Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Cheryl Williams

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2013/14

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw CVs/datganiadau cyn y cyfarfod ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y pwyllgor ar gyfer 2013/14.  Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y rhai a oedd yn bresennol a chynigiodd y Cynghorydd Bob Murray y dylid penodi’r Cynghorydd Carys Guy yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau pellach -

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Carys Guy yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad personol na chysylltiadau oedd yn rhagfarnu.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd am eitemau y mae’r Cadeirydd yn credu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Trorri Gwair – Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James fod cyfarfod o’r Gweithgor Torri Gwair ar Ymylau Priffyrdd yn cael ei drefnu i drafod amserlenni torri gwair a materion bioamrywiaeth.  Amlygodd Aelodau’r angen am agwedd synnwyr cyffredin tuag at y rhaglen dorri gwair ac wrth ymateb i bryderon bioamrywiaeth lleol.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau y byddai’n sicrhau fod y wybodaeth a ofynnwyd amdani yn flaenorol gan y pwyllgor o safbwynt amserlenni a mapiau torri gwair, gan gynnwys torri gwair ar gyfer bioamrywiaeth yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), yn cael ei chylchredeg mor fuan â phosibl.

[HW – i hwyluso’r uchod]

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 161 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013 (mae copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013 fel cofnod cywir.

 

6.

CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Adfywio Strategol (mae copi ynghlwm) sy’n amlinellu perfformiad y Cyngor hyd yma o ran gweithredu ei gynlluniau tref gan ofyn i aelodau nodi unrhyw lithriadau a chamau i wella’r gwaith gweithredu er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i ddod yn nes at ei gymunedau.

9.40am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (RhAS) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu perfformiad y Cyngor hyd yn hyn o ran cyflawni ei gynlluniau tref a gofyn am farn aelodau ar y cynnydd.  Roedd yr adroddiad perfformiad chwarterol ar gyfer cynlluniau tref (Atodiad A); sylwadau am weithredoedd unigol gyda statws coch/oren (Atodiad B) ynghyd â’r grynodeb o’r prif ganlyniadau ar gyfer y Cynlluniau blwyddyn gyntaf (Atodiad C) ynghlwm i’r adroddiad.

 

Roedd y broses a ddatblygwyd ar gyfer monitro perfformiad Cynlluniau Tref ac Ardal yn cynnwys cyflwyno adroddiadau chwarterol i’r Grwpiau Aelodau Ardal (GAA) yn amlygu’r hyder darparu ynghlwm â gweithredoedd blaenoriaeth.  Byddai’r wybodaeth honno hefyd yn cael ei chyfuno a’i chynnwys yn yr adroddiadau perfformiad chwarterol i’r Cabinet.  Roedd dyraniad arian diweddar i gyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol i wella’r economi leol wedi ein galluogi i fynd ati i gyflwyno gweithredoedd blaenoriaeth yn fuan a byddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau chwarterol nesaf i’r MAGs.  Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y broses o ddatblygu Cynlluniau Tref i fod yn Gynlluniau Tref ac Ardal er mwyn diwallu anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig.

 

Amlygodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Economaidd rôl bwysig y Cefnogwyr Tref yn y broses a’i obaith y byddai’r Cynlluniau’n esblygu ac yn dod yn fwy uchelgeisiol yn y dyfodol i greu gweledigaeth ar gyfer pob tref a’r ardaloedd o’u cwmpas.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, gwnaeth yr aelodau’r sylwadau a ganlyn –

 

·         roedd yn galonogol fod y rhan fwyaf o brosiectau yn mynd i’r cyfeiriad cywir i gael eu darparu ond roedd hefyd angen adrodd ar ganlyniadau ac effeithiau clir

·         amlygwyd pa mor bwysig oedd bod arian ar gael pan fod angen i gyflawni prosiectau fel y cynlluniwyd

·         cydnabuwyd fod y cynlluniau yn dal ar eu camau cyntaf ac y byddai’n cymryd amser i ddatblygu a chyflawni eu potensial llawn

·         awgrymwyd y dylid cyflawni prosiectau syml, yn enwedig rhai gydag effaith weledol, yn fuan

·         amlygwyd pwysigrwydd aelodau lleol wrth symud eu cynlluniau tref/ardal ymlaen yn ogystal â rhyngweithio gyda’r Cefnogwr Tref a’r Swyddog Cyswllt

