Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr P.A.
Evans, C.L. Williams a G. Greenland (Aelod Cyfetholedig). |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr H. Hilditch-Roberts, T.R. Hughes, H.O. Williams a Mr J. Piper
gysylltiad personol ag Eitem 3 ar y Rhaglen, “Materion Brys - Cludiant Ysgol” oherwydd
bod aelodau o'r teulu yn cael cludiant i'r ysgol. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972, nododd y Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod
oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo o dan ddarpariaethau Rhan II:- 1.
Gweithrediad Cychwynnol y Polisi
Cymhwyster Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol:- Mewn ymateb i'r
nifer o ymholiadau a chwynion a godwyd gydag Aelodau Etholedig lleol, yn ystod
gwyliau haf yr ysgolion, ac ers dechrau’r flwyddyn ysgol newydd, roedd y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi dweud wrth y Pwyllgor
i ystyried y mater hwn fel eitem busnes brys yn y cyfarfod. Pwysleisiodd y
Cadeirydd na fyddai'r Pwyllgor yn edrych ar achosion unigol neu fannau codi
penodol, ond yn canolbwyntio ar yr egwyddor y tu ôl i'r polisi a'i weithrediad
cychwynnol. Cyflwynodd
y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg yr adroddiad ac amlinellodd y cefndir i
weithredu'r polisi.
Eglurodd bod y Gwasanaeth wedi cyflwyno’r polisi cludiant ysgol fel dewis
arbedion posibl o fis Medi 2016 i Weithdy Rhyddid a Hyblygrwydd yn ystod 2014. Roedd
Aelodau Etholedig, wrth sylweddoli faint o arbedion posibl sy'n gysylltiedig
â'r gyllideb hon, yn y rhanbarth o £300K, wedi cyfarwyddo swyddogion i weithio
tuag at weithredu'r polisi o fis Medi, 2015 gyda'r bwriad o ddiogelu’r
Gwasanaeth Addysg ei hun rhag toriadau llym yn 2015/16. Roedd y
penderfyniad hwn wedi golygu bod angen bodloni rhai terfynau amser tyn er mwyn
cyhoeddi'r newidiadau polisi arfaethedig o fewn y gofynion statudol o 11 mis
cyn ei weithredu. Cyn i'r Cabinet gymeradwyo'r ‘Polisi Cymhwyster
Cludiant o'r Cartref i’r Ysgol’ ar 30 Medi, 2014, roedd llythyr wedi ei anfon
at rieni a oedd yn debygol o gael eu heffeithio i dynnu eu sylw at y
posibilrwydd o gyflwyno polisi o'r fath. Roedd y polisi drafft wedi ei ystyried
gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 11 Medi, 2014 a gan y Cyngor Sir ar 9
Medi, 2014. Yn dilyn
penderfyniad y Cabinet a chyhoeddi’r polisi ym mis Hydref, 2014 anfonwyd copi i
bob ysgol. Ym mis
Mai, 2015 cafodd yr holl rieni a oedd wedi gwneud cais am gludiant ysgol ar
gyfer eu plant lythyr yn rhoi gwybod iddynt am y penderfyniad i weithredu’r
polisi yn llym o fis Medi 2015, a dywedwyd y byddai cyswllt pellach â nhw gyda
rhestr o fannau codi dynodedig ar draws y sir. Roedd nifer uchel o rieni wedi ffonio'r
Cyngor am y polisi newydd ac er eu bod yn cydnabod y byddai ei weithredu yn
achosi anghyfleustra iddynt roedd nifer wedi gwneud sylwadau eu bod wedi synnu
o gael ‘gwasanaeth o ddrws i ddrws’ i ddechrau. Pwysleisiodd Swyddogion fod yr Aelodau wedi penderfynu bod y polisi yn cael ei weithredu ar gyfer plant ysgol uwchradd yn y Sir yn unig. Roedd cludiant ysgol yng Nghymru yn cael ei lywodraethu gan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a oedd yn nodi i bob pwrpas fod gan Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud trefniadau teithio rhesymol i hwyluso taith plentyn i ysgol uwchradd os oeddent yn byw dair milltir neu fwy o'r ysgol addas agosaf. Nid oedd y Mesur yn nodi ei bod yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu cludiant o gartref y plentyn i'r ysgol addas agosaf. Cyfrifoldeb y rhieni/gwarcheidwaid oedd gwneud yn siŵr bod y plentyn yn cyrraedd y man codi. I ddangos y pwynt hwn nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol achos a aeth i'r Uchel Lys (RV Devon County Council exparte George 1988) lle roedd penderfyniad y Cyngor i beidio â darparu cludiant ysgol i blentyn 8 oed a oedd yn byw mewn ardal wledig, 2.8 milltir o'r ysgol ac a oedd yn gorfod teithio i'r ysgol ar ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau 9 Gorffennaf,
2015. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod
cywir. |
|
I ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllind (copi yn atodedig) sy’n tynnu
sylw at rai o'r penderfyniadau ariannu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y
flwyddyn ddiwethaf a’u heffaith ar gynllunio ariannol y cyngor. 9.35 am
– 10.10 am Cofnodion: Roedd adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Cyllid, a oedd yn tynnu sylw at
rai o'r penderfyniadau ariannu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn
ddiwethaf ac yn amlinellu'r effaith ar gynllunio ariannol y Cyngor, wedi’i
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Amlygodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, rai o
benderfyniadau cyllido Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf a'u heffaith
ar gynllunio ariannol y Cyngor. Croesawodd y Cadeirydd Gyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru (CLlLC), Mr Jon Rae, i'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr adroddiad.
Eglurodd fod gwahoddiad wedi'i estyn
i Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru i fynychu'r cyfarfod ar
gyfer y drafodaeth hon, fodd bynnag, roedd wedi gwrthod ac awgrymodd fod
cynrychiolydd o CLlLC yn cael ei wahodd i fod yn bresennol. Roedd
enghreifftiau o newidiadau heb eu cynllunio, boed hynny’n gadarnhaol neu'n
negyddol, sy’n effeithio ar y gweithgaredd a ariennir gan grant wedi’u cynnwys
yn Atodiad 1. Eglurwyd, yn
ystod adegau caled, roedd yr anawsterau cynllunio ariannol a wynebwyd gan Sir
Ddinbych wedi deillio o lefel yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth amcangyfrifon
Grant Cynnal Refeniw dangosol Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd pa mor hwyr oedd
rhai hysbysiadau cyllid grant wedi effeithio'n ddifrifol ar eu gallu i
gynllunio a rheoli eu cyllideb mor effeithiol ag y byddent yn dymuno.
Nid oedd y broblem yn unigryw i Sir
Ddinbych, roedd pryderon tebyg wedi eu codi gan holl Awdurdodau Lleol Cymru. Gallai rhoi gwybod yn hwyr
am ddyraniadau grant fod â goblygiadau pellgyrhaeddol ar Awdurdodau Lleol, yn
dibynnu ar ddiben y grant, y gofynion archwilio / monitro sydd ynghlwm wrtho,
neu a oedd cyflogi aelodau staff yn dibynnu ar wybod a fyddai’r ffrwd ariannu
hwnnw yn parhau h.y. y Grant Cofnodi Symud Trwyddedu Anifeiliaid a restrir yn
yr Atodiad i'r adroddiad. Roedd nifer o grantiau yn y blynyddoedd diwethaf wedi eu dyfarnu o fewn
wythnosau i ddiwedd y flwyddyn ariannol gyda gofyniad bod yr arian yn cael ei
wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, nid oedd amserlen mor fyr ar gyfer
tendro a chaffael gwaith ac ati yn cyfateb i ddefnydd effeithiol ac effeithlon
o adnoddau gwerthfawr. Roedd
anghysonderau’r drefn archwilio sy’n llywodraethu grantiau amrywiol hefyd yn
bryder gan nad oedd gwerth rhai o'r grantiau yn gydlynol â'r gofynion archwilio
a nodir ar eu cyfer. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar
sawl achlysur wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, drwy’r Cyngor
Partneriaeth ar gyfer Is-grŵp Cyllid Cymru, ar y sefyllfa anodd sy'n
wynebu Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ganlyniad i roi gwybod yn hwyr am y Grant
Cynnal Refeniw ac arian grant. Amcangyfrifwyd y gallai gweinyddiaeth y
cyllid grant i gyd gyfateb i tua 10% o'i werth gwirioneddol a oedd i bob pwrpas
yn golygu bod un rhan o ddeg o'r arian grant yn cael ei wario ar gostau
gweinyddu. Roedd yr
Is-grŵp Cyllid, ar 9 Gorffennaf, 2015, wedi ailadroddodd ei bryderon i
Lywodraeth Cymru. Roedd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ar y sail
bod trefnau grant mewn rhannau eraill o'r DU wedi eu llacio’n sylweddol tra yng
Nghymru roedd dros 50 o gynlluniau grant yn parhau i fod yn rhan o system
ganolog, e.e. roedd yr Alban wedi diddymu pob un ond dau o'i grantiau a ddyrannwyd
yn flynyddol, ac yn Lloegr roedd dwsin neu fwy o grantiau yn parhau i fodoli. Yn ddiweddar roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd i gydgrynhoi nifer y grantiau a ddyfarnwyd ganddynt. Er bod hwn yn gam cadarnhaol roedd yn cario risg fod cyfuno yn dod law yn llaw â gostyngiadau llym mewn gwerth ariannol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWASANAETH CEFNOGI BYW'N ANNIBYNNOL PDF 121 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl a Rheolwr Gofal a Chymorth Tai (copi ynghlwm) ar y Gwasanaeth Cefnogi
Byw’n Annibynnol, ac sy’n darparu trosolwg o ganfyddiadau allweddol yr asesiad
strategol diweddar o’r gwasanaeth dan arweiniad Cefnogi Pobl.
10.10 am – 10.45 am Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cefnogaeth Gymunedol, a oedd yn monitro effeithiolrwydd y Gwasanaeth Cefnogi Byw'n Annibynnol
newydd, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant) yr
adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi trosolwg o
ganfyddiadau'r gwerthusiad strategol diweddar o’r gwasanaeth dan arweiniad
Cefnogi Pobl. Roedd
cynigion ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol hefyd yn cael eu hamlinellu yn yr
adroddiad. Cydnabu'r Aelod
Arweiniol, er bod y cynnydd o ran symud yr hen wasanaeth warden i mewn i'r
Gwasanaeth Cefnogi Byw'n Annibynnol newydd wedi bod yn araf, roedd yn symud
ymlaen yn awr a byddai maes o law yn darparu'r math o wasanaeth oedd
Llywodraeth Cymru am weld Cynghorau yn eu darparu. Dywedodd y
Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol wrth yr Aelodau fod rhai meysydd o fewn
y prosiect a oedd angen sylw brys, sef:- - gwireddu
gwerth am arian gan y gwasanaeth, trwy hyrwyddo ei fod ar gael ac annog mwy o
bobl i’w ddefnyddio. - codi
ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a'r ffaith ei fod yn wasanaeth a oedd ar gael i
holl breswylwyr y Sir a allai elwa ohono, heb ei gyfyngu gan fod y gwasanaeth
blaenorol i bobl sy’n byw mewn llety gwarchod. - cydlynu
gwell o'r gwasanaeth gyda gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eraill h.y.
Ailalluogi, Pwynt Mynediad Sengl. Amlinellodd y
Rheolwr Gwasanaeth y tair lefel o gefnogaeth y mae'r Gwasanaeth Cefnogi Byw’n
Annibynnol yn ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Dywedodd hefyd fod y Cynllun Gweithredu
Cefnogi Byw’n Annibynnol yn mynd i’r afael â nifer o gamau gweithredu a nodir
yng Nghynllun Heneiddio'n Dda y Cyngor, a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir
bythefnos ynghynt. Dywedwyd wrth yr
Aelodau bod y cyllid grant Cefnogi Pobl ar gyfer Sir Ddinbych oddeutu £6
miliwn, a thra roedd disgwyl i’r swm ar gyfer y flwyddyn nesaf fod yn is na'r
hyn a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn hon roedd yn dal i gyfateb i swm sylweddol
o arian. Arian oedd
angen ei wario'n ddoeth a'i dargedu i gefnogi’r rhai mwyaf diamddiffyn yn y
gymuned. Teimlai'r
Aelodau ei bod yn bwysig felly bod Aelodau Cynulliad lleol yn cael gwybod am yr
effaith bosibl ar breswylwyr diamddiffyn o ganlyniad i doriadau i'r cyllid
grant penodol hwn. Gofynnodd yr
Aelodau hefyd fod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno iddynt ym mis Rhagfyr,
2015 a ddylai gynnwys y Cynllun Gweithredu Cefnogi Byw’n Annibynnol, manylion
am yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth y tu mewn a'r tu allan i'r Cyngor, mentrau
eraill i wireddu gwerth am arian a nifer y rhai sy'n derbyn y Gwasanaeth
Cefnogi Byw’n Annibynnol ym mhob ward y Cyngor. Ar ddiwedd y
drafodaeth:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn:- (a)
derbyn yr adroddiad ac, yn amodol ar y sylwadau
uchod, yn cefnogi'r dull a ddefnyddir i sefydlu a mewnosod y Gwasanaeth Cefnogi
Byw’n Annibynnol yn Sir Ddinbych, a (b)
bod adroddiad cynnydd pellach, gan gynnwys y
Cynllun Gweithredu Cefnogi Byw’n Annibynnol, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2015. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD PROFFILIO GRWPIAU CYMUNEDOL PDF 93 KB I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu
Gweithlu (copi ynghlwm) ar y ar
y cynnydd o ran mapio a phroffilio grwpiau cymunedol, y themâu sy'n dod i’r
amlwg a'r camau nesaf
10.55 am – 11.30 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu'r
Gweithlu, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fapio a phroffilio grwpiau
cymunedol a themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg, wedi ei ddosbarthu gyda'r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Cymunedol yr adroddiad ac amlinellodd y
themâu a oedd yn dod i’r amlwg o'r gwaith mapio. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu a Hamdden Dros Dro
a'r Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu'r Gweithlu, o’r tua 1000
o grwpiau cymunedol sy'n bodoli yn Sir Ddinbych fod tua 300 wedi eu proffilio
hyd yn hyn. Byddai'r gwaith
proffilio yn helpu'r Cyngor i gynllunio ar gyfer anghenion plant a phobl ifanc
yn y dyfodol, yn enwedig gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol. Roedd y camau nesaf yn y prosiect wedi eu
nodi yn yr adroddiad. Gan
ymateb i gwestiynau a phryderon yr Aelodau, dywedodd y swyddogion: - ·
Roedd
y gwaith proffilio ym mhob ardal yn cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth
sefydliadau/grwpiau, a oedd yn cwmpasu pob math o anableddau boed yn gorfforol
neu’n anableddau dysgu. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol ar faterion megis cynhwysiad, cynlluniau gwyliau ac ynghylch a
ellid defnyddio’r Pecyn Gwaith Anabledd ar gyfer gwaith ehangach y Gwasanaeth
Ieuenctid; ·
Er
bod rhai themâu cychwynnol yn dod i'r amlwg yn y cyfnod hwn, yn enwedig o ran
hygyrchedd i unigolion anabl i grwpiau cymunedol, gyda dim ond tua 30% o'r
gwaith proffilio wedi’i gwblhau rhagwelwyd unwaith yr oedd oddeutu 80% o’r
proffilio wedi’i gwblhau, gellid tynnu rhai casgliadau pendant ar nifer y
grwpiau sy’n hygyrch i'r anabl. Ar y pwynt hwn rhagwelwyd y gellid gofyn i'r sector gwirfoddol helpu i
gefnogi'r maes hwn yn y dyfodol; ·
Cadarnhawyd
y dylai'r broses fapio fwy neu lai fod wedi’i chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol gyfredol; ·
Gyda
golwg ar annog pobl ifanc i ymgysylltu â grwpiau cymunedol/gweithgaredd, a gyda
grwpiau oedran gwahanol, roedd sefydlu ‘gwasanaeth ieuenctid rhithwir’ yn cael
ei gynnig, fel ffordd o rannu gwybodaeth a chyfathrebu gwybodaeth am y grwpiau
amrywiol sydd ar gael yn y Sir; ·
Roeddent
yn ymwybodol o brinder darpariaeth benodol ar gyfer rhai 12 i 25 oed yn ardal
Prestatyn. Fodd bynnag,
roedd angen gwaith pellach i benderfynu a oedd pobl ifanc yn y grŵp oedran
hwn yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol eraill ag ystod oedran ehangach yn yr
ardal honno, ac a oeddent yn cymryd rhan mewn mwy nag un o'r grwpiau hyn.
Roedd y Bartneriaeth Plant a Phobl
Ifanc wedi amlygu yn ddiweddar materion iechyd meddwl lefel isel o fewn y
grŵp oedran penodol hwn; ·
Cadarnhawyd
eu bod yn gweithio'n agos gyda Menter Iaith a’r Urdd gyda'r bwriad o gynyddu
argaeledd lleoliadau cymdeithasol lle gallai disgyblion ddefnyddio'r Gymraeg tu
allan i leoliad addysgol ffurfiol. Roedd Clybiau Ieuenctid y Sir ei hun yn annog y defnydd o'r Gymraeg yn eu
sesiynau ac roedd Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESG) hefyd yn
edrych ar gyfleoedd posibl ar gyfer gwneud hyn. Dywedodd
yr Aelod Arweiniol ei fod wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar
mewn perthynas â'r mater hwn. Cytunodd y Swyddog Arweiniol i hyrwyddo'r angen i bob grŵp fod mor gynhwysol â phosibl ac yn hygyrch i bobl ag anableddau. Gan fod y rhan fwyaf o'r grwpiau yn grwpiau cymunedol a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr byddai angen iddynt gael eu perswadio a’u dylanwadu i fod yn gynhwysol i bawb. Teimlai'r Aelodau ei bod yn bwysig bod angen i grwpiau cymunedol gydweithio'n agos i ategu ei gilydd ac i sicrhau nad oes unrhyw grŵp oedran penodol neu elfen o'r gymuned ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
11.30 am – 11.40 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
raglen gwaith i'r dyfodol ac oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol,
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen o gynnig gan Aelod’ wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd R.M. Murray, eglurwyd y byddai ffurflenni cynnig wedi’u llenwi yn
gofyn am gynnwys eitemau busnes ar raglen y Pwyllgor yn cael eu hystyried. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y
byddai cymorth i lenwi ffurflenni ar gael os oes angen. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac
roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar ac a oedd yn
hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys
yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft eu Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 5 Tachwedd, 2015:- Cytunodd y
Pwyllgor fod yr Aelodau Arweiniol, Cynghorwyr B.A. Smith, D.I. Smith ac E.W.
Williams, yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod. Mewn ymateb i gais gan yr Aelod Arweiniol roedd
cyflwyno’r Strategaeth Tai drafft wedi ei ohirio tan gyfarfod mis Tachwedd. Byddai hyn yn galluogi’r
Aelod Arweiniol a'r swyddogion i ymgorffori’r adborth a'r sylwadau a gafwyd ar
y Strategaeth ddrafft mewn gweithdy staff tai a gynhaliwyd ddiwedd mis Awst i
mewn i'r Strategaeth. Dywedodd y Cydlynydd
Archwilio wrth y Pwyllgor fod adroddiad gwybodaeth yn ymwneud â'r Gwasanaeth
Ailalluogi wedi ei ddosbarthu gyda'r Briff Gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod. PENDERFYNWYD
- yn amodol ar y
newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y
nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor
11.40 am – 11.50 am Cofnodion: Nid oedd dim wedi
dod i law. Daeth y cyfarfod i ben am 12.55pm. |