Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd yr un o’r Aelodau yn datgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gyda'r materion a
nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried
yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth
Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar [rhowch ddyddiad] (copi wedi’i
amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau, 15 Mai 2014. Materion yn codi:- 8. Strategaeth Gyfathrebu Gorfforaethol – mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd P.A. Evans, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol cytunwyd i roi manylion am amserlenni sy’n ymwneud â
chymeradwyaeth y protocol drafft gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. 9. Rheoleiddio Safleoedd Carafannau yn Well -
Cytunodd y Cydlynydd Craffu i geisio eglurhad ynghylch y dyddiad gweithredu 1
Hydref, 2014 y cyfeirir ato yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod
cywir. |
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNIGION Y DYFODOL PDF 69 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi wedi’i amgáu) a
oedd yn adolygu cynnydd gyda gweithredu'r Rhaglen. 9.30 a.m. – 10.05 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (HCES), a oedd
yn adolygu cynnydd o ran gweithredu'r Rhaglen, wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Yr Atodiad
i'r adroddiad oedd y rhaglen ariannol ddrafft ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio
Addysg ehangach. Roedd hyn yn egluro Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor
ynghyd ag opsiynau ar gyfer buddsoddi ehangach. Esboniodd yr Aelod Arweiniol dros
Addysg (LME) bod y Cyngor yn datblygu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi
yn ystâd yr ysgol, ac y byddai'r cynnig yn cefnogi’r Flaenoriaeth Gorfforaethol
o "wella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion". Roedd yr LME a'r HCES yn manylu ar y cefndir i'r Rhaglen a phob prosiect
ysgol a restrwyd. Roeddent yn
pwysleisio, er bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi newid y gymhareb ariannu o 70%
LlC a 30% Awdurdod Lleol i 50:50 ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif,
roedd Sir Ddinbych wedi gallu ariannu'r dosraniad ychwanegol drwy reolaeth
ariannol craff a thrwy reoli disgwyliadau ar gyfer pob prosiect unigol. Hysbyswyd yr Aelodau fod cynigion ynghylch sefydlu ysgol uwchradd ffydd
newydd ar y cyd yn y Sir yn debygol o gael ei gyflwyno i'r Cabinet yn yr
hydref. Er bod y broblem o leoedd gwag mewn ysgolion yn
ne'r Sir yn derbyn sylw trwy nifer o adolygiadau ardal, roedd rhagamcanion
cyfredol yn nodi y byddai prinder lleoedd mewn ysgolion cynradd yn ardal y Rhyl
yn y dyfodol. O ganlyniad, roedd cyfarfod wedi’i drefnu rhwng yr
LME, swyddogion a phenaethiaid cynradd yn ardal y Rhyl i drafod atebion posibl. Gofynnodd Dr Marjoram i Ysgol Plas Brondyffryn beidio cael ei gadael allan
o unrhyw gynigion yn y dyfodol o dan y Rhaglen, gan y byddai Ysgol Tir Morfa yn
elwa'n fawr drwy fod yn rhan o Brosiect Ailddatblygu Ysgol Uwchradd newydd y
Rhyl. Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau mewn perthynas â risgiau posibl i'r
prosiectau o e.e. gostyngiad pellach mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu
newidiadau mewn caniatâd cynllunio, pwysleisiodd yr LME a'r HCES fod yna
risgiau gyda phob prosiect a bod yn rhaid i bob risg gael ei reoli’n briodol. Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â'r risg i'r Rhaglen os bydd y
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi penderfyniad y
Cabinet i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd, yr amserlen ar gyfer yr ysgol
gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Rhuthun a'r sefyllfa bresennol mewn
perthynas â ffedereiddio Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn a'u
categoreiddio iaith. Cafwyd ymatebion i'r cwestiynau hyn yn rhoi gwybod i'r
Aelodau y rhagwelwyd y byddai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn Rhuthun o
fewn y pum mlynedd nesaf, roedd ffederasiwn Llanfair DC a Phentrecelyn bellach
wedi’i gytuno mewn egwyddor a byddai’r penderfyniad ar gategoreiddio iaith yr
ysgol newydd yn cael eu cymryd ar sail y canlyniadau a ddisgwylir ar gyfer y
disgyblion h.y. y byddent yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn 11 oed. Byddai
categoreiddio iaith yn ffurfio rhan o'r Achos Busnes ar gyfer yr ysgol. Eglurwyd nad
oedd y penderfyniad yn yr arfaeth gan y Gweinidog mewn perthynas â Llanbedr DC
yn peri risg sylweddol, gan y byddai'r Awdurdod ond yn sylweddoli arbedion
refeniw o gau’r ysgol gan nad oedd y Cyngor yn berchen ar yr ased ei hun. I gyflwyno Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif cyfan, fel y manylir yn yr
adroddiad, byddai angen i'r Cyngor gyfrannu cyllid o £24,414,684. Cyfanswm cost
y Rhaglen yw £51,283,196 gyda gweddill y gost yn dibynnu ar gyllid Ysgolion yr
21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Byddai gofyn i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 29
Gorffennaf gymeradwyo ymrwymiad ariannol y Cyngor i gyflwyno'r Rhaglen. Dywedwyd wrth yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DARPARIAETH GWASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD SIR DDINBYCH PDF 101 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi wedi’i amgáu) ar
gynigion i ailfodelu gofal dydd i bobl hŷn yng Ngogledd Sir Ddinbych. 10.10 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes wedi’i
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes a Gofalwyr (RhGBG) yr adroddiad
oedd yn manylu ar ddarpariaeth gwasanaethau gofal dydd ar gyfer preswylwyr
oedrannus yng Ngogledd y Sir ddeuddeg mis ar ôl i’r gwasanaeth gael ei
ailfodelu. Eglurodd
er bod y
cynigion yn ymwneud yn bennaf â’r newidiadau yng Ngogledd Sir Ddinbych,
dywedodd am y bwriad i roi’r egwyddorion strategol ategol ar waith i hyrwyddo
annibyniaeth pobl trwy ail-alluogi a’r defnydd o adnoddau cymunedol ar draws y
Sir. Roedd y rhesymau dros adolygu gwasanaethau dydd yng
ngogledd y Sir wedi eu manylu yn yr adroddiad. Roeddent yn
ffurfio rhan o ddull ehangach sy'n ystyried pwysigrwydd atal, ymyrraeth
gynnar a chydnabod gyda phoblogaeth sy’n heneiddio y bydd gan rai pobl
anghenion gofal cymhleth, tymor hir sy'n gofyn am ddulliau ymatebol ac sy’n
canolbwyntio ar yr unigolyn. Ymatebodd y RhGBG i gwestiynau gan Aelodau a
rhoddodd grynodeb o weithrediad hyd yma fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Penderfynodd yr
Uwch Dîm Arweinyddiaeth Oedolion a Busnes i ganolbwyntio’r gwasanaeth yn
barhaol yn Hafan Deg yn y Rhyl mewn adeilad sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol ar
gyfer darparu gwasanaethau dydd ac sy’n cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf
Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Roedd manylion anghenion unigolion sy'n mynychu
gwasanaethau dydd yng Ngogledd y Sir wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, a
rhoddwyd cadarnhad nad oedd unrhyw fwriad i leihau'r gwasanaeth i ddefnyddwyr
gwasanaeth presennol. Ochr yn ochr â'r trefniadau a amlinellwyd yn yr
adroddiad, amlygwyd gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu cyfleoedd ymhellach i
gael gweithgareddau dydd ystyrlon yn y gymuned yng Ngogledd Sir Ddinbych, ac
