Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Cadeirydd) a'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (RM). |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Cododd y Cynghorydd Rhys Hughes bryderon o ran amrywiad
diweddar a oedd wedi ei roi i amod cynllunio yn ymwneud â'r 'Llyn Glas' mewn
chwarel ar Fwlch yr Oernant. Roedd yn bryderus nad oedd ef na Chyngor Cymuned
Llandysilio wedi bod yn gyfrin i'r ymgynghoriad ar y cais i amrywio'r amod tra
bod cynghorau cymuned cyfagos eraill, aelodau etholedig a chyrff cenedlaethol
wedi eu hymgynghori. Soniodd y Cynghorydd Hughes nad oedd y cais wedi ymddangos
ar y rhestr wythnosol o geisiadau sy’n cael ei dosbarthu i gynghorwyr. Roedd yn
bryderus y gall yr amrywiad effeithio ar gyflenwad dŵr preswylwyr.
Cynhaliodd y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) ymchwil i'r
amgylchiadau yn ymwneud â'r cais a'r broses ymgynghori a wnaed ac adroddodd yn
ôl i'r Cynghorydd Hughes cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio yr wythnos ganlynol. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 11 Medi 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2014. Cywirdeb: Dywedodd y Cynghorydd James Davies ei fod wedi
ymddiheuro ar gyfer y cyfarfod ond nad oedd hynny wedi ei gofnodi. Felly: Penderfynwyd: y
dylid, yn amodol ar gynnwys yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 11 Medi 2014 fel cofnod cywir. |
|
STRATEGAETH RHEOLI LLIFOGYDD A MATERION YN YMWNEUD Â LLIFOGYDD PDF 99 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan yr Uwch Beiriannydd, Rheoli perygl Llifogydd, sy’n
gofyn i’r Pwyllgor drafod p’un ai yw’r Cyngor yn cwrdd â’i rwymedigaethau
statudol a dewisol mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn. 9.35am- 10.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Perygl
Llifogydd) (a gylchredwyd yn flaenorol) ar y Strategaeth Rheoli Llifogydd Lleol
a Materion yn ymwneud â Llifogydd. Amlinellodd gefndir cynhyrchu'r Strategaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli Perygl
Llifogydd Lleol y Cyngor yn ffurfiol, a’r cam nesaf yw gweithredu’r
Strategaeth. Mae nifer o'r camau gweithredu a'r mesurau a nodwyd eisoes yn cael
eu cyflawni neu wedi eu clustnodi ar gyfer eu gweithredu yn ystod y flwyddyn
ariannol nesaf. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru gyda golwg
ar sicrhau cyllid ychwanegol tuag at rai o'r cynlluniau. Dywedwyd
wrth yr Aelodau, gan fod Adolygiad Llifogydd Arfordirol Adnoddau Cyfoeth
Naturiol Cymru yn amhendant o ran difrifoldeb llifogydd arfordirol mis Rhagfyr
2013, bod y Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr i ymgymryd â gwaith pellach yn y
maes hwn. Mae adroddiad yr ymgynghorwyr wedi dod i gasgliadau annisgwyl. O
ganlyniad, mae'r adroddiad wedi ei rhannu â Chyfoeth Naturiol Cymru a
Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn eu barn ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Yn
dibynnu ar farn y budd-ddeiliaid ar gasgliadau’r ymgynghorwyr, efallai y bydd y
Cyngor yn herio canfyddiadau’r ymgynghorwyr maes o law. Felly, gofynnodd yr
Aelodau a oedd modd cyflwyno adroddiad yr ymgynghorwyr i'r Pwyllgor, ynghyd â
sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ystod ei gyfarfod nesaf
ym mis Ionawr 2015. Ar ôl cwblhau a chytuno ar adroddiad yr ymgynghorwyr, bydd
y Cyngor yn cynnal asesiad pellach o’i amddiffynfeydd rhag llifogydd
arfordirol. Serch hynny, ni ellir byth rhoi unrhyw sicrwydd na fyddai llifogydd
