Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhagfarnus.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu cynnwys er trafodaeth y mater canlynol a oedd angen sylw brys dan Ran II:-

 

DARPARU A LLEOLI BINIAU HALEN

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd T R Hughes ar nifer y biniau halen melyn a leolir yn ardal Pentrecelyn ar ffordd sydd ar lwybr graeanu ddwywaith y dydd, esboniodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith, bod y biniau halen wedi eu dodi yn y lleoliad dan sylw ar gais penodol Asiantaeth yr Amgylchedd, gan fod y ffynnon a oedd yn llifo ger y ffordd yn arbennig o sensitif i dŵr yn dod oddi ar y ffordd ac roedd y toddiant halen yn andwyo’r ecoleg. Cadrnhaodd nad oedd biniau halen fel rheol yn cael eu dodi ar ffyrdd a oedd ar lwybrau graeanu, ac mai’r ffordd dan sylw a’r ffordd dros Fwlch yr Oernant oedd yr unig eithriadau i’r polisi.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 154 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 6ed Rhagfyr 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

(i) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau 6ed Rhagfyr 2012.

 

Materion yn codi:-

 

4. Cofnodion – Cyfeiriodd y Cynghorydd W.M. Mullen-James at yr eitem “Adolygu Torri Gwair ar Ymyl y Ffordd 2012” a hysbysodd yr Aelodau bod cyfarfod, fel y cytunwyd, wedi ei gynnal ym mis Rhagfyr 2012 i drafod telerau’r contract torri gwair, gyda chyfeiriad penodol at reolaeth y cwmni dan gontract. Esboniodd mai’r farn gyffredinol oedd y byddai perfformiad y contractwr yn gwella ar ôl archwiliadau rhagarweiniol ac y dylid ymgymryd ag arolwg perfformiad arall ym mis Gorffennaf 2013. At hyn, roedd y Gweithgor wedi gofyn bod holl Gynghorwyr Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cael mapiau a rhaglenni torri gwair y tymor i ddod cyn gynted ag y byddant ar gael. Rhoddodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith fanylion cyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a fyddai’n asesu effaith y trefniadau torri gwair yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd gwaith partneriaeth i sicrhau bod y gwaith o dorri’r gwair ar ymyl y ffordd yn cael ei wneud yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD – derbyn y Cofnodion a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUNIAU TREF pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi’n amgaeëdig) a oedd yn adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Tref wrth ddechrau cyflawni eu hamcanion.

                                                                                                            9.35 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol, a oedd yn adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Tref wrth ddechrau cyflawni eu hamcanion, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Rhoddodd y Rheolwr Adfywio Strategol (SRM) grynodeb o’r adroddiad, a oedd yn amlinellu datblygu trefi economaidd hyfyw a chynaliadwy a fyddai’n rhoi hwb i’r economi lleol, gwella canlyniadau i fusnesau lleol a thrigolion a denu ymwelwyr i’r ardal.

             

Roedd Cynlluniau Tref ar gyfer y saith anheddiad mwyaf, ac eithrio’r Rhyl, wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet. Cafwyd ymgynghoriad gydag Aelodau newydd eu hethol iddynt ddod yn gyfarwydd â chynnwys y Cynlluniau Tref a gymeradwywyd eisoes a chychwyn adolygiad o’u cynnwys i sicrhau eu bod yn dal yn ddilys, ac i alluogi ymgorffori unrhyw flaenoriaethau ychwanegol. Roedd  chwe Grŵp Aelodau Ardal (MAG), gan gynnwys y Rhyl, wedi eu gwahodd i enwebu Aelod Arweiniol fesul Cynllun Tref i weithio mewn Grŵp Cydgysylltu Cynlluniau i ddiweddaru’r Cynlluniau Tref. Byddai fersiynau newydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i’r MAG yn eu rownd cyfarfodydd presennol. Roedd y Grŵp Cydgysylltu wedi ystyried dyrannu cyllid i gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol i wella’r economi lleol a byddai hyn yn galluogi i’r camau blaenoriaeth hynny a adnabuwyd fel rhai i’w gweithredu’n gynnar fynd rhagddynt.

