Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr James Davies a Carys Guy

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gyswllt personol neu niweidiol unrhyw fusnes sy’n cael ei ystyried yn y pwyllgor hwn.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau cysylltiad personol na rhagfarnol.

 

 

3.

MATERION BRYS A GYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysu am unrhyw eitemau, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu trafod yn y pwyllgor hwn fel mater brys i Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni nodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 176 KB

I dderbyn Cofnodion Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2013 (copi wedi’i amgáu).

9.40 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2013.

 

Materion yn Codi – Tudalen 2, Eitem Rhif 4 Cofnodion: Materion Graeanu – Dywedodd y Cydlynydd Diogelwch bod yr eitem hon wedi ei gosod ar y rhaglen ar gyfer Grŵp Ardal Aelodau Dyffryn Dyfrdwy ar 29 Ebrill lle byddai eglurhad yn cael ei roi fel y gofynnwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2013 fel cofnod cywir.

 

 

5.

GWYBODAETH DDIWEDDARAF Y RHYL YN SYMUD YMLAEN pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad, sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol, gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi wedi’i amgáu) er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Adfywio Y Rhyl yn Symud Ymlaen.

10.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGFM) adroddiad (oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar Strategaeth Adfywio Y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGF).  Roedd y strategaeth yn cynnwys y pedair ffrwd waith a ganlyn -

 

·         Ardal Adfywio Gorllewin Y Rhyl

·         Canol y Dref

·         Glan y Môr a Thwristiaeth

·         Byw a Gweithio yn Y Rhyl

 

Rhoddodd yr RGFM esboniad pellach ar bob un o’r ffrydiau gwaith gan roi crynodeb o’r prif nodau ac amcanion ar gyfer y meysydd penodol; cynnydd i gyflawni’r targedau hynny, ac ystyriaeth i’r dyfodol.  Ymatebodd i nifer o faterion a godwyd gan aelodau wrth drafod eu hadroddiad diweddaru diwethaf.

 

Holodd yr aelodau'r RGFM ynglŷn â chynnydd mewn prosiectau unigol a gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â chanlyniadau i’r dyfodol ar gyfer datblygiadau penodol.  Ymatebodd fel a ganlyn -

 

·         eglurodd y diffyg cynnydd wrth ddatblygu safle Ocean Plaza oherwydd materion yn ymwneud â chyflenwad trydan a risg llifogydd

·         cadarnhaodd y bydd y gwaith o ddymchwel yr Honey Club yn digwydd yn fuan iawn ar ôl cwblhau mater cytundebol sydd angen ei ddatrys

·         bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r gorchymyn prynu gorfodol ar eiddo yng Ngorllewin Y Rhyl yn dechrau ym mis Mai a gobeithiwyd y byddai ail gam o ddymchwel i greu gofod gwyrdd yn cael ei gwblhau ddiwedd mis Mai

·         disgwyliwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer cam nesaf y gwaith amddiffyn arfordirol er mwyn asesu'r posibilrwydd o adleoli’r Parc Sglefrio i’r ardal honno

·         cadarnhawyd fod gorchymyn pryniant gorfodol wedi ei wneud ar gyfer yr arcêd oedd wedi llosgi i lawr ar y promenâd ac roedd ymchwiliad cyhoeddus wedi ei drefnu at fis Mehefin ac roedd trafodaethau yn parhau i gaffael yr eiddo

·         rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddyfodol yr Heulfan a’i chyflwr presennol a deialog rhwng y Cyngor a Clwyd Leisure Limited yn y cyswllt hwnnw; gobeithiwyd y byddai'r Heulfan yn parhau i weithredu gyhyd â phosibl nes y bydd cynigion newydd yn cael eu datblygu; roeddynt yn dal i aros am gadarnhad ynglŷn â dyddiad agor diwygiedig tymor 2013.

 

Trafododd aelodau eu pryderon ynglŷn â chanol y dref ac effaith gwerthu ar-lein; colli siopau yn gyffredinol gan gynnwys dau fanwerthwr blaenllaw i ddatblygiad manwerthu newydd Prestatyn, ac roeddynt yn pryderu nad oedd amcanion wedi'u datblygu a’u cytuno arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd fod cynlluniau’n cael eu datblygu i gefnogi a denu busnes ac amlygu’r angen i ddenu'r math cywir o fusnes i wella'r dref ac yn ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol a sicrhau parhad a chynaladwyedd y busnesau.  Cadarnhaodd yr RGFM yr angen i ddatblygu strategaeth adfywio gydlynol mor fuan â phosibl ac adroddodd ar ystod o gynlluniau oedd yn cael eu hystyried gan gynnwys gostwng trethi busnes, adolygu parcio a gwelliannau i Farchnad Y Rhyl.  Cyfeiriodd at ariannu posibl yn y dyfodol o Fframwaith Adfywio Newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion o’r fath yn y dref.  Amlygodd y pwyllgor bod y problemau sy’n wynebu canol tref Y Rhyl yn cael eu hailadrodd ar draws y sir a chyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb mewn Gweithdy Uchelgais Economaidd ar y diwrnod cynt pan drafodwyd yr un materion, a dywedodd fod gwaith hefyd yn cael ei gyflawni yn y fforwm hwnnw i fynd i’r afael â nhw.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bob Murray at effaith niweidiol ar Stryd Fawr Prestatyn ers i’r parc manwerthu newydd agor a dywedodd bod gwaith hefyd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem honno.

 

Amlygwyd hefyd bwysigrwydd addysg fel rhan o’r strategaeth byw a gweithio a chyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid at effaith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ASESIAD O DDIGONOLRWYDD CYFLEOEDD CHWARAE SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Ffordd o Fyw Egnïol (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â drafft Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol a chynllun gweithredu. 

10.40 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid y Rheolwr Ffyrdd o Fyw egniol a’r Rheolwr Rhaglen Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol a chyflwynodd yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae drafft a’r Cynllun Gweithredu (a gylchredwyd yn flaenorol).  Roedd Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn bob awdurdod lleol i gyflawni asesiad a datblygu cynllun gweithredu yn amlinellu sut roeddynt yn bwriadu darparu cyfleoedd chwarae i blant a mynd i’r afael â’r bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth.

 

Roedd manylion o’r asesiad wedi ei darparu gan gynnwys y meysydd unigol a ystyriwyd a’r ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’i bartneriaid mewnol ac allanol.  Tynnwyd sylw aelodau at y themâu/blaenoriaethau allweddol oedd yn deillio o’r asesiad hwnnw oedd wedi eu cynnwys yn y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â nhw yn ystod y cyfnod 2013 - 2014 ynghyd â chynlluniau i’r dyfodol ar gyfer 2014 a’r tu hwnt.

 

Yn  ystod y drafodaeth, holodd aelodau a fyddai arian ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) i fwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu.  Eglurodd y rheolwr Ffyrdd o Fyw Egniol (ALM) nad oedd unrhyw awgrym wedi ei roi ynglŷn â’r tebygolrwydd y byddai arian yn cael ei ddarparu ac roeddem yn aros am atborth yn dilyn cyflwyno'r asesiad fis diwethaf.  Mae’r cyngor eisoes wedi ymrwymo arian o’i gyllideb ei hun i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a fanylir yn 2013 - 2014.

 

Cyfeiriodd aelodau at ddarpariaeth chwarae yn eu cymunedau eu hunain a chodwyd y materion canlynol –

 

·         diffyg neu absenoldeb darpariaeth chwarae mewn rhai ardaloedd gwledig/cefn gwlad

·         anawsterau a gysylltwyd ag agor caeau chwarae ysgolion i’r gymuned ehangach (gan gynnwys plant cyn ysgol yn methu cael mynediad i ddarpariaeth yn ystod oriau ysgol a difrod a achoswyd i gaeau chwarae pan roeddent yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau penodol fel pêl-droed)

·         diffyg cynlluniau chwarae/parth chwarae yn gweithredu ar draws y sir

·         yr angen i dargedu gwaith marchnata cynlluniau chwarae/chwaraeon er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo digwyddiadau a chynyddu'r niferoedd oedd yn cymryd rhan

·         annog cynghorau tref/cymuned i gyfrannu yn ariannol tuag at ddarpariaeth chwarae/chwaraeon, a chyflwr gwael rhywfaint o offer chwarae a phwysigrwydd cynnal a chadw.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau at fendithion cynnal yr asesiad a oedd yn darparu darlun cliriach ar gyfer Sir Ddinbych o safbwynt darpariaeth a dynodi meysydd i fynd i’r afael â nhw.  Ymatebodd y swyddogion hefyd i sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         roedd un o gamau’r cynllun yn ymwneud yn benodol ag ardaloedd gwledig a darpariaeth chwarae

·         amlygwyd yr angen am ymagwedd wedi ei chyd-drefnu rhwng addysg, hamdden a chynghorau tref/cymuned i ddatblygu chwarae o fewn y trefi/cymunedau hynny

·         cyfeiriwyd at ddarpariaeth chwarae/chwaraeon presennol ar draws y sir ac ymhelaethwyd ar gynlluniau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol

·         cytunwyd y dylid targedu gwaith marchnata digwyddiadau chwarae a chyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd y sesiynau chwarae meddal diweddar a hyrwyddwyd drwy’r gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd

·         roedd cynnal a chadw offer chwarae wedi’i gynnwys yn yr archwiliad.

