/bregus naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi
preswyl/nyrsio); ac Ø
Academi (lle gallai gweithwyr proffesiynol
presennol barhau i ddatblygu a rhannu sgiliau, lle gallai cleifion gael eu
dysgu i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain neu eu cyflyrau eu hunain, a lle
gellid ceisio adborth rheolaidd i gleifion a'i ddadansoddi er mwyn gwella
gwasanaethau) ·
Gyda
golwg ar symud y prosiect yn ei flaen a bod â’r gofynion sylfaenol ar waith i’r
gwasanaeth newydd arfaethedig fod yn weithredol ar 1 Ebrill 2016, roedd bwrdd
prosiect a thîm wedi cael ei sefydlu. Roedd y tîm wedi’i leoli ar safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra yn y Rhyl ac roedd ar hyn o bryd yn delio â TUPE y staff presennol
i'r gwasanaeth newydd, recriwtio staff newydd a chyfathrebu am y newidiadau i'r
trigolion a budd-ddeiliaid; ac ·
Roeddent
hefyd o fewn y dyddiau diwethaf wedi mynegi diddordeb mewn sicrhau cyn adeilad
swyddfa’r cyngor a'r safle yn Nhŷ Nant, Prestatyn fel canolfan ar gyfer y
cyfleuster Gofal Sylfaenol Cyfoes newydd. Dywedodd rhai
Aelodau, er eu bod wedi bod braidd yn amheus ynghylch y model gofal iechyd
cyfoes i ddechrau, nawr eu bod yn cael mwy o fanylion am sut y byddai'n
gweithio roeddent mwy o’i blaid. Gofynnwyd a oedd crynodeb cryno ar gael i drigolion ar yr hyn a gynigir,
gan y byddai hyn yn rhoi sicrwydd iddynt ynglŷn â’r datblygiadau. Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd swyddogion BIPBC:- ·
Gyda
golwg ar gael sianelau cyfathrebu effeithiol gyda'r holl fudd-ddeiliaid roedd y
Bwrdd Iechyd yn defnyddio cefnogaeth cyfathrebu allanol, yn ogystal roeddent
hefyd yn ystyried sefydlu gwefan ryngweithiol at y diben hwn; · Roedd tîm cyfathrebu’r Cyngor ei hun hefyd yn cynorthwyo BIPBC ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWASANAETH MEDDYG TEULU TU ALLAN I ORIAU Cael cyflwyniad
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 10.10 a.m. Cofnodion: Dosbarthwyd
adroddiad gan swyddogion BIPBC yn y cyfarfod ar y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau
Meddygon Teulu yn ardal Ganolog y Bwrdd, a oedd yn cynnwys ardaloedd awdurdod
lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. Gwnaethant nodi bod:- ·
Roedd
y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi’i nodi o dan Fesurau Arbennig
y Bwrdd fel maes oedd angen ei wella; ·
Ar gyfer
Ardal Canol y sir roedd y prif Wasanaeth y Tu Allan i Oriau’n cael ei weithredu
ar safle Ysbyty Glan Clwyd. Ers agor yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys newydd (D ac A) yn Ysbyty
Glan Clwyd, roedd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau wedi'i leoli drws nesaf i'r
Adran Ddamweiniau newydd ac o ganlyniad roedd yr un cyfleuster brysbennu yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer y ddau wasanaeth. Roedd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar D&A
gan y gallai’r cleifion hynny nad oedd angen ymyriad mewn argyfwng gael eu
dargyfeirio i'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau. Roedd parafeddygon Ymddiriedolaeth Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru (WAST) yn defnyddio dull tebyg ar yr ambiwlansys sy’n cyrraedd
yn Ysbyty Glan Clwyd, ac felly roedd rhai cleifion oedd wedi cyrraedd mewn
ambiwlans hefyd yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau; ·
Mae'r
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn yr Ardal Ganolog hefyd yn cynnal ymweliadau
â’r cartref pan fo angen. Cofnododd Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yr Ardal Ganolog y trydydd nifer
uchaf o ymweliadau cartref yng Ngogledd Cymru, ar ôl Gwynedd ac Ynys Môn, roedd
hyn oherwydd natur wledig yr ardal. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth yn gweld rhai
cleifion y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Rhuthun, gan ei fod yn defnyddio’r
cyfleuster fel allbost ar gyfer y gwasanaeth; ·
Y
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Glan Clwyd oedd y gwasanaeth mwyaf
llwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Roedd wedi recriwtio 10 o feddygon teulu yn
ychwanegol yn ddiweddar ac roedd yn cynnig goruchwyliaeth 100% fel gwasanaeth. Dim ond ychydig yn brin o gyflawni
mwyafswm goruchwyliaeth ar gyfer gwyliau banc ac ati. Mae ei lwyddiant yn erbyn
safonau cenedlaethol bron yn 100%; ·
Yr unig faes lle mae'n methu â chyflawni yw’r
dangosydd sy'n ymwneud ag ymgymryd ag ymweliad cartref i'r rheini sydd angen un
o fewn 60 munud - roedd natur wledig yr ardal yn gwneud y targed hwn yn un
anodd ei gyflawni; ·
Roedd
y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau hefyd wedi buddsoddi mewn Ymarferwyr Nyrsio
Uwch, gallai’r aelodau hyn o staff ymweld â phobl yn eu cartrefi i gynnig gofal
lliniarol; ·
Oriau
ymarferwyr nyrsio hefyd wedi cynyddu; ·
Mae'r
holl sifftiau yn yr Ardal Ganolog wedi eu gorchuddio gan feddygon teulu a oedd
yn derbyn tâl cyfradd sesiynol. Roedd dwy sifft yn cael eu gweithredu: 6pm-11pm,
adeg y galw mwyaf - 2 neu weithiau 3 o feddygon ar gael yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r ail
sifft yn gweithredu dros nos o 11pm ymlaen - 1 meddyg a 2 o ymarferwyr nyrsio
ar gael ar y sifft hon. ·
Nid
oedd problemau yn Ardal y Dwyrain wrth recriwtio nifer digonol o feddygon teulu
ar gyfer pob sifft oherwydd diffyg diddordeb, ond oherwydd rheolau Llywodraeth
Cymru nad ydynt yn caniatáu i feddygon teulu sy'n gweithio yn Lloegr i weithio
yng Nghymru hefyd. Roedd
yr anghysondeb bellach yn cael ei gywiro ac yn y man dylai hyn leddfu'r pwysau
yn Ardal y Dwyrain; · Roedd Bwrdd Iechyd PBC yn fodlon ar gyflawniadau’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau hyd yma, ond nid oedd yn hunanfodlon gan ei fod yn ymwybodol fod yna heriau o'n blaenau a'r angen i fod yn fwy arloesol i ateb ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
BYW'N ANNIBYNNOL Â CHEFNOGAETH PDF 90 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal Y Gogledd / Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl
/ Rheolwr Gofal a Chymorth Tai, ar gynnydd Byw’n Annibynnol â Chefnogaeth i
gwrdd ag angen cymorth sy'n gysylltiedig â thai pobl hŷn ar draws y Sir,
yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol o gyfyngiadau parhaus a'r angen i'r
Cyngor sicrhau arbedion, a oedd wedi’i ddosbarthu yn flaenorol. 10.55 a.m.
Cofnodion: Roedd cyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Rheolwr Tîm Cefnogi
Pobl Ardal y Gogledd a’r Rheolwr Tai, Gofal a Chymorth, a oedd yn amlinellu
cynnydd y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol gyda Chefnogaeth wrth gwrdd â'r angen
am gymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl hŷn ar draws y Sir, wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd Aelodau
wedi cytuno’n flaenorol y byddai adroddiadau ar SIL yn parhau i gael eu dwyn
gerbron cyfarfod o'r Pwyllgor, er mwyn monitro cynnydd SIL wrth ddiwallu
anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â thai i bobl hŷn ar draws y Sir. Cyflwynodd y
Rheolwr Tai, Gofal a Chefnogi yr adroddiad a dywedodd wrth yr Aelodau bod y
misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid cyflym o fewn y Gwasanaethau Tai
gan fod y Gwasanaeth wedi bod yn destun ailstrwythuro. Er gwaethaf hyn, roedd y Cynllun
Gweithredu a oedd wedi deillio o'r adolygiad Cefnogi Pobl (CP) yn cael ei
weithredu heb unrhyw bryderon neu oedi mawr. Er bod Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi’r swm
terfynol o arian grant Cefnogi Pobl a fyddai'n cael ei ddyrannu i Sir Ddinbych
eto, roedd yn dod yn gliriach na fyddai'r toriad a ragwelir yn y gyllideb o 10%
i 30% yn cael ei wireddu, mae'r Cyngor yn debygol o weld y cyllid grant yn
lleihau gan oddeutu 5%. O ganlyniad, oherwydd y byddai'r cyfanswm cyllideb CP 2016-17 yn is na'r
ffigwr eleni o £547,932 byddai dal angen gwneud toriadau i wasanaethau.
Serch hynny, gellid eu cyflwyno'n
raddol gyda'r bwriad o gael cyn lleied o effaith niweidiol â phosibl. Gan ymateb i
gwestiynau'r aelodau dywedodd y Rheolwr Tai, Gofal a Chymorth:- ·
Roedd y Gwasanaeth Cefnogi Byw’n
Annibynnol wedi’i ariannu’n gyfan gwbl trwy'r grant Cefnogi Pobl. Roedd y gwasanaeth SIL, yn wahanol i'w
ragflaenydd y Gwasanaeth Wardeiniaid Tai Gwarchod, yn gwasanaethu'r sir gyfan,
ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd. Roedd yn cefnogi pobl sy'n byw yn eu cartrefi eu
hunain yn ogystal â'r rhai a oedd yn byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r cyngor, i
fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag yr oedd yn ddiogel ac yn
bosibl iddynt aros yno; ·
Roedd
y Gwasanaeth hefyd yn darparu gwasanaeth cyfeirio i helpu preswylwyr ddod o hyd
i glybiau neu sefydliadau sydd o ddiddordeb iddynt, gan ei fod yn cynnal
cyfeiriadur cynhwysfawr o sefydliadau/clybiau sy'n gweithredu yn yr ardal.