 

Nid oedd y Cynlluniau a gymeradwywyd eto wedi delio ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Gofynnwyd i Aelodau wardiau perthnasol adnabod materion rhagarweiniol gan gynnwys ardal ddaearyddol briodol  ar gyfer Cynlluniau Ardal na fyddai o reidrwydd yn cyd-fynd â ffiniau MAG, a blaenoriaethau i’w trafod trwy’r MAG. Byddai Cynlluniau Tref yn cael eu ehangu yn Gynlluniau Ardal ehangach a rhagwelwyd y byddai gan Gynlluniau Ardal dair adran fras fel y manylwyd yn yr adroddiad. Byddai proses ymgynghori yn cael ei mabwysiadu, yn debyg i’r un ar gyfer y Cynlluniau Tref gwreiddiol. Byddai MAG yn adolygu ac yna’n argymell Cynlluniau Ardal i’w mabwysiadu’n ffurfiol gan sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau holl gymunedau a oedd yn dod dan y Cynllun, gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig, yn cael eu hadlewyrchu’n briodol. Roedd rôl yr Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Gwledig wrth sicrhau bod Cynlluniau Ardal yn ymgorffori blaenoriaethau gwledig, a’r broses ar gyfer monitro perfformiad Cynlluniau Tref ac Ardal, wedi ei datblygu ar y cyd â’r gwasanaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad i fynd gyda’r trefniadau adrodd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol, ac wedi ei amlygu yn yr adroddiad. Byddai adroddiad perfformiad yn cael ei gyflwyno i’r MAG bob chwarter yn amlygu’r hyder cyflawni a oedd yn gysylltiedig â phob cam blaenoriaeth byw yn y Cynlluniau Tref ac Ardal perthnasol. Roedd adroddiad perfformiad enghreifftiol ar gyfer Rhuddlan ynghlwm fel atodiad, fel enghraifft o’r fformat a gymeradwywyd ac a fabwysiadwyd.

Byddai’r wybodaeth yn yr adroddiad Tref ac Ardal unigol yn cael ei chasglu at ei gilydd a’i chynnwys yn yr Adroddiad Perfformiad Chwarterol i’w gyflwyno i’r Cabinet yn chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2013/14. Byddai adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir a chytunodd yr Aelodau bod adroddiadau monitro ar y Cynlluniau yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.

Hysbyswyd yr Aelodau gan yr SRM y byddai’r Cynlluniau Tref yn cefnogi gweithrediad y Flaenoriaeth Gorfforaethol i wella’r economi lleol a byddai hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei uchelgais i fod yn gyngor agosach at y gymuned.

Roedd manylion goblygiadau cyllidebol ac effeithiau posibl ar wasanaethau eraill mewn perthynas â blaenoriaethau Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer 2012/13 a 2013/14 wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Cadarnhawyd y byddai prosiectau y Rhyl yn Symud Ymlaen yn cael eu hariannu naill ai o ddyraniad corfforaethol ar  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ETAPE CYMRU 2012 pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi’n amgaeëdig) yn rhoi dadansoddiad manwl o effaith digwyddiad 2012 ar y gymuned leol, busnesau lleol a chyfranogwyr ynghyd â’r manteision a welwyd/yr effaith ar yr economi lleol ehangach a Sir Ddinbych gyfan.

                                                                                                       10.10 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Prif Swyddog Strategaeth Adfywio, a oedd yn rhoi dadansoddiad manwl o effaith digwyddiad 2012 ar y gymuned leol, busnesau lleol a chyfranogwyr, ynghyd â’r manteision / effaith ar yr economi lleol ehangach a Sir Ddinbych gyfan, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (SRM) yr adroddiad.

 

Y llynedd, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ei fod yn cymeradwyo’r ceisiadau i gau ffyrdd i ganiatáu cynnal Etape Cymru 2012, yn amodol ar:-

 

a)            Ymgynghoriad llawn gyda’r cymunedau a’r busnesau lleol a effeithiwyd gan y ffyrdd yn cau gan gynnwys ymgynghori â’r Grŵp lleol Aelodau Ardal.

b)             Ymgymryd ag asesiad o’r effaith.

c) bod y Pwyllgor yn derbyn gwarant y byddai Bwlch yr Oernant yn ailagor i draffig erbyn 11am.