·         pwysleisiwyd yr angen i gynlluniau gynnig gwir adlewyrchiad o’r buddsoddiad a’r manteision cyffredinol yn y gwahanol ardaloedd ynghyd â ffynonellau ariannol a nodwyd ar gyfer prosiectau/ gweithredoedd i sicrhau eu bod yn agored ac yn atebol

·         roedd angen sicrhau nad oedd darparu gweithredoedd a nodwyd i’w cyflawni y tu hwnt i reolaeth y Cyngor

·         pwysleisiwyd rôl bwysig y Cefnogwr Gwledig yn y broses a’i ryngweithiad ag aelodau lleol yr ardaloedd

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams at gyfeiriad yr adroddiad fod adolygiad addysgol ardal Edeyrnion wedi cefnogi gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol ac roedd yn dymuno datgan yn glir nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwnnw a oedd yn fater o farn ac yn dal yn ddadleuol.

 

Wrth ymateb i sylwadau aelodau nododd y swyddogion mai dim ond yn ddiweddar y cymeradwywyd y dyraniad ariannol i fwrw ymlaen â chamau blaenoriaeth ar gyfer gwella’r economi leol a gan ystyried yr amser aros cyn i brosiectau cyfalaf adrodd eu bod yn cyflawni’r prosiectau hynny, byddent yn ymddangos yn yr adroddiad nesaf i’r MAGs ym mis Gorffennaf.  Roedd gwaith yn parhau i ehangu’r cynlluniau tref presennol i fod yn gynlluniau tref ac ardal ac wedi hynny byddai’r cynnwys a’r manylion yn cael eu datblygu ymhellach.  Cyfrifoldeb yr aelodau lleol a’r Cefnogwyr Tref yw gosod eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y camau a nodwyd.  O safbwynt canlyniadau a fesurwyd, cytunwyd i ychwanegu gwybodaeth at yr adroddiad ar hyder darparu ynglŷn â’r nifer o brosiectau a gwblhawyd a’u heffaith dilynol.  Adroddodd y Cynghorydd Huw Jones, Cefnogwr Gwledig  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

AILSTRWYTHURO’R GWASANAETHAU ADFYWIO, CYMORTH I FUSNESAU A THWRISTIAETH pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Tai a Chymunedau (mae copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r Gwasanaethau.  Mae’r adroddiad yn gofyn am farn yr aelodau am eu disgwyliadau a’u dyheadau ar gyfer y Gwasanaeth a’i waith wrth gefnogi’r broses o wireddu blaenoriaethau’r Cyngor o ran yr economi a thai.

10.10am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu’r rhesymeg a’r broses ar gyfer ailstrwythuro’r gwasanaethau er mwyn cyflawni blaenoriaethau economaidd a rhai’r Cyngor.  Yn dilyn pryderon yr aelodau ynglŷn ag effaith y cynigion ar unigolion a chymunedau, rhoddwyd sicrwydd yw gweithredu’r broses gyda chefnogaeth a chyngor gan Adnoddau Dynol a byddai’n symud yn nes at gymunedau drwy gynnig strwythur lleol.  Cyfeiriodd hefyd at ei weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth gan nodi y byddai’r strwythur newydd yn cyflawni’r disgwyliadau oedd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Uchelgais Economaidd a oedd yn cael ei datblygu.

 

Manylodd y Pennaeth Tai a Gwasanaethau Cymunedol (PTGC) ar y broses adolygu gwasanaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden (PCMH) lle rhannwyd canlyniad gwasanaeth.  Daeth yr adolygiad gwasanaeth i’r casgliad nad oedd y strwythur presennol, y sail sgiliau a’r dyraniad adnoddau yn addas i’w pwrpas ar sawl lefel ac na fyddai’n gallu cyflawni’r rhaglen uchelgeisiol o Adfywio a Datblygiad Busnes oedd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd.  Datblygwyd strwythur newydd (Atodiad 1 yr adroddiad) yn cynnig ymagwedd gytûn, gadarn a strategol gydag adnoddau wedi’u halinio i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Economaidd y Cyngor.  Byddai ailstrwythuro’r Uwch Dîm Rheoli yn cael ei gwblhau ym mis Mehefin, a byddai’r holl benodiadau wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Medi.  Rhoddodd y PCMH adroddiad ar gam nesaf y broses o safbwynt Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata ac integreiddio’r swyddogaeth dwristiaeth i sicrhau strwythur addas i’w bwrpas i ymateb i flaenoriaethau corfforaethol.  Amlygodd rinweddau’r ailstrwythuro hwnnw a chroesawodd y cyfle i gynnig adroddiad manwl i’r aelodau ym mis Medi.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau i ganolbwyntio ar gynigion i ddarparu gwasanaeth yn hytrach na materion gweithredol yn ymwneud â swyddi unigol yn y gwasanaeth.  Mewn ymateb i bryderon aelodau yn y cyswllt hwnnw, rhoddwyd sicrwydd y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i gadw staff a oedd yn dymuno aros gyda’r awdurdod ac roedd y broses briodol ar gyfer rheoli newid gweithredol yn cael ei dilyn.

