Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Win Mullen-James
a’r Cynghorydd Cheryl Williams Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bill Cowie i'w gyfarfod cyntaf fel
aelod o'r Pwyllgor, yn cynrychioli’r Grŵp Annibynnol. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2015/16 9:30am – 9:35am Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau am aelod i wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer blwyddyn gyngor 2015/16.
Cafodd y Cynghorydd Rhys
Hughes ei enwebu a'i eilio. Felly: Penderfynwyd: - Penodi’r Cynghorydd Rhys Hughes yn
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn gyngor 2015/16. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn Cofnodion: Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n
rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23ain Ebrill, 2015 (copi yn amgaeëdig). 9:35am – 9:40am Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau, 24 Ebrill 2015. PENDERFYNWYD – y
dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CASGLIADAU AC ARGYMHELLION Y GRWP TASG A GORFFEN TAI FFORDDIADWY PDF 94 KB I ystyried adroddiad gan y Rheolowr Cynllunio Strategol a Thai (copi yn amgaeëdig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chynnig sylwadau ar ganfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy 9:40am – 10:30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd yr adroddiad a oedd yn cynnwys casgliadau
ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen. Eglurodd
fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r
pryderon a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn Adroddiad Gwella
Blynyddol y Cyngor Mai 2014 ar yr angen i'r Awdurdod i egluro ei ymagwedd tuag
at ddarparu tai fforddiadwy. Rhoddwyd
gwybod i'r Pwyllgor fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi gwneud cyfanswm o 20 o argymhellion,
roedd manylion pob un ohonynt yn yr adroddiad. Roedd
materion a godwyd gan aelodau mewn sesiwn Briffio'r Cyngor yn ddiweddar lle
trafodwyd adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen (TaG) wedi eu rhestru yn Atodiad
II, ynghyd â'r argymhellion perthnasol yn yr adroddiad a fyddai'n mynd i'r
afael â'r materion hyn. Er byddai'r
argymhellion gan waith y Grŵp Tasg a Gorffen yn cael eu defnyddio i
lywio'r strategaeth dai ddrafft newydd, a byddai'n ffurfio rhan o'r cynllun
darparu ar gyfer y strategaeth honno, roedd rhai camau gweithredu eisoes wedi
eu cychwyn gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phroblemau a nodwyd e.e.
deddfwriaeth oedd gan Lywodraeth Cymru
ar y gweill a chanllawiau o ran caniatáu adolygiadau rhannol o Gynlluniau
Datblygu Lleol (CDLl), roedd Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) wedi cael eu
cyflwyno a'u cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor o ran caniatáu trosi
adeiladau gwledig segur ar gyfer tai ar y farchnad. Mewn ymateb i
gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd a’r
Swyddogion: ·
roedd
yn rhaid i'r Cyngor gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i CDLl bedair blynedd ar ôl
ei fabwysiadu. Byddai angen gwneud adolygiad Sir Ddinbych yn
2017; ·
Roedd
yr arwyddion diweddaraf gan LlC yn awgrymu dylai'r ddeddfwriaeth sydd ei angen
i ganiatáu adolygiadau rhannol fod yn ei lle rywbryd yn ystod haf 2015, ac y
byddai'r canllawiau cysylltiedig ar gael ar yr un pryd. Byddai
hyn, gobeithio, yn galluogi'r Cyngor i weithredu rhai o argymhellion y
Grŵp Tasg a Gorffen; ·
Roedd
y broses sy'n ymwneud â gwneud cais a chaniatáu ceisiadau cynllunio mewn
pentrefannau yn hynod feichus, fodd bynnag, efallai gellir adolygu’r broses hon
fel rhan o'r adolygiad rhannol - yn amodol ar ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth
newydd; ·
byddai'r
Strategaeth Dai newydd, a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r pwyllgor archwilio ym
mis Medi a'r Cyngor llawn ym mis Hydref 2015, â phum prif thema. Tai
Fforddiadwy fyddai ail thema’r Strategaeth, ond byddai materion yn ymwneud â
thai fforddiadwy hefyd yn ymddangos yn y rhan fwyaf o'r chwe thema; ·
mewn
perthynas â bancio tir, ni ellid newid terfynau amser ar gyfer datblygu safle
yn dilyn caniatâd cynllunio yn lleol.
Roedd y rheolau mewn
perthynas â hyn yn destun deddfwriaeth LlC. Byddai'n
rhy hwyr nawr i wneud sylwadau mewn perthynas â diwygio'r terfynau amser fel
rhan o'r ymgynghoriad ar y Mesur Cynllunio newydd. Fodd
bynnag, byddai'r Cyngor yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r
mater; ·
byddai'r
Pennaeth Cyllid ac Asedau Dros Dro newydd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer
gwireddu'r gwerth gorau posibl i'r Cyngor ar gyfer ail-fuddsoddi'r £500K a
amcangyfrifwyd i gael ei wireddu ar ôl ymadawiad y Cyngor o’r system
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS) – byddai’r opsiynau a fyddai'n cael eu
hystyried yn cynnwys adeiladu tai cyngor newydd (o bosibl mewn partneriaeth
gyda thrydydd parti); gwneud gwaith gwella pellach ar stoc tai presennol y
Cyngor (e.e. gwaith allanol neu amgylcheddol - gwaith nad oedd yn dod o dan y
cynllun Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), gan ddefnyddio'r arian a arbedwyd at y
diben o dynnu i lawr arian allanol ac ati); · Roedd gwaith wedi dechrau ar ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DIOGELWCH BWYD, SAFONAU A CHAFFAEL - DIWEDDARIAD PDF 58 KB I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi yn amgaëdig) sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnydd wnaed yn erbyn argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Diogelwch Bwyd 10:45am – 11:30am Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd yr adroddiad a rhoddodd y Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd fanylion am y gwaith a oedd wedi ei wneud o fewn y
deuddeg mis diwethaf o ran yr agwedd reoliadol o ddiogelwch bwyd a safonau ac i
wella caffael a rheoli contractau ymarferion caffael bwyd y Cyngor ei hun ar
gyfer y gwahanol sefydliadau y mae'n ei weithredu.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol ei fod mynd gyda swyddogion
diogelwch bwyd a safonau masnach ar rai o'u hymweliadau, gan gynnwys ymweliadau
â ffreuturau ysgol. Roedd wedi cael argraff dda iawn gan
drylwyredd eu gwaith a'u proffesiynoldeb wrth gynnal eu gwaith o ddydd i ddydd. Mewn
ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd: ·
mae’n ofyniad statudol i fannau gwerthu bwyd arddangos eu
sgôr hylendid bwyd (sef y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd). Gall methu cydymffurfio â hyn arwain at Rybudd
Cosb Benodedig; ·
Roedd pob man gwerthu bwyd, boed yn breifat
neu gyhoeddus, yn destun arolygiadau hylendid bwyd a safonau; ·
dyletswydd pob busnes unigol oedd cofrestru'r
ffaith eu bod yn gwerthu bwyd neu ddiod gyda'r awdurdod lleol.
Byddai swyddogion fel mater o drefn, fel rhan o'u
hymweliadau â busnesau eraill, yn cadw llygad am allfeydd newydd sy'n
gweithredu yn yr ardal a gwirio cofnodion y Cyngor i sicrhau eu bod wedi
cofrestru. Os yw'n amlwg nad oedd ganddynt,
byddai’r busnes yn cael eu cysylltu i'w cefnogi gyda’r broses honno neu
brosesau cysylltiedig eraill; ·
Byddai busnesau sy'n sgorio sgôr hylendid
bwyd o 1 neu 2 yn cael ei rhoi mewn categori 'risg uwch' ac felly angen mwy o
gymorth i wella eu sgôr. Roedd
swyddogion safonau bwyd yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at y busnesau
hyn a byddai'n cynnig cyngor a chefnogaeth i'w helpu i wella mewn pryd ar gyfer
yr arolygiad dilynol. Croesawodd y rhan fwyaf o fusnesau'r
gefnogaeth a roddwyd gan ei fod er eu lles i wella eu 'sgoriau'.
Roedd amseriad yr arolygiadau dilynol yn ddibynnol ar
natur y broblem y tu ôl i'r sgôr cychwynnol a'r amser sydd ei angen i’w gywiro
h.y. diffyg glendid neu angen newid hen offer. Byddai
digon o amser yn cael ei roi i ddatrys problemau a nodwyd; ·
Byddai ymweliadau dilynol ac ati yn cael eu
cynnwys yng nghynllun busnes y Gwasanaeth gan fod disgwyl i swyddogion ymgymryd
â chanran benodol o ymweliadau o'r fath bob blwyddyn ·
cynhaliwyd ymweliadau hylendid bwyd yn ddirybudd bob yn
hyn a hyn yn dibynnu ar y categori risg a roddwyd i'r busnes, a all fod rhwng 6
mis ar gyfer Categori A a 24 mis ar gyfer Categori D. Eithriad oedd hi i'r perchennog busnes wrthod mynediad
i arolygydd hylendid/safonau bwyd. Os oeddent yn gwrthod y prif reswm oedd diffyg dealltwriaeth ac unwaith
yr eglurwyd y sefyllfa iddynt roeddent yn caniatáu i’r ymweliad fynd rhagddo; ·
Pe bai angen i gynhyrchydd bwyd arbenigol fod
yn bresennol yn ystod arolygiad byddai’r ymweliad wedyn yn cael ei threfnu
ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr holl staff perthnasol wrth law; ·
roedd yr arolygwyr hylendid bwyd yn gweithio ar draws y
sir, ond roeddent yn blaenoriaethu eu gwaith fesul ardal er mwyn lleihau costau
teithio ac ati. Fodd bynnag, os oeddent mewn ardal yn ymateb i gŵyn
efallai y byddant hefyd yn ymgymryd â nifer o arolygiadau arferol yn yr un
ardal er mwyn bod yn gost effeithiol; · Roedd ffeiriau teithiol ac allfeydd bwyd symudol yn cael eu rheoli gan yr un rheoliadau hylendid a diogelwch bwyd. Roedd y busnesau hyn wedi eu cofrestru gydag 'awdurdod cartref' y perchennog busnes, fodd bynnag, nid oedd hyn yn gwahardd unrhyw awdurdod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi yn amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol 11:30am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan
y Cydlynydd Archwilio (SC), a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar
ei raglen gwaith i'r dyfodol ac oedd yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cadarnhaodd SC bod y ffurflenni newydd (atodiad 2)
i wneud cais am eitemau i'w cynnwys ar agendâu archwilio bellach wedi'u rhoi ar
waith. Hyd yn hyn nid oedd unrhyw ffurflenni wedi dod i law, ond byddai eitemau
a godwyd yn y cyfarfod yn cael eu cynnwys. Ystyriodd y Pwyllgor y Rhaglen Waith i'r Dyfodol ddrafft
ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, Atodiad 1. Dywedodd yr SC wrth y Pwyllgor
fod swyddogion wedi gofyn i'r adroddiad parcio ceir gael ei ddwyn ymlaen i
gyfarfod mis Gorffennaf.
Rhoddodd y Cadeirydd ganiatâd i’r cais
hwn. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Gweinidog Llywodraeth
Cymru (LlC) wedi ei wahodd i fynychu'r cyfarfod ym mis Gorffennaf ar gyfer y
drafodaeth ar yr effaith ar y Cyngor o ran yr hysbysiad hwyr o ddyrannu cyllid
grant y llywodraeth ganolog.
Fodd bynnag, cafodd y gwahoddiad ei
wrthod ac roedd wedi awgrymu y gallai fod yn fwy priodol i gynrychiolydd o
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod yn bresennol. Roedd Pennaeth Cyllid CLlLC wedi cynnig mynychu cyfarfod
y Pwyllgor ar 10 Medi ar gyfer y drafodaeth. Cytunwyd mai’r ddwy eitem ar gyfer cyfarfod mis
Gorffennaf fyddai: 1. Polisi Codi Tâl am Barcio Ceir 2. Rheoleiddio Meysydd Carafannau yn Well Yn dilyn y Cyngor Blynyddol ar 12 Mai gofynnwyd i’r
Pwyllgor benodi/ ailbenodi aelodau i wasanaethu ar Grwpiau Herio Gwasanaeth y
Cyngor (atodiad 5). Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i benodiadau: ·
Datblygu Economaidd a
Busnes - Y Cynghorydd Bill Cowie, ·
Cwsmeriaid a Chymorth
Addysg - Y Cynghorydd Rhys Hughes, ·
Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd - y Cynghorydd Pete Prendergast, ·
Cyfathrebu, Marchnata a
Hamdden - y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor 12pm – 12:15pm Cofnodion: Ni ddaeth unrhyw
adroddiadau i law. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.10am. |