Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Win
Mullen-James, Bob Murray a David Smith (Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd)
ynghyd â'r Aelod Cyfetholedig Nicola Lewis |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Rhys Hughes, Joe Welch, Cefyn
Williams a'r Aelodau Cyfetholedig Gill Greenland, Debra Houghton a Dawn
Marjoram gysylltiad personol ag Eitem 5 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod olaf y pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2014. Cywirdeb – roedd aelodau cyfetholedig wedi cael eu gadael
allan o'r rhestr presenoldeb a dylai gynnwys Gill Greeland, Debra Houghton,
Nicola Lewis, Dawn Marjoram a Gareth Williams fel aelodau presennol. PENDERFYNWYD – y
dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2014 fel cofnod cywir. |
|
POLISI CLUDIANT O'R CARTREF I'R YSGOL PDF 141 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi ynghlwm) yn
amlinellu’r cynigion ar gyfer polisi diwygiedig Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol.
9.35 a.m. – 10.05 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cefnogaeth Addysg a
Chwsmeriaid (HCES) adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn amlinellu cynigion ar
gyfer y polisi diwygiedig ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ynghyd â'r
broses ymgynghori a'r amserlen ar gyfer gweithredu. Ymddiheurodd am gamgymeriad yn yr
adroddiad yn cynghori nad oedd wedi bod yn bosibl i ymgynghori â disgyblion
Meithrin newydd a gynlluniwyd ar gyfer mis Medi 2015. Darparwyd ychydig o
gefndir i'r adroddiad ac eglurwyd nad oedd unrhyw gynnig i newid y
darpariaethau presennol ar gyfer cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg neu
ysgolion ffydd o fewn y polisi diwygiedig. Tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at lythyr (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) oddi wrth Esgobaeth Wrecsam ynglŷn â'r ymgynghoriad
a'r newidiadau arfaethedig. Ystyriodd yr Aelodau (1) ganlyniad gorfodi'r
polisi newydd i gael gwared ar anghysondebau hanesyddol yn y broses gymhwysedd,
a (2) gweithredu mannau codi canolog fel y nodir yn y polisi diwygiedig. Nodwyd y byddai'r cynigion yn debygol o
gynhyrchu arbedion o tua £272k a £30k yn y sectorau uwchradd a chynradd yn y
drefn honno. Cytunodd y Swyddogion gydag adborth ymgynghori rhagarweiniol bod yr
aflonyddwch a achosir wrth weithredu mannau codi ar gyfer y sector cynradd fod
yn fwy na'r arbedion posibl i'w gwneud, ond bod gweithredu ar gyfer y sector
uwchradd yn dderbyniol. Roedd nifer fawr o ymatebion yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a
dwedodd yr HCES am anomaleddau hanesyddol a'r rhai a fyddai'n cael eu heffeithio
gan orfodaeth lem o'r polisi. O ganlyniad, bu ceisiadau i gyfyngu ar y dynodiad Cyfrwng Cymraeg i
ysgolion categori 1 yn hytrach na chategori 1 a 2 a chafodd yr aelodau eu
hysbysu o oblygiadau newid mor fawr mewn polisi a oedd yn cynnwys effaith niweidiol
ar niferoedd ar y gofrestr yn y dyfodol a chostau cludiant. Darparwyd manylion am y cynllun teithio
rhatach ar gyfer y rhai nad oeddent yn gymwys i gael cludiant am ddim hefyd. Canolbwyntiodd prif rannau’r drafodaeth ar y
canlynol - ·
tra'n
cydnabod nad oes argymhellion/ canllawiau cenedlaethol ar y broses ymgynghori a
nodi’r amserlen dynn yn yr achos hwn, mynegodd yr aelodau bryderon bod yr
ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi yn ystod cyfnod gwyliau haf yr ysgol. Nododd yr Aelodau hefyd yr oedi byr a fu