 

Cydnabu’r pwyllgor yr angen am ailstrwythuro yn y gwasanaeth er mwyn cyflwyno gwelliannau a diwallu anghenion busnes a rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r gwaith a wnaed ar yr adolygiad cynhwysfawr.  Gofynnodd Aelodau am sicrwydd ynglŷn ag arbedion yn y dyfodol; datblygiad cynigion ariannol ar gyfer grwpiau a gwasanaethau cymunedol, ac eglurhad ar ganlyniadau ac effaith y strwythur newydd ar ddarpariaeth gwasanaeth.  Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r rhyngweithiad a’r rhan a chwaraewyd gydag asiantaethau eraill fel Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych a gwaith partneriaeth i gyflawni amcanion a gwella’r economi leol. [Datganodd yr Arweinydd gysylltiad personol mewn perthynas ag Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych]  Amlygwyd hefyd yr angen am well cyfathrebu gydag aelodau a strategaeth dwristiaeth glir.  Roedd y Cadeirydd hefyd yn awyddus i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel arf hyrwyddo a marchnata.  Cafwyd yr ymatebion a ganlyn –

 

·         ni fyddai cost ychwanegol i’r ailstrwythuro gyda’r gostyngiad mewn rheolwyr yn creu arbedion a gaiff eu hail fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen

·         byddai’r strwythur newydd yn hwyluso darpariaeth gwasanaeth rhagorol a fyddai’n canolbwyntio ar ardaloedd lleol i’w gwneud yn haws i aelodau, busnesau a chyfranogion dderbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth o ansawdd

·         cydnabuwyd mai’r brif risg yn gysylltiedig ag ailstrwythuro oedd methiant i gyflenwi canlyniadau ond lliniarwyd y risg hon oherwydd yr ymagwedd strategol a gymerwyd

·         esboniwyd mwy am y nodau o ddod yn nes at fusnesau a gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i ddarparu cefnogaeth a chyngor i fusnesau

·         roedd gweithrediad pennawd o’r Strategaeth Uchelgais Economaidd oedd yn cael eu datblygu yn ceisio archwilio’r posibilrwydd o greu partneriaeth o asiantaethau cefnogi busnes

·         rhoddwyd sicrwydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADOLYGU STRATEGAETH TAI LLEOL – SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 115 KB

Ystyried adroddiad (mae copi ynghlwm) gan yr Uwch Swyddog – Strategaeth a Phartneriaethau sy’n amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran adolygu’r Strategaeth Tai Leol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr ac mae’n gofyn am gyfraniad aelodau i’r Strategaeth.

10.40am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog - Strategaeth a Phartneriaethau (USSPh) y Dr. Colin Stuhlfelder, Prifysgol Glyndŵr a chyflwynodd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn amlinellu cynnydd hyd yn hyn wrth adolygu’r Strategaeth Tai Lleol (STLl) a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr a gofynnodd i aelodau gyfrannu at y Strategaeth oedd yn cael ei datblygu.  Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ac wedi hynny, byddai adroddiad manwl a chynllun gweithredu’n cael eu cyflwyno i’r pwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

Roedd yr STLl yn amlinellu’r sefyllfa dai ar draws bob daliadaeth ac yn cynnig cyfeiriad strategol am bum mlynedd.  Amlinellodd Dr Stuhlfelder y broses o ddatblygu’r STLl ac eglurodd mai’r grynodeb lefel uchel a’r adroddiad cynnydd llawn oedd y man cychwyn o safbwynt gosod y weledigaeth, themâu a’r amcanion.  Byddai’r Strategaeth yn cynnwys tair thema (1) Cyfathrebu, (2) Cyfuno, ac (3) Adeiladu gydag amcanion a chanlyniadau penodol wedi’u nodi ar gyfer pob un.