 

Byddai arfarniad o effaith y digwyddiad ac unrhyw fanteision a gafwyd neu effeithiau andwyol a achoswyd yn galluogi gwneud argymhellion mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr yn y dyfodol. Roedd Sir Ddinbych wedi parhau i gyfathrebu’n rheolaidd gyda Human Race, trefnwyr Etape Cymru, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn perthynas â digwyddiad beicio ‘ffordd ar gau’ 2012 a gynhaliwyd ym Medi 2012 ac roedd cynlluniau nawr ar y gweill ar gyfer digwyddiad 2013 i’w gynnal ar ddydd Sul, 8fed Medi, 2013.  Cyfarfu trefnwyr gyda’r Grŵp Ymgynghorol ar Ddiogelwch a swyddogion Priffyrdd ac Adfywio Wrecsam a Sir Ddinbych i adolygu 2012, ac roeddynt wedi derbyn argymhellion y Grŵp.

 

Roedd Atodiad 1 i’r adroddiad yn cynnwys adolygiad o ddigwyddiad Etape Cymru 2012 a oedd yn rhoi trosolwg gadarnhaol o’r effaith economaidd ar ardal Wrecsam / de Sir Ddinbych. Manylwyd adolygiad Sir Ddinbych o fusnesau ar neu yn agos at lwybr cau ffyrdd dros dro ar gyfer Etape Cymru 2012 yn Atodiad 2 ac roedd cofnodion cyfarfod diwethaf  Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelwch wedi ei gynnwys fel Atodiad 3 i’r adroddiad. Roedd gwybodaeth ar gyfraniad y penderfyniad mewn perthynas â Blaenoriaerhau Corfforaethol, effaith costau ar wasanaethau eraill, ymgynghoriad a ymgymerwyd a manylion risgiau a mesurau a weithredwyd i’w lleihau, wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd crynodeb o’r adborth gan y Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelwch, Aelodau Wardiau a busnesau yn yr adroddiad.

 

Cododd y Cynghorwyr T.R. Hughes a M.L. Holland nifer o bryderon a chytunodd y Pwyllgor bod angen eu cyflwyno i’r Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelwch (SAG) ac a oedd angen atebion cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet ym mis Chwefror, 2013.   Cytunodd y Pwyllgor bod y pryderon a’r materion canlynol a godwyd gan yr aelodau yn cael eu cyflwyno gan y swyddogion i gyfarfod nesaf y Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelwch:-

 

·angen i wella cyfathrebu gyda thrigolion a busnesau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mewn perthynas â’r digwyddiad. Pwrpas a disgwyliadau’r Digwyddiad, cau ffyrdd a’r effaith ar fywydau bob dydd y trigolion a’r angen i’r holl gyfathrebu fod yn amserol.

·Atebolrwydd cyhoeddus os bydd digwyddiad neu ddamwain yn cynnwys cystadleuwr, warden, trigolyn, busnes a stoc ffermio byw neu farw.

·Canlyniad unrhyw asesiadau risg a ymgymerwyd mewn perthynas â materion atebolrwydd cyhoeddus.

·Dilysrwydd y ffigurau ar y fantais economaidd i’r ardal oherwydd pryderon a godwyd gydag aelodau gan fusnesau yn eu hardaloedd hwy ar yr amser yr oeddynt wedi gorfod cau oherwydd y digwyddiad.

·Darpariaeth wardeniaid annigonol yn y digwyddiad.

·Rhoi ystyriaeth i'r posibilrwydd o gychwyn y digwyddiad yn gynharach yn y y bore er mwyn lleihau’r ymyrraeth i fusnesau a thrigolion lleol.

·A oedd y deunydd hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad ei hun yn helpu hyrwyddo a marchnata Sir Ddinbych, ac a ellid gwneud hyn neu ei wella yn y dyfodol.

·Y posibilrwydd o  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Y RHYL YN SYMUD YMLAEN - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 124 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig) yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen.

                                                                                                          10.55 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGFPM) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar y cynnydd o ran cyflawni Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen, ei goblygiadau ariannol, a chynnydd neu ragolygon mewn perthynas â gwireddu manteision. Esboniodd bod Bwrdd Rhaglen y Strategaeth wedi ymgymryd â Gweithdy Adolygu Cyflawniad ym mis Tachwedd 2013. Roedd copi o’r adroddiad cefndir “Adolygiad o Gynllun Cyflawni y Rhyl yn Symud Ymlaen” wedi ei ddosbarthu i’r rhai a fynychodd, ac wedi ei gynnwys fel Atodiad 1.

 

Roedd crynodeb o ganlyniadau digwyddiad Tachwedd mewn perthynas â’r tair ffrwd waith a oedd yn hanfodol i’r rhaglen wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Esboniwyd bod Gweithdy Adolygu Bwrdd y Rhaglen hefyd wedi ystyried y prosiectau cyfansoddol o fewn strategaeth gyffredinol y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd Rhestr Prosiectau rhagarweiniol wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, ac roedd canlyniad y drafodaeth ynglwm fel Atodiad 3, Adolygu Cyflawni y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd gwaith ar flaenoriaethu wedi parhau gyda datblygu’r strwythur trefniadol newydd ar gyfer swyddogaeth adfywio’r Cyngor. Byddai hyn yn cynorthwyo gyda sicrhau bod yr adnoddau staff priodol yn bodoli i gyflawni’r blaenoriaethau strategol a gytunwyd. Amlinellwyd manylion yr adolygiad o’r trefniadau llywodraethu yn Atodiad 4. Ymgymerwyd â gwaith rhagarweiniol gyda’r Tîm Cynllun Mawr i ddatblygu fframwaith rheoli perfformiad mwy cynhwysfawr ar gyfer y rhaglen ac roedd canlyniadau’r gwaith wedi eu cynnwys yn Atodiad 5, Fframwaith Rheoli Perfformiad. Amlinellwyd prosesau ariannu a monitro ar gyfer y strategaeth adfywio yn yr adroddiad. Roedd gan brosiectau unigol eu strategaethau ymgynghori eu hunain ac roedd risgiau wedi eu monitro gan Fwrdd y Rhaglen gan ddefnyddio Cofrestr Risg y Rhaglen, a gynhwyswyd fel Atodiad 6.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd R M Murray ar yr angen i sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer y Nova, Prestatyn a diffyg cyfathrebu gydag Aelodau Wardiau ym Mhrestatyn, esboniodd y RGFPM bod Sir Ddinbych yn gweithio gydag Alliance Leisure, Partner Hamdden Strategol y Cyngor, i gyflwyno cyfleusterau dŵr newydd yn lle’r Heulfan. Cefnogodd yr aelodau y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd H.C. Irving ynglŷn â phwysigrwydd cynnwys Traeth Ffrith yn y prosiect. Cadarnhawyd y byddai angen cael cyfleusterau cyflenwol ar hyd y llain arfordirol a byddai hyn yn cynnwys ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn. Darparodd yr RGFPM fanylion yr ymarfer caffael a ymgymerwyd i benodi partneriaid i sicrhau darpariaeth effeithiol  ar hyd y llain arfordirol ac esboniodd y bu angen ystyried dulliau amgen o ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau dewisol. Rhoddodd sicrhad y byddai agweddau ariannol y buddsoddiad yn cael eu craffu ac y byddai angen cael cydbwysedd mewn perthynas â lefel buddsoddiad preifat. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd H Ll Jones y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyd y llain arfordirol a chytunodd y Pwyllgor y dylid gwahodd Alliance Leisure i  sesiwn Briffio’r Cyngor yn y dyfodol i amlinellu eu perthynas gyda’r Cyngor a’u rôl wrth gyflwyno gwasanaethau ar ran y Cyngor. Teimlwyd y dylai’r holl Aelodau fod yn ymwybodol o’r trefniadau partneriaeth a chael cyfle i holi cynrychiolwyr Alliance Leisure mewn cyd-destun anffurfiol.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau i bryderon a godwyd gan nifer o Aelodau ynglŷn a diffyg cyfathrebu rhwng swyddogion ac Aelodau Wardiau. Amlinellodd y broses o gyflwyno adroddiadau i’r Cabinet a phwysleisiodd yr anawsterau gydag adroddiadau yn cael eu rhoi yn y parth cyhoeddus.