yn digwydd pan fo tywydd difrifol. Atebodd
yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Perygl Llifogydd) gwestiynau mewn perthynas â
llifddorau unigol yn y Rhyl a Phrestatyn a dywedodd bod pryderon penodol mewn
perthynas â bylchau yn y morglawdd ar Draeth Barkby a ger Canolfan Nova
Prestatyn. Addawodd y byddai’n edrych eto ar y bylchau hyn er mwyn sicrhau bod
pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd difrifol. Cadarnhawyd
bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal i sicrhau bod unrhyw berygl o lifogydd arfordirol
yng Nghanolfan Nova, sydd wedi ei hadnewyddu, yn cael ei leihau. Mae angen
gwaith pellach mewn perthynas â datblygu amddiffynfeydd eilaidd gwell rhag
llifogydd yn ardal Splash Point / Ffordd Garford yn y Rhyl. Mae hyn yn amodol
ar drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid. Holodd
yr Aelodau ynglŷn â hyfywedd casglu coed Nadolig yn gynnar yn y flwyddyn
newydd a’u defnyddio i gynorthwyo'r broses o ailadeiladu twyni tywod yn ardal
Traeth Barkby. Mae ymarfer tebyg wedi bod yn hynod lwyddiannus y blynyddoedd
blaenorol. Mewn
ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhawyd bod y diffiniad o ardaloedd lle mae
perygl llifogydd er dibenion y Rheoliadau Perygl Llifogydd Ewropeaidd yn
wahanol iawn i’r diffiniad lleol o 'Ardaloedd Perygl Llifogydd' er dibenion
ceisiadau cynllunio a chynllunio rhag argyfwng. Ni ddylai’r anghysondeb hwn
effeithio ar siawns yr ardal o dderbyn arian ar gyfer gwaith lliniaru
llifogydd. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn newid y ffordd y
mae ardaloedd lle ceir perygl llifogydd yn cael eu datblygu ac nad oes unrhyw
ardal fewndirol yn Sir Ddinbych wedi ei nodi fel ardal y gallai fod angen iddi
'ddychwelyd i'r môr' er mwyn lliniaru perygl llifogydd arfordirol eang. Yr unig
ardaloedd yn y sir a nodwyd yw ardaloedd twyni tywod arfordirol. Mae'r
ardaloedd penodol hyn yn eithaf da am ailadeiladu eu hunain yn naturiol. Mae'r strategaeth llifogydd arfordirol yn cael ei rheoli’n agos a'i diwygio’n rheolaidd oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd ac er mwyn ystyried prosiectau posibl ar hyd yr arfordir ac yn y môr, e.e. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL ARCHWILIO PDF 98 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a
gylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r
dyfodol. Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru aelodau ar faterion yn ymwneud â
chraffu. Mewn ymateb i ymholiadau, dywedodd Aelod Arweiniol y
Parth Cyhoeddus y byddai'n gofyn i swyddogion ail-anfon yr wybodaeth ynghyn â
thâl y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd a'r daflen a roddwyd i drigolion at
bob cynghorydd sir gyda nodyn yn eu cynghori i hysbysu preswylwyr i gysylltu â
swyddfeydd sirol, siopau un alwad neu lyfrgelloedd lleol os oedd ganddynt
ymholiadau yn ymwneud â'r cynllun newydd. Gofynnodd yr Aelodau am gynnwys
adroddiad ar y cynnydd hyd yma o ran nifer y bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer
y cynllun gwastraff gwyrdd newydd a'r goblygiadau cyllidebol cysylltiedig ar
raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Ionawr 2015. Dywedodd
y Prif Weithredwr y byddai gan y pwyllgorau archwilio rôl bwysig i'w chwarae o
ran gwerthuso effaith y toriadau yn y gyllideb ar drigolion, y Cyngor, a'r
ardal yn gyffredinol, yn ogystal â monitro eu heffaith ar berfformiad y Cyngor.
Rhagwelwyd y byddai’r set derfynol o doriadau arfaethedig yng nghyllideb
blwyddyn ariannol 2015/16 yn cael eu trafod mewn gweithdy cyllideb ar 12
Rhagfyr 2014, gyda meysydd posibl ar gyfer toriadau yn ystod 2016/17 yn cael eu
trafod mewn cyfarfodydd o fis Ionawr 2015 ymlaen. O
ganlyniad, dymunodd y Pwyllgor bod y cynigion i leihau llwybrau graeanu yn cael
eu cyflwyno yn eu cyfarfod ym mis Ebrill 2015 ar gyfer eu harchwilio’n fanwl.
Felly: Penderfynwyd:
yn amodol
ar gynnwys yr uchod, y dylid cymeradwyo’r rhaglen waith ddrafft fel y manylir
yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Cefyn Williams bod gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy
yn mynd rhagddo’n foddhaol, gyda phresenoldeb da yng nghyfarfodydd y Grŵp.
Mae’n ymddangos yn debygol y bydd y trothwy lleol yn parhau i fod yn ddyraniad
o 10% o dai fforddiadwy ar bob safle datblygu tai yn y dyfodol agos, hyd nes
bydd prisiau tai wedi codi i lefel sy'n golygu bod y trothwy’n haeddu cael ei
adolygu. Dywedodd y
Cynghorydd G Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu cyfarfod trywydd ymholi yn
ddiweddar i baratoi ar gyfer cyfarfod Herio Gwasanaeth sy’n cael ei gynnal yn
fuan. Dywedodd bod y Gwasanaeth yn gweithio'n dda a’i fod, mewn rhai meysydd,
yn arwain y sector. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill ar newidiadau
arfaethedig i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Dywedodd y
Cynghorydd Cheryl Williams y daethpwyd i'r amlwg, mewn cyfarfod diweddar yn
ymwneud â'r Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, nad yw nifer fawr o
gynghorwyr sir yn gyfarwydd â faint o waith y mae’r Gwasanaeth wedi ei wneud
hyd yma i foderneiddio'r Cyngor. O ganlyniad, byddai cyflwyniad yn cael ei roi
i gynghorwyr mewn sesiwn Briffio'r Cyngor ddechrau'r flwyddyn newydd ar y
rhaglen a’r cynnydd hyd yma. Soniodd y Cynghorydd Win Mullen-James am gyfarfod
diweddar o'r Fforwm Rhianta Corfforaethol yr oedd wedi ei fynychu a lle cafwyd
cyflwyniad buddiol ar y gweithdrefnau a ddilynir pan fo’r Cyngor yn dewis
rhieni ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Teimlodd fod brwdfrydedd y staff ynghylch eu gwaith i'w ganmol. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 13 ac
18 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
STRATEGAETH DDRAFFT AR GYFER SAFLEOEDD CARAFÁN YN SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd) sy’n gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar opsiynau ar gyfer
rheoleiddio carafán y sir yn fwy effeithiol. 10.50am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Datblygu
(Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn crynhoi
canfyddiadau'r Grŵp Prosiect a sefydlwyd i geisio datblygu strategaeth i
reoli safleoedd carafannau gwyliau ar draws y sir yn well. Ynghlwm wrth yr
adroddiad ceir arfarniad opsiynau drafft ar gyfer y strategaeth, sydd â’r teitl
'Cofnodion, Rheoleiddio ac Ôl-effeithiau'. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer safleoedd
carafannau gwyliau yn yr ardal, sef i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu yn
unol â'r caniatâd statudol perthnasol a bod strategaethau clir ar waith i fynd i'r
afael â meddiannaeth breswyl heb awdurdod o garafannau gwyliau gan gynnwys