 

Trafododd y pwyllgor wahanol agweddau o’r strategaeth tai gan amlygu’r angen am dai fforddiadwy, yn enwedig yn sgil diwygiadau lles diweddar a gofynnodd am wybodaeth bellach ynglŷn â chynlluniau fel rhannu perchnogaeth a daliadaethau dros dro i ddiwallu’r galw presennol.  Gofynnwyd am sicrwydd hefyd y gellid cynnal safonau ansawdd yn stoc tai’r cyngor.  Mewn ymateb, clywodd aelodau fod –

 

·         y Diweddariad Anghenion Tai (ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Glyndŵr 2011) wedi argymell targed tai fforddiadwy o 36% ond gosodwyd targed o 10% yn y Cynllun Datblygu Lleol yn seiliedig ar hyfywedd economaidd safleoedd

·         roedd angen cydbwyso amgylchedd ffafriol ar gyfer adeiladu gyda’r angen am dai fforddiadwy ac archwilio dulliau eraill o ariannu prosiectau tai fforddiadwy fel y Strategaeth Cartrefi Gwag a chynlluniau gyda landlordiaid preifat a allai helpu cyflawni targedau cartrefi fforddiadwy

·         byddai ymchwil yn cael ei gynnal ar fodelau rhannu perchnogaeth a pha mor fforddiadwy ydynt ynghyd â chynlluniau eraill gan gynnwys rhent canolradd

·         roedd pwysigrwydd y sector rhentu preifat yn y sir yn cynyddu ac roedd gwaith yn cael ei wneud gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu modelau priodol i ddiwallu gofynion tai

·         dylid cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer stoc tai’r cyngor erbyn diwedd 2013/14 a chwblhawyd arolwg stoc tai llawn yn ddiweddar gyda rhaglen dreigl o fuddsoddiad i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal yn y dyfodol; roedd hefyd potensial i gynyddu stoc tai yn dilyn newidiadau yn y dyfodol i gyllid tai cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     yn amodol ar y sylwadau uchod gan aelodau, dylid nodi’r adroddiad ar y cynnydd wrth adolygu’r Strategaeth Tai Lleol a maint yr heriau tai presennol sydd angen eu hymgorffori i’r strategaeth, a

 

(b)     dylid cymeradwyo’r tri maes thema bwriedig i’w cynnwys yn y Strategaeth Tai Lleol newydd.

[SK&SL i nodi a gweithredu’r uchod]

Ar y pwynt hwn (11.50 a.m.) torrodd y pwyllgor am egwyl lluniaeth.

 

9.

ADOLYGIAD O WASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 112 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried y cynigion diwygiedig i ailfodelu gofal dydd i bobl hŷn yng ngogledd y Sir, cyn i’r cynigion gael eu cyflwyno i’r Cabinet.

11.10am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynigion diwygiedig i ailfodelu gofal dydd i bobl hŷn yng ngogledd y sir cyn cyflwyno’r cynigion i’r Cabinet.  Amlygodd yr angen am wasanaeth cynaliadwy i’r dyfodol yn sgil y cynnydd yn y boblogaeth hŷn a’r gostyngiad yn y ddarpariaeth ariannol.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod y cynigion wedi’u diwygio yn dilyn adborth  gan y pwyllgor hwn a’r broses ymgynghori.  Ymhelaethodd ar y rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a fyddai’n sicrhau fod y gwasanaeth a ddarparwyd yn cyd-fynd â’r ymagwedd ail-alluogi ac yn gynaliadwy wrth symud ymlaen.  Roedd y cynigion yn cynnwys -

 

·           symud gwasanaethau presennol ym Mhrestatyn o Lys Nant i Nant y Môr er mwyn cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl

·           archwilio’r posibilrwydd yn y tymor canolig / hir i symud darpariaeth gofal dydd yn y Rhyl i Gorwel Newydd a defnyddio Hafan Deg i symud yr ymagwedd ail-alluogi yn ei blaen

·           symudiad cychwynnol i 3 diwrnod o ddarpariaeth gofal dydd yn Hafan Deg gyda’r 2 ddiwrnod arall yn canolbwyntio ar gynnig gwasanaeth ail-alluogi

·           datblygu cynllun prosiect manwl ar gyfer y trefniadau presennol yn Hafan Deg a Llys Nant gan ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, clywodd aelodau fod –

 

·         swyddogion yn anymwybodol o unrhyw effaith ar Nant y Môr o ganlyniad i gau Canolfan Seibiant Michael Phillips yn y Rhyl ond byddent yn archwilio’r mater ymhellach