gyda dosbarthu’r ddogfen ymgynghori i swyddogion Esgobaeth Llanelwy, y
camgymeriad wrth beidio â’i ddosbarthu’n gynharach yn y broses i aelodau addysg
cyfetholedig y pwyllgorau archwilio, a bod diffyg argaeledd cyfeiriadau rhieni
plant ysgolion meithrin wedi golygu na chafodd copïau eu hanfon atynt. Amlygwyd hefyd na ysgrifennwyd at rieni
plant ysgol gynradd nad oeddent yn gymwys ar hyn o bryd i gael cludiant ysgol,
ond efallai yr effeithir ar eu hawl i ddarpariaeth yn y sector uwchradd yn y
dyfodol o ganlyniad i'r newidiadau. Fodd bynnag, gan fod y ddogfen wedi bod ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor
ac o ystyried y rhestr gynhwysfawr o ymgyngoreion a'r ffaith yr ysgrifennwyd yn
unigol at rieni sy’n derbyn cludiant i’r ysgol ar hyn o bryd, roedd yr aelodau
o'r farn bod yr awdurdod wedi gwneud ymdrech resymol i godi ymwybyddiaeth o'r
polisi drafft diwygiedig a'r ymgynghoriad yn ei gylch. Teimlai'r pwyllgor na fyddai fawr o
rinwedd mewn ymestyn y cyfnod ymgynghori gan ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw
faterion newydd yn dod i'r amlwg o ganlyniad. · Roedd aelodau o'r farn y dylai gwybodaeth fod ar gael i rieni disgyblion Blwyddyn 6 yn llawer cynt nag ar hyn o bryd o ran pa ysgol uwchradd oedd eu 'hysgol addas agosaf', yn ddelfrydol pan oedd y plant ym Mlwyddyn 5. Roedd y pwyllgor yn cefnogi cynlluniau i ddarparu map rhyngweithiol ar wefan y Cyngor ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi
ynghlwm) ar ganfyddiadau Adolygiad Cynlluniau Tref ac Ardal a’r camau
gweithredu a gynigwyd o ganlyniad. 10.05 a.m. – 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans,
yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cyd-destun a
chanfyddiadau'r adolygiad o Gynlluniau Tref ac Ardal a’r camau gweithredu a
gynigwyd o ganlyniad. Roedd yn argymell Cynlluniau Tref ac Ardal fel modd o ddarparu ymagwedd gytbwys at ddatblygu
cymunedol a derbyn canfyddiadau’r adolygiad a’r camau gweithredu i symud
ymlaen. Diolchodd hefyd i'r Cefnogwyr Trefi am eu gwaith a thynnodd sylw at
bwysigrwydd ymgysylltu lleol o fewn y broses. Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais
Economaidd a Chymunedol (CDECA) ar yr adolygiad a oedd wedi dod i'r casgliad,
er bod y bwriadau strategol wedi eu diwallu bod diffyg eglurder a chysondeb o
ran datblygu a darparu’r Cynlluniau Tref ac Ardal. Roedd hefyd yn anodd sefydlu gwerth am arian gan nad oedd Cynlluniau Tref
ac Ardal ar hyn o bryd yn
darparu gwybodaeth glir ar y manteision a ragwelir, na sut y byddai effaith yn
cael ei fesur. Soniodd am ddatblygu cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar bum maes
allweddol er mwyn gwella trefniadau yn y dyfodol a rhoddodd y newyddion
diweddaraf i’r aelodau ar y cynnydd hyd yma. Ar y cyfan, roedd y pwyllgor yn teimlo mai’r Cynlluniau Tref
ac Ardal oedd y mecanwaith
mwyaf addas i wireddu dyhead y Cyngor o fod yn agos at y gymuned. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i gael
manylion y dulliau gweithredu a gymerwyd i ddatblygu Cynlluniau yn eu meysydd
penodol a sut roedd y Cynlluniau hynny'n cael eu darparu. Roedd yn amlwg bod er bod rhai
llwyddiannau roedd problemau hefyd, fel y diffyg gweithredu gan rai
gwasanaethau wrth symud prosiectau yn eu blaen a buddsoddi mewn Cynlluniau Tref
ac Ardal. Er bod y datblygiad y Cynlluniau Tref
ac Ardal wedi bod yn broses
adeiladol, roedd cyflymder eu darparu yn ymddangos i fod yn hynod o araf a
