Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Agorwyd y cyfarfod a'i ohirio tan 10.05am ar ôl cyrraedd cworwm. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr James
Davies, Carys Guy a Bob Murray ynghyd â'r Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem 5 ar yr Agenda –
Darganfyddiadau’r Adolygiad Traffig a Pharcio, gan fod ganddo siop yn Rhuthun. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd 4 Rhagfyr 2014 (copi
ynghlwm). 9.35 a.m. – 9.40 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2014. Materion yn Codi - Tudalen 7, Eitem 3 Materion Brys: Cadarnhaodd y
Cynghorydd Rhys Hughes fod y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd)
wedi cysylltu ag ef yn sgîl pryderon a godwyd yn y cyfarfod diwethaf ynghylch y
diffyg ymgynghori dros fater cynllunio sy'n ymwneud â 'Llyn Glas' mewn chwarel
ar Fwlch yr Oernant. Gan fod y dystysgrif cynllunio eisoes
wedi’i gyhoeddi nid oedd unrhyw atebolrwydd. Er
mwyn atal sefyllfa debyg rhag codi yn y dyfodol dyma aelodau yn gofyn am
sicrwydd y byddent yn ymgynghori’n llawn ag aelodau lleol ac aelodau cyfagos
(yn ogystal â chynghorau tref / dinas / cymuned gyfagos) ar gynigion/ceisiadau
o'r fath a fyddai'n cael goblygiadau pellgyrhaeddol ar raddau pellach ar gyfer
cymunedau eu hunain a chymunedau cyfagos. Cytunwyd
bod y Cydlynydd Archwilio yn codi'r mater yn uniongyrchol â’r Swyddogion
Cynllunio ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar hynny. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2014 yn cael eu derbyn a'u
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
CANFYDDIADAU'R ADOLYGIAD TRAFFIG A PHARCIO PDF 92 KB Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (copi ynghlwm) i ystyried
canfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd ar draffig a pharcio mewn deg o drefi a
phentrefi'r Sir. 9.40 a.m. – 10.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a
Phriffyrdd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar yr adolygiad
Traffig a Pharcio, ac argymhellwyd fod camau gweithredu yn cael eu cynnig o
ganlyniad i hynny. Mae’r adolygiad hwn wedi’i gyfyngu i’r deg prif ganolfan manwerthu trefol
yn y sir ac mae’r adolygiad yn archwilio i sut y gall y Cyngor weithredu o ran
traffig a pharcio er mwyn bod o fudd i fanwerthu yn nghanol y dref o ran
cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella masnach. Mae'r adroddiad yn cynnwys dwy elfen ar wahân sy’n
gofyn am gefnogaeth aelodau - (1)
i
ddatblygu’r camau gweithredu a argymhellwyd i’w cyflwyno i'r Grwpiau Ardal yr
Aelodau perthnasol (GAA) i'w hystyried yn lleol, a (2)
gwaith
pellach yn cael ei wneud fel rhan o broses y gyllideb ryddid a hyblygrwydd i
archwilio’r potensial o amrywio taliadau parcio rhwng trefi. Fe ddarparodd Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd rywfaint o
gyd-destun i'r adroddiad ac ymhelaethodd ar y fethodoleg adolygu a’r mesurau
arfaethedig i fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol. Trafododd yr Aelodau yr adroddiad adolygu
gyda swyddogion a chodwyd y pwyntiau canlynol - ·
ymatebion
i'r holiaduron trigolion a chymuned busnes a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad
wedi bod yn galonogol, gyda chyfradd uwch na'r cyfartaledd wedi’u dychwelyd. Mae'r rhan fwyaf o bryderon a amlygwyd yn
yr ymatebion yn ymwneud â cherbydau sy'n meddiannu mannau parcio ar y stryd am
gyfnod hirach na'r amser a ddyrennir. Mae hynny’n cael effaith andwyol gan ei fod yn
rhwystro pobl eraill rhag stopio/ymweld â threfi lleol ac felly mae’r economi
leol yn dioddef ·
yr
angen am ddigon o lefydd parcio arhosiad byr ar draws y sir er mwyn cynyddu
nifer yr ymwelwyr i’r trefi ·
yr
angen am ddigon o lefydd i barcio ar y stryd hefyd er mwyn annog masnach sy’n
galw heibio ac i wella iechyd yr economi lleol a byddai’r GAA yn y sefyllfa
orau i benderfynu terfyn amser priodol ar gyfer eu hardaloedd penodol ·
i wneud
y mwyaf o’r manteision economaidd mae angen elfen o gymell trigolion/ymwelwyr i
ymweld â siopau, caffis lleol ac ati er mwyn eu denu i ganol trefi; dylai hyn
yn ei dro dalu ar ei ganfed ·
angen
rheoli gwaith gorfodi yn well, gan osgoi patrymau patrol rheolaidd mewn trefi. Staff gorfodi hefyd yn patrolio mewn
gwahanol drefi o amgylch y sir er mwyn osgoi dod yn rhy gyfarwydd â’r
cyhoedd/pobl busnes a allai o bosibl arwain at lai o orfodaeth trwyadl ·
dylai
fod cydbwysedd priodol rhwng camau gorfodi cadarn, defnyddio agwedd yn
seiliedig ar synnwyr cyffredin a hynny ar sail achos i achos tra bod yn gwrtais
a dangos parch bob amser at bawb dan sylw; byddai cyflwyno camerâu i’w gwisgo
ar y corff yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad yn y dyfodol ·
angen
arwyddion clir a chywir ym mhob un o leoliadau parcio cyhoeddus y sir a hefyd
ar ffyrdd i mewn i'r trefi i sicrhau bod traffig yn cael ei arwain i mewn i
lefydd parcio priodol - yn enwedig mewn ardaloedd twristiaeth fel Llangollen,
lle gellir cyfeirio twristiaid i ddefnyddio meysydd parcio anghysbell fel bod y
meysydd parcio yn nghanol y dref ei hun yn rhydd i siopwyr ·
mae
llawer o’r aelodau yn awyddus, unwaith i’r GAA drafod a chytuno ar y camau
gweithredu priodol ar gyfer eu hardaloedd, fod y cynghorau tref/dinas/ cymuned
perthnasol yn cael eu hysbysu o'r penderfyiadau · angen cynnal trafodaeth ar fanteision ac anfanteision cynllun talu am barcio safonol ar draws y sir neu gynllun amrywiol a fyddai'n addas ar gyfer anghenion y trefi unigol eu hunain. Byddai trafodaeth ar dalu am barcio ceir yn y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFLWYNO TALIADAU AM GASGLIADAU GWASTRAFF GWYRDD PDF 161 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
sy’n amlinellu faint o bobl sydd wedi cofrestru hyd yma ar gyfer y gwasanaeth
gwastraff gwyrdd newydd, yr incwm a ragwelir a gynhyrchir gan y gwasanaeth a'r
effaith ar y gwasanaeth, ei gyllideb a’r targed arbedion. 10.45 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Thrafnidiaeth
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynnydd ar lefel y
cwsmer sy’n manteisio ar y cynllun gwastraff gwyrdd trethadwy newydd ynghyd â
goblygiadau gwasanaeth a chyllideb cysylltiedig. Roedd yn falch o adrodd ar ffigurau cwsmer
diweddaraf ac esboniodd yn fanylach fecanwaith y cynllun fel a ganlyn - ·
y
targed oedd rhwng 10,000 - 15,000 eiddo ac o 29 Ionawr (deufis cyn cychwyn y
cynllun) roedd 8,308 o eiddo wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, mae hyn wedi
rhagori ar y ffigur a amcangyfrifwyd ar hyn o bryd; a'r disgwyl oedd i'r duedd
gadarnhaol hon barhau gyda chyfran o gwsmeriaid tua diwedd mis Mawrth ·
y
dyddiad cau ar gyfer y cynnig 'cyn cŵn caer' ar gyfer y rhai sydd wedi
cofrestru ar gyfer y cynllun wedi’i ymestyn o 31 Ionawr to 14 Chwefror 2015 ·
