Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd H. Hilditch-Roberts gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y Rhaglen
“Categorïau Iaith Holl Ysgolion Sir Ddinbych” oherwydd bod ei bartner yn
gweithio i’r Cyngor, a datganodd y Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol
gydag eitem 5 ar y Rhaglen, “Categorïau Iaith Holl Ysgolion Sir Ddinbych”
oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Ysgol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd 29 Ionawr 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ddydd Iau, 29 Ionawr 2015. Materion yn codi:- Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cynghorydd W.M. Mullen-James, cytunodd y Cydlynydd Archwilio i gysylltu â
Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ynghylch a ystyriwyd y
posibilrwydd o gynnig gostyngiad am gasglu gwastraff gwyrdd ar gyfer
dinasyddion hŷn fel rhan o'r broses o osod y gyllideb. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CATEGORÏAU IAITH HOLL YSGOLION SIR DDINBYCH PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried
canfyddiadau arolwg Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o gategorïau
iaith ysgolion y sir. 9.35 a.m. tan 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dosbarthwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor
ystyried canfyddiadau arolwg Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o
gategorïau iaith ysgolion y Sir, gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Ar 30 Medi 2014 penderfynodd y Cabinet ofyn i’r Grŵp Strategol Cymraeg
mewn Addysg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor yr hydref a
chyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Archwilio ar ddechrau gwanwyn 2015. Rhoddodd y Pennaeth Addysg grynodeb o gyd-destun a
meini prawf categoreiddio, sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, a rhoddodd
amlinelliad o gategoreiddio a chanlyniadau’r holiadur yn Atodiad 2 hefyd. Roedd
dadansoddiad o ymatebion wedi'i gynnwys yn Atodiad 3 ac roedd yr ymatebion wedi'u
gwirio yn erbyn canlyniadau addysgol presennol. Dywedodd y Pennaeth Addysg a’r Aelod Arweiniol Addysg wrth yr Aelodau:- ·roedd dogfen
Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
(2007)’ yn ganllaw a oedd yn nodi disgrifiadau a chategorïau ysgolion yn ôl
faint o Gymraeg sy’n cael ei defnyddio wrth addysgu a dysgu; ac yn y gwaith o
redeg ysgolion o ddydd i ddydd. Defnyddiwyd y canllawiau hyn, nad oedd ag unrhyw
sail mewn deddfwriaeth, gan awdurdodau addysg ledled Cymru wrth ddatblygu
gwybodaeth i rieni am gyfrwng iaith eu hysgolion; ·mewn ymateb i
benderfyniad y Cabinet ym mis Medi 2014 roedd y Grŵp Strategol Cymraeg
mewn Addysg wedi cynnal adolygiad o holl ysgolion y sir, cynradd ac uwchradd
(ar wahân i'r ysgolion arbennig), er mwyn asesu a oedd pob ysgol yn darparu eu
cwricwlwm o fewn y meini prawf diffiniedig ar gyfer eu categori presennol; ·roedd canlyniadau'r
asesiad hwn wedi nodi anghysondebau rhwng y categori iaith presennol a'r cyfrwng
o ddarparu’r cwricwlwm mewn pedair o ysgolion y Sir - 3 ysgol gynradd ac 1
ysgol uwchradd. Tra’r oedd un o'r ysgolion cynradd yn ysgol dwy ffrwd (Categori
2), nid oedd yr un o'i disgyblion wedi'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y
blynyddoedd diweddar, ond roedd disgwyl i ddau gael eu hasesu drwy gyfrwng y
Gymraeg eleni. Roedd ysgol gynradd arall, a oedd yn darparu ei
chwricwlwm yn Saesneg yn bennaf, ond gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg
(Categori 4), wedi nodi ei bod yn ysgol dwy ffrwd â digon o gapasiti i ddarparu
trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn gwirionedd roedd rhai disgyblion wedi eu hasesu
drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar. Roedd y drydedd ysgol gynradd wedi cydnabod
nad oedd ganddi gapasiti digonol mwyach i ddarparu addysg drwy gyfrwng y
Gymraeg i ganiatáu iddi barhau â'i statws Categori 4 presennol. Dylai felly fod
yn ysgol Categori 5 (cyfrwng Saesneg). O'r ddwy ysgol uwchradd
ddwyieithog yn y sir, sydd ar hyn o bryd a statws Categori 2B – darparu o leiaf
80% o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd un wedi nodi y dylai bellach mae'n
debyg fod yng Nghategori 2C - rhwng 50% a 79% o'i chwricwlwm yn cael ei darparu
drwy gyfrwng y Gymraeg; ·yn y 7 mlynedd diwethaf
roedd y Sir wedi cofnodi cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu
drwy gyfrwng y Gymraeg o 17% i 23%, roedd hyn yn galonogol. Fodd bynnag
roedd ffordd hir i fynd eto os oedd y Cyngor i wireddu ei uchelgais tymor hir o
weld holl blant a phobl ifanc y sir yn gwbl hyderus a chymwys yn y Gymraeg ac
yn Saesneg pan fyddant yn gadael yr ysgol: ·roedd gan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r Llywodraethwyr Ysgol rôl bwysig i'w chwarae wrth fonitro a chefnogi ysgolion i fodloni a darparu'r cwricwlwm yn unol â’i chategori iaith, a phe bai ysgol yn penderfynu na allai ddarparu yn unol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ASESIAD O AMDDIFFYNFEYDD ARFORDIROL Y RHYL PDF 102 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Uwch
Beiriannydd (copi ynghlwm) sy'n cyflwyno adroddiad drafft ar yr Asesiad o
Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, a gomisiynwyd gan y Cyngor ar ôl llifogydd
arfordirol fis Rhagfyr 2013. 10.10 a.m. tan 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd
ac Amgylcheddol a’r Uwch Beiriannydd a oedd yn cyflwyno adroddiad drafft i’r
Aelodau ar yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, a gomisiynwyd gan y
Cyngor ar ôl llifogydd arfordirol fis Rhagfyr 2013, gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Roedd y Pwyllgor wedi ystyried Strategaeth
Rheoli Risg Llifogydd Lleol Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr, 2014 ac roedd wedi
mynegi dymuniad i weld yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl; i ddeall
ymatebion Llywodraeth Cymru (LlC) a Chyfoeth Naturiol Cymru iddo, ac i ystyried
y goblygiadau o ran unrhyw waith a allai fod yn ofynnol, a ffynonellau ariannu
posibl sydd ar gael. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr adroddiad
sy'n amlinellu natur yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, y prif
gasgliadau, trafodaethau dilynol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, cyfraddau
llifogydd eiddo, cynlluniau i liniaru risg a manylion ariannu. Cyfeiriodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a Phennaeth y Gwasanaeth
Priffyrdd ac Amgylcheddol at yr adroddiad ac adroddiad yr ymgynghorydd ar yr
Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, gan bwysleisio mai adroddiad
technegol iawn ei natur oedd yr adroddiad. Roedd yr adroddiad
wedi'i gomisiynu yn sgil y digwyddiad llifogydd arfordirol ym mis Rhagfyr, 2013
i asesu'r llifogydd tebygol o’r môr a achosir gan ddigwyddiad 1 mewn 200
mlynedd a pha mor debygol yw y bydd ddigwyddiad tywydd mor ddifrifol yn digwydd
eto. Eglurwyd y gallai darlleniad cyntaf o adroddiad yr
ymgynghorydd beri pryder, fodd bynnag, roedd ei asesiadau wedi bod yn seiliedig
ar gyfuniad o ddigwyddiadau tywydd, morol a seryddol i gyd yn digwydd ar yr un
pryd, a fyddai'n ddigwyddiad prin iawn. Wrth ymateb i gwestiynau Aelodau, gwnaeth swyddogion:- · egluro’r gwaith
lliniaru llifogydd a'r gwaith amddiffyn yr arfordir a wnaed hyd yma ers
digwyddiad llifogydd 2013 a'r gwaith arfaethedig a fydd yn cychwyn cyn diwedd y
flwyddyn galendr hon, roedd pob un wedi cael croeso da gan breswylwyr lleol. Byddai’r holl
waith hyn yn lleihau'r proffil risg ar gyfer llifogydd arfordirol difrifol yn
yr ardal, serch hynny, ni ellid byth ddileu'r risg yn llwyr; · darparu trosolwg o sut
y byddai'r cynllun arfaethedig yn gweithio, a byddai’r cwrs golff yn cael ei
ddefnyddio fel safle i gronni dŵr llifogydd yn ystod adegau o lifogydd
difrifol. Pwysleisiwyd
bod y cynllun wedi ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r Clwb Golff ac am y
rhesymau pam y byddai angen i ddŵr gael ei gronni yno yn ystod argyfwng,
ni ddylai fod unrhyw atebolrwydd gan y Clwb ar gyfer iawndal am ddifrod i'r
grin yn ystod digwyddiad tywydd anarferol; · egluro, os caiff ei adeiladu, byddai Morlyn
Ynni'r Llanw Gogledd Cymru arfaethedig, yn lleihau'r risg ymhellach o ddŵr
môr yn torri dros yr amddiffynfeydd arfordirol gan y byddai'n lleihau maint a phŵer
y tonnau sy’n taro'r draethlin. Fodd bynnag, ni fyddai’n cael ei adeiladu yn y
dyfodol agos felly roedd rhaid cymryd mesurau eraill i leihau'r risg o'r môr ar
gyfer y tymor byr i dymor canolig; · egluro’r cynlluniau
ariannu amrywiol sydd ar gael i'r Cyngor i ariannu gwaith ymateb i lifogydd
mewn argyfwng a gwaith lliniaru yn y gorffennol; · amlinellu’r gwaith a wnaed i gynghori
preswylwyr ar sut i ddiogelu eu heiddo os ceir llifogydd ar raddfa fach ac i
roi sicrwydd iddynt o'r gwaith sydd ar y gweill i leihau perygl o lifogydd mawr
yn y dyfodol; · cadarnhau bod
Wardeiniaid Llifogydd eisoes ar waith yn ardal y Rhyl ond bod angen gwneud mwy
o waith gyda hwy i'w cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth preswylwyr o beth i’w
wneud mewn llifogydd; · gwirio bod y Cyngor hefyd yn gweithio gyda chwmnïau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAEL GWARED AR ARWYDDION HEB EU HAWDURDODI ODDI AR DIR PRIFFYRDD PDF 114 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
ar safbwynt polisi'r Cyngor mewn perthynas â symud arwyddion heb eu hawdurdodi
o dir priffyrdd, a sut y mae'r polisi yn cael ei weithredu. 10.55 a.m. tan 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol ar safbwynt polisi'r Cyngor mewn perthynas â symud arwyddion heb
eu hawdurdodi o dir priffyrdd, a sut yr oedd y polisi yn cael ei weithredu,
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd mater arwyddion heb eu hawdurdodi wedi'i drafod gan y Pwyllgor ar 9
Medi, 2014, ac roedd manylion y canlyniad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd y canllawiau diweddaraf i
swyddogion wedi’u cynnwys fel Atodiad 1, ac roedd y Cyngor yn gwahaniaethu
rhwng arwyddion masnachol, ac arwyddion digwyddiadau anfasnachol/cymunedol. Roedd Atodiad 2 yn rhoi rhestr o
enghreifftiau, er mwyn dangos sut mae'r gwahaniaeth wedi ei ddehongli yn
ymarferol. Oherwydd bod y polisi’n cyfeirio'n
benodol at fathau o arwyddion heb eu hawdurdodi a fyddai’n cael eu goddef,
teimlwyd y byddai’n anghywir i gyfeirio at hyn fel polisi “dim
goddefgarwch". Roedd
Atodiad 3 yn darparu ffotograffau o enghreifftiau i gynorthwyo Aelodau. Wrth gyflwyno'r adroddiad pwysleisiodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr
angen am waith partneriaeth effeithiol rhwng nifer o adrannau'r Cyngor er mwyn
sicrhau triniaeth deg a chyfartal ar gyfer busnesau lleol, i helpu grwpiau
cymunedol, a sicrhau diogelwch preswylwyr wrth ymdrin ag arwyddion heb eu
hawdurdodi ar dir priffyrdd. Mynegodd Aelodau’r safbwyntiau a’r farn ganlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd:- - roedd y polisi
wedi gweithio’n dda ym Mhrestatyn, lle’r oedd y broblem fwy neu lai wedi ei
dileu. Roedd astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chomisiynu yn
ddiweddar gan Gyngor Tref Prestatyn i archwilio a fyddai'n ymarferol i gynnig
gofod hysbysebu i fusnesau ar fyrddau a gaiff eu codi mewn arosfannau bws sy’n
eiddo i’r Cyngor Tref, a byddai ffi yn cael ei chodi; - bu pryderon
mewn trefi eraill am weithredu'r polisi, yn arbennig y diffyg canfyddedig o ran
dull cyson o’i weithredu, ac roedd angen diffiniad clir o'r gwahanol gategorïau
o ddigwyddiadau e.e. digwyddiadau cymunedol; - mewn achosion
syml, gellid gweithredu'r polisi yn uniongyrchol gan swyddogion. Fodd bynnag,
mewn achosion lle'r oedd anawsterau yn debygol o ddigwydd, dylid rhoi cyfle i’r
aelod lleol gysylltu â threfnydd y digwyddiad neu'r busnes ynglŷn â'r
arwyddion. Dylid gwneud hyn mor gynnar â phosibl yn y broses. - oni bai yr amharwyd ar ddiogelwch priffyrdd,
cam cyntaf y broses fyddai cysylltu â pherchnogion yr arwyddion a/neu drefnwyr
y digwyddiad, er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. Os nad oedd modd datrys
y sefyllfa, dylid rhoi gwybod i’r aelod lleol ar unwaith; - byddai'n
ddefnyddiol i arwyddion gwybodaeth i dwristiaid gael eu cynnwys ar arwyddion
ffyrdd presennol h.y. arwyddluniau i ddynodi'r cyfleusterau sydd ar gael mewn
pentref/tref, ac - i ganfyddiadau
gwaith gweithgor y Gwasanaethau Cynllunio, Datblygu Economaidd a Phriffyrdd
gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio maes o law i sicrhau ei fod yn cefnogi
gweledigaeth y Cyngor ac yn cyflawni ei Gynllun Corfforaethol. Nododd yr Arweinydd ei bryderon ynghylch yr angen i sicrhau cydbwysedd
priodol rhwng hawliau a dyletswyddau’r Cyngor o ran camau gorfodi diogelwch
priffyrdd a’i rôl datblygu economaidd. Roedd angen i’r Cyngor
gael ei weld yn meithrin a chefnogi busnes yn y Sir. Wrth ymateb i gwestiynau Aelodau gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod
Arweiniol:- ·bwysleisio y byddai
swyddogion o'u gwirfodd yn dilyn pa bynnag bolisi yr oedd aelodau yn tybio oedd
yn briodol mewn perthynas â'r broblem hon, cyn belled nad oedd yn peryglu
diogelwch defnyddwyr y priffyrdd; ·pwysleisio nad yw'r
polisi yn bolisi dim goddefgarwch, roedd wedi ei lunio mewn ymateb i bryderon
yr aelodau o ran gormodedd o arwyddion heb eu hawdurdodi ar draws y Sir,
cyfeiriwyd yn benodol mewn cyfarfod blaenorol at y briffordd drwy Lôn Parcwr,
Rhuthun; ·tynnu sylw’r Aelodau at y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
AILSTRWYTHURO’R GWASANAETH DATBLYGU ECONOMAIDD A BUSNES PDF 98 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(copi ynghlwm) sy'n nodi cyd-destun ac amcanion yr adolygiad o swyddogaeth
Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor. 11.30 a.m. tan 12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol (CCUECh) gyda phapurau’r cyfarfod. Roedd yn nodi
cyd-destun a nodau’r adolygiad o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y
Cyngor. Roedd yr adroddiad yn egluro sut y byddai’r adolygiad yn cefnogi
blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer datblygu’r economi leol
a'r weledigaeth a nodwyd yn y Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol. Roedd y cyngor
yn wynebu targed lleihau’r gyllideb o £17miliwn dros y 2 flynedd nesaf gyda
chyfanswm arbedion o £11miliwn wedi’u nodi, gan adael balans o £6miliwn ac nid
oedd llawer o obaith o setliadau ariannol gwell yn y dyfodol rhagweladwy. Roedd y
gostyngiadau presennol yn y gyllideb ar ben toriadau o dros £20 miliwn sydd
wedi'u gwneud ers 2009, ac roedd graddfa'r her yn golygu bod gwasanaethau'r
Cyngor yn wynebu newidiadau sylweddol. Cynhaliwyd yr adolygiad
o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor yn y cyd-destun hwn ac
roedd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Wrth gyflwyno'r adroddiad ar ailstrwythuro'r Gwasanaeth, roedd yr Arweinydd
a'r CCUECh yn pwysleisio bod y Cyngor wedi datblygu Cynllun Corfforaethol
uchelgeisiol iawn ac wedi gosod targedau heriol iawn iddo’i hun yn ei
Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, roedd rhai i'w cyflawni erbyn
2017. Yn y misoedd diwethaf roedd y Cyngor wedi rhoi
addewid y byddai’n ymdrechu i gyflawni'r Cynllun a’r Strategaeth er gwaethaf
wynebu toriadau digynsail i'w gyllideb ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. O ganlyniad i'r toriadau ariannol difrifol hyn
roedd rhaid i wasanaethau gael eu teilwra i gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig
yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, a dyna’r rheswm dros ailstrwythuro’r
Gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes. Rhoddodd yr arweinydd a'r CCUECh sicrwydd i
Aelodau fod y strwythur rheoli a darparu traws-sirol newydd wedi’i hanelu at
gyflawni'r tri phrif darged yng Nghynllun Cyflawni’r Strategaeth Uchelgais
Economaidd a Chymunedol - mwy o bobl mewn gwaith, incwm aelwydydd uwch a rhagor
o fusnesau lleol iachach. Amlinellwyd
rolau’r swyddi o fewn y strwythur, ynghyd â'r swydd ychwanegol yn y Gwasanaeth
Gwella a Moderneiddio Busnes. Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth y CCUECh
a’r Arweinydd gadarnhau:- ·nad oedd cyfrifoldeb am
gyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol yn ymwneud â datblygu economaidd a'r
Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn gyfrifoldeb i’r Gwasanaeth
Datblygu Economaidd a Busnes yn unig, roedd gan holl wasanaethau'r Cyngor fudd
ynddynt a rôl i’w chwarae wrth eu cyflawni; ·Byddai Cynlluniau Tref
ac Ardal yn dod yn Gynlluniau cyflenwi â chanolbwynt yn y dyfodol. Byddai rôl
Cefnogwr y dref yn cael ei hadolygu er mwyn ei gryfhau a byddai camau gweithredu
neu agweddau ar Gynlluniau Tref ac Ardal yn cael eu neilltuo i Benaethiaid
Gwasanaeth i'w cyflawni o fewn terfynau amser penodol. Byddent yn
atebol am gyflawni'r prosiectau hyn gan y byddent yn rhan o'u Cynlluniau
Gwasanaeth; ·ymgynghorwyd â Chefnogwyr
Tref a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar y cynigion ailstrwythuro; ·roedd rhai agweddau o'r
flaenoriaeth gorfforaethol datblygu economaidd yn cael eu datblygu ar wahanol
lefelau e.e. roedd datblygu sgiliau addysgol/cyflogwr, trydaneiddio rhwydwaith
rheilffordd Gogledd Cymru, hyrwyddo'r rhanbarth fel ardal ar gyfer busnes yn
cael eu datblygu’n rhanbarthol drwy gyfrwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, tra’r oedd agweddau eraill mwy lleol megis hybu Sir Ddinbych fel
lleoliad da ar gyfer busnes yn digwydd ar lefel Sir; ·nid oedd LlC bob amser
yn cymryd sylw o gyngor awdurdodau lleol neu gyrff rhanbarthol ar beth fyddai’n
cyflawni'r canlyniadau economaidd gorau ar gyfer yr ardal. Ar adegau roedd
hyn yn dwysáu ymdrechion awdurdodau lleol i ysgogi datblygu economaidd, felly
roedd rhaid i awdurdodau lleol fod yn greadigol ac yn arloesol yn eu dull
gweithredu; ·byddai cyllid Ewropeaidd yn cael ei weinyddu yn y dyfodol ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Archwilio PDF 130 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 12.05 p.m. – 12.20 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
raglen gwaith i'r dyfodol ac oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol,
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Mewn ymateb i gwestiwn
gan y Cynghorydd R.M. Murray, amlinellodd y Cydlynydd Archwilio y broses i'w
dilyn pe bai Aelodau yn dymuno gwahodd Comisiynydd yr Heddlu i fynychu
Cyfarfod, a chadarnhaodd y byddai cymorth i lenwi ffurflenni ar gael pe bai
angen. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r
Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y
dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd y byddai’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd D. I. Smith, yn
cael ei wahodd i fynychu'r cyfarfod ar 23 Ebrill, 2015 i ystyried y ddwy eitem
fusnes. Cyfarfu'r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio (CGIGA) ar 19 Chwefror a phenodwyd cynrychiolwyr i
wasanaethu ar y Grŵp Tasg a Gorffen Traws-Archwilio a sefydlwyd i werthuso
effaith y toriadau yn y gyllideb. Cynrychiolwyr y Pwyllgor fyddai’r Cynghorwyr H.