chyfyngedig gan achosi rhwystredigaeth enfawr i'r rhai a oedd yn ceisio symud
ymlaen â phrosiectau penodol. Teimlwyd bod peth dryswch o hyd ynghylch Cynlluniau Tref ac
Ardal a bod angen eglurder o
ran cyfrifoldebau a gweithredu. Dywedodd yr Arweinydd a'r CDECA bod bellach angen alinio Cynlluniau Tref
ac Ardal â strategaethau
eraill, megis y Strategaeth Uchelgais Economaidd Gymunedol, Strategaeth Canol y
Dref a'r Strategaeth Dwristiaeth i sicrhau eu bod yn ategu ei gilydd ac nad
oeddent yn dyblygu nac yn tynnu oddi wrth ei gilydd. Er mwyn hwyluso darparu’r Cynlluniau,
roedd angen ymgymryd â gwaith i ymgorffori blaenoriaethau pob Cynllun yng
Nghynlluniau Gwasanaeth y Cyngor. Byddai hyn wedyn yn gweithredu fel catalydd i
gychwyn y gwaith o'u cyflawni. Yr amcan tymor hir oedd y byddai'r cynlluniau yn cael eu defnyddio fel
dogfennau cyfeirio y gellid eu defnyddio fel sail ar gyfer manteisio ar
ffrydiau cyllid allanol yn y dyfodol. Roedd angen gwaith pellach hefyd wrth asesu Cynlluniau Tref
ac Ardal presennol i ddangos
gwerth am arian a’r manteision cymunedol. Roedd y Datganiad Polisi arfaethedig yn darparu
mwy o eglurder ar rôl a phwrpas Cynlluniau Tref ac Ardal. Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen am i’r Cynlluniau
ddwyn ffrwyth yn gynnar er mwyn gwella canlyniadau i breswylwyr a chwrdd â'u
disgwyliadau o’r Cyngor. Gofynnwyd iddynt anfon eu sylwadau ar y Datganiad Polisi drafft i'r CDECA
cyn gynted â phosibl. PENDERFYNWYD –yn amodol ar y sylwadau uchod - (a) cymeradwyo canfyddiadau'r adolygiad i’r Cynlluniau Tref ac Ardal a’r
Cynllun Gweithredu cysylltiedig, a (b)
gofyn am gymryd camau ar unwaith i ddatblygu agwedd i ddarparu’r Cynlluniau er
mwyn galluogi preswylwyr i weld canlyniadau'r gwaith. |
|
CYNLLUN TRWYDDEDU YCHWANEGOL AR GYFER TAI AMLBRESWYLIAETH PDF 162 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio safbwynt
yr aelodau ar gyfer ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai
Amlfeddiannaeth yn y Rhyl cyn ymgynghoriad cyhoeddus. 10.45 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn yr aelodau ar
ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlbreswyliaeth (HMO) o
fewn Y Rhyl cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Darparwyd cyd-destun yr ail-ddynodi a’r
ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu HMOs ynghyd â'r meini prawf sy’n rhaid eu
bodloni er mwyn dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol. Eglurodd y swyddogion y rhesymau y tu ôl
i'r argymhelliad i ymestyn y cynllun i gynnwys mwy o fathau o HMO yn y Rhyl yn
dilyn proses arolygu ac asesu. Nid oedd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau’r defnydd o’r adnoddau presennol
i weithredu'r cynllun trwyddedu ychwanegol y tu allan i'r Rhyl. Roedd Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl yn
gefnogol i'r cynllun, a hoffent weld mwy o adnoddau yn cael eu hymrwymo a dull
gorfodi llymach. Soniwyd am effaith ganlyniadol tai gwael ar deuluoedd a gwasanaethau'r
cyngor ac amlygodd y swyddogion y cydweithio rhwng adrannau'r cyngor yn hyn o
beth. Roedd y pwyllgor yn gefnogol i ail-ddynodi’r
cynllun trwyddedu ychwanegol, yn unol â Deddf Tai 2004, a’i ymestyn i gynnwys
mathau eraill o eiddo HMO fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Nodwyd nad oedd y meini prawf i ymestyn y
cynllun y tu hwnt i’r Rhyl wedi eu bodloni a gofynnodd yr aelodau am sicrwydd
na fyddai ehangu'r cynllun yn y Rhyl ar draul rhannau eraill o'r sir, h.y.