roedd y rhain yn cynnwys manylion darpariaeth gwasanaeth yn Nant y Môr,
Prestatyn. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi ffigurau staffio a
defnydd sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth. Dywedodd y RhGBG wrth yr Aelodau oherwydd llifogydd
yn Uned Ddydd Llys Nant ym Mhrestatyn roedd holl ddefnyddwyr gwasanaeth a oedd
yn mynychu’r Ganolfan honno wedi eu trosglwyddo i Hafan Deg yn Y Rhyl. Er gwaethaf y
cynnwrf o orfod teithio ychydig ymhellach ni fu unrhyw gwynion gan y defnyddwyr
gwasanaeth na’u teuluoedd ac roedd staff Hafan Deg a Llys Nant yn gweithio'n
dda gyda'i gilydd. Nid oedd unrhyw gynlluniau i symud yn ôl i Lys Nant
unwaith y byddai’n bosibl byw yn yr adeilad, fodd bynnag roedd trafodaethau yn
mynd rhagddynt gyda gweithredwyr cyfleuster Gofal Ychwanegol Nant y Môr gyda'r
bwriad o gwsmeriaid y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael mynediad i wasanaethau
yn y Ganolfan honno. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J M Davies, eglurodd y RhGBG fod yr adborth a
gafwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth wedi nodi eu bod yn hapus gyda’r gwasanaeth a
ddarperir ar hyn o bryd. Cafwyd cadarnhad ei bod yn rhy fuan ar hyn o bryd i adrodd ar
effeithiolrwydd y gwasanaeth Ailalluogi gan ei fod yn dal yn wasanaeth sy’n dal
i ddysgu. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, roedd yr Aelodau yn
cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad a chytunwyd y dylai'r Pwyllgor dderbyn
adroddiad gwybodaeth pellach yn dilyn cyfnod o 12 mis. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn:- (a) derbyn yr adroddiad ac yn cefnogi'r camau sy'n cael
eu cymryd i symud y gwasanaeth yn ei flaen yn gyson gyda’r egwyddor o gefnogi
dinasyddion Sir Ddinbych i aros mor annibynnol ag y bo modd am gyhyd ag y bo
modd. (b) bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor ymhen deuddeng mis i werthuso effeithiolrwydd y Gwasanaeth Ailalluogi
wrth gyflawni'r weledigaeth uchod a gwireddu effeithlonrwydd i’r Cyngor. |
|
GRŴP TASG A GORFFEN ADOLYGU BWYD PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) ar
yr ymchwiliad i gaffael bwyd ac arferion rheoleiddio cyfredol. 10.55 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
(PCGC), a oedd yn rhoi adroddiad diweddaru a chynnydd ar yr adolygiad bwyd a
wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi cyfarfod o
fewn y tri mis diwethaf i adolygu'r cynnydd o ran rhoi’r argymhellion a oedd
wedi eu llunio’r llynedd ar waith. Roedd y Swyddogion yn
manylu’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau
Rheoleiddio a’r Gwasanaeth Caffael gyda'r bwriad o
gydymffurfio â gofynion hylendid bwyd a diogelwch bwyd mewn sefydliadau bwyd ar
draws y Sir, ynghyd â'r prosesau caffael ar gyfer bwyd i sefydliadau'r awdurdod
lleol a rheoli contract a gweithdrefnau monitro ar gyfer contractau caffael
bwyd y Cyngor. Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi archwilio gwasanaeth bwyd y
Cyngor ym mis Gorffennaf 2013, ond parheir i aros am eu hadroddiad terfynol. Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau rhoddwyd sicrwydd bod cynnyrch bwyd
Cymreig/Prydeinig, gan gynnwys cig yn cael eu caffael lle bynnag y bo modd, er
bod hyn yn cynyddu'r gost. Hysbyswyd yr aelodau hefyd bod swyddogion yn
ogystal ag arolygu allfeydd bwyd yn archwilio manwerthwyr alcohol i wirio am
alcohol anghyfreithlon a blasu cynnwys a chryfder yr alcohol ar werth a sicrhau
bod alcohol a sigaréts wedi bod yn destun dyletswydd Tollau a Chartref. Gofynnodd yr Aelodau a oedd swyddogion wedi cael gwybod am sbeisys a allai