Hilditch-Roberts a T.R. Hughes, gyda'r Cynghorwyr W. Mullen-James a J. Welch yn
Aelodau dirprwyol. Byddai Aelodau dirprwyol yn cael eu galw i gymryd
rhan yng ngwaith y Grŵp wrth iddo symud yn ei flaen. Roedd y Grŵp wedi trafod y trefniadau ar gyfer adrodd ar waith y
Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2014/15 i'r Cyngor Blynyddol ym mis Mai, ac fel
rhan o'r broses honno roedd wedi penderfynu cynnal ymarfer gwerthuso o waith y
swyddogaeth archwilio. Rhoddwyd holiadur byr i’r holl Aelodau ac Uwch
Reolwyr, i'w ddychwelyd erbyn 16 Mawrth, 2015, a oedd gofyn iddynt werthuso
effeithiolrwydd gwaith archwilio o'u safbwynt hwy. Byddai crynodeb
o'r canfyddiadau yn cael ei adrodd fel rhan o'r eitem ar yr Adroddiad Blynyddol
yng nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai. Eitem a drafodwyd yn fanwl yn y cyfarfod GCIGA oedd Papur Gwyn diweddar
Llywodraeth Cymru, Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni - Diwygio Llywodraeth
Leol: Grym i Bobl Leol. Roedd Pennod 8 y Papur Gwyn, ‘Atgyfnerthu Rôl
Adolygu’, yn gosod cynigion LlC ar gyfer archwilio. Byddai barn y
GCIGA ar gwestiynau'r ymgynghoriad yn ymwneud â Phennod 8 yn cael ei bwydo i
ymateb ymgynghoriad cyffredinol y Cyngor i LlC. Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch cynnwys
Ffurflenni Datgan Cysylltiad gyda phecynnau agenda, cytunodd y Cydlynydd
Archwilio i gyfleu pryderon Aelodau i'r swyddogion perthnasol. Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at y Pecyn
Gwybodaeth a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd ar
Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen. Cadarnhaodd hefyd fod y wybodaeth y gofynnwyd
amdani am incwm o feysydd parcio hefyd wedi’i dosbarthu i'r Aelodau y bore
hwnnw. PENDERFYNWYD -
yn amodol ar y newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor. 12.20
p.m. – 12.30 p.m. Cofnodion: Mynychodd y
Cynghorydd W.M. Mullen-James gyfarfod Rhianta Corfforaethol ar 11 Mawrth 2015,
a darparodd gopi o ddau gyflwyniad a gafwyd yn y cyfarfod i'w dosbarthu i
Aelodau'r Pwyllgor. Cyfeiriodd y Cynghorydd Mullen-James at
bryderon a godwyd yn ymwneud â darparu llety ar gyfer pobl ifanc. Mynychodd y Cynghorydd C.H. Williams y Grŵp Tasg a Gorffen Tai
Fforddiadwy, byddai eu busnes yn dod i ben yn fuan, a byddai adroddiad yn cael
ei gyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol agos. Mynychodd y
Cynghorydd H. Hilditch-Roberts y cyfarfod Her Gwasanaeth AD a nododd welliannau
sylweddol o ran darparu gwasanaethau, cyfeiriwyd yn benodol at yr effaith a
wnaed gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd ers ei benodi
yn Bennaeth Adnoddau Dynol. PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn nodi’r adroddiadau uchod. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm. |