 

Bu i rai nad oeddynt yn Aelodau o’r Pwyllgor:

·                     ddweud  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADOLYGIAD GWASANAETH DYDD GOGLEDD SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Prosiect, Tai Gwarchod Gofal Ychwanegol (copi’n amgaeëdig) yn nodi’r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag ymgynghori ar ac adolygu Gwasanaethau Dydd Gogledd Sir Ddinbych yng Ngogledd y Sir.

                                                                                                       11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Prosiect, Tai Gwarchod Gofal Ychwanegol, yn nodi’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r ymgynghoriad a’r adolygiad o Wasanaethau Dydd Gogledd Sir Ddinbych a’r cynigion ar gyfer newidiadau yn y modd y mae gwasanaethau dydd yn cael eu darparu yng Ngogledd Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (HABS) yr adroddiad a oedd yn rhoi adborth ar yr ymgynghoriad ac yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi gweithredu’r argymhellion. Roedd yr angen i adolygu darpariaeth bresennol gwasanaethau dydd wedi ei nodi yn y ddogfen Ailalluogi: Symud Ymlaen ac roedd adolygiad 2008 o Wasanaethau Dydd wedi ailadrodd bod angen cynnig ystod ehangach o opsiynau i ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

I sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth cymdeithasol i Bobl Hŷn yn gynaliadwy ac yn cadw i fyny â’r galw, byddai angen blaenoriaethu darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y rhai mewn angen mwyaf, Byddai angen i gefnogaeth ganolbwyntio ar ailalluogi yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, Fframwaith Gweithredu. Wrth adolygu Gwasanaethau Gofal Dydd byddai’n bwysig gwahaniaethu rhwng gweithgareddau yn ystod y dydd a gofal dydd ac roedd diffiniad o agweddau pob un o’r darpariaeth gwasanaeth wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr HABS rôl tîm staff Hafan Deg wrth ymgymryd ag asesiadau manwl, a chadarnhawyd, lle bynnag y bo modd, y byddai cefnogaeth yn cael ei roddi i unigolion symud i weithgareddau cynhwysol yn ystod y dydd yn eu hardal leol. Byddai cyfleoedd i greu cysylltiadau ystyrlon gyda gweithgareddau arferol yn ystod y dydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun gofal os oedd asesiad yn nodi bod angen hynny. Roedd manylion trafodaethau gyda phartneriaid Cymdeithasau Tai yn Nant y Môr a Gorwel Newydd ar ddatblygu grwpiau gweithgareddau dydd yn y ddau Gynllun Gofal Ychwanegol wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Ymatebodd yr HABS i gwestiynau gan y Cynghorydd R M Murray ac amlinellodd yr amserlenni ar gyfer y broses ymgynghori mewn perthynas â Nant y Môr, a chytunodd ofyn am wybodaeth i’r Aelodau ar y lleoliad a ddefnyddiwyd gan y Clwb Strôc.

 

Roedd Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai pobl yn y dyfodol yn hoffi cael eu cefnogi gan wasanaethau cymunedol lleol cynhwysol yn hytrach na gwasanaethau dydd traddodiadol. I sicrhau darparu gwasanaethau dydd cynaliadwy i ddiwallu anghenion nifer cynyddol o bobl agored i niwed, byddai’n hanfodol newid sut roedd gwasanaethau yn cael eu darparu. Esboniwyd y byddai’r adolygiad o wasanaethau dydd yn cyfrannu tuag at y flaenoriaeth gorfforaethol o amddiffyn pobl sy’n agored i niwed a’u bod yn medru byw mor annibynnol ag y bo modd.

 

Cadarnhawyd bod yr angen i arbed £30k eleni trwy adolygu’r Gwasanaethau Dydd wedi ei gyflawni trwy ad-drefnu’r strwythur rheoli yn y ddau wasanaeth. Roedd crynodeb o’r broses ymgynghori a ymgymerwyd gan randdeiliaid allweddol, a manylion yr adborth, wedi ei gynnwys yn Atodiad 1.

 

Amlinellodd yr HABS yr argymhellion ym mharagraff 3 yr adroddiad ac ymatebodd i’r materion a godwyd gan aelodau o ardal y Rhyl a oedd yn cynnwys pryderon yn ymwneud â newid defnydd Hafan Deg o Ganolfan Ddydd i Ganolfan Adsefydlu gyda ffocws ar ailalluogi, a theimlent y gallai arwain at ddefnyddwyr gwasanaeth yn gorfod talu am eu hadsefydliad eu hunain. Bu iddo:

 

-               Gadarnhau nad oedd tâl yn cael ei godi am ddarparu gwasanaethau ailalluogi.

-               Ddarparu manylion yr ystod o wasanaethau cymunedol a gyflwynwyd gan gyrff preifat i ychwanegu at y rhai a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

-               Gadarnhau bod Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr gydag anghenion gofal cymdeithasol cymwysedig   

-               Gadarnhau’r bwriad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHEOLI ASEDAU STRATEGOL pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried adroddiad gan y cyd gan y Prif Reolwr Eiddo a’r Rheolwr Prisio a Stadau (copi’n amgaeëdig) a oedd yn manylu Strategaeth Rheoli a Gwaredu Asedau’r Cyngor a’r gweithdrefnau a’r canllawiau sy’n bodoli.

                                                                                                       12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o gyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Eiddo a’r Rheolwr Prisio a Stadau, yn amlinellu Strategaeth Rheoli a Gwaredu Asedau’r Cyngor a’r trefniadau a’r canllawiau a oedd yn bodoli, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau ar Strategaeth Rheoli a Gwaredu Asedau’r Cyngor, ac yn amlinellu’r trefniadau a’r canllawiau sy’n rheoli gwaredu asedau’r Cyngor. Roedd manylion y ffocws presennol a rhagarweiniol ar y rhaglen yn ymwneud â gwaredu asedau nad oedd eu hangen mwyach wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Crynhowyd proses adolygu rheoli asedau safonol y Cyngor ar gyfer yr Aelodau, ynghyd â manylion cylch gorchwyl y Grŵp Rheoli Asedau (AMG).  Roedd amlinelliad o gynllun y Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ddirprwyedig i waredu asedau a Chydymffurfedd Statudol ar Waredu Tir ac Adeiladau’r Cyngor, Adran 123, Deddf Llywodraeth Leol 1972, wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Roedd y tri prif opsiwn ar gyfer gwaredu tir neu adeiladau nad oedd eu hangen mwyach wedi eu nodi yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Esboniwyd bod gan y Cyngor strategaethau i gael gwarediad gan

Bortffolio’r Swyddfa Amaethyddol a Chorfforaethol a’r portffolio Eiddo Amrywiol, ac roedd copi o Gynllun Rheoli Gwasanaeth Stad Amaethyddol ynghlwm fel Atodiad B. Roedd gan y Stad Datblygiad Economaidd strategaeth ddrafft i gyflawni rhesymoliad asedau a reolir o’r portffolio eiddo erbyn Ebrill 2013 ar gyfer ei drafod a’i gymeradwyo a’i fabwysiadu, a byddai rhan o’r strategaeth hon yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwaredu asedau. Roedd gan Ddysgu Gydol Oes bolisi Moderneiddio Addysg a gallai hyn gyflwyno asedau dros ben maes o law. Byddai GwasanaethU eraill yn datgan asedau nad oeddynt eu hangen mwyach wrth iddynt resymoli eu portffolios gwaith perthnasol. 

 

Roedd cyfranogiad aelodau mewn gwaredu asedau wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd y Gweithgor Stadau Amaethyddol wedi cytuno strategaeth buddsoddi a gwaredu ar gyfer y Stad a oedd yn arwain gwaith presennol. Byddai Grwpiau Aelodau Ardal yn derbyn manylion yr holl eiddo yn eu hardaloedd hwy yn ystod y gwanwyn. Byddai adolygiad o’r portffolio diwydiannol a busnes yn cynnwys yr Aelodau a byddai ymgynghori gydag Aelodau unigol ar waredu asedau yn eu wardiau hwy. Esboniwyd bod gwaredu asedau dros ben yn cynhyrchu derbyniadau cyfalaf ac ynghyd â’r arbedion refeniw cysylltiedig byddai’n cynorthwyo gyda chyflawni Blaenoriaethau Corfforaethol a fyddai fel arall yn aros heb eu hariannu. Roedd targed o £10m mewn derbyniadau cyfalaf ar gyfer y cyfnod 2010-15 wedi ei adnabod fel Blaenoriaeth Gorfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y costau a’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â gwaredu tir ac eiddo. Sicrhawyd yr Aelodau, cyn gwaredu eiddo, y rhoddwyd ystyriaeth i ddefnydd amgen bob tro, gan gynnwys defnydd cymunedol, a bod pob trafodaeth waredu yn agored, ac yn cael ei hymgymryd er budd y cyhoedd.

 

Ymatebodd y swyddogion i'r cwestiynau a’r materion canlynol a godwyd gan yr Aelodau:

 

-               Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyfranogiad Aelodau Lleol ac ymgynghori â hwy ar waredu a phrynu tir ac asedau yn eu hardaloedd perthnasol

-   diweddariad ar y sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â  hen Ysgol Cynwyd.

-               Mewn perthynas â’r posibilrwydd o Sir Ddinbych yn gwerthu tir i Gyngor Tref y Rhyl i ddarparu mynwent yn ardal y Rhyl, esboniwyd nad oedd tir addas yn yr ardal dan sylw, a bod hyn yn amlygu’r anawsterau a oedd yn gysylltiedig â gorlifdiroedd.

-               Enghreifftiau o achosion lle’r oedd Sir Ddinbych wedi prynu tir neu eiddo. Esboniodd swyddogion eu bod yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Adfywio i brynu tir neu eiddo a fydda’n helpu gwella neu adfywio ardal. 

-               Gwybodaeth ar waith a  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 77 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gael adolygu blaenraglen waith y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.

                                                                                                         12.05 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu, yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ei Flaenraglen Waith ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. 

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Craffu, ar ôl y drafodaeth yn y cyfarfod, bod eitem ar Etape Cymru nawr wedi ei chynnwys i’w hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym msis Chwefror 2013.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a fanylwyd yn Atodiad 1, ac fe gytunwyd y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynglŷn â gweithredu’r trefniadau ailgylchu newydd yn ne Sir Ddinbych, yn enwedig y problemau gyda chyflwyno’r trefniadau newydd, cytunodd yr Aelodau bod y mater hwn yn cael ei gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer cyfarfod mis Chwefror. Cytunwyd bod yr adroddiad yn cynnwys ffigurau cywir a manylion costau tebygol y broses, y costau a achoswyd mewn gwirionedd, nifer y cwynion a dderbyniwyd a manylion y broses a fabwysiadwyd ar gyfer dyfarnu’r contract.

 

Cytunodd yr Aelodau, ar ôl derbyn cais, bod y Diweddariad ar y Strategaeth Dai yn cael ei ad-drefnu ar gyfer cyfarfod Ebrill 2013.

 

Cytunodd yr Aelodau gydag argymhelliad y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu bod eitem ar effeithiolrwydd Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rhwystro Baw Cŵn, yn cael ei chynnwys ar flaenraglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer Ebrill, 2013.

 

Cytunodd y Pwyllgor gyda’r awgrym gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau bod yr eitem ar Raglen Dod yn Agosach at y Gymuned, a oedd i’w hystyried ar 28ain Chwefror 2013, yn cynnwys ystyried syniadau i wella ac adolygu’r amrywiol ddulliau o symud y Cyngor yn agosach at y gymuned.

 

Hysbysodd y Cydgysylltydd Craffu yr Aelodau y byddai’r Tîm Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid o Gyngor Sir y Fflint, a chynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror, 2013.  Esboniodd bod y Grŵp Cymheiriaid yn ddiweddar wedi mynychu cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a darparwyd crynodeb byr o’u darganfyddiadau.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor.

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddiweddariadau gan Gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.10 p.m.