Gallai hyd yn oed eu cefnogi, os oes
angen, i gael mynediad at a setlo mewn grwpiau neu glybiau newydd; ·
Er
nad yw'r gwasanaeth yn darparu’r gwasanaeth warden ar y safle yn y canolfannau
llety gwarchod, roedd yn cynnig gwasanaeth gwrando ac ymgynghorol ar gyfer yr
holl bobl sydd ei angen ym mhob rhan o'r sir; ·
Roedd
y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn cyflogi cyfanswm o 22 aelod o staff cyfwerth ag
amser llawn i ddarparu'r gwasanaeth; a ·
Gellid
cael mynediad i’r Gwasanaeth SIL drwy'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (SPoA), yn
ogystal â thrwy wasanaethau eraill y Cyngor. Cyn cloi'r
drafodaeth diolchodd yr Aelodau i'r Rheolwr Tai Gofal a Chymorth am eu briffio
ar ddatblygiad y Gwasanaeth hyd yn hyn; a:- PENDERFYNWYD:- (a)
yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr
adroddiad a’r cynnydd a wnaed hyd yma i sefydlu’r Gwasanaeth Cefnogi Byw’n
Annibynnol yn Sir Ddinbych, a (b)
bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor ymhen chwe mis yn amlinellu'r cynnydd gyda chyflwyniad y Gwasanaeth
Cefnogi Byw'n Annibynnol, a bod yr adroddiad yn cynnwys manylion am y cyllid ar
gyfer y Sir ar gyfer 2016/17 a manteision dull integredig o reoli SIL, Ailalluogi
a'r Gwasanaeth Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCSW). |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
raglen gwaith i'r dyfodol ac oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’
wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau
diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithredu wedi ei gynnwys yn
Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 4 Chwefror 2016:- Cytunodd y Pwyllgor fod yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd
HH Evans (Arweinydd) yn cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio fod y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar 3 Rhagfyr, 2015 ac
nid oedd unrhyw faterion wedi eu cyfeirio at y Pwyllgor Archwilio Cymunedau i'w
hystyried. PENDERFYNWYD
- yn amodol ar y
newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y
nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor
11.40 a.m. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd
a'r Cynghorydd T.R. Hughes wedi mynychu'r Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r
Brethyn. Eglurwyd bod
toriadau mewn perthynas â Strydwedd wedi cael ei drafod. Roedd
yr Aelodau wedi deall y rhesymau dros y toriadau, a'r farn a fynegwyd oedd bod
yna bob amser le i wella. Fodd bynnag, roedd y Grŵp wedi dod
i'r casgliad nad oedd effaith rhoi’r toriadau ar waith wedi bod yn waeth nag a
ragwelwyd yn wreiddiol. Hysbyswyd yr Aelodau, yn dilyn trafodaeth
fanwl ynglŷn â thrin chwyn yn tyfu ar y strydoedd, byddai’r broses a
fabwysiadwyd ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem yn cael ei adolygu. Eglurodd
y Cynghorydd Hughes ei fod wedi awgrymu bod y maes gwaith hwn yn cael ei wneud
ar lefel leol gan y Cynghorau Tref priodol. Roedd y Cadeirydd
wedi mynychu'r cyfarfod Herio Cyfathrebu, Marchnata a Gwasanaeth Hamdden a
gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2015, ac esboniodd fod y materion canlynol wedi cael
eu hystyried:- ·
Ffigurau
yn ymwneud â darpariaeth hamdden o fewn yr Awdurdod wedi bod yn gadarnhaol gyda
thystiolaeth o dwf ar draws y Sir. ·
Trafodaeth
ar y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Ieuenctid. ·
Materion
yn ymwneud â chyfathrebu wedi cael eu cydnabod. Fodd
bynnag, teimlwyd y byddai cyflwyno strwythur newydd yn mynd i'r afael â'r
problemau. ·
Roedd
y Strategaeth Digwyddiadau wedi cael ei thrafod a rhoddwyd ystyriaeth o ran sut
roedd Cyngor Sir Ddinbych yn hyrwyddo ei hun mewn digwyddiadau, gan gyfeirio'n
benodol at broffilio digwyddiadau lleol megis sioeau pentref, a'r weithdrefn
ysgafn i'w mabwysiadu gan Sir Ddinbych.
Mewn ymateb i bryderon
Aelodau ynghylch pwysigrwydd rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gynhelir yn
y Sir, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau at yr e-bost a
ddosbarthwyd i'r Aelodau a oedd yn manylu ar y broses ailstrwythuro i'w
mabwysiadu. Yn dilyn
trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- y dylid derbyn a
chofnodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am
12.10pm. |