Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I'R RHAN HON O'R CYFARFOD |
|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 17 Medi 2013 (copi
ynghlwm). |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a
Phennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi ynghlwm) i Aelodau edrych ar
Strategaeth Gorfodi Parcio’r Cyngor a’r effaith ar Ddatblygu Economaidd. 9.35 – 10.00 Dogfennau ychwanegol: |
|
STRATEGAETH ATAL BAW CŴN PDF 110 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Marchnata, Twristiaeth a Digwyddiadau
(Arfordirol) a'r Arweinydd Tîm Cyfathrebu Corfforaethol (copi ynghlwm) i
Aelodau adolygu cynnydd yr ymgyrch hyd yma a'r cynlluniau wrth symud ymlaen
dros y misoedd nesaf. 10.00 – 10.30 Dogfennau ychwanegol:
|
|
~~~~~~ EGWYL ( 10.30 – 10.40
) ~~~~~~ |
|
STRATEGAETH RHEOLI RISG LLIFOGYDD DRAFFT PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Perygl Llifogydd (copi ynghlwm) i
Aelodau ystyried fersiwn ddrafft derfynol y Strategaeth cyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus. 10.40 – 11.10 Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN GYFALAF PRIFFYRDD DDRAFFT 2014/15 A'R CYNNYDD AR Y STRATEGAETH DDRAFFT PDF 85 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Priffyrdd Strategol a'r Rheolwr Adran, Rheoli
Rhwydwaith (copi ynghlwm) i'r Aelodau ystyried a chytuno ar y drafft diweddaraf
o Raglen Gyfalaf Cynnal a Chadw Priffyrdd yn amodol ar newidiadau pellach yn
Grwpiau Ardal yr Aelodau. Hefyd, bod yr
aelodau'n nodi’r ddogfen Bolisi ac yn cytuno i adolygu'r canlyniad o’r
Gweithgor Strategaeth Priffyrdd. 11.10 – 11.40 Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Eiddo a'r Rheolwr Prisiad ac Ystadau (copi
ynghlwm) i Aelodau archwilio polisi'r Cyngor ar gyfer rhoi Prydlesi, yn enwedig
i grwpiau cymunedol. (Mae Atodiad 1
i'r adroddiad hwn yn ddogfen gyfrinachol) 11.40 – 12.10 Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan Gydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â materion
perthnasol. 12.10 – 12.20 Dogfennau ychwanegol: |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 12.20 – 12.25 |
|
RHAN 2 - MATERION CYFRINACHOL - EITEM 9 ATODIAD 1 Argymhellir, yn
unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod trafod y materion canlynol oherwydd y
tebygolrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraff 12
Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf, ei datgelu. |