·         yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i’r cynigion ar 25 Mehefin, byddai trafodaethau manwl yn dechrau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Llys Nant am y symudiad i Nant y Môr; rhoddwyd sicrwydd i’r pwyllgor na fyddai Llys Nant yn cau nes bod trefniadau addas ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth

·         cadarnhawyd y byddai’r ddau ddefnyddiwr gwasanaeth sydd ar hyn o bryd yn mynychu Hafan Deg am fwy na 3 diwrnod yr wythnos yn derbyn gwasanaethau cefnogi amgen

·         cadarnhawyd hefyd y byddai darpariaeth gofal seibiant hefyd yn trosglwyddo i Nant y Môr ac ni fyddai hyn yn effeithio ar y gefnogaeth a ddarperir i ofalwyr

·         byddai’r awdurdod yn cysylltu â’r trydydd sector a phartïon eraill ynglŷn â sut y gellir datblygu trefniadau cludiant mwy effeithiol

·         gallai modelau gofal cymdeithasol traddodiadol greu dibyniaeth ond roedd y model newydd yn canolbwyntio ar helpu unigolion i gefnogi eu hunain.

 

Diolchodd y Cynghorydd Brian Blakeley y swyddogion am wrando ar farn cynghorwyr ac adborth yr ymgynghoriad ac am newid y cynigion yn unol â hynny.  Rhoddodd ganmoliaeth i swyddogion ar eu gwaith caled ac awgrymodd y dylai’r pwyllgor barhau i adolygu’r mater.  Roedd y Cadeirydd yn falch i  amlygu rôl y pwyllgor yn y broses a’r modd yr oeddynt wedi dylanwadu ar y cynigion i sicrhau y gellid cael cyfaddawd derbyniol.  Diolchodd Aelodau’r swyddogion am eu gwaith yn y cyswllt hwnnw.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     Argymell i’r Cabinet eu bod yn gweithredu’r model newydd fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.10 i 4.13 yr adroddiad, a

 

(b)     dylai’r pwyllgor dderbyn adroddiad gwerthuso ar ddarpariaeth Gwasanaethau Gofal Dydd yn Sir Ddinbych ymhen oddeutu deuddeg mis.

[PG a HT i weithredu’r ddau argymhelliad]

 

10.

GRŴP TASG A GORFFEN ADOLYGU BWYD pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (mae copi ynghlwm) sy’n cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor o ran caffael, rheoleiddio a rheoli bwyd yn gywir yn sgil y sgandal cig ceffyl.  Gofynnir i’r Pwyllgor ystyried argymhellion y Grŵp cyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

11.40am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y Rheolwr Arlwyo; Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Caffael Strategol a chyflwynodd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn cyflwyno canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a threfnau’r Cyngor mewn perthynas â chaffael, rheoleiddio a rheoli contractau bwyd yn sgil y sgandal cig ceffyl.

 

Trafododd y Grŵp Tasg a Gorffen faterion yn ymwneud â’r meysydd allweddol a ganlyn –

 

·         caffael cig a chynhyrchion cig

·         rôl y Cyngor fel corff gorfodi a rheoleiddio, a

·         digonolrwydd trefniadau cytundebol gyda gwasanaethau a gomisiynwyd.

 

Ar ôl archwilio’r meysydd uchod, rhoddwyd y dasg i swyddogion o lunio Datganiad Sefyllfa ac argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth (ynghlwm i’r adroddiad) a deilliodd argymhellion yr adroddiad o’r dogfennau hynny.  Rhoddodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus ganmoliaeth i ymateb y Cyngor i’r sgandal cig ceffyl a’r modd y deliodd yr awdurdod gyda materion ac argyfyngau o’r fath yn gyffredinol.  Roedd y Cynghorydd Win Mullen-James yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen ac ategodd y sylwadau hynny gan dynnu sylw at waith caled y swyddogion dan sylw.

 

Holodd y pwyllgor gwestiynau ynglŷn â chaffael cig a manylebau contract a gofynnwyd am sicrwydd pellach ynglŷn â chadernid y trefnau oedd mewn grym i ganfod twyll bwyd.  Mewn ymateb aeth swyddogion ati i -

 

·         adrodd ar y contractau a’r manylebau presennol ar gyfer cig gan gynnwys yr amod i gael cig Prydeinig dan 30 mis oed a’r statws Dangosiad Daearyddol a Ddiogelwyd (DDDd) (tarddiad Cymreig) gan gyflenwyr cig eidion ac oen a gymeradwywyd

·         ymhelaethu ar ganlyniadau ymchwiliadau diweddar a ddarganfu fod un eitem o gynnyrch (cyw iâr) yn tarddu o’r Almaen

·         egluro fod yr awdurdod lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal samplau ac roedd agwedd rhagweithiol yn cael ei dilyn i sefydlu’r gallu i olrhain, hylendid a chyflawni manylebau contract

·         amlygu’r trefnau rheoli contract cryfach gan gynnwys yr angen i adrodd am unrhyw newidiadau yn y gadwyn gyflenwi

·         cynnig sicrwydd fod systemau cadarn mewn grym ond o gofio natur y diwydiant, nid oedd modd dileu achosion twyll yn llwyr

·         ymhelaethu ar archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Gorffennaf 2013 a oedd yn edrych ar hylendid, safonau a darpariaeth

·         cadarnhau fod swyddog safonau bwyd ychwanegol wedi’i gyflogi am gyfnod o 12/18 mis nes bod swyddog dan hyfforddiant presennol yn dod yn hollol gymwys.

 

I sicrhau ansawdd a tharddiad y cig a gynhyrchwyd, holodd y Cadeirydd a fyddai modd  gosod amod fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn rhai Red Tractor Assured mewn contractau yn y dyfodol.  Cyfeiriodd swyddogion at yr anawsterau posibl gyda’r ymagwedd honno gan gynnwys problemau cyflenwi, sicrhau fod cynhyrchion ar gael drwy’r flwyddyn ynghyd â’r goblygiadau ariannol o ran gosod y gofyniad hwnnw.  Yn benodol, byddai unrhyw gynnydd i bris prydau ysgol dros £2.00 yn cael effaith niweidiol ar y niferoedd a fyddai’n manteisio arno.  Nodwyd y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei chynnal dros y tymor byr i fonitro sut y cyflawnwyd argymhellion yr adroddiad ac awgrymwyd y dylai’r fforwm honno roi ystyriaeth bellach i’r mater.  Cytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar waith  y Grŵp Tasg a Gorffen mewn oddeutu deuddeg mis.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     cefnogi argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd fel y nodwyd ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad a’u hargymell i’r Cabinet eu cymeradwyo;

 

(b)     gofyn i’r Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu  Bwyd archwilio hyfywedd contractau caffael cig yn y dyfodol gan nodi fod yn rhaid i bob cyflenwr fod yn Red Tractor Assured, a

 

(c)     dylid cyflwyno adroddiad ar waith y Grŵp Tasg a  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 54 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am faterion perthnasol.

12.15pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a gylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i aelodau adolygu rhaglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.  Roedd rhaglen waith i’r dyfodol ddrafft (Atodiad 1); rhaglen waith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad 2), a Chynnydd ar Benderfyniadau Pwyllgorau (Atodiad 3) ynghlwm i’r adroddiad.

 

Cytunodd Aelodau ar yr adolygiadau a ganlyn i’r rhaglen waith 

 

·         Medi – Strategaeth Sipsiwn ac adroddiad gwybodaeth ar ailstrwythuro’r Gwasanaethau Cyfathrebu a Marchnata

·         Hydref – adroddiad gwybodaeth ar y Strategaeth Uchelgais Economaidd

·         Mai/Mehefin 2014 – Darparu Gwasanaethau Gofal Dydd yn Sir Ddinbych a Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd

 

Tynnodd y Cydlynydd Archwilio sylw aelodau at yr her perfformiad gwasanaeth newydd a fanylwyd arno ym mriff gwybodaeth y pwyllgor (a gylchredwyd yn flaenorol).  Gofynnwyd am gynrychiolwyr pwyllgor ar gyfer pob asesiad gwasanaeth a rhoddwyd manylion yr amserlen gyfarfodydd.  Cytunwyd cyfateb y cynrychiolwyr pwyllgor a benodwyd yn flaenorol mor agos â phosibl â’r meysydd gwasanaeth newydd.  Byddai angen rhoi ystyriaeth bellach i unrhyw swyddi oedd heb eu llenwi yn dilyn y broses benodi honno.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, dylid cymeradwyo’r rhaglen waith i’r dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. [RhE i weithredu’r uchod]

 

12.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Cael unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am amryw Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor

12.30pm

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm.