Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganodd yr un o’r Aelodau unrhyw gysylltiad personol na rhagfarnol mewn unrhyw fusnes a oedd wedi’i nodi ar gyfer ei ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau a ddylai gael eu hystyried fel mater o frys ym marn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

4.

Y POLISI PARCIO AC YMARFER CWMPASU’R ADOLYGIAD TRAFFIG A PHARCIO pdf eicon PDF 167 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2014 (copi'n amgaeëdig).

 

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (PGPacA), a oedd yn rhoi trosolwg o’r polisi parcio drafft newydd ac yn manylu ar yr ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd i asesu opsiynau ar gyfer cynnal Adolygiad Traffig a Pharcio (ATaPh) ar gyfer y prif drefi ar draws Sir Ddinbych, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Adain: Traffig a Thrafnidiaeth (RhATaTh) yr adroddiad a oedd yn dilyn yr un a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2013, Atodiad A, pan gytunwyd y byddai’r polisi parcio’n cael ei adolygu ac y byddai ymarfer cwmpasu’n cael ei gynnal i asesu’r opsiynau ar gyfer ATaPh.

 

Roedd rhai eitemau yn y Polisi presennol, Atodiad B, yn dal yn berthnasol gyda rhai wedi cael eu disodli oherwydd datblygiadau wedi hynny. Roedd y polisi newydd, Atodiad C, yn mabwysiadu dull a oedd yn cydnabod y rôl y gallai rheolaeth parcio effeithiol ei chyflawni o ran cefnogi’r economi leol. Gallai cyfundrefn barcio a reolir yn dda gael effaith gadarnhaol o ran cynorthwyo canolfan adwerthu. Roedd y deg blaenoriaeth yn y polisi newydd wedi cael eu rhestru yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd mai Cam Gweithredu 5.1d yn y “Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol” fu cynnal ATaPh ar gyfer y prif drefi ar draws Sir Ddinbych. Roedd yr ymarfer wedi arwain at ddatblygu methodoleg awgrymedig ar gyfer yr ATaPh a oedd wedi’i chynnwys yn Atodiad D. Roedd adborth oddi wrth y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol wedi cael ei ymgorffori yn y fethodoleg.

 

Darparodd y CC-UEaCh a’r Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (PTaDC) fanylion yr adolygiad a’i arwyddocâd o ran adnabod anghenion y trigolion, busnesau lleol, a’i bwysigrwydd o ran hybu a chefnogi’r economi leol.

 

Roedd yr ATaPh wedi cael ei gynnig i arfarnu sut y gallai rheolaeth parcio a thraffig gyfrannu at y Flaenoriaeth Gorfforaethol i ddatblygu’r economi leol, ac roedd wedi cael ei gydnabod na allai darpariaeth parcio ar ei phen ei hun ddylanwadu ar hyfywedd a ffyniant canolau trefi. Roedd pwysigrwydd arwyddion da, darparu mynediad diogel ar gyfer cerddwyr, beicwyr, cludiant teithwyr a’r rhai â nam ar eu symudedd wedi cael ei amlygu hefyd. Nodwyd y gallai tagfeydd traffig neu “rwydd hynt i bawb” barcio o bosib greu amgylchedd anatyniadol, anniogel a digroeso.

 

Cafodd manylion y data a ddarparwyd gan fesuryddion talu ac arddangos presennol ei amlinellu, ac eglurwyd fod diffyg data mewn meysydd penodol ar hyn o bryd wedi ei gwneud yn anos arfarnu ac asesu’r costau cysylltiedig. Roedd y man cychwyn arfaethedig ar gyfer yr ATaPh wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad, a’r cam terfynol fyddai adnabod datrysiadau posib i geisio gwella dylanwad rheolaeth traffig a pharcio yng nghanol trefi. Roedd crynodeb o’r costau wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

Hysbyswyd yr Aelodau y byddai angen i’r adolygiad o’r polisi parcio gael ei gynnal o fewn cyllidebau presennol gwasanaethau, a bod angen asesu’r effaith ar gostau a lefelau incwm yn ystod adolygiadau. Byddai angen i’r pwysau cyllidebol cyfredol, yn bennaf mewn perthynas â meysydd parcio Prestatyn a’r Rhyl, gael eu hystyried fel rhan o’r adolygiadau. Roedd dogfen Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei chynnwys yn Atodiad E.

