Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Rhyl

Eitemau
Rhif Eitem

HYSBYSIAD

Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio y darpariaethau a oedd wedi'u cynnwys ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ar gyfer penodi cadeiryddion trosolwg ac archwilio. Byddai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn parhau yn ei swydd fel Cadeirydd, oni fyddai'r grwpiau gwleidyddol perthnasol yn dod i gytundeb ynghylch penodi rhywun gwahanol. Talodd y Cynghorydd Huw Williams deyrnged i sgiliau cadeirio'r Cynghorydd Hilditch-Roberts, ond mynegodd siom nad oedd y grwpiau dan sylw wedi dod i gytundeb.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd David Smith (Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd) a'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

 

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2014/15.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw CVs/datganiadau wedi dod i law cyn y cyfarfod ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd. Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y rhai a oedd yn bresennol, a chynigiodd y Cynghorydd Bob Murray y dylid penodi'r Cynghorydd Win Mullen-James yn Is-gadeirydd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Huw Williams. Gan na chafwyd unrhyw enwebiadau eraill -

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Win Mullen-James  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gyfer blwyddyn gyngor 2014/15.

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Gan ei bod yn denant Cyngor, datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol ag eitem 7 ar y Rhaglen - Rhaglen Ailwampio Stoc Tai'r Cyngor.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi'u codi.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 148 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014.

 

Tud. rhif 9 - Eitem 9 Polisi a Rhaglen Torri Lleiniau Glas ar Briffyrdd 2014/15 - Cafwyd nifer o sylwadau gan yr aelodau ynghylch lleiniau glas mewn ardaloedd penodol, a gofynnodd y Cadeirydd iddynt anfon eu sylwadau'n uniongyrchol at y Rheolwr Adain: Rheoli Rhwydwaith, neu godi'r materion yn y grŵp perthnasol o blith Grwpiau Ardal yr Aelodau, fel bo'n briodol.  Er iddi wneud cais, nid oedd y Cynghorydd Win Mullen-James wedi cael copi o'r amserlen cynnal a chadw ar gyfer y Rhyl, felly cytunodd y Cydlynydd Archwilio ymchwilio i'r mater.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2014 fel cofnod cywir.

 

 

6.

CEFNOGAETH GYSYLLTIEDIG Â THAI AR GYFER POBL HŶN YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cefnogi a Gofal Tai (copi ynghlwm) yn amlinellu'r newidiadau a wneir i Wasanaeth Warden Tai Gwarchod y Cyngor.

9.35 a.m. – 10.05 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a amlinellai'r newidiadau i Wasanaeth Wardeiniaid Tai Gwarchod y Cyngor, yn dilyn Adolygiad Aylward yn 2010, a fersiwn ddiwygiedig o'r Canllawiau Grant Cefnogi Pobl a gyflwynwyd yn 2012.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau mai mentrau Llywodraeth Cymru oedd yn ysgogi'r newidiadau, yn enwedig newidiadau i'r Grant Cefnogi Pobl. Byddai hyn yn creu gwasanaeth tecach i'r holl breswylwyr ac arnynt angen gwasanaethau Cefnogaeth i Fyw'n Annibynnol, yn hytrach na bod y gwasanaethau hynny ond yn hygyrch i rai a oedd yn byw mewn llety gwarchod. Rhoddwyd sicrwydd na fyddai'r gefnogaeth yn cael ei thynnu'n ôl oddi wrth y defnyddwyr gwasanaeth presennol ac arnynt angen y ddarpariaeth dan sylw.  Eglurodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr achos dros newid ac adroddodd am y gwasanaeth newydd a oedd yn cael ei roi ar waith fesul cam yn rhai o gynlluniau llety gwarchod y Cyngor.

 

Roedd aelodau’r pwyllgor yn croesawu’r gwasanaeth newydd fel dull o sicrhau darpariaeth ehangach o fewn yr adnoddau presennol, gyda mwy o bwyslais a ffocws ar ddarparu gwasanaethau sy'n grymuso yn hytrach na rhai sy'n annog dibyniaeth. Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r trefniadau newydd a lefel y gefnogaeth fyddai'n cael ei darparu, yn enwedig ar gyfer preswylwyr mewn llety gwarchod, er mwyn sicrhau na fyddai hyn yn eu rhoi dan anfantais, ac na fyddai defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo wedi'u hynysu yn eu cartrefi eu hunain.  Tynnwyd sylw at y pwysigrwydd o fonitro'r gwasanaeth newydd ac o fesur canlyniadau, ynghyd â sicrhau cysylltiadau effeithiol â gwasanaethau eraill sy'n darparu gofal a chymorth, a gofynnwyd am sicrwydd ynghylch hynny.  Dyma oedd ymateb y swyddogion -

 

·        Manylwyd ar natur y gefnogaeth fyddai'n cael ei darparu i sicrhau bod unigolion yn parhau i fod yn annibynnol ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth eraill fel bo'n briodol.

·        Eglurwyd y byddai pwll o Swyddogion Cefnogaeth i Fyw’n Annibynnol wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r gwasanaeth. Fel hyn gellid trefnu bod staff ar gael yn ystod absenoldeb salwch neu wyliau, ac y byddai'r ddarpariaeth y tu allan i oriau'n parhau.

·        Cafwyd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol er lles cyffredinol drwy greu pedair swydd newydd i sicrhau cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol.

·        Cadarnhawyd y byddai'r gwasanaeth ar gael i breswylwyr lleol fel bo'r angen, ac y gellid cael mynediad i'r gwasanaeth droeon pe bai hynny'n briodol, a hynny ar y cyd â gwasanaethau gofal cymdeithasol neu iechyd.

·        Byddai polisi tecach yn cael ei weithredu ar gyfer taliadau, gyda rhai categorïau wedi'u heithrio rhag gorfod talu, ac roedd hi'n annhebygol iawn y byddai unrhyw gategori o dan anfantais ariannol o ganlyniad i'r newidiadau.

·        Byddai defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn llawn yn y gwaith o ddatblygu eu Cynllun Cymorth, y gallent ei ddefnyddio i ddwyn y gwasanaeth i gyfrif.

·        Eglurwyd y gwahaniaeth rhwng y cynlluniau cymorth a'r pecynnau gofal a oedd yn ddwy swyddogaeth ar wahân, a'r rhyngweithio rhwng y naill a'r llall.

·        Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r gwasanaeth newydd yn cael ei werthuso a'i fonitro'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn darparu'r cymorth yr oedd ar y preswylwyr ei angen.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid cefnogi'r ymagwedd sy'n cael ei mabwysiadu er mwyn darparu cefnogaeth gysylltiedig â thai i bobl hŷn yn y sir.

 

 

7.

RHAGLEN AILWAMPIO STOC TAI'R CYNGOR pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi ynghlwm) yn manylu’r dull i ddod â'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru, ac yn amlinellu materion a wynebwyd a'r gwersi a ddysgwyd o'r profiad.

10.05 a.m. – 10.35 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a fanylai ar yr hyn a wnaed er mwyn gwella'r Stoc Tai hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), ac amlinellodd y problemau a gafwyd a'r gwersi a ddysgwyd yn sgil y profiad hwnnw.

 

Eglurodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (PTDC) fod y mwyafrif o stoc tai'r Cyngor bellach wedi'i adnewyddu er mwyn cyrraedd SATC.  Dechreuwyd y rhaglen ailwampio tai yn 2005 a rhoddwyd wyth o gontractau tai ar dendr.  Roedd contractau 1-7 wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, ond roedd problemau sylweddol wedi codi gyda Chontract 8, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd wrth sefydlu contractau cyfalaf tai yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Cynghorwyr Cefyn Williams, Rhys Hughes, Hugh Evans a Stuart Davies yr amrywiaeth o broblemau a gafwyd gan denantiaid yn eu hardaloedd yn ystod y rhaglen ailwampio. Soniodd y Cynghorydd Cheryl Williams am ei phrofiad hi ei hun fel tenant Cyngor, a phrofiadau aelodau ei ward yn 2010, yn enwedig y diffyg parch tuag at denantiaid a'u heiddo.  Cynigiodd sawl awgrym er mwyn gwella arferion, gan gynnwys dwyn contractwyr i gyfrif pan fyddai eiddo personol yn cael ei ddifrodi, hap-wiriadau ar ansawdd y gwaith, atgyweirio gwaith diffygiol yn gyflym, a threfniadau gwell ar gyfer fetio darpar gontractwyr.

 

Holwyd y swyddogion gan yr aelodau ynglŷn â'r problemau a gafwyd er mwyn iddynt fod yn fodlon bod mesurau digonol yn cael eu cyflwyno i sicrhau na fyddai yr un problemau'n codi eto yn y dyfodol.  Roedd y pwyllgor o'r farn y dylid dilyn proses gaffael gref a chlir yn y dyfodol ar gyfer prosiectau mawr tebyg i'r prosiect hwn, a oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau, ac i gefnogi hynny y dylid sefydlu trefniadau cadarn ar gyfer monitro a rheoli contractau.  Cyfeiriwyd yn arbennig at rôl bwysig Clerc Gwaith a chanddo ddigon o awdurdod i weithredu a digon o gefnogaeth.  Yn ogystal â hyn, dylid cyfarwyddo contractwyr i barchu urddas tenantiaid a'u hawl i breifatrwydd yn eu cartrefi eu hunain, ac i ymddwyn mewn modd cwrtais, parchus ac urddasol yn eu gŵydd.

 

Derbyniodd y PTDC y materion a godwyd ac ymddiheurodd am y problemau a gafwyd.  Aeth y swyddogion ati i ymhelaethu ar yr arferion a'r trefnau a fabwysiadwyd yn ystod y rhaglen, ynghyd â ffactorau a gyfrannodd at y perfformiad gwael, gan gynnwys ansawdd isgontractwyr a gyflogwyd o du hwnt i ffiniau'r ardal.  Manylwyd ar y mesurau fyddai'n cael eu cyflwyno i liniaru pryderon yr aelodau ac i sicrhau na fyddai'r problemau a gafwyd yn codi eto, yn enwedig -

 

·        cymalau mewn contractau'n gysylltiedig â defnyddio cadwynau cyflenwi a gweithwyr lleol

·        rhoi mwy o bwys ar ansawdd yn hytrach na chost wrth sgorio ceisiadau yn y dyfodol

·        defnyddio cymalau cwblhau adrannol mewn contractau yn y dyfodol er mwyn rhoi mwy o reolaeth i'r cleient dros y rhaglen (bydd hyn o gymorth er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar denantiaid)

·        cadarnhau rolau a chyfrifoldebau a gwerthuso a monitro'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo

·        sicrhau bod gwaith diffygiol yn cael ei unioni o fewn cyfnod rhesymol o amser.

 

PENDERFYNWYD yn achos pob contract ailwampio tai yn y dyfodol -

 

(a)       yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid nodi'r gwersi a ddysgwyd yn sgil Rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru;

 

(b)       y dylid gwneud gwaith i gryfhau trefnau caffael mewn perthynas â rhaglenni buddsoddi cyfalaf mawr, ac y dylai'r gwaith hwnnw gynnwys cryfhau'r rheolaeth ar gontractau, ansawdd contractau a threfnau monitro contractau;

 

(c)        y dylid cynnwys gofyniad mewn contractau yn y dyfodol i gontractwyr barchu eiddo  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

STRATEGAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 141 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrch yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda Chynllun Gweithredu’r Strategaeth Gyfathrebu ac amcanion ar gyfer y deuddeg mis nesaf, a chyflwyno'r protocol drafft ar gyfathrebu gydag aelodau.

10.35 a.m. – 11.05 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol (RhCMC) yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) gan roi’r newyddion diweddaraf am y cynnydd a gafwyd gyda Chynllun Gweithredu'r Strategaeth Gyfathrebu a'r amcanion ar gyfer y deuddeg mis nesaf. Hefyd, cyflwynodd ddrafft o'r protocol ar gyfer cyfathrebu â'r aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·        yr angen i'r ddolen 'Cysylltu â ni' fod yn fwy amlwg ar wefan y Cyngor

·        yr angen i'r calendr digwyddiadau newydd 'EMMA' fod yn fwy hygyrch i'r aelodau ac wedi'i gyfeirio'n briodol.

·        yr angen i hysbysu'r aelodau am ddigwyddiadau - digwyddiadau'r Cyngor, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU neu ddigwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal yn eu his-adran etholiadol (ddim i gael gwahoddiad i'r digwyddiad o reidrwydd, ond i fod yn ymwybodol ohono). Yn ogystal â hyn, dylid ymgysylltu'n well â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned mewn perthynas â digwyddiadau ardal leol.

·        mynegwyd pryderon gan rai aelodau ynghylch ansawdd cyfieithu adroddiadau pwyllgor ayyb, ers i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddarparu'r gwaith.

·        roedd rhai'n teimlo bod y Cyngor yn colli cyfle wrth ymdrin â'r cyfryngau, a bod angen mabwysiadu dull llawer mwy rhagweithiol

·        yr angen i farchnata'r Cyngor yn y dull cywir ac i uniaethu'n well â phreswylwyr lleol wrth lunio datganiadau i'r wasg

·        cadarnhawyd y byddai sesiynau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau i'r aelodau yn cael eu cynnwys yn rhan o gynllun gweithredu Blwyddyn 2 ar gyfer y Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol

·        yr angen i asesu'r adegau pan na fyddai'n briodol ymuno â dadl gyhoeddus ar faterion

·        asesu manteision cyhoeddi 'safbwynt neu farn Sir Ddinbych' ar faterion neu gynigion cenedlaethol penodol.

 

Adroddodd y RhCMC ar y Broses Rheoli Cyfrifon er mwyn cyfathrebu'n well ag adrannau a sicrhau bod materion posib yn gysylltiedig â'r cyfryngau'n cael eu nodi'n fuan a strategaeth yn cael ei chynllunio i'w datrys.  Ymhelaethodd hefyd ar strategaethau i godi proffil yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar raddfa genedlaethol.  O ran teilwra datganiadau i'r wasg, nododd yr aelodau fod deddfwriaeth yn atal y Cyngor rhag dyfynnu ar ran aelodau unigol ar wahân i aelodau Cabinet, a hynny oherwydd cyfyngiadau gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)     yn amodol ar ddatrys y materion uchod, y dylid nodi'r cynnydd a wnaed o ran Cynllun Gweithredu Blwyddyn 1;

 

(b)     y dylid cynnwys y materion a nodwyd uchod yng Nghynllun Gweithredu Blwyddyn 2, ac

 

(c)     y dylid cefnogi'r protocol drafft ar gyfathrebu â'r aelodau tra'n aros iddo gael ei gymeradwyo gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac y dylid tynnu sylw'r staff at y protocol wedi iddo gael ei gymeradwyo.

 

 

9.

GWELL RHEOLEIDDIO SAFLEOEDD CARAFANNAU pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Datblygu (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar ddeddfwriaeth berthnasol newydd Llywodraeth Cymru ar reoleiddio safleoedd carafannau a'i oblygiadau i’r Cyngor.

11.15 a.m. – 11.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu (RhRhD) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a roddai'r newyddion diweddaraf am ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar ddod yn Llywodraeth Cymru ynghylch rheoleiddio safleoedd carafanau, a goblygiadau hynny i'r Cyngor.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau na chafwyd y cynnydd a ragwelwyd yn wreiddiol gyda drafft y Strategaeth Carafanau, a hynny oherwydd ymarfer ad-drefnu staff o fwn y gwasanaeth a'r ddeddfwriaeth oedd ar ddod gan Lywodraeth Cymru.  Roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar y Bil Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru) ac roedd y Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi dod i rym ar 1 Hydref 2013.  Mae'r canfyddiad bod pobl yn preswylio mewn carafanau yn y sir drwy'r flwyddyn gron wedi bod yn bryder i aelodau a swyddogion fel ei gilydd ers tro.  Byddai Swyddogion Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu yn cyfarfod yn rheolaidd i archwilio materion a oedd yn destun pryder, ac roedd dau erlyniad ar ddod am dorri amodau trwydded.  Nodwyd rheoleiddio safleoedd carafanau yn well fel un o'r blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ei ad-drefnu.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at nifer o achosion lle cafwyd amheuon bod carafanau'n cael eu defnyddio i ddibenion preswyl parhaol o fewn y sir.  Mynegwyd amheuon ynghylch gallu'r Gwasanaeth i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth newydd neu gymryd camau gorfodi yn erbyn achosion o dorri amodau cynllunio/trwyddedu oherwydd prinder adnoddau.  Nodwyd y gellid ystyried hunanwerthusiadau o safleoedd carafanau gan berchnogion a'r posibilrwydd o sefydlu trefn i godi tâl am arolygu safleoedd fel ffordd o gynhyrchu incwm i ariannu camau gorfodi.  Holodd yr aelodau a ellid defnyddio cofrestrau etholiadol, cofnodion ysgolion neu gofnodion treth y cyngor/budd-dal tai er mwyn dilysu preswyliaeth. Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â'r effaith bosibl ar Wasanaethau Tai'r Cyngor pe bai camau gorfodi'n cael eu cymryd yn erbyn pobl a oedd yn byw ar safleoedd carafanau drwy'r flwyddyn, a'r safleoedd hynny heb drwydded ar gyfer preswylio dros 365 o ddiwrnodiau.  Adroddodd y RhRhD ar waith i lunio drafft o Fframwaith Strategaeth Safleoedd Carafanau yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth a oedd ar ddod, a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion a godwyd.  Ymatebodd hefyd i gwestiynau'r aelodau ynglŷn â'r agweddau cyfreithiol oedd yn rheoli cartrefi mewn parciau, lleoli carafanau a materion cynllunio.

 

Ar ôl cynnal trafodaeth fanwl ymhlith yr aelodau -

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid nodi cyfeiriad y prosiect ac y dylid cyflwyno'r drafft o Fframwaith Strategaeth Safleoedd Carafanau gerbron y Pwyllgor i'w archwilio maes o law.

 

 

10.

RHAGLEN Y RHYL YN SYMUD YMLAEN – ADRODDIAD CHWARTEROL pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried adroddiad gan y Reolwr Datblygu Busnes Economaidd (copi ynghlwm), sy’n rhoi diweddariad ar Raglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau cyflwyno ei ganlyniadau rhagweledig.

11.45 a.m. – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen.

 

Hysbyswyd aelodau'r pwyllgor fod Bwrdd y Rhaglen wedi cytuno i adolygu'r rhaglen er mwyn sicrhau bod y prosiectau'n gyfredol ac yn addas i'r diben.  Yn y dyfodol, byddai gwybodaeth o Fynegai Amddifadedd Lluosog y Wardiau yn cael ei chynnwys gyda'r nod yn y pen draw o sicrhau na fyddai unrhyw ward yn y Rhyl yn disgyn i'r categori hwn ar ôl cyflawni'r rhaglen.  Er bod nifer o'r prosiectau wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, roedd pryderon ynghylch nifer y cyfleoedd am swyddi a grëwyd, a byddai angen i hyn fod yn nodwedd gref ym mhrosiectau'r dyfodol.  Hefyd, roedd angen bod yn fwy strategol wrth fuddsoddi, a byddai'r Cyngor yn gofyn am gyfraniad gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu mentrau yn y dyfodol.

 

Dyma'r datblygiadau a gafwyd ers llunio'r adroddiad-

 

·        ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn gysylltiedig â'r cais cynllunio i ddarparu Man Gwyrdd yng Ngorllewin y Rhyl.

·        roedd y safle datblygu ar John Street/Rhodfa’r Gorllewin bellach ar y farchnad

·        roedd trafodaethau ar y gweill ar y ffordd orau o ddefnyddio'r £1m a neilltuwyd drwy'r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

·        roedd y Bwrdd Iechyd wedi dechrau ymgysylltu â swyddogion ynglŷn â'r ysbyty cymunedol

 

Cyfeiriwyd at drefniadau llywodraethu'r Rhaglen, a rhoddwyd sicrwydd bod i'r Rhaglen drefniadau llywodraethu cadarn a bod disgwyl i aelodau'r Bwrdd adrodd yn ôl wrth randdeiliaid ar gynnydd y Rhaglen.  Trafododd yr Aelodau ddatblygiad safle Ocean Plaza, gan godi pryderon ynglŷn â'i ymddangosiad blêr a'r diffyg cynnydd a welwyd o ran cymryd camau gorfodi.  Rhoddwyd sicrwydd bod ymdrechion ar waith i fynd i'r afael ag ymddangosiad y safle.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid nodi'r cynnydd a wnaed a gofyn am gael cyflwyno adroddiadau pellach ar Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen gerbron y Pwyllgor bob chwarter, ar ffurf adroddiad gwybodaeth gyda darpariaeth i'r Pwyllgor alw'r Rhaglen i mewn i gael ei harchwilio os daw agweddau sy'n peri pryder i'r amlwg.

 

11.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau ar faterion perthnasol.

12.15 p.m. – 12.30 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn gofyn i'r aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor i'r dyfodol, ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf am faterion perthnasol.

 

Cytunodd yr aelodau ar y diwygiadau canlynol i'r rhaglen waith -

 

·        Adolygiad Cynlluniau Tref ac Ardal - gohirio hyd fis Medi

·        Moderneiddio Addysg - Mehefin

·        Strydwedd (adroddiad cynnydd) - Medi

 

Awgrymwyd y gallai'r aelodau nodi meysydd i'w harchwilio o fewn y Cynllun Corfforaethol ac adrodd yn ôl wrth Grŵp y Cadeiryddion a'r Is-gadeiryddion.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       yn amodol ar yr uchod, ac ar unrhyw newidiadau eraill y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, y dylid cymeradwyo'r rhaglen waith i'r dyfodol, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a

 

(b)       y dylid ailbenodi Cynrychiolwyr Archwilio'r Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau a'r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion.

 

12.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

12.30 p.m.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelodau eu bod wedi bod i'r cyfarfodydd canlynol -

 

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - Bwrdd Uchelgais Economaidd

Y Cynghorydd Cefyn Williams - Rhianta Corfforaethol

Y Cynghorydd Win Mullen-James – Grŵp Herio'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm