Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn eitem 5, Adolygu’r
Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol. Datganodd y
Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 7, Strategaeth Dai
Ddrafft. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 10 Medi 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 10 Medi 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo a derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd
ar 10 Medi, 2015 fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD O'R POLISI CLUDIANT O'R CARTREF I'R YSGOL PDF 372 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (copi ynghlwm) i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol ynghylch adolygiad o'r Polisi Cludiant Ysgol, fel y
gofynnwyd yn y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 10 Medi 2015. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ychwanegol fel y gofynnwyd gan y Pwyllgor
Archwilio Cymunedau ar 10 Medi, 2015. Amlinellodd y cefndir o roi’r Polisi ar
waith. Roedd y gwasanaeth wedi cyflwyno polisi cludiant
ysgol fel opsiwn i wneud arbedion posibl o fis Medi 2016 i weithdy Rhyddid a
Hyblygrwydd yn ystod 2014. Roedd Aelodau
Etholedig, ar ôl gwireddu swm yr arbedion posibl sy'n gysylltiedig â'r gyllideb
hon, wedi cyfarwyddo swyddogion i weithio tuag at weithredu'r polisi o fis Medi
2015 yn hytrach na 2016 fel y rhagwelwyd yn wreiddiol. Roedd
y penderfyniad hwn wedi golygu bod angen terfynau amser tyn er mwyn cyhoeddi'r
newidiadau polisi arfaethedig o fewn y gofynion statudol, sef 11 mis cyn ei
weithredu. Mae'r polisi’n
berthnasol i'r cymhwyster ar gyfer cludiant ysgol i ysgolion uwchradd, a dyna
pam fod y rheol 3 milltir i fod yn gymwys i gael mynediad i gludiant am ddim
o'r cartref i'r ysgol, ac ar yr amod mai dyma oedd yr ysgol addas agosaf. Mewn blynyddoedd
blaenorol, roedd Sir Ddinbych wedi bod yn llawer llai caeth wrth weithredu’r
meini prawf cymhwyso, ac o ganlyniad, roedd nifer uchel o ddisgyblion wedi bod
yn defnyddio'r gwasanaeth er nad oeddent yn gymwys mewn gwirionedd. Wrth weithredu’r polisi i ddisgyblion ysgolion uwchradd, daeth i'r amlwg
bod cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol wedi’i ddarparu i rai disgyblion
ysgolion cynradd, er nad oeddent yn gymwys i gael y gwasanaeth gan eu bod yn
byw llai na 2 filltir o'r ysgol addas agosaf. Roedd
yn ymddangos fod hyn wedi achosi problem i deuluoedd yn Rhuddlan gyda phlant a
oedd yn mynychu Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl.
Gofynnwyd i drefnu cyfarfod
rhwng swyddogion a rhieni i asesu'r llwybr o Ruddlan i'r ysgol. Aseswyd
y llwybr yn ddiweddar, a phenderfynwyd nad oedd yn beryglus. Gallai’r
gost o dalu am gludiant cyhoeddus i ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion ffydd
yn y dyfodol gyfyngu dewis rhieni wrth ddewis ysgolion i’w plant eu mynychu. Roedd y rhan
fwyaf o’r materion yn yr ardaloedd gwledig, gan mai disgyblion o’r ardaloedd
hynny a oedd yn dibynnu ar gludiant ysgol. Cyfeiriodd
yr Aelodau hefyd at effaith gymunedol colli’r gwasanaethau bws ar yr ardaloedd
gwledig. Cododd hyn bryderon ynghylch hyfywedd a
chynaliadwyedd rhai cymunedau gwledig dros y tymor canolig i hir yn dilyn colli
eu hysgolion a’u gwasanaeth bws. Roedd yr Aelodau'n pryderu, oherwydd y
colledion hyn, y byddai cymunedau gwledig, maes o law, yn dod yn breswylfeydd i