fod yn beryglus a oedd yn cael eu gwerthu mewn rhai rhannau o'r DU. Dywedodd y
swyddogion nad oedd yr un o'r rhybuddion rheolaidd oeddent wedi eu derbyn yn
ymwneud â sbeisys, byddai’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd yn gwneud ymholiadau
mewn perthynas â'r mater ac yn adrodd yn ôl i Aelodau'r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch ag a oedd dogn prydau ysgol yn ddigonol
i’r disgyblion, dywedodd y swyddogion bod dognau’n cydymffurfio â pholisi
prydau ysgol Lywodraeth Cymru ‘Blas am Oes’. Eglurwyd hefyd bod y
Gwasanaethau Arlwyo wedi rhewi pris prydau ysgol am y bumed flwyddyn yn olynol. Canmolodd yr
Aelodau'r Gwasanaethau ar eu gwaith ar y cyd wrth weithredu argymhellion y
Grŵp Tasg a Gorffen ac yn dilyn trafodaeth bellach: - PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn:- (a)
nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'r
argymhellion. (b)
yn cymeradwyo ansawdd prydau ysgol ar draws y Sir,
ond i gofrestru pryderon am y maint dogn bach, ac yn (c)
cytuno bod
adroddiad cynnydd arall yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ymhen deuddeng mis yn
manylu ar y cynnydd a wnaed gyda hylendid bwyd a chydymffurfio â safonau bwyd,
a chyda gweithdrefnau monitro a chaffael bwyd y Sir. |
|
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi wedi’i
amgáu) ar gasgliadau'r Gweithgor Strategaeth Priffyrdd a Strategaeth Rheoli
Asedau Priffyrdd drafft. 11.30 a.m. – 12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
a oedd yn amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran rhwydwaith ffyrdd y Sir ac yn
disgrifio sut y byddai'r cyflwr yn cael ei reoli yn y dyfodol, wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y PPGA yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ddiweddaraf o
ran y gwaith cynnal a chadw adweithiol ac ataliol ar rwydwaith ffyrdd y Sir. Yr adroddiad oedd
y cam nesaf yn dilyn trafodaeth gydag Aelodau mewn cyfarfod o’r Gweithgor
strategaeth ar 10 Hydref 2013 yn dilyn adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Cymunedau
ym mis Gorffennaf 2013. Amlygwyd pwysigrwydd asesu a gwerthuso’r manteision sy'n deillio o'r buddsoddiad
sylweddol i wella cyflwr y ffordd yn iawn. Roedd y ddau ddull ar
gyfer gwneud hyn yn cynnwys y data Sganiwr, a gynhyrchodd y Dangosydd
Perfformiad, a'r Dangosydd Cyflwr Ffyrdd (DCFf). Roedd manylion pob un o'r prosesau wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad. Roedd Atodiad A yn manylu
perfformiad cyffredinol Sir Ddinbych o ran allbwn Sganiwr ac, ar gyfer
cyd-destun, yn cynnwys safle cymharol y Sir o ran y 'Grŵp Teulu'. Roedd hefyd yn
dangos gwelliant parhaus yn y DCFf, ymddangosiad gweledol y ffordd. Nododd yr Aelodau bod gwelliannau wedi'u gwneud a'u
cynnal. Ers nodi ffyrdd fel blaenoriaeth ar gyfer 2009/10 roedd Sir Ddinbych wedi
buddsoddi dros £18miliwn ac roedd manylion y dyraniad cyllid wedi’i grynhoi yn
yr adroddiad. Eglurwyd y byddai cytundeb y Rhaglen Gyfalaf i
gynnal y rhwydwaith yn briodol yn hollbwysig, ac roedd yr adroddiad yn
archwilio senarios i reoli asedau i liniaru'r risgiau. Roedd pob
awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithio gydag ymgynghorwyr i adeiladu ar arfer
gorau. Roedd Atodiad B yn darparu ystod o ffyrdd tebygol
a'r mwyaf darbodus i reoli'r risg. Roedd Cod Ymarfer yn
caniatáu ar gyfer amrywiad yn y gyfundrefn a byddai Sir Ddinbych angen cytuno
ar yr hyn y dylai'r drefn fod o ran rhwydwaith blaenoriaethu a sut y dylai'r Awdurdod
Priffyrdd ei reoli. Mae Atodiad
C yn rhoi enghraifft o sut y gall y rhwydwaith gael ei flaenoriaethu a
phwysleisiwyd pwysigrwydd ymgynghori. Ers y Ddeddf Priffyrdd 1980, roedd cyfraith achosion wedi egluro rhai
pwyntiau sy’n ymwneud ag amlder archwiliadau priffyrdd, diffiniad o 'ddiffyg' a
faint o amser y gallai priffordd gael ei gadael heb ei hatgyweirio. Fodd bynnag,
roedd yna dal rywfaint o hyblygrwydd a byddai angen diffiniad o lefel LLEIAF
cynnal a chadw Sir Ddinbych. Roedd Atodiad D yn cynnig rhai cynigion fyddai
angen trafodaeth cyn cytuno ar Bolisi Cynnal a Chadw Priffyrdd. Eglurodd swyddogion ei fod yn galonogol adrodd bod perfformiad y Sir yn
gwella, yn enwedig yn erbyn cefndir o doriadau mewn cyllid gan Lywodraeth
Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau gyda Menter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLlL) yn
dod i ben ym mis Mawrth, 2015 roedd yna benderfyniadau anodd angen eu gwneud o
ran buddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd yn y dyfodol. Byddai angen
gwario adnoddau prin yn ddoeth ac mewn ffordd wedi'i thargedu. Oni bai fod hyn
yn cael ei wneud byddai cyflwr y ffyrdd yn dirywio yn gyflym iawn. Tynnwyd sylw at yr angen i archwilio dosbarthiad rhai llwybrau yn y dyfodol. Byddai Gweithdy Aelodau yn cael ei gynnal gyda'r bwriad o ddiffinio proses flaenoriaethu cynnal a chadw priffyrdd ac esbonio a deall egwyddorion cynnal a chadw ffyrdd. Cadarnhaodd y PPGA y byddai cael proses flaenoriaethu cynnal a chadw ffyrdd a ddiffiniwyd yn dda yn lleihau'r risg o hawliadau ymgyfreitha llwyddiannus yn erbyn yr Awdurdod. Eglurodd hefyd y dylai polisi cynnal a chadw ffyrdd strwythuredig gwell, a fyddai'n cynnwys proses flaenoriaethu wedi’i diffinio'n glir, sylweddoli gwerth am arian o'r buddsoddiad a ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
12.05 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
raglen gwaith i'r dyfodol ac oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol,
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, a chytunwyd
ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 11 Medi 2014:- Cytunodd yr Aelodau i eitem fusnes sy'n ymwneud â "Thrwyddedu
Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth", y cyfeirir ati yn y briff gwybodaeth,
gael ei chynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer Medi, 2014. Cytunodd
y Pwyllgor bod y Cynghorwyr H H Evans a D I Smith, yn y drefn honno,
yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod fel Aelodau Arweiniol. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio wrth y Pwyllgor y gallai
Aelodau anfon awgrymiadau i’w cynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
ar gyfer mis Hydref 2014 ati hi. Eglurodd y CD: ECA efallai y dymuna'r
Aelodau ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor, a oedd yn tynnu sylw at
yr ymrwymiadau yn y Cynllun Corfforaethol, wrth nodi materion i'w cynnwys yn y
rhaglen gwaith i’r dyfodol. Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio fod y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i fod i gynnal ei gyfarfod cyntaf y flwyddyn
ddinesig newydd ar 3 Gorffennaf 2014. PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a chytundebau
uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor
12.15 p.m. – 12.25 p.m. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd J. Welch ei fod ef a'r Cadeirydd, y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts
wedi mynychu cyfarfodydd y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn ddiweddar. Rhoddodd
y Cynghorydd Welch adroddiad byr a chadarnhaol ar drafodion y cyfarfod. PENDERFYNWYD –fod y Pwyllgor yn derbyn ac yn nodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 13.50pm. |