 

Trafododd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad yn fanwl ac fe nodwyd y camau gweithredu a’r materion canlynol:-

 

·  yr angen i gysylltu â Chynghorau Tref ynghylch y diwrnodau mwyaf priodol i’w clustnodi fel ‘diwrnodau parcio am ddim’ i sicrhau nad yw’r Sir yn dioddef colledion incwm sylweddol.

·  ei bod yn bwysig sicrhau bod yr holl fesuryddion talu ac arddangos yn casglu data perthnasol a defnyddiol i alluogi’r Cyngor i’w ddefnyddio’n effeithiol.

·  angen i feysydd parcio fod ag arwyddion eglur ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CYNLLUN LLWYBRAU DIOGEL pdf eicon PDF 90 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n amgaeedig) sy'n manylu’r fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SRIC), ac sy’n amlinellu’r fenter a'r prosesau sy'n gysylltiedig yn ystod amrywiol gamau'r prosiect.

                                                                                                         10.10 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (PGPacA), a oedd yn manylu ar y fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (LlDMC), ac yn rhoi cefndir y fenter yn ogystal â’r prosesau i’w dilyn ar yr amryw gamau mewn prosiect a gyllidir â Grant LlDMC Llywodraeth Cymru, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y PGPacA yr adroddiad a chyfeiriodd at broblemau parcio sy’n gysylltiedig ag ysgolion a oedd yn aml yn waeth mewn ysgolion trefol. Roedd yr adroddiad yn amlygu prif nod prosiectau LlDMC, ac roedd Atodiad A yn cynnwys manylion prosiectau LlDMC a gyflawnwyd ers 2006. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r broses weinyddol ar gyfer cynlluniau LlDMC a gyflawnwyd, a oedd yn cynnwys cynhyrchu Cynllun Teithio gan y priod ysgolion/cymunedau.

 

Roedd y Cynghorydd E.A. Jones a Chyngor Tref Bodelwyddan wedi mynegi pryderon ynghylch y modd yr oedd prosiect LlDMC Bodelwyddan yn cael ei reoli. Darparodd y Cynghorydd E.A. Jones grynodeb o’r problemau yr oedd trigolion ym Modelwyddan wedi’u hwynebu, gan gyfeirio’n arbennig at faterion a oedd wedi codi yn dilyn gweithredu cynllun gostegu traffig ar Ronaldsway yr honnwyd ei fod wedi gwaethygu’r problemau yn yr ardal. Mynegodd y Cynghorydd Jones y farn bod hwn wedi bod yn gynllun cymhleth mewn ardal fechan ac roedd pryderon wedi cael eu mynegi ynghylch ansawdd a safon y gwaith, yn enwedig mewn perthynas â darparu’r clustogau arafu.

 

Cafodd y gwahaniaethau a awgrymwyd rhwng y cynllun a oedd wedi’i gytuno a’r hyn a weithredwyd eu hamlygu ac roeddent wedi’u cynnwys yn Atodiad B. Dim ond Cam 1 o’r cynllun oedd wedi cael ei weithredu hyd yma a darparwyd manylion y broses ymgynghori a oedd wedi cael ei mabwysiadu. Roedd yr ardal gollwng teithwyr wedi cael ei hychwanegu yn dilyn ceisiadau a gafwyd yn yr ymatebion ymgynghori, ac nid oedd hyn wedi cael ei gyfleu i Bwyllgor Teithio’r Cyngor Tref tan ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno oherwydd diffyg amser. Roedd y raddfa amser dynn wedi codi oherwydd awydd y Pwyllgor Teithio i’r cynllun ddechrau cyn gynted â phosib, yn hytrach na disgwyl am y cylch cyllido nesaf. Roedd y farn wedi cael ei mynegi nad oedd y Cyngor Tref wedi ymgysylltu’n llawn â’r prosiect ac y bu diffyg perchnogaeth ar y cynllun.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun hwn, gan fod y newid mewn meini prawf wedi arwain at ddryswch ynglŷn â’r Cynllun. Nododd Aelodau’r problemau a oedd wedi codi gyda’r Cynllun ym Modelwyddan a chytunwyd fod llinellau ymgysylltu a chyfathrebu eglur rhwng y Cyngor Sir, contractwyr, Cynghorau Tref a Chymuned a’r cyhoedd yn hollbwysig er mwyn i gynlluniau o’r fath gael eu cyflawni’n llwyddiannus. Fe ofynnon nhw hefyd i swyddogion gynnal cyswllt â’r Cynghorydd E.A. Jones a’r Grwpiau Ardal Aelodau mewn perthynas â phroblemau penodol a chanlyniadau’r cynllun ym Modelwyddan.

 

Cytunodd yr Aelodau y byddai llythyr yn cael ei anfon gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor at Weinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru’n erfyn arni i adolygu’r meini prawf ar gyfer y Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’i gyfyngu yn y dyfodol i lwybrau diogel i ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a) yn amodol ar y sylwadau a ddarparwyd, fod y Pwyllgor yn cefnogi ceisiadau parhaus am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Sir Ddinbych
(b) y byddai llythyr yn cael ei anfon gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor at Weinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru’n erfyn arni i adolygu’r meini prawf ar gyfer y Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’i gyfyngu yn y dyfodol i lwybrau diogel i ysgolion.

 

6.

GORCHMYNION RHEOLI CŴN pdf eicon PDF 93 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) ar y posibilrwydd i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a'u perchnogion ar draws y Sir.

                                                                                                       10.55 a.m.

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (PCaGC), a oedd yn manylu ar y potensial i’r Cyngor gyflwyno rheolaethau cyfreithiol ychwanegol dros gŵn a’u perchnogion ledled y Sir, wedi cael ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.


Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a hysbysodd yr Aelodau ynghylch pwerau cyfreithiol ychwanegol sydd ar gael i gymryd camau gorfodi yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol, a gofynnodd am gymeradwyaeth i ganiatáu i swyddogion ganlyn arni ag ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cyflwyno Gorchmynion Rheoli Cŵn ledled y Sir.

 

Roedd Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd cwynion yn dod i law yn fynych ynghylch baeddu gan gŵn ac roedd pwerau cyfredol yn cyfyngu ar y camau gweithredu y gellid eu cymryd yn erbyn perchnogion cŵn a oedd yn caniatáu i’w cŵn faeddu mewn ardaloedd penodol. Roedd dadl glir o safbwynt iechyd y cyhoedd a gwella amwynder dros gyflwyno mwy o reolaethau cyfreithiol, ar ffurf Gorchmynion Rheoli Cŵn, i fynd i’r afael â phroblem rheoli cŵn mewn ffordd wahanol a mwy cadarn. Roedd baeddu gan gŵn yn cael ei reoli ar hyn o bryd gan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, a oedd yn ei gwneud yn anghyfreithlon methu â chodi baw wedi i’ch ci faeddu tir.

Fodd bynnag roedd esemptiadau ar gyfer rhai mathau o dir cyhoeddus gan gynnwys tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu goetiroedd, tir comin gwledig, tir sy’n bennaf yn gorstir, gweundir neu rostir a thir priffordd â therfyn cyflymder o 40mya neu fwy. Nid oedd modd cymryd camau gorfodi ar hyn o bryd yn yr ardaloedd hyn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Smith fod cynnig yn cael ei wneud i gyflwyno 3 Gorchymyn Rheoli Cŵn yn amodol ar ymgynghori â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Roedd y Gorchmynion hyn yn cynnwys:-

 

·                 Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn (CSDd) Drafft 2014.  Byddai hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon baeddu ar unrhyw dir o fewn ardal weinyddol y Cyngor oni bai fod yr unigolyn wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr.

 

·                 Gorchymyn Cŵn ar Dennyn yn ôl Cyfarwyddyd (CSDd) Drafft 2014.  Byddai hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon bod â chi yn eich gofal nad oedd ar dennyn ar unrhyw briffordd neu unrhyw dir arall oedd ag arwydd eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod yn rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn. Roedd yr ardaloedd o ‘dir arall’ wedi cael eu diffinio yn Atodiad 1.

 

·                 Gorchymyn Gwahardd Cŵn (CSDd) Drafft 2014. Byddai hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gŵn fynd i mewn i ardal ddynodedig oedd ag arwyddion eglur ym mhob mynedfa’n dynodi bod cŵn wedi’u gwahardd yn benodol. Byddai’r ymgynghoriad yn nodi pa ardaloedd yn union y gellir eu cynnwys fel ardaloedd gwahardd, ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad 2.

 

Byddai torri Gorchmynion yn gyfystyr â thramgwydd troseddol a gellid naill ai erlyn amdano yn y Llys Ynadon neu roi’r cyfle i berchennog y ci dalu HCB rhwng £75 a £150. Y gosb ariannol ar hyn o bryd oedd £75 a byddai’r dull gorfodi llym mewn perthynas â methiant i dalu’r HCB yn parhau, gyda phobl sy’n dewis peidio â thalu eu HCB yn cael eu herlyn. Cynigiodd y Cynghorydd H.O. Williams, gyda’r Cynghorydd C.H. Williams yn eilio, welliant bod yr HCB yn cael ei godi o £75 i £100. Roedd y bleidlais yn gyfartal a defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad yn yr adroddiad,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

KINGDOM pdf eicon PDF 88 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ar weithgareddau gorfodi swyddogion Kingdom at ddiben troseddau amgylcheddol, a chost a manteision y trefniadau presennol.

 

                                                                                                         11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, a oedd yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar weithgareddau Kingdom Security Ltd (KSL) i orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, sut yr oedd y gwasanaeth wedi cael ei reoli a’i ddatblygu dros y 12 mis diwethaf, a’r costau cysylltiedig, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor, ym mis Hydref 2012, wedi penodi KSL i gyflawni rôl bwysig gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol ledled y Sir. Roedd KSL yn gyfrifol am orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol megis gadael sbwriel, baeddu gan gŵn, gosod posteri’n anghyfreithlon, ysmygu mewn man amgaeëdig a graffiti. Baeddu gan gŵn oedd y trosedd yr oedd pobl yn cwyno amdano’n fwyaf mynych, a gadael sbwriel oedd y trosedd y rhoddwyd y mwyaf o HCBau amdano. 

 

Roedd rôl a chylch gwaith swyddogion KSL wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Roedd papurau briffio aelodau wedi cael eu hanfon at yr holl Aelodau a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn chwarterol i ddarparu diweddariadau ar weithgareddau swyddogion a nifer yr HCBau a oedd wedi cael eu rhoi. Roedd Atodiad 1 yn ymgorffori’r papur briffio diweddaraf ar gyfer Aelodau.

 

Roedd ymgyrchoedd arbennig wedi cael eu cynnal i fynd i’r afael ag ardaloedd lle’r oedd baeddu gan gŵn yn broblem, a’r rheiny’n cynnwys ymgyrchoedd yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau mewn lleoliadau amrywiol. Roedd teledu cylch cyfyng wedi cael ei ddefnyddio i ategu’r ymgyrchoedd ac roedd digwyddiad addysgol llwyddiannus a barodd am wythnos wedi cael ei gynnal ar Stryd Fawr y Rhyl.

 

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint darparodd cynrychiolwyr KSL ddeunydd fideo ar gyfer yr Aelodau a oedd yn dangos HCB yn cael ei roi ar Coast Road rhwng y Rhyl a Phrestatyn.

 

Roedd gwybodaeth ariannol a manylion cefndir yr HCBau wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd cyfanswm y patrolau a gwblhawyd ledled y Sir a nifer y rhybuddion a’r rhybuddiadau a roddwyd wedi cael eu hymgorffori yn Atodiad 2. Hysbyswyd yr Aelodau fod manylion cwynion a gafwyd ers mis Hydref 2012, y weithdrefn ymchwilio a fabwysiadwyd, y broses ymgynghori, risgiau a chamau a gymerwyd i fynd i’r afael â hwy wedi cael eu darparu hefyd.

 

Cafodd yr Aelodau fanylion y cynllun “amser i’w finio i fod ar eich ennill” a gyflwynwyd gan KSL i roi mwy o gymhelliad i’r cyhoedd waredu eu sbwriel a gwastraff cŵn mewn modd cyfrifol. Amlygodd y Cynghorydd Smith bwysigrwydd cynnal momentwm y gwaith a oedd yn cael ei wneud o ran gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol yn y Sir.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd R.M. Murray ynghylch darparu canllawiau ac eglurder mewn perthynas â’r gofyniad i swyddogion KSL wisgo iwnifformau swyddogol wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, eglurodd cynrychiolwyr KSL fod y wisg hamdden yn fwy ffafriol wrth gyflawni rhai gweithgareddau, megis y rhai sy’n ymwneud â throseddau baeddu gan gŵn. Eglurodd cynrychiolwyr KSL na fyddent yn gallu rhoi ymateb pellach i unrhyw gwynion a gafwyd tra’u bod yn disgwyl am ddadansoddiad llawn o unrhyw dystiolaeth gysylltiedig. Hysbyswyd y Cynghorydd Murray y byddai’n cael ymateb manwl, a allai fod yn gysylltiedig ag aelodau o’r cyhoedd, wedi i’r ymchwiliadau gael eu cwblhau. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau y byddai swyddogion KSL yn gwisgo iwnifformau swyddogol yn y dyfodol wrth gyflawni dyletswyddau yng Nghanol Trefi.

 

Cafodd manylion y defnydd o gamerâu ar y corff gan swyddogion KSL, a’r oriau pan fo swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau, eu darparu ar gyfer y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar gael eglurhad o ganllawiau’r Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

PARKING POLICY AND PARKING AND TRAFFIC REVIEW SCOPING EXERCISE pdf eicon PDF 90 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n amgaeëdig) ar y polisi parcio ac ymarfer cwmpasu adolygu parcio a thraffig.

                                                                                                            9.35 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A copy of a report by the Head of Highways and Environmental Services (HHES), which provided an overview of the draft new parking policy and detailed the scoping exercise carried out to assess options for conducting a Traffic and Parking Review (TPR) for the main towns across Denbighshire, had been circulated with the papers for the meeting. 

 

The Section Manager: Traffic and Transportation (SMTT) introduced the follow up report to the one submitted in November, 2013, Appendix A, when it had been agreed that the parking policy be reviewed and a scoping exercise be undertaken to assess the options for a TPR.

 

Some items in the existing Policy, Appendix B, were still relevant with some having been superseded due to subsequent developments.  The new policy, Appendix C, adopted an approach which recognised the role that effective management of parking could play in supporting the local economy.  A well-managed parking regime could have a positive effect in assisting a retail centre.  The ten priorities in the new policy had been listed in the report.

 

It was explained that Action 5.1d in the “Economic and Community Ambition Strategy” had been to carry out a TPR for the main towns across Denbighshire.  The exercise had resulted in the development of a suggested methodology for the TPR which had been incorporated in Appendix D.  Feedback received from the Economic and Community Ambition Board had been incorporated in the methodology.

 

The CDECA and Head of Housing and Community Development (HHCD) provided details of the review and its significance in identifying the needs of the residents, local businesses, and its importance in promoting and supporting the local economy.

 

The TPR had been proposed to evaluate how parking and traffic management could contribute towards the Corporate Priority of developing the local economy, and it had been recognised that parking provision alone could not influence the viability and vibrancy of town centres.  The importance of good signage, provision of safe access for pedestrians, cyclists, passenger transport and those with impaired mobility had also been highlighted.  It was noted that traffic congestion or a parking “free for all” could potentially create an unattractive, unsafe and unwelcoming environment.

 

Details of the data provided by present pay and display meters had been outlined, and it was explained that a current lack of data in certain areas had made it more difficult to evaluate and assess the costs involved.  The proposed starting point for the TPR had been included in the report, with the final stage being to identify potential solutions to try and improve the influence of traffic and parking management in town centres.  A summary of the costs had been incorporated in the report.

 

Members were informed that the parking policy review would need to be undertaken within existing service budgets, with the effect on costs and income levels requiring assessment during the reviews.  The current budget pressure, primarily relating to Prestatyn and Rhyl car parks, would need to be considered as part of the reviews.  An Equality Impact Assessment document had been included as Appendix E.

 

Members discussed the contents of the report in detail and the following actions and issues were identified:-

 

·  the need to liaise with Town Councils on the most appropriate days to earmark as 'free parking days' to ensure the County does not incur substantial income losses.

·  it being important to ensure that all pay and display meters collect relevant and useful data to enable the Council to use it effectively.

·  a need for car parks to have clear signage for short and long term stays and that all signage is current  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 83 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi'n amgaeedig) yn gofyn am adolygiad o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad i’r aelodau ar faterion perthnasol.

                                                                                                          12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd Archwilio, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei rhaglen gwaith i’r dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. 

 

          Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi cael ei gynnwys fel Atodiad 2 ac roedd tabl a oedd yn crynhoi penderfyniadau diweddar gan y Pwyllgor, ac yn hysbysu ynghylch cynnydd o ran eu gweithredu, wedi cael ei atodi yn Atodiad 3 wrth yr adroddiad. 

 

Aeth y Pwyllgor ati i ystyried ei Raglen Gwaith i’r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a oedd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y diwygiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-

 

(a)            Adroddiad ar amserlennu a phrosesau monitro ansawdd ar gyfer gwaith adnewyddu tai’r Cyngor i gael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer Mai 2014. Yr adroddiad i fanylu ar welliannau o ran amserlennu a monitro gwaith i adnewyddu stoc dai’r Cyngor i sicrhau bod contractau yn y dyfodol yn cael eu monitro’n briodol i gyflawni gwaith o ansawdd uchel mewn ffordd resymegol.

 

(b)            Adroddiad ar y cynnydd a’r mesurau a gymerwyd hyd yma i gyflawni Strategaeth Gyfathrebu Gorfforaethol y Cyngor i gael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer Ebrill 2014. Yr adroddiad i nodi’r drefn gyfathrebu ddwyffordd rhwng y Cyngor a thrigolion, y wasg a chyfryngau eraill, a Chynghorwyr. Roedd Aelodau’n teimlo y byddai cyfathrebu effeithiol yn cynorthwyo’r Awdurdod i drosglwyddo’i negeseuon i drigolion trwy’r holl sianeli sydd ar gael.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r priod Aelodau Arweiniol yn cael eu gwahodd i gyflwyno’r adroddiadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T.R. Hughes, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol y byddai materion mewn perthynas â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer hen Safle Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Cynllunio i gael eu hystyried maes o law.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y diwygiadau a’r cytundebau uchod, y byddai’r Rhaglen Waith a oedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 wrth yr adroddiad yn cael ei chymeradwyo.

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

                                                                                                          12.15 p.m.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu’r cyfarfodydd Herio Gwasanaethau canlynol yn ddiweddar:-

 

Adnoddau Dynol:- Roedd gwaith yn cael ei wneud ar faterion a nodwyd. 

 

Addysg:- Cyfarfod cadarnhaol iawn, arweinyddiaeth dda gyda gwaith da’n cael ei wneud.

Cymeradwyodd y Pwyllgor gais gan y Cadeirydd bod y rhestr o Aelodau sydd wedi’u henwebu i fynychu cyfarfodydd Herio Gwasanaethau’n cael ei chylchredeg.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)    derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys, a hefyd

(b)    cylchredeg y rhestr o Aelodau sydd wedi’u henwebu i fynychu’r priod gyfarfodydd Herio Gwasanaethau.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.