 

Roedd y pwyllgor yn cefnogi’r asesiad a’r cynllun gweithredu ac yn awyddus i glywed ymateb LlC ynglŷn â hynny ac a fyddai LlC yn dyfarnu arian i weithredu ar y camau a nodwyd.  Roedd Aelodau hefyd yn awyddus i dderbyn y cynllun gweithredu diwygiedig gydag amserlen ar gyfer cyflenwi camau gweithredu.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD  

 

(a)       yn amodol ar y sylwadau uchod gan yr aelodau, fod y pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynllun gweithredu yn cefnogi'r ymrwymiad i ddatblygu chwarae yn Sir Ddinbych, ac

 

(b)       dylid cyflwyno’r adroddiad gwybodaeth i’r pwyllgor a fydd yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r cynllun gweithredu ac a oedd arian pellach yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYNNYDD YMGYRCH ATAL BAW CŴN pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a’r Rheolwr Cyfathrebu y Rheolwr Corfforaethol a Rheolwyr Marchnata (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â chynnydd Ymgyrch Atal Baw Cŵn a’r cynlluniau i symud ymlaen.

11.20 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a’r Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol adroddiad ar y cyd (cylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn â chynnydd yr Ymgyrch Atal Baw Cŵn yn dilyn y lansiad meddal ym mis Chwefror. 

 

Rhoddodd swyddogion fanylion ar y gweithgareddau a gyflawnwyd hyd yn hyn i fynd i’r afael â materion baw cŵn gan gynnwys yr ymgyrch farchnata sylweddol a’r ymdrech i addysgu pobl ynghyd â chamau gorfodi cadarn er mwyn lleihau'r nifer o achosion.  Nodwyd a monitrwyd ardaloedd problemus allweddol a chynlluniwyd nifer o weithgareddau ategol ar gyfer y dyfodol.  Dangoswyd cyflwyniad power point hefyd yn rhoi manylion deunyddiau hyrwyddo/sylw yn y wasg; y cynllun marchnata a mapio ardaloedd problemus.  Rhoddwyd yr ystadegau diweddaraf a gasglwyd gan y System Reoli Gwasanaethau Cwsmeriaid a galwadau i’r rhif ffôn Rhadffôn hefyd.  Roedd yr ymgyrch farchnata’n cynnwys ymagwedd fwydo fesul dipyn er mwyn parhau i atgyfnerthu’r neges ac annog cymunedau i gymryd rhan a rhoi gwybod am broblemau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd fanylion yr ymagwedd orfodi lle cyflogwyd Kingdom Security Services i fynd i’r afael â phroblemau yn wneud â baw cŵn ac ysbwriel.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi gorchymyn  Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Rheolwyr Rhawd Gymunedol i roi rhybuddion cosb benodol a rhoi gwybod i’r cyngor am ardaloedd problemus.

 

Croesawodd aelodau'r Ymgyrch Atal Baw Cŵn fel ffordd ragweithiol o fynd i’r afael â baw cŵn o fewn y sir ynghyd â chamau gweithredu cadarn.  Roedd y pwyllgor yn falch i nodi'r mesurau a gymerwyd i gynnwys y cyhoedd a’r atborth positif a dderbyniwyd ynghyd â’r cynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau â riportiwyd er mwyn canfod ardaloedd problemus a thargedu troseddwyr.  Yn ystod y drafodaeth cymerodd aelodau’r cyfle i gwestiynu’r swyddogion ynglŷn ag agweddau amrywiol o’r ymgyrch a gofynnwyd am fanylion pellach ynglŷn â chamau gorfodi a chostau cyffredinol.  Codwyd y pryderon a’r sylwadau a ganlyn -

 

·         yr angen i dargedu ardaloedd gwledig fel rhan o’r ymgyrch a chymryd camau gorfodi a phatrolau amlwg iawn yn yr ardaloedd hynny i atal troseddwyr

·         amlygwyd problemau cyson yn Moel Famau a’r angen i godi’r mater gyda rheolwyr yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) i fynd i’r afael â’r mater, yn benodol gwrthwynebiad yr AHNE i osod biniau sbwriel yn yr AHNE

·         trafferth dod o hyd i finiau cŵn mewn mannau problemus wedi ei nodi gan aelodau

·         yr angen am batrolau gorfodi cudd a rhai amlwg iawn a swyddogion proffesiynol a chwrtais

·         pryderon ynglŷn â chŵn strae ac achosion lle'r oedd perchnogion yn caniatáu i’w cŵn grwydro heb eu goruchwylio

·         bodolaeth hen arwyddion mewn cymunedau a allai achosi dryswch

·         pwysigrwydd cynnwys y gymuned er mwyn cydweithio i fynd i’r afael â phroblemau baw cŵn

·         yr angen i adolygu effeithiolrwydd yr ymgyrch a chostau cysylltiedig

·         pryder fod nifer o rybuddion cosb benodol a roddwyd am ysbwriel yn llawer uwch na’r rhai a roddwyd ar gyfer baw cŵn

·         trafodwyd o blaid gwneud rhagor o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol fel arf marchnata, a

·         manylodd aelodau ar nifer o ardaloedd problemus yn eu cymunedau a fyddai’n elwa o gael biniau cŵn a chamau gorfodi a gwnaed ceisiadau am lenyddiaeth i’w rhannu yn eu hardaloedd.

 

Cydnabu swyddogion bwyntiau’r aelodau ac ymatebwyd fel a ganlyn -

 

·         rhoddwyd gwybod am raglen o adleoli arwyddion a deunydd hyrwyddo o amgylch y sir gan dargedu ardaloedd problemus a monitro’r effaith

·         ystyriwyd gorchmynion rheoli cŵn fel modd delio ag ardaloedd problemus penodol y gellid eu gweithredu mewn safleoedd fel Moel Famau/AHNE

·         prynwyd 119 o finiau cŵn i’w gosod mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan Gydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) i adolygu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am faterion perthnasol.

11.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio ( a gylchredwyd yn flaenorol) i aelodau adolygu rhaglen waith i’r dyfodol berthnasol y pwyllgor a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.  Roedd rhaglen waith i’r dyfodol ddrafft (Atodiad 1); Rhaglen waith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad 2), a Chynnydd ar Benderfyniadau Pwyllgorau (Atodiad 3) wedi’u cynnwys gyda’r adroddiad.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Archwilio wybodaeth ar newidiadau i’r rhaglen waith ers ei pharatoi a thrafododd aelodau'r newidiadau gyda swyddogion a chodwyd nifer o faterion roeddent yn dymuno eu harchwilio yn y dyfodol.  Cadarnhaodd y pwyllgor yr ychwanegiadau a ganlyn -

 

  • Mai - Ailstrwythuro'r Gwasanaethau Adfywio, Cefnogi Busnes a Thwristiaeth
  • Gorffennaf – Ailstrwythuro Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ac ehangu cwmpas yr adroddiad ar Gyflwr Priffyrdd y Sir i gynnwys gwaith oedd angen yn dilyn yr achos o eira ym mis Mawrth/Ebrill 2013
  • Medi – Strategaeth Gofod Cyhoeddus a Threfniadau Clirio Eira
  • Hydref – Ymgyrch Atal Baw Cŵn, a
  • cadarnhau eu penderfyniad blaenorol i gael adroddiad gwybodaeth ddilynol ar yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r cynllun gweithredu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen waith i’r dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1, yn amodol ar yr uchod, a’i chymeradwyo.  [Rhian Evans i weithredu]

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amryw Fyrddau’r Cyngor a Grwpiau.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Joe Welch at ei bresenoldeb yn y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion diweddar ac roedd yn falch i sôn fod y ddwy ysgol a drafodwyd, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ac Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn yn perfformio’n dda.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Hughes at ei gysylltiad gyda Choleg Glannau Dyfrdwy gan roi gwybod bod yr uno gyda Choleg Iâl yn symud yn ei flaen yn dda.  Nodwyd y byddai’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn ystyried datblygiad presennol a datblygiadau i ddod mewn perthynas â Grŵp Coleg Glannau Dyfrdwy (Coleg Cumbria) ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi'r adroddiadau llafar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m.