rheoleiddio safleoedd sefydledig a sicrhau gorfodaeth effeithiol mewn safleoedd
eraill. Mae pryder
cyffredinol, yn lleol ac yn genedlaethol, ers cryn amser ar p'un ai yw gweithredwyr
safleoedd carafannau gwyliau yn cydymffurfio’n llawn â'r amodau cynllunio a
thrwyddedu sy’n ymwneud â’r safleoedd. Er mwyn gwybod faint o waith sydd
angen ei wneud ar y maes yma, sefydlwyd Grŵp Prosiect i edrych ar ddiffyg
cydymffurfio â rheolau cynllunio a thrwyddedu. Dewisodd y Grŵp bum safle carafannau gwyliau, o wahanol feintiau mewn
gwahanol rannau o'r sir, a chasglu rhywfaint o wybodaeth ragarweiniol ar eu
gweithrediadau er mwyn mesur nifer yr achosion o dorri cyfyngiadau gwyliau. Yn
dilyn hyn, cafodd y cyfeiriadau eu croesgyfeirio gyda gwybodaeth a gedwir ar
gronfeydd data gwasanaethau'r Cyngor i ganfod a oes unrhyw gais am wasanaeth
neu fudd-daliad wedi ei gyflwyno o'r safleoedd hyn. Byddai ceisiadau o’r fath o
bosibl yn golygu bod amodau rheoleiddio yn cael eu torri ar y safleoedd hyn. Cadarnhaodd
y swyddogion bod yr wybodaeth a gasglwyd o'r ymarfer wedi arwain at fwy o
gwestiynau nag atebion. Mae gan adrannau’r
Cyngor gyfoeth o wybodaeth a chofnodion y gellid eu defnyddio ar gyfer croesgyfeirio
neu at ddibenion tystiolaeth e.e. cofnodion cynllunio a thrwyddedu,
gwasanaethau cymdeithasol a chofnodion ynglŷn ag addysg, budd-daliadau,
treth y cyngor a cheisiadau tocyn bws. Drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r fath
mae swyddogion wedi cyhoeddi nifer o Orchmynion Tramgwyddo Rheolau Cynllunio i
berchnogion safleoedd yn eu hysbysu bod y Cyngor yn amau bod eu safle yn cael
ei ddefnyddio at ddibenion preswyl parhaol. O ganlyniad, mae rhai perchnogion
wedi gwirfoddoli i weithio gyda'r Cyngor i sicrhau y cedwir at yr amodau yn y
dyfodol. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gydag eraill gyda'r bwriad o
sicrhau cydymffurfiad ac osgoi camau gorfodaeth. Serch hynny, mae un perchennog
wedi ei alw i lys ynadon ddechrau 2015 oherwydd diffyg cydymffurfio. Yn seiliedig
ar lwyddiant y prosiect peilot, mae swyddogion yn awyddus i barhau â'r gwaith
hwn. Er bod sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau rheoleiddio yn dod â budd i’r
Cyngor a’r diwydiant twristiaeth lleol, gall cymryd camau gorfodaeth yn erbyn
perchnogion gael ôl-effaith ar y Cyngor h.y. gorfod canfod cartref newydd i
breswylwyr diamddiffyn os yw safleoedd yn cael eu cau ac ati. Serch hynny,
teimlai'r aelodau bod manteision cymryd camau gorfodaeth a chymhwyso’r
rheoliadau yn llym yn fwy na’r risg sy'n gysylltiedig â bod yn hunanfoddhaol.
Mae preswylio’n anghyfreithlon mewn carafannau gwyliau yn dreth ar wasanaethau
cyhoeddus lleol, boed yn awdurdod lleol, gwasanaeth iechyd neu’n wasanaeth
cyhoeddus arall, gan nad y carafannau hyn yw eu preswylfa barhaol (ac felly nid
oes yn rhaid i’r preswylwyr dalu treth y cyngor). Er bod aelod o Gynulliad Cymru wedi cyflwyno Mesur Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru) i’r Cynulliad, roedd yn ymddangos bod diffyg parodrwydd ar hyn o bryd i ddeddfu’r Mesur hwnnw fel darn o ddeddfwriaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, gellir gwireddu rhai agweddau ar y Mesur ... view the full Cofnodion text for item 8. |