Corwen a Llangollen. Dywedodd y Swyddogion y byddai problemau mewn perthynas â HMOs a gafwyd
mewn ardaloedd eraill yn y sir yn cael eu trin trwy ddefnyddio pwerau
gorfodaeth yr awdurdod lleol o dan ddeddfwriaeth wahanol a phe bai tystiolaeth
ddigonol o eiddo HMO problemus yn dod i'r amlwg mewn ardaloedd eraill, gellid
ail-asesu’r sefyllfa. Mewn ymateb i gwestiynau manylodd y swyddogion ar y broses ymgeisio ac
arolygu ar gyfer HMOs ynghyd â phwerau gorfodaeth cyffredinol a’r camau
gweithredu sydd ar gael i'r awdurdod. Hefyd amlinellodd y Swyddogion y gweithdrefnau y
gellid eu defnyddio mewn achosion o'r fath er mwyn lliniaru'r risg o’r
tenantiaid yr effeithir arnynt ddod yn ddigartref. Yn olaf, dwedwyd wrth y pwyllgor am
ddeddfwriaeth newydd a fyddai’n cael ei chyflwyno yng Nghymru y flwyddyn
ganlynol a fyddai’n gofyn i landlordiaid gael eu cofrestru. Roedd y pwyllgor yn falch o nodi effaith
gadarnhaol camau gorfodaeth wrth ymdrin â HMOs problemus ac ar ddiwedd y
drafodaeth - PENDERFYNODD y pwyllgor argymell - (a) yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynwyd, bod cyfiawnhad ar gyfer
ail-ddynodi cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer tai amlbreswyliaeth; (b) dylai’r mathau o eiddo a gwmpesir gan y cynllun trwyddedu ychwanegol fod
fel y rhestrwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad; (c) dylai’r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y cynllun trwyddedu ychwanegol
gael ei chyfyngu i'r Rhyl yn unig; (d) dylai’r amodau i'w gosod fel rhan o’r cynllun trwyddedu ychwanegol fod fel
y manylir yn Atodiad 2 o’r adroddiad; (e) Dylid gosod y strwythur ffioedd trwyddedu sy'n gysylltiedig â'r cynllun
trwyddedu ychwanegol fel y nodir yn Atodiad 3; (f) derbyn yr Asesiad Effaith ar Iechyd yn Atodiad 4 i'r adroddiad, a (g) nodi’r sylwadau uchod fel ymateb y pwyllgor i'r ymgynghoriad ar y Cynllun
Trwyddedu Ychwanegol arfaethedig ar gyfer Tai Amlbreswyliaeth. Ar y pwynt hwn (12 a.m.) cymerodd y cyfarfod egwyl
am luniaeth. |
|
STRATEGAETH STRYDWEDD A PHERFFORMIAD MEWN PERTHYNAS Â BLAENORIAETH STRYDOEDD GLÂN Y CYNGOR PDF 97 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi ynghlwm) ynglŷn
ag effeithiolrwydd y strategaethau i ddarparu'r Flaenoriaeth Gorfforaethol o
Strydoedd Glân. 11.15 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (HHES) adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes) ynghylch effeithiolrwydd y strategaethau sy'n cael eu dilyn i
ddarparu'r Flaenoriaeth Gorfforaethol o Strydoedd Glân a Thaclus. Roedd
yr elfen hon yn cwmpasu nifer o wahanol adrannau ac roedd gwybodaeth fanwl
wedi'i darparu ar berfformiad gwasanaethau mewn meysydd allweddol ynghyd â
chamau gweithredu a strategaethau yn y dyfodol. Dywedodd y
Swyddogion fod tystiolaeth bellach yn
awgrymu bod Strategaeth Strydlun a pherfformiad y Tîm o ran gwella
ymddangosiad parth cyhoeddus y Sir yn dechrau dangos canlyniadau da. Roedd
staff gweithredol unigol wedi cael hyblygrwydd i flaenoriaethu eu gwaith eu
hunain ac i gymryd perchnogaeth o'u tref/ ardal a oedd wedi arwain atynt yn
cymryd balchder yn eu gwaith a chadw eu hardaloedd yn lân ac yn daclus yn
rhagweithiol. Cafodd y gwelliant hwn ei gadarnhau gan aelodau'r
pwyllgor a dalodd deyrnged i'r staff hynny a oedd yn gweithio yn eu hardaloedd
ward penodol. Cydnabuwyd na fyddai'r awdurdod fyth yn gallu
cael gwared ar achosion o faw cŵn na thipio anghyfreithlon yn gyfan gwbl,
ond un o'r ffactorau allweddol i lwyddiant yn y maes hwn oedd i reoli'r ymateb
i ddigwyddiadau o'r fath yn effeithiol a lle bo'n bosibl cymryd camau
gorfodaeth. Hysbysodd y HHES yr aelodau mai'r cam nesaf fyddai
ceisio gwella cywirdeb y data sy'n ymwneud ag achosion baw cŵn, sbwriel a
thipio anghyfreithlon a chael gwybodaeth fwy cywir am yr amser gwirioneddol a
gymerwyd rhwng cafodd y digwyddiad ei riportio a phryd cafodd ei ddatrys. Ar gais yr
aelodau cytunodd y HHES wneud yr ymholiadau canlynol - ·
Cael gwybodaeth
am fanteision y dull a ddefnyddir gan Gyngor Blackburn mewn perthynas â
chyhoeddi Rhybudd Cosb Benodedig. ·
Darparu manylion
am yr amrywiaeth o ddirwyon a roddir am achosion tipio anghyfreithlon a chostau
clirio tipio anghyfreithlon, a ·
Archwilio
dichonoldeb, a’r sefyllfa gyfreithiol o ran erlyn troseddwyr baw cŵn/
tipio anghyfreithlon hysbys gyda'r bwriad o wneud esiampl o droseddwyr i'r
cyhoedd. Mewn ymateb i
bryderon aelodau, cytunodd y HHES hefyd ddefnyddio dull cyson o ran hysbysebu
ar briffyrdd - caniatáu hysbysebu tymor byr ar gyfer digwyddiadau cymunedol neu
elusennol ar yr amod nad oeddent yn rhwystro'r briffordd neu y credir eu bod yn
achosi perygl. Byddai unrhyw fath arall o hysbysebu ar y
briffordd yn cael ei ddileu. Pwysleisiodd yr aelodau bod cynnydd mewn
arwyddion yn ardal Lôn Parcwr Rhuthun fel enghraifft o leoliad lle mae angen
cymryd camau. O ran toriadau
cyllidebol, roedd y HHES yn hyderus fod y toriad arfaethedig o 10% yng
nghyllideb y Gwasanaeth ar gyfer 2015/16 yn hylaw heb niwed difrifol i'r
gwasanaeth a ddarperir. O ran y Gorchmynion Rheoli Cŵn
arfaethedig y mae'r Cyngor wedi ymgynghori arnynt ac yn bwriadu eu cyflwyno,
dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y disgwyliwyd deddfwriaeth
yn yr hydref a fyddai'n lleddfu ar gyflwyno gorchmynion o'r fath. PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod: (a) cefnogi Parhau gyda'r strategaethau presennol cyn
belled ag y bo'n ymarferol, gan gynnwys cael gwared ar hysbysebion sy’n cael eu
gosod heb ganiatâd yn y parth cyhoeddus, heblaw am hysbysebion tymor byr ar gyfer digwyddiadau cymunedol / elusennol fel y
nodwyd uchod, a (b) amsugno unrhyw doriad ariannol yn y dyfodol mewn modd a fydd yn lleihau'r
effaith negyddol gyffredinol ar ganfyddiad y cyhoedd o'r parth cyhoeddus. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 98 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y
pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.45 a.m. -12 hanner dydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
Adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad am faterion
perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth amlygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr angen am hyblygrwydd yn
rhaglen waith y pwyllgor er mwyn cynnwys materion posibl sy'n codi o'r broses
gyllideb rhyddid a hyblygrwydd cyfredol. Cyfeiriodd y
Cadeirydd hefyd at y posibilrwydd o archwilio
materion addysg yng ngoleuni'r adolygiadau addysg sy’n mynd rhagddynt.
Teimlai'r Cynghorydd
Rhys Hughes y byddai budd mewn archwilio cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych a
chytunwyd i aros am ganfyddiadau'r ymchwiliad cyn gwneud penderfyniad yn y
cyswllt hwnnw. Cyfeiriodd y
Cydlynydd Archwilio at gais i'r pwyllgor ystyried Cynllun Comisiynu Lleol
Cefnogi Pobl Sir Ddinbych 2015-18. Tynnodd sylw’r aelodau hefyd at yr adroddiad
gwybodaeth yn y papurau briffio ar y Rhaglen Rhyl yn Symud Ymlaen a chawsant eu
hatgoffa y gallai unrhyw fater sy'n peri pryder iddynt gael ei drosglwyddo i'r
pwyllgor i’w archwilio ymhellach. Yn olaf, gofynnwyd i'r pwyllgor gadarnhau ei
gynrychiolydd a phenodi dirprwy ar y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy i
archwilio amryw faterion yn ymwneud â thai fforddiadwy. PENDERFYNWYD - (a) y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1
yr adroddiad, a (b) Gofyn i’r cais i ystyried adroddiad ar Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl
Sir Ddinbych 2015-18 gael ei drosglwyddo i'r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion i ystyried a oedd yn fater ar gyfer y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau, a (b) bod y Cynghorwyr Cefyn Williams a Rhys Hughes yn cael eu penodi'n
gynrychiolydd a dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor yn y drefn honno ar y
Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12
canol dydd Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.00pm. |