Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Eitemau
Rhif Eitem

RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A’R CYHOEDD I FYNYCHU’R RHAN HWN O’R CYFARFOD

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd am eitemau y mae’r Cadeirydd yn credu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar  23 Mai 2013 (copi ynghlwm).

(9.35 a.m. – 9.40 a.m.)

 

 

5.

RHAGLEN Y RHYL YN SYMUD YMLAEN (ADRODDIAD CHWARTEROL)

I ystyried adroddiad (copi i ddilyn) gan Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen sy'n amlinellu'r gweledigaeth strategol tymor hir y Cyngor a’i bartneriaid ar gyfer Y Rhyl a gofyn i'r Aelodau fonitro cynnydd y Rhaglen o ran cyflawni’r canlyniadau a ragwelir, gan gynnwys uchelgais cynhyrchu incwm y Rhaglen, nodi unrhyw lithriadau gyda darparu’r Rhaglen ac argymell camau gweithredu i fynd i’r afael a nhw.

(9.40 a.m. – 10.10 a.m.)

 

 

6.

RHEOLI SAFLEOEDD CARAFANNAU pdf eicon PDF 82 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio (copi’n amgaeedig) sy'n gofyn am sylwadau Aelodau ar gynnydd y prosiect i fonitro a gorfodi rheolaethau deddfwriaethol ar safleoedd carafanau o fewn y Sir ac i reoli datblygiad safleoedd newydd yn yr ardal.

(10.10 a.m. – 10.30 a.m.)

 

 

7.

STRATEGAETH TAI LLEOL pdf eicon PDF 98 KB

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog - Strategaeth a Phartneriaethau (copi'n amgaeedig) sy'n cyflwyno i'r Pwyllgor ddrafft o'r Strategaeth Tai Lleol 2013-18 i gael sylwadau'r aelodau cyn ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghori ehangach.

(10.30 a.m. – 11.00 a.m.)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

~ ~ ~ ~ ~ EGWYL (11.00 a.m. – 11.10 a.m.) ~ ~ ~ ~ ~

 

 

 

8.

GWELLA EIN DULLIAU DARPARU GWASANAETHAU PRIFFYRDD/ TIR Y CYHOEDD pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi’n amgaeedig) sy'n amlinellu dulliau darparu Gwasanaethau Priffyrdd/  Tir y Cyhoedd y Cyngor a gofyn barn yr Aelodau ar y dull arfaethedig yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau hynny ar draws y Sir.

(11.10 a.m. – 11.30 a.m.)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

CYFLWR PRIFFYRDD Y SIR pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd Strategol (copi'n amgaeedig) sy'n gofyn i’r Pwyllgor roi sylwadau ar y broses arfaethedig ar gyfer penderfynu ar flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw priffyrdd yn y dyfodol.

(11.30 a.m. – 12.00 p.m.)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

Y NEWYDDION DIWEDDARAF AR WASANAETHAU MEWNOL A ARIENNIR GAN CEFNOGI POBL YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi’n amgaeedig) gan y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol a’r Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl sy’n gofyn i’r Pwyllgor Archwilio ystyried effaith y trefniadau newydd ar ddarparu ac ariannu gwasanaethau Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych a rhoi sylwadau ar y risgiau sy'n gysylltiedig â diogelu gwasanaethau mewnol lle mae Cefnogi Pobl yn darparu cyllid allweddol.

(12.00 p.m. – 12.30 p.m.)

 

 

11.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am faterion perthnasol.

(12.30 p.m. – 12.50 p.m.)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

12.

ADBORTH ODDI WRTH GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Cael unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am amryw Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor

 

(12.50 p.m. – 1.00 p.m.)