y
broses gofrestru ar-lein wedi bod yn hynod effeithiol ac yn hawdd i'w defnyddio
gyda dwy ran o dair wedi cofrestru ar-lein ·
y
cynllun wedi’i gyflwyno fel mesur arbedion effeithlonrwydd ac mae’r defnydd a
wnaed ohono wedi effeithio yn
uniongyrchol ar faint o staff sydd eu hangen i gyflawni'r gwaith - fel yr oedd
disgwyl ni fyddai rhai unigolion yn cofrestru ar gyfer y cynllun nes bod y
tymor tyfu wedi dechrau ac roedd hi’n anodd cadarnhau ar y pwynt hwn faint o
staff a fyddai’n cael eu gwneud yn ddiwaith o ganlyniad i gyflwyno’r cynllun ·
mae
nifer o ddatganiadau o ddiddordeb mewn cymryd diswyddiad gwirfoddol wedi eu
gwneud ar draws y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd a rhagwelid y dylai
bod y datganiadau hynny o ddiddordeb, ynghyd â 'gwastraff naturiol', yn
ddigonol i dalu am unrhyw ddiswyddiadau sy'n ofynnol yn dilyn cyflwyno'r
cynllun gwastraff gwyrdd trethadwy newydd ·
tra
mai Sir Ddinbych oedd y cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno taliadau am
gasglu a gwaredu gwastraff gwyrdd, mae chwe chyngor yn Ne Cymru eisoes yn codi
tâl am y gwasanaeth. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion
yn- ·
cadarnhau
bod y polisi codi tâl ar gyfer y gwasanaeth yn cydymffurfio yn llwyr â
chanllawiau Glasbrint Llywodraeth Cymru ar Gasgliadau; yr oedd hefyd yn debyg
i'r hyn a wnaeth nifer o gynghorau yn Lloegr mewn perthynas â gwastraff gwyrdd ·
cynghori
nad oeddent yn rhagweld y nifer o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon o wastraff
gwyrdd yn cynyddu yn fawr yn dilyn cyflwyno'r tâl. Yn ymateb i adroddiadau oedd yn nodi mai
Sir Ddinbych oedd yr awdurdod sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o ran
ystadegau tipio anghyfreithlon, fe ddywedodd y swyddogion fod hyn yn ganlyniad
i arferion cofnodi cadarn yn y sir a gallu’r system ddata 'Flycapture' yn
genedlaethol i adlewyrchu hyn a pherfformiad y sir wrth gael gwared ar wastraff
wedi’i dipio yn anghyfreithlon. Mae'r mater hwn wedi cael ei drafod gan archwilio yn y deuddeg mis diwethaf ·
tra
bod tua 38,000 eiddo ar hyn o bryd wedi derbyn biniau gwyrdd, tydi pob un
ohonynt ddim yn defnyddio'r gwasanaeth ac mae nifer yn compostio’r gwastraff eu
hunain. Nid yw’r unigolion hynny sy’n compostio wedi eu cynnwys yn ffigurau
ailgylchu’r sir ·
ar
hyn o bryd mae tua 4k tunnell o wastraff gwyrdd yn cael ei gasglu bob blwyddyn
yn y sir ac er y tybir y byddai'r rhai a gofrestrwyd ar gyfer y cynllun yn rhoi
mwy o wastraff gwyrdd allan, roedd cynilion wedi eu cyfrifo yn seiliedig ar y
nifer o lwybrau a gweithlu sydd eu hangen i weithredu'r cynllun yn hytrach na
chanolbwyntio ar gyfanswm y gwastraff gwyrdd a gasglwyd · rhagwelwyd y byddai tynnu’r gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim yn ôl yn arwain at y Cyngor i golli ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 112 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.30 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r
aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor ac i roi diweddariad ar faterion
perthnasol. Wrth ystyried y
rhaglen waith dyma’r aelodau yn - ·
trafod
pa gynrychiolwyr a fyddai orau i lenwi'r llefydd gwag yn y Grwpiau Herio
Gwasanaeth a chael eu penodi i'r Grŵp Tasg a Gorffen Archwilio sy’n cael
ei sefydlu ar hyn o bryd i werthuso effaith y toriadau yn y gyllideb.
Byddai’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio yn cadarnhau aelodaeth y Grŵp yn
fuan ·
cadarnhau
bod adroddiad ar yr adolygiad o daliadau parcio amrywiol yn cael eu hychwanegu
at y rhaglen waith fel y cytunwyd yn gynharach yn y cyfarfod ·
cytunwyd
bod cyfarfod mis Ebrill yn cael ei gyfyngu i ddau brif eitem busnes i sicrhau
bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar yr adroddiad ar Gategoreiddio
Iaith yn Ysgolion y Sir ·
cytunwyd
i beidio â gwahodd yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd i gyfarfod nesaf y
pwyllgor o ystyried natur dechnegol yr eitemau busnes, a ·
nodir
adroddiad gwybodaeth am y Gronfa Gwaddol Cymunedol a oedd wedi'i gynnwys o fewn
brîff gwybodaeth y pwyllgor. Fe
gyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at
weithrediad sy'n codi o'r cyfarfod pwyllgor diwethaf (o dan yr eitem Drafft
Strategaeth Safleoedd Carafannau) i drefnu cyfarfod rhwng y Rheolwr Datblygu a
pherchennog un o safleoedd carafannau mwyaf y sir. Gofynnodd yr Aelodau i’r cyfarfod hwn gael
ei gynnal cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis Mawrth er mwyn llywio'r
drafodaeth ar y cynnydd ynglŷn â’r Strategaeth Safleoedd Carafannau. PENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar gynnwys yr uchod, y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i'r
dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. (b) Mynegodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Rhys Hughes ddiddordeb mewn
cael eu penodi yn gynrychiolwyr y pwyllgor ar y Grŵp Tasg a Gorffen
Archwilio i werthuso effaith y toriadau
yn y gyllideb gyda Chynghorwyr Win Mullen-James a Joe Welch yn mynegi diddordeb
mewn cael eu penodi yn gynrychiolwyr wrth gefn (c) y cynrychiolwyr pwyllgor canlynol a chynrychiolwyr wrth gefn yn cael eu
penodi i'r Grwpiau Herio Gwasanaethau - Priffyrdd - Y
Cynghorwyr Rhys Hughes a Cefyn Williams (dirprwy) Cynllunio - Y
Cynghorydd Win Mullen-James a Cefyn Williams (dirprwy) Cyllid ac Asedau
– Y Cynghorydd Peter Evans (i gymryd lle'r Cynghorydd Rhys Hughes, i ddod i rym
yn y rownd nesaf o Heriau Gwasanaeth). |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.45
a.m. – 11.50 a.m. Cofnodion: Adroddodd cynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn - Roedd y Cynghorydd Win Mullen-James yn aelod o'r Fforwm
Rhianta Corfforaethol a adroddodd ar gyfarfod defnyddiol a gynhaliwyd yr
wythnos flaenorol gyda rhieni maeth lle cafodd nifer o bwyntiau eu codi a
fyddai'n arwain at welliannau gwasanaeth ar gyfer y rhieni maeth yn ogystal â’r
plant sy'n derbyn gofal. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Joe Welch at ei bresenoldeb yn y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion
yn ddiweddar ac adroddodd ar y fformat newydd a oedd yn canolbwyntio ar drafod. Cafwyd
canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pob un o'r tair ysgol a drafodwyd - Ysgol
Uwchradd y Rhyl, Ysgol Plas Cefndy, Y Rhyl ac Ysgol Penmorfa, Prestatyn. Adroddodd y Cynghorydd Cefyn Williams ar un o gyfarfodydd
y Gweithgor Tai Fforddiadwy a'r adolygiad cynhwysfawr sydd wedi’i wneud ac a
fyddai'n debygol o arwain at newidiadau sylweddol. Byddai un cyfarfod arall o’r Gweithgor yn cael ei
gynnal cyn y byddai adroddiad yn dod gerbron yr aelodau i'w hystyried. Adroddodd y Cadeirydd ar y canlynol - ·
tydi Cadwyn Clwyd (Asiantaeth
Datblygu Gwledig) heb gyfarfod ers cryn amser ac roedd yn ymddangos i fod yn
dirwyn i ben yn raddol gyda chyllid Ewropeaidd yn annhebygol o fod ar gael tan
fis Medi 2015 ·
mae Coleg Cambria hefyd yn
wynebu toriadau yn y gyllideb a oedd yn dod yn fwy o ymdrech i’w rheoli ·
byddai cyfarfod nesaf y Bwrdd
Taith yn trafod y dyfodol gyda phob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd
Cymru yn cyflwyno cynllun i'r Gweinidog dros Drafnidiaeth ·
yn ystod cyfarfod y Bwrdd
Uchelgais Economaidd a Chymunedol roedd wedi herio'r targedau a sut y cyflawnir
y targedau gyda mwy o waith yn cael ei wneud yn y cyswllt hwnnw ·
roedd yn aelod o'r Grŵp
Buddsoddi Strategol a chafodd canlyniad eu gwaith ei adrodd drwy’r Cabinet a'r
Cyngor. PENDERFYNWYD y dylid nodi’r adroddiadau llafar oddi wrth aelodau
a fu’n mynychu cyfarfodydd. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.35pm. |