gymudwyr heb ymdeimlad o gymuned. Cyfeiriodd yr
Aelodau at y camau roedd un ysgol uwchradd wedi eu cymryd, sef talu am gludiant
i ddisgyblion o un ardal i'r ysgol er mwyn ei galluogi i gynnal niferoedd y
disgyblion. Efallai y bydd angen adolygu’r derminoleg a ddefnyddir yn y Polisi er mwyn
sicrhau eglurder, er enghraifft, efallai y caiff enw’r Polisi ei newid o
gludiant o'r cartref i'r ysgol i'r Polisi Cludiant Ysgolion. Yn
ei gyfarfod ar 11 Medi, 2014 penderfynodd y Pwyllgor y dylid galw'r Polisi yn
"Polisi Cymhwysedd Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol", fodd bynnag,
rhaid cael cysondeb wrth gyfeirio ato i osgoi unrhyw ddryswch gyda pholisïau
cludiant ysgol eraill, fel cludiant ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol
Arbennig (AAA). Un canlyniad cadarnhaol i weithrediad y Polisi oedd yr ysbryd cymunedol a dod â chymdogion at ei gilydd i ddod o hyd i atebion a gweithio gyda'i gilydd i gludo eu plant i'r mannau codi dynodedig neu i ysgolion. Byddai mwy a mwy o angen am gydweithrediad o'r fath yn y dyfodol wrth i fwy o doriadau i gyllid cyhoeddus dechrau effeithio ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (10.20am) cafwyd toriad a gadawodd
yr Aelodau Cyfetholedig y cyfarfod. Cafodd y cyfarfod ei ailymgynnull am 10.25 am |
|
DIWEDDARIAD AR BROSIECT RHEOLEIDDIO MEYSYDD CARAFANAU YN WELL PDF 116 KB Ystyried
adroddiad gan yr Hyfforddai Graddedig, Gwella Busnes a Moderneiddio (copi
ynghlwm) i roi gwybodaeth am y gwaith a wnaed hyd yn hyn a’r camau nesaf a
drefnwyd ar gyfer y Prosiect. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chynnydd y
prosiect hwn ers adroddiad blaenorol y Pwyllgor Archwilio. Roedd y Pwyllgor
wedi ystyried yr adroddiad a chytunwyd y dylai’r cyfarfod symud i Ran II RHAN II Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a
ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Tynnodd y
Swyddogion sylw'r Aelodau at yr ystadegau oedd yn dangos yr amrywiaeth o
wasanaethau a ddefnyddir gan bobl sy'n byw ar safleoedd carafanau
"gwyliau" a phwysleisiodd bod: ·
Llawer
o waith cefndirol manwl wedi ei wneud gyda’r nod o ganfod maint y broblem o ran
pobl sy'n byw mewn carafanau “gwyliau” yn barhaol ac yn cael mynediad at
wasanaethau’r cyngor er nad ydynt wedi cyfrannu tuag at y gwasanaethau hynny
drwy’r system Treth y Cyngor ·
Mae’n
bosibl hefyd bod pobl eraill sy'n byw mewn carafanau "gwyliau" na
fyddai'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol ohonynt gan nad oeddent wedi'u cofrestru
ar y gofrestr etholiadol neu wedi ceisio cael mynediad i wasanaethau. Gallai
rhai hyd yn oed fod mewn swyddi llawn-amser ·
O'r ymchwil a wnaed hyd yma, amcangyfrifwyd y byddai'r
Cyngor yn colli lleiafswm o tua £300,000 y flwyddyn mewn arian Treth y Cyngor a
thaliadau Grant Cynnal Refeniw (RSG) gan fod tua 175 o unigolion yn y sir yn
byw drwy gydol y flwyddyn mewn carafanau "gwyliau" ·
Roedd
y rhan fwyaf o'r unigolion yn byw yn safleoedd carafanau mawr y sir, ac roedd
gan y safleoedd hyn eu gwasanaethau eu hunain fel siopau a golchdai ar y safle ·
Roedd
gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda Chymdeithas Parciau Gwyliau a
Chartrefi Prydain (BH&HPA) gyda'r bwriad o ddefnyddio aelodaeth y
Gymdeithas fel modd o hyrwyddo arfer da a rheoli a chanfod camymddwyn a
chamreoli ·
Mae
gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu Llawlyfr Gweithdrefnau Rheoleiddio a
rhagwelwyd y byddai’r llawlyfr hwn yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2016 mewn
cynhadledd ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a'r BH&HPA. Yn ystod y
drafodaeth, cododd yr Aelodau bryderon mewn perthynas â: ·
Ceisiadau
diweddar i Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor yn gofyn i ymestyn amodau trwydded
gweithredwr o 10 mis i 12 mis. ·
Mae
cost y "boblogaeth cudd" sy'n byw yn safleoedd carafanau’r sir i’r
Cyngor, yn enwedig y rhai nad oedd ganddynt "gartrefi" mewn mannau
eraill ac yn aros yn eu carafanau am 10 mis, yn mynd dramor am y 2 mis sy'n
weddill cyn dychwelyd i’w carafanau "gwyliau" yn Sir Ddinbych. Roedd
nifer o’r bobl hyn yn oedrannus a byddent, ar ryw adeg, yn defnyddio
gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal. ·
Roedd
posibilrwydd y gallai rhai o'r rhai a oedd â chartrefi mewn mannau eraill hefyd
fod ar y gofrestr etholiadol mewn dwy ardal wahanol. Cafodd Aelodau a swyddogion drafodaeth eithaf trylwyr am fanteision a chyfyngiadau cyflwyno "treth carafán" fel ffordd o sicrhau rhywfaint o incwm gan berchnogion y carafanau am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Cododd yr Aelodau bryderon mewn perthynas â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer tai cyngor a godwyd yn Atodiad 5 yr adroddiad (tudalen 56), a oedd yn amlinellu mynediad i dai cyngor a sut y gallai preswylydd gyda phroblemau meddygol mewn carafán ennill pwyntiau ychwanegol o gymharu â phreswylydd tŷ wrth wneud cais am dŷ cyngor. Gofynnwyd i’r Swyddog Arweiniol - Cartrefi Cymunedol ymchwilio i'r mater hwn yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11.25 am) cafwyd toriad Ailddechreuodd y cyfarfod am 11:35am. |
|
Ailddechreuodd y cyfarfod yn RHAN 1 ar y pwynt
hwn. RHAN 1 – GWAHODDWYD Y WASG A'R CYHOEDD I DDOD I'R
RHAN HON O'R CYFARFOD |
|
STRATEGAETH TAI DRAFFT PDF 102 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau'r
Pwyllgor Craffu Cymunedau adolygu'r Strategaeth Tai a darparu mewnbwn cyn iddo
gael ei adrodd i'r Cyngor llawn yn Rhagfyr 2015. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Strategaeth Tai Drafft y Cyngor a'r
Cynllun Cyflawni cysylltiedig i gael sylwadau’r aelodau, cyn ei gyflwyno i
Grŵp Llywio’r Aelodau Arweiniol yr wythnos ganlynol. Byddai'r
Strategaeth, a fyddai'n cefnogi'r gwaith o gyflawni nifer o Flaenoriaethau
Corfforaethol y Cyngor, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr, 2015
i’w cymeradwyo a’u mabwysiadu. Byddai'r cynnydd o ran cyflawni nifer o gamau gweithredu'r Strategaeth
hefyd yn debyg o fod yn nodwedd o Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru
ar Gyngor Sir Ddinbych, a fyddai'n digwydd yn hydref 2016. Yn ystod y drafodaeth ar y Strategaeth a'r Cynllun Cyflenwi, cododd yr
aelodau'r pwyntiau canlynol: ·
Gallai gorfodi amodau cynllunio a thrwyddedu yn fwy llym
mewn perthynas â safleoedd carafanau gwyliau yn y sir, fel y cynigiwyd yn yr
adroddiad cynharach ar raglen fusnes y Pwyllgor ar y "Prosiect Gwell
Rheoleiddio Safleoedd Carafanau", gael effaith bosibl ar gynllun cyflenwi
arfaethedig y Strategaeth Dai ·
Gan
fod y Cyngor wedi tynnu'n ôl yn wirfoddol oddi wrth drefniadau Cyfrif Refeniw
Tai (CRT) Llywodraeth Cymru, byddai disgwyl iddo ddefnyddio o leiaf rhan o'r
hen arian CRT at ddiben adeiladu tai.
Er y byddai pwysau eraill ar
gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, roedd y trefniadau newydd yn darparu cyfleoedd
i’r Cyngor wneud y mwyaf o'r buddion o ddefnyddio arian yr hen HRA ·
Tynnwyd
sylw at gyfyngiadau’r Polisi Pentrefannau presennol h.y. y ffaith nad yw rhai
pentrefannau eisiau tai fforddiadwy gan nad oedd unrhyw ragolygon cyflogaeth
neu wasanaethau lleol ar gael i ddenu pobl oedd angen tai fforddiadwy yn yr
ardaloedd hynny - dim ysgolion lleol na gwasanaethau bysiau. Tanlinellwyd
hyn ymhellach gan y ffaith bod tair cymdeithas tai lleol yr oedd tirfeddiannwr
wedi cysylltu â nhw gyda'r bwriad o ddatblygu ar dir mewn ardal a oedd o fewn y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi gwrthod y cynnig ar y sail na fyddent yn
gallu darparu unrhyw ddatblygiad arno oherwydd cyfyngiadau'r Polisi
Pentrefannau ·
Roedd
angen cynnwys argaeledd a'r defnydd o dir y Cyngor yng nghynllun cyflenwi’r
Strategaeth ·
Yr
angen i sicrhau bod y rhestr aros am dai Cyngor yn gyfredol, a bod y nifer a
oedd yn aros am dai cyngor yn cael ei wirio yn rheolaidd. Roedd hefyd angen sicrhau bod cofrestr Tai
Fforddiadwy'r Cyngor yn gyfredol a'i hyrwyddo ar draws y sir ·
Gofynnwyd
i’r Swyddog Arweiniol – Cartrefi Cymunedol ystyried cadw'r 'teithiau cerdded'
tai lle’r oedd aelodau lleol yn ymweld ag ystadau tai ynghyd â swyddogion tai,
gan fod cynghorwyr yn teimlo bod y rhain yn fuddiol ac yn ddefnyddiol. Wrth ymateb i bwyntiau'r aelodau amlinellodd yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai a swyddogion amcanion pob un o bum
thema’r Strategaeth ac eglurodd y modd yr oedd pob thema’n ategu ei gilydd.
Gwnaethant nodi bod: ·
Cyfyngiadau'r Polisi Pentrefannau wedi cael eu
trafod gan y Grŵp Llywio a nodi gweithred 1.5 Cynllun Cyflenwi’r
Strategaeth ar gyfer 2015 - 2020 oedd mynd i'r afael â'r anawsterau a achoswyd
gan y Polisi Pentrefannau ·
Byddai
tir a oedd yn eiddo i’r Cyngor yn cael ei drafod fel rhan o'r camau gweithredu
i gyflawni'r Cynllun Cyflawni unwaith y byddai’r Strategaeth wedi cael ei
chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y Cyngor Sir. Byddai camau gweithredu’r Cynllun Cyflenwi'n cael
eu hymgorffori yng nghynlluniau busnes pob Gwasanaeth ·
O ran
y rhestr Tai Cyngor, roedd tua 3,000 o ymgeiswyr ar y rhestr ar hyn o bryd,
gwiriwyd dilysrwydd presennol y ffigurau hyn yn rheolaidd, ond roedd yn broses
feichus a oedd yn cymryd llawer o amser gan fod yn rhaid ei gwneud â llaw · Roedd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol, wedi'i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o'r
"ffurflen gynnig Aelod" wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi'i chynnwys fel Atodiad 3, roedd tabl yn
crynhoi penderfyniadau diweddar y pwyllgorau a nodi cynnydd o ran eu gweithredu
wedi ei gynnwys yn Atodiad 4, a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp
Cydraddoldeb Corfforaethol yn Atodiad 5. Gofynnodd y
Cydlynydd Archwilio i’r Pwyllgor benodi dirprwy gynrychiolydd i eistedd ar
Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol y Cyngor. Gwirfoddolodd
y Cynghorydd Martyn Holland i fod yn ddirprwy gynrychiolydd ar gyfer y
Cynghorydd Win Mullen-James. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
Rhaglen Waith a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts grynodeb byr o'r cyfarfodydd yr oedd wedi bod
iddynt yn ddiweddar. Roedd y cyfarfodydd hynny yn cynnwys
TAITH, y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r Bwrdd Uchelgais Economaidd
a